Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda
Mae tirwedd y Rhondda yn dirwedd hanesyddol brin a phwysig ac felly caiff
ei chynnwys yng Register of Landscapes of Historic Interest in Wales:
Part 2:2: Landscapes of Special Historic Interest (2001). Mae'r broses
o gofnodi nodweddion y dirwedd, sef diben yr adroddiad hwn, wedi llwyr ategu'r
farn hon gan gynnig argymhellion ar gyfer rheoli'r ardal hon dros yr hirdymor
a hynny mewn modd rhagweithiol. |
|
Cliciwch ar yr ardal am wybodaeth pellach
|
|
Dewiswyd y dirwedd hanesyddol bwysig hon, a leolir yn ne Cymru, drwy gonsensws
proffesiynol a chynrychiola un o'r cytrefi a'r cymunedau glofaol mwyaf
ac enwocaf ym Mhrydain. Mae'r dirwedd ehangach yn gyforiog o adnoddau
archeolegol amrywiol a thematig sy'n cynrychioli nifer o gyfnodau a mathau
gan ddangos lefel dda o ddiddordeb a pharhad diwylliannol. Ar hyn o bryd,
fodd bynnag, mae'r ardal dan fygythiad o sawl tu, yn gyhoeddus a phreifat
ac yn arbennig, cynlluniau gwella ac adfer y dirwedd a chynlluniau adnewyddu
trefol. Mae'r rhain yn digwydd ar adeg pan nad oes, hyd yma, werthfawrogiad
llawn o werth a chyflwr yr adnodd archeolegol diwydiannol a'r adnodd archeolegol
cynharach, yn enwedig yng nghyd-destun y dirwedd.
Felly, mae'n amserol a derbyniol bod y project hwn wedi'i ysgogi, ei
gomisiynu a'i ariannu gan Cadw fel rhan o fenter ehangach drwy Gymru gyfan.
Y gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogiad i ystyried ar fyrder
gadwraeth y Rhondda yn y dyfodol.
Prosesau, themâu a chefndir hanesyddol y Rhondda
|
Yr Ardaloedd Cymeriad |
|
|
|
|
HLCA 001 Y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol; anheddiad glofaol cyfansawdd;
ardal anheddu diwydiannol gynnar gyda thai cyfoes a datblygiadau glofaol
cynnar; nodweddion adeiledig, yn dyddio gan amlaf o ddiwedd y 19eg ganrif
a dechrau'r 20fed ganrif, gan gynnwys tai teras, capeli, eglwysi, adeiladau
cyhoeddus, siopau a sefydliadau gweithwyr; mae'r anheddiad presennol yn
gytrefiad cnewyllol a ganolir ar ardal fasnachol graidd ddiweddarach;
canolbwynt cludiant/dosbarthu; canolfan gynnar i Gristnogaeth anghydffurfiol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA001)
Y Porth, golygfa i'r dwyrain o gyfeiriad Dinas gyda Mynydd-y-Glyn yn y
cefndir.
|
(Ffoto: GGAT HLCA002)
Parc Treftadaeth y Rhondda yn y blaen gyda rhan o Drehafod a Mynydd-y-Glyn
yn y cefndir.
|
HLCA 002 Hafod
Dau anheddiad glofaol 'pen pwll' llinellol cam cyntaf, a oedd
yn wreiddiol yn rhesi unigol o dai teras a bythynnod, datblygiad strimynnog
a phatrwm grid o ddiwedd y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau,
eiddo masnachol a chapeli; dim llawer o ddatblygiadau masnachol; henebion
diwydiannol wedi goroesi, Parc Treftadaeth y Rhondda.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 003 Pen-y-graig
Anheddiad glofaol 'pen pwll' cam cyntaf gyda gwreiddiau cnewyllol cynharach,
datblygiad strimynnog diwydiannol diweddarach a phatrwm grid o ddiwedd
y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli;
tai cyngor cynnar; canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig; cysylltiadau
diwylliannol/hanesyddol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma
i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA003)
. Golygfa o'r awyr o Benygraig o'r gogledd orllewin gyda Mynydd Penygraig
yn y cefndir.
|
(Ffoto: GGAT HLCA004)
Trewiliam gyda Mynydd Dinas yn y cefndir.
|
HLCA 004 Trewiliam
Anheddiad glofaol cam cyntaf bychan, datblygiadau ail a thrydydd cam yn
ddiweddarach; anheddiad datblygiad strimynnog a phatrwm grid o ddiwedd
y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli;
pentref glofaol preswyl gyda nifer fach o ddatblygiadau swyddogaethol
a morffolegol trefol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 005 Trealaw
Anheddiad glofaol cyfansawdd, anheddiad pen pwll cam cyntaf, anheddiad
bychan cnewyllol o derasau llinellol wedi'u codi gan y lofa gydag ychwanegiadau
strimynnog diweddarach helaeth; tai teras nodweddiadol yn parhau a chapeli
etc; pentref glofaol preswyl gyda chlwb adeiladu, tai hapfasnachol a thai
perchenogion-deiliaid; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal, gan gynnwys
pen isaf a chanol y Rhondda Fach; dim llawer o ddatblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA005)
Golygfa o'r awyr o Drealaw o'r de ddwyrain.
|
(Ffoto: GGAT HLCA006)
Tonypandy, canol gyda Threalaw ym mlaen y llun.
|
HLCA 006 Tonypandy
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol (gan gynnwys caffis Eidalaidd
a siopau trin gwallt); anheddiad cyfansawdd, gydag anheddiad rhagflaenol
ôl-ganoloesol a ganolwyd ar Bandy neu felin bannu gydag anheddiad
strimynnog cam cyntaf, gydag ychwanegiadau patrwm grid helaeth, yn bennaf
yn ystod yr ail gam; ailddatblygu'r ardal cam 1af cychwynnol yn ddiweddarach
fel canolfan fasnachol yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif;
tai teras nodweddiadol yn parhau, siopau, capeli ac adeiladau cyhoeddus
y cyfnod; tai hapfasnachol yn bennaf yn ystod cyfnodau mwy diweddar.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
|
HLCA 007 Cwm Clydach
Enghraifft o aneddiadau glofaol pen pwll cam cyntaf darniog, gyda rhesi
teras unigol; yn ddiweddarach anheddiad ail gam yn ôl cynllun gyda
phatrwm strydoedd grid amlwg a therasau llinellol, gydag ychwanegiadau trydydd
cam diweddarach ar lethrau'r bryn, gan roi gwedd weledol gymharol unffurf
i'r ardal; aneddiadau glofaol preswyl gydag amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol
cyfyngedig; enghreifftiau o glwb adeiladu ôl 1870au a thai hapfasnachol;
tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y
cwm.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA007)
Cwm Clydach.
|
|
|
|
|
(Ffoto: GGAT HLCA008)
Golygfa o'r awyr o Lwynypia gan ddangos Terasau'r 'Scotch' yn y blaen
i'r dde.
|
HLCA 008 Llwynypia
Enghraifft brin o anheddiad pen pwll cam cyntaf cynnar yn y Rhondda; anheddiad
clos a chnewyllol o derasau llinellol a adeiladwyd gan y lofa yn ôl
cynllun, gydag ychwanegiadau strimynnog ail gam ac ychwanegiadau ar lethrau'r
bryn yn bennaf; anheddiad glofaol preswyl gydag amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol
cyfyngedig; enghreifftiau cynnar o dai teras a godwyd gan y lofa - 'Terasau'r
Scotch' sef bythynnod teras ffrynt dwbl neilltuol; Ty Injan Glofa Llwynypia,
sef enghraifft brin o heneb ddiwydiannol sydd wedi goroesi yn y Rhondda.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
|
HLCA 009 Ystrad a Phentre
Datblygiad ochr ffordd llinellol cam cyntaf sy'n dyddio o ganol y 19eg
ganrif, sy'n ymestyn i'r de o gnewyllyn ym Mhentre, gan wasanaethu nifer
o byllau; ehangu ail gam diweddarach ar batrwm grid llinellol, yn benodol
ym Mhentre a Bodringallt (Ystrad); pentref preswyl dilynol heb lawer o
ddatblygiadau swyddogaethol a morffolegol trefol; canolfan gynnar i grefydd
anghydffurfiol; cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA009)
Ystrad, golygfa o'r de gan ddangos yr ysgolion sy'n dyddio o ddiwedd y
19eg ganrif, canol.
|
(Ffoto: GGAT HLCA010)
Golygfa o'r awyr yn dangos y Gelli, canol a Thon Pentre, ar y dde.
