Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


029 Rhondda Fawr:
Ochrau Caeëdig y Cwm


HLCA 029 Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol, greiriol yn bennaf; ffiniau caeau amlwg; anheddu a thirwedd angladdol cynhanesyddol; anheddu ac amaethu canoloesol ucheldirol; amaethu a ffermdai ôl-ganoloesol (tai hirion yn bennaf, yn nodweddiadol o'r rhanbarth); tystiolaeth ddogfennol o arferion ac anheddu canoloesol/ôl-ganoloesol; tirwedd ddiwydiannol helaeth gyda nodweddion yn dyddio o gyfnodau cynnar y broses o echdynnu mwynau.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA029)

Coetir cymysg a lloc ôl-ganoloesol yng Nghwm-y-fforch, Treorci.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Rhondda Fawr: Ochrau Caeëdig y Cwm yn dirwedd dra phwysig. Palimpsest ydyw o nodweddion archeolegol sydd wedi goroesi, nodweddion tra hynafol a thra amrywiol sy'n arwydd o ddatblygu a newid defnydd dros y 12000 o flynyddoedd diwethaf. Yr arwyddion cynharaf o anheddu gan bobl ar y dirwedd yw'r safleoedd Mesolithig (10000-4400CC) yn Fforch uwchlaw Cwm-parc, Cefn Glas, a Mynydd Ystadffernol, lle y cofnodwyd casgliadau o fflintiau a darganfyddiadau digyswllt. Mae darganfyddiadau tebyg o'r ardal wedi'u dyddio o ran eu harddull i'r cyfnod Neolithig (4400-2300CC), gan gynnwys nifer o bennau saethau fflint a darganfyddiadau eraill a gysylltir yn aml â golosg o Fynydd Ystradffernol a Tharren Pantyffin a blaen bwyell petit tranchet a ddarganfuwyd ar lethrau Mynydd Ynysfeio. Cofnodir gweithgarwch prosesu fflint ar Fynydd Tynewydd. Cynrychiolir yr Oes Efydd (2300-800CC) gan ddarganfyddiadau ar ffurf blaen gwaywffon seidiog efydd â llafn rhigolog o Flaenrhondda a maes carneddau ym Mlaenrhondda.

Er na wyddom am unrhyw aneddiadau yn dyddio o'r Oes Haearn/y cyfnod Rhufeinig- Brydeinig yn yr ardal ei hun, mae tystiolaeth o anheddu yn ystod y cyfnod hwnnw mewn ardaloedd cyfagos. Mae'r nifer fawr o hafodau a safleoedd tai llwyfan a leolir ar lethrau uchaf yr ardal yn arwydd o anheddu llawer mwy helaeth a phwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae safleoedd yn dyddio o'r cyfnod hwn yn cynnwys tai llwyfan ar Fynydd Ty'n-tyle ac aneddiadau yn cynnwys cytiau hir yng Nghwm a Nant Saerbren. Gwyddom i hafodau neu anheddau amaethyddol ucheldirol tymhorol fodoli yng Nghwm-y-fforch, Mynydd Ynysfeio, Garreg Lwyn, Blaenrhondda, ac ym Maen?cwm tra bodolai anheddiad canoloesol arall ym Mhenrhiw Castell Llaeth. Nodir ardaloedd a anheddwyd yn ystod y cyfnod canoloesol hefyd gan dystiolaeth enwau lleoedd, trwy'r ffaith bod enwau yn cynnwys hafod a hendre wedi goroesi, sydd hefyd yn nodi arferion amaethyddol a gweinyddol canoloesol; dengys enwau caeau Coedcae i bobl dresmasu ar dir diffaith neu goetir yr ardal yn ystod y cyfnod canoloesol. Efallai fod yr enw Bodrhyngallt, megis yng Nghwm Bodrhyngallt ac yn enw'r fferm ôl-ganoloesol, yn nodi anheddiad Rhyngyll, swyddog Cymreig canoloesol (canghellor) y gwyddom o'r Cyfreithiau Canoloesol ei fod yn gysylltiedig â system weinyddol y llywodraethwyr Cymreig brodorol.

