Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 031 Ucheldiroedd y Rhondda (Mynydd Ton - Mynydd Penygraig) Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Ucheldiroedd y Rhondda (Mynydd Ton - Mynydd Penygraig) yn estyniad deheuol o HLCA 30 Ucheldiroedd y Rhondda. Yn yr un modd nodweddir y dirwedd yn bennaf gan ffriddoedd heb eu gwella yn ymestyn dros dir comin mynyddig, a orchuddir â gwair bras a llystyfiant hesgen gan mwyaf. Mae coed wedi'u plannu dros ran sylweddol o'r ardal; ceir planhigfeydd mawr o befrwydd a phinwydd ac ambell i glwstwr o larwydd. Nodweddir y dirwedd gan gopaon moel sy'n graddol ddisgyn, a chlogwyni creigiog a llethrau coediog serth ar y cyrion. Ar wahân i amaethyddiaeth, nodir bod mân ddefnydd wedi'i wneud o'r tir at ddibenion diwydiannol; cynrychiolir hyn yn bennaf gan byllau glo yng Nghwm Cesig ac ar ochr ogleddol Mynydd Penygraig a hefyd tomenni glo ar Fynydd Pwllyrhebog ac yn yr ardal i'r gogledd o Gilfach. Mae'r arwyddion cynharaf o weithgarwch dynol yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC), ac maent yn cynnwys arteffactau fflint a chornfaen, a ddarganfuwyd yng Ngwyneb-yr-haul, Mynydd Ton a Nant-y-gwair. Darganfuwyd eitemau yn dyddio o'r Oes Neolithig (4400-2300CC) a'r Oes Efydd (2300-800CC) hefyd yn yr ardal. Lleolir nifer o olion archeolegol pwysig o'r cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig yn yr ardal; mae'r olion hyn yn cynnwys carneddau claddu yn dyddio o'r Oes Efydd, megis Carn Fawr, Carn Fach, y garnedd a'r gist ar Fynydd Penygraig a'r grŵp o garneddau ar Fynydd Ton. Ymddengys i'r anheddu barhau'n ddi-dor a bu bobl yn byw yn yr ardal yn ystod yr Oes Haearn ac i mewn i'r cyfnod Rhufeinig (800CC-OC410) a gynrychiolir yma gan anheddiad