|
HLCA 010 Ton Pentre a'r Gelli
Anheddiad glofaol cyfansawdd yn cynnwys: datblygiad pen pwll cam cyntaf
o ganol y 19eg ganrif gyda thai cychwynnol a godwyd gan y lofa a phatrwm
grid i gynnwys i system ffordd a fodolai a rhesi unigol gyferbyn; a datblygiad
ail gam yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ar batrwm grid llinellol, gan
gynnwys creu anheddiad pen pwll ail gam mawr yn y Gelli a mân ychwanegiadau
trydydd cam; pentref glofaol preswyl heb lawer o ddatblygiadau swyddogaethol
a morffolegol trefol; canolfan ganoloesol a phlwyfol yn ddiweddarach (Ton
Pentre).
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
|
HLCA 011 Treorci
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol; anheddiad cam cyntaf yn bennaf
ar dir Ystad Bute gyda lefel amlwg o gynllunio, gyda stryd fawr weddol
lydan a ddatblygwyd yn ddiweddarach fel y ganolfan fasnachol gyda phatrwm
grid llinellol bob ochr wedi'i datblygu dros y tri cham; datblygodd y
ganolfan fasnachol sylweddol o'r aneddiadau glofaol cychwynnol; nodweddion
adeiledig, yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed
ganrif gan gynnwys tai teras, capeli, eglwysi, adeiladau cyhoeddus, siopau
a sefydliadau gweithwyr; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal, h.y. y Rhondda
Fawr; anheddiad yn gysylltiedig â nifer o byllau glo lleol, yn bennaf
glofa Abergorci, gyda'i hanheddiad o resi unigol; prif gyffordd; cysylltiadau
diwylliannol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA011)
Treorci: Sefydliad y Gweithwyr Abergorci.
|
(Ffoto: GGAT HLCA012)
Cwm-parc, golygfa o'r dwyrain gyda Graig-fawr yn y cefndir.
|
HLCA 012 Cwm-parc
Enghraifft o anheddiad(aneddiadau) glofaol pen pwll, a ddatblygodd o resi
unigol yn ystod y cam cyntaf a unwyd yn anheddiad llinellol parhaus unigol
yn ystod yr ail a'r trydydd cam; terasau llinellol yn rhoi gwedd weledol
unffurf i'r ardal; aneddiadau glofaol preswyl heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol;
enghreifftiau o dai glofaol cyn 1880 a thai hapfasnachol diweddarach;
tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr
y cwm.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 013 Treherbert
Anheddiad glofaol cam cyntaf a adeiladwyd ar yr Ystad yn ôl cynllun
gydag ychwanegiadau cymharol fach yn ystod yr ail a'r trydydd cam; tai
nodweddiadol yn parhau ac eiddo masnachol wedi'i addasu etc; adeiladau
diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, ee Ysgol Genedlaethol ac Ysgoldy,
elusendai a Stryd Dumfries a chapeli niferus; ychwanegiad pentref gardd
a thai cyngor cynnar; cynllun patrwm grid; canolfan fasnachol gymharol
ddatblygedig.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA013)
Treherbert: Elusendai St Mary, Bute Street.
|
(Ffoto: GGAT HLCA014)
Golygfa o'r awyr o Dy-newydd gyda Chwm-parc yn y cefndir.
|
HLCA 014 Ty-newydd
Anheddiad teras a godwyd gan y lofa yn ôl cynllun, ac a grëwyd
yn wreiddiol fel Pentref Model; anheddiad glofaol cam cyntaf gydag ychwanegiadau
ail a thrydydd cam, heb lawer o ddatblygiadau masnachol; tai teras nodweddiadol
ac eiddo masnachol wedi'i addasu; safle Pwll Glo Rhondda Merthyr (tomenni'n
goroesi).
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 015 Blaenrhondda
Anheddiad glofaol ym mhen uchaf y cwm wedi'i gynllunio'n llinellol; anheddiad
pen pwll cam cyntaf gyda rhesi unigol ar y cyrion gydag ychwanegiadau
trydydd cam; anheddiad preswyl gan fwyaf heb fawr ddim datblygiadau masnachol;
gwedd weledol debyg, tra'n dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol
ffurfiannol; hunaniaeth pentref neilltuol yn parhau ar wahân i'r
aneddiadau cyfagos; enghreifftiau da o dai teras glofaol nodweddiadol
a'r capeli ac ysgolion cysylltiedig; safle Pwll Glo Fernhill wedi'i adfer.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA015)
Golygfa o'r awyr gyda Blaenrhondda yn y blaen a Chwm-parc yn y cefndir.
|
(Ffoto: GGAT HLCA016)
Blaen-cwm, golygfa o'r gorllewin.
|
HLCA 016 Blaen-cwm
Anheddiad glofaol llinellol ym mhen uchaf y cwm; anheddiad glofaol cam cyntaf
wedi'i lleoli o amgylch haen lo gynnar a'r gwaith adnewyddu trydydd cam
wedi'i ganoli ar ddatblygiadau glofaol diweddarach, a nodweddir gan resi
unigol gydag ychwanegiadau diweddarach yn ystod datblygiadau ehangu newydd
yn ystod yr 20fed ganrif; cymeriad preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau
masnachol; yn dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol ffurfiannol;
tarddiad ar wahân i aneddiadau cyfagos ac yn cadw hunaniaeth pentref
neilltuol hyd heddiw; enghreifftiau da o dai teras glofaol annodweddiadol
a nodweddiadol; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân
ar ochr y cwm.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 017 Ynys-hir
Yr anheddiad glofaol cyntaf yn y Rhondda Fach; anheddiad glofaol cam 1,
2 a 3, a ddechreuodd fel rhesi unigol nodweddiadol yn ystod y cam cyntaf,
ond nodweddir y cymeriad presennol gan waith ehangu tua diwedd y 19eg
ganrif a dechrau'r 20fed ganrif a chan y patrwm llinellol; mae'r datblygiadau'n
gysylltiedig â ffyniant y pyllau glo cysylltiedig; cymeriad preswyl
yn bennaf, stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1870au ymlaen; mân
ddatblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA017)
Golygfa o'r awyr o Ynys-hir o'r de ddwyrain.
|
(Ffoto: GGAT HLCA018)
Golygfa o'r awyr o Wattstown o'r gorllewin.
|
HLCA 018 Wattstown
Anheddiad pen pwll ail gam cywasgedig yn gysylltiedig ag un lofa;anheddiad
cywasgedig, cynlluniedig o derasau llinellol gydag ychwanegiadau trydydd
cam gan gynnwys ystad ar ochr y bryn; tai a godwyd yn bennaf gan y lofa
- enghreifftiau da o dai glofaol ôl-ddeddfwriaethol; anheddiad glofaol
preswyl heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol; cysylltiadau
hanesyddol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
|
HLCA 019 Pont-y-gwaith, Tylorstown a Stanleytown
Ardal anheddu glofaol cyfansawdd yn cynnwys tri anheddiad 'pen pwll' ail
gam cysylltiedig a oedd yn gysylltiedig â dwy/tair glofa; aneddiadau
preswyl gyda stoc tai sy'n dyddio'n bennaf o'r 1880au ymlaen, gan gynnwys
tai a godwyd gan y lofa, heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol
a datblygiadau masnachol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA019)
Stanleytown, golygfa i'r dwyrain o safle uwchlaw Tylorstown.
|
(Ffoto: GGAT HLCA020)
Glynrhedynog o gyfeiriad Blaenllechau, golygfa o'r gogledd ddwyrain.
|
HLCA 020 Blanllechau a Glynrhedynog
Ardal anheddu glofaol cyfansawdd yn cynnwys dau anheddiad cam cyntaf cysylltiedig
a oedd yn gysylltiedig ag un lofa; enghraifft brin o aneddiadau pen pwll
cynnar a godwyd gan y lofa yn y Rhondda Fach; Glynrhedynog: anheddiad
cam cyntaf cnewyllol cywasgedig o derasau llinellol a gynlluniwyd yn ôl
patrwm grid a phatrwm strimynnog, gydag ychwanegiadau ail gam yn bennaf;
Blaenllechau: anheddiad terasog llinellol cam cyntaf ar ochr y bryn, a
oedd yn rhesi unigol yn wreiddiol, gyda datblygiad strimynnog ac ychwanegiadau
ail gam; aneddiadau preswyl gyda thai nodweddiadol ac eiddo masnachol
wedi'i addasu, gan gynnwys tai a godwyd gan y lofa, clwb adeiladu a thai
hapfasnachol; adeiladau diddorol yn dyddio o'r 19eg ganrif, h.y. Capel
Tre-Rhondda a Sefydliad y Gweithwyr; mynwent fawr yn gwasanaethu'r ardal;
canolfan fasnachol gymharol ddatblygedig (Glynrhedynog yn unig).
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|
|
|
|
HLCA 021 Y Maerdy
Anheddiad glofaol pen pwll ail gam; lleoliad ym mlaen y cwm; yn benodol
gysylltiedig ag un lofa; anheddiad cnewyllol cynlluniedig; craidd ail
gam o dai teras unffurf, tai a godwyd gan y lofa a chyfleusterau hamdden;
datblygiadau preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau masnachol gydag
ychwanegiadau trydydd cam gan gynnwys datblygiad strimynnog; hunaniaeth
neilltuol ar wahân i'r gymuned gyfagos; tirwedd ddiwydiannol wedi'i
hadfer.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA021)
Y Maerdy: Tai teras talcen sengl nodweddiadol, Griffiths Street.
|
(Ffoto: GGAT HLCA022)
Golygfa o'r awyr yn dangos ymyl ogleddol Blaenllechau, mae'r Ffaldau i'r
dde.
|
HLCA 022 Ffaldau
Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau caeau amlwg; rhan ar wahân
o dir Cynllun Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel (HLCA) 023 Rhondda Fach:
Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 023
Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol;
ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac
anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol
(tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau, glo
yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA023)
Blaenllechau: Fferm ôl-ganoloesol a thai allan.
|
(Ffoto: GGAT HLCA024)
Llethrau caeëdig Mynydd Ty'n-tyle, golygfa o'r dwyrain.
|
HLCA 024 Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig
Gorllewinol y Cwm
Tirwedd angladdol cynhanesyddol; tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd
i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau caeau amlwg; tystiolaeth
a ddogfennwyd o arferion amaethyddol ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol;
anheddu ucheldirol canoloesol; ffermdai ucheldirol ôl-ganoloesol
(tai hirion); tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ac echdynnu mwynau,
glo yn bennaf; coetir hynafol a choedwigaeth fodern.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 025 Mynachdy Penrhys
Tirwedd ucheldirol; ardal graidd i faenor ganoloesol a safle pererindota;
arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol a chrefyddol; system gaeau ôl-ganoloesol
greiriol a ffermdy(ai); prin oedd y dylanwad diwydiannol ar y dirwedd;
cysylltiadau cynnar; tystiolaeth ddogfennol; tai cymdeithasol modern,
coedwigaeth a hamdden.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA025)
Golygfa o'r awyr o'r ardal gymeriad gyda'r Rhondda Fawr yn y cefndir.
|
(Ffoto: GGAT HLCA026)
Mynydd Brith-weunydd yn dangos y tomenni a'r cwrs golff gyda Llwynypia
yn y cefndir.
|
HLCA 026 Mynydd Brith-weunydd a Mynydd Troed-y-rhiw
Tirwedd ucheldirol; tirwedd angladdol cynhanesyddol; coridor cysylltiadau
cynnar; rhan o gyn faenor fynachaidd ganoloesol; ffiniau amlwg a chynnar
o bosibl; tirwedd ddiwydiannol helaeth.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 027 Brith-weunydd a Throed-y-rhiw
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol;
ffiniau amlwg a chynnar o bosibl; rhan o gyn faenor Sistersaidd ganoloesol;
anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); coridor cysylltiadau
cynnar; ôl coetir hynafol ac enwau caeau Coedcae; tirwedd ddiwydiannol
yn gysylltiedig ag echdynnu mwynau, glo yn bennaf.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA027)
Troed-y-rhiw: lloc ôl-ganoloesol a thomenni uwchlaw Ynys-hir.
|
(Ffoto: GGAT HLCA028)
Golygfa o'r awyr o Fynydd Dinas gan ddangos coetir gweddilliol a chopa
wedi'i hadfer/tirlunio'n rhannol.
|
HLCA 028 Mynydd Dinas a Mynydd Cymer
Ffridd mynyddig neu ucheldirol; nodweddion amaethyddol greiriol; defnydd
angladdol cynhanesyddol; anheddu ôl-ganoloesol, amaethyddol a diwydiannol;
tirwedd ddiwydiannol ucheldirol helaeth.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 029 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig
y Cwm
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol, greiriol yn bennaf;
ffiniau caeau amlwg; anheddu a thirwedd angladdol cynhanesyddol; anheddu
ac amaethu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai ôl-ganoloesol
(tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth); tystiolaeth ddogfennol
o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol
helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar y broses o echdynnu
mwynau.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA029)
Coetir cymysg a lloc ôl-ganoloesol yng Nghwm-y-fforch, Treorci.
|
(Ffoto: GGAT HLCA030)
Golygfa o'r awyr o Gronfa Ddwr Lluest-wen a rhannau uchaf y Rhondda Fach.
|
HLCA 030 Ucheldiroedd y Rhondda
Ffridd ucheldirol, yn rhannol goediog; tirwedd aml-gyfnod ac aml-swyddogaeth;
tirwedd anheddu cynhanesyddol ac angladdol; coridor cysylltiadau cynnar;
adeiladweithiau milwrol Rhufeinig a chanoloesol; ffiniau gweinyddol canoloesol
cynnar; anheddiad ucheldirol canoloesol; tirwedd ddiwydiannol ôl-ganolesol;
tirwedd amaethyddol ucheldirol greiriol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau
llefydd.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 031 Ucheldiroedd y Rhondda (Mynydd Ton -
Mynydd Penygraig)
Ffridd ucheldirol, â choedwigaeth rannol; tirwedd aml-gyfnod ac
aml-swyddogaeth; tirwedd anheddu cynhanesyddol ac angladdol; coridor cysylltiadau
cynnar; adeiladweithiau milwrol; ffiniau gweinyddol canoloesol cynnar;
anheddiad ucheldirol canoloesol; tirwedd ddiwydiannol ôl?ganoloesol;
tirwedd amaethyddol ucheldirol greiriol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau
llefydd.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA031)
Golygfa o'r awyr o'r ucheldiroedd uwchben Cwm Clydach gan ddangos coedwigaeth
yr ugeinfed ganrif.
|
(Ffoto: GGAT HLCA032)
Golygfa o'r ardal gymeriad o Fwlch-y-Clawdd, gan ddangos natur agored
y dirwedd.
|
HLCA 032 Parc Cwm Brychinog
Ffridd ucheldirol, ychydig o goedwigaeth; tirwedd angladdol cynhanesyddol;
anheddiad cynhanesyddol; coridor cysylltiadau cynnar; ffiniau gweinyddol
canoloesol cynnar; parc hela canoloesol; nodweddion amaethyddol creiddiol;
tystiolaeth ddogfennol ac enwau llefydd; tirwedd ddiwydiannol ôl-ganoloesol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 033 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig
y Cwm (Cwm Lan - Nant-y-Gwiddon)
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloeso/ôl-ganoloesol,
greiriol yn bennaf; ffiniau caeau amlwg; tirwedd ac anheddu angladdol
cynhanesyddol; amaethu ac anheddu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai
ôl-ganoloesol (tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth);
tystiolaeth ddogfennol o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol;
tirwedd ddiwydiannol helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar
y broses o echdynnu mwynau.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA033)
Tirwedd a fu gynt yn gaeëdig ar lethrau Mynydd y Gelli a Mynydd Llwynypia.
|
(Ffoto: GGAT HLCA034)
Llun 54. Fferm Gelli-Faelog, adfail daliad ôl-ganoloesol uwchben
Tonypandy.
|
HLCA 034 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig
y Cwm (Mynydd Penygraig)
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol greiriol yn bennaf,
yn debyg i HLCA 029, o bosibl â gwreiddiau canoloesol; ffiniau caeau
amlwg; mân nodweddion echdynnu diwydiannol.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
HLCA 035 Mynydd-y-Glyn
Ffridd fynyddig neu ucheldirol; tirwedd amaethyddol a diwydiannol ucheldirol
greiriol; gwaith adfer a choedwigo modern.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
(Ffoto: GGAT HLCA035)
Mynydd-y-Glyn, gan ddangos ardal o waith tirlunio a choedwigaeth.
|
(Ffoto: GGAT HLCA036)
Lloc ôl-ganoloesol islaw fferm Cilely.
|
HLCA 036 Cilelái a Rhiwgarn
Tirwedd amaethyddol greiriol; ffiniau amlwg; tresmasu canoloesol; anheddu
canoloesol posibl a nodweddion amaethyddol cysylltiedig.
(Nôl i'r map)
Cliciwch yma i gael mwy
o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon
Cliciwch yma i gael
map o'r ardal cymeriad hon
|
|