Yr enghraifft orau sydd wedi goroesi yn y Rhondda o'r math o ffermdy rhanbarthol a fu gynt yn nodweddiadol o'r ardal, sef y ty hir, yw Ty'n-tyle. Mae'n debyg bod y ffermdy dau lawr a hanner hwn yn dyddio o'r 17eg ganrif ac mae ganddo aelwyd ganolog a'r drws gwreiddiol i goridor uchel rhwng y cyntedd a'r beudy, er bod mynedfa newydd â phortsh wedi'i gwneud yn syth i mewn i'r cyntedd. Mae'r ffermdy, a leolir mewn pant a gloddiwyd ar ongl sgwâr i lethr y bryn, yn nodweddiadol o gynllun tai hir; darperir mynedfa, o'r naill ochr i'r simnai ganolog, yn uniongyrchol rhwng y beudy, yn y lefel isaf, a'r ystafelloedd byw; roedd y fynedfa wreiddiol trwy'r beudy (tai hir tair uned â chyntedd rhwng ystafell fewnol gul a beudy; grwp yr aelwyd-gyntedd: tai hir â choridor uchel, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae traddodiad i'r trawstiau yn Nhy'n-tyle ddod o Faenor Sistersaidd Penrhys gerllaw. Gellir gweld amrywiad ar y ty hir ym Modringallt (Bodrhyngallt), adeilad arall sy'n dyddio o'r 17eg ganrif, a nodweddir gan fynedfa uniongyrchol yng nghanol y ty a'r ffaith nad oes unrhyw simnai ganolog (Y grwp o dai â mynedfa uniongyrchol: ty â simnai yn y pen, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae Fforch-Orchy yn dy tair uned wedi'i foderneiddio yr eir i mewn iddo trwy gyntedd. Mae Ty-draw, a ddosbarthwyd fel un sy'n perthyn i'r grwp amrywiol, yn eithriad (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru).

Mae'r dirwedd amaethyddol yn cynnwys yn bennaf gaeau afreolaidd bach a chanolig eu maint, lle y mae llethr y bryn yn caniatáu, mae llawer o gorlannau wedi goroesi, yn arbennig yn y Garreg Lwyd a Blaenrhondda. Dengys tystiolaeth gartograffig nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol eraill yn yr ardal megis tai anifeiliaid, cysgodfeydd gwartheg neu ddefaid ac anheddau dros dro ar dir uchel, h.y. lluestai. Dengys enwau caeau Coedcae a safleoedd llosgi golosg ym Mlaenrhondda a Chwm Bodrhyngallt, a phocedi o goetir hynafol adfywiedig sydd wedi goroesi, fod llawer o'r ardal wedi'i gorchuddio â choed yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol; coedwigwyd rhan sylweddol o'r ardal yn y cyfnod modern.

Mae nifer o safleoedd pyllau glo, gan gynnwys Bodringallt, Lady Margaret, Nant-dyrys, a Thyle-coch, a leolir o fewn ffiniau'r ardal, yn gwrthdaro â chymeriad y dirwedd hanesyddol. Mae safleoedd diwydiannol eraill, er eu bod yn llai pwysig, megis chwareli, lefelau glo, ffyrdd aer, incleins, a thomenni, wedi'u harosod ar olion y dirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol rannol greiriol ac oddi mewn iddynt; mae system halio inclein restredig yng Nghefn Ynysfeio, lle y mae'r ty gwerthyd wedi goroesi ymhlith adeiladau eraill, yn arbennig o ddiddorol (SAM Gm508),. Mae lefelau glo, lefelau prawf a phyllau niferus yn nodweddiadol o'r llethrau; maent yn arbennig o amlwg ym Mlaenrhondda, Blaen-cwm, Cwm Saerbren, ac uwchlaw Penyrenglyn a Threorci. Ceir llu o chwareli yn yr ardal yn gysylltiedig â'r cynnydd mewn gweithgarwch adeiladu tai ar ôl 1850; lleolir enghraifft arbennig o odidog uwchlaw Treherbert. Mae nodweddion eraill yn dyddio o'r cyfnod hwn yn cynnwys twnnel cyn-Reilffordd y Rhondda a Bae Abertawe ym Mlaen-cwm a adeiladwyd ym 1889.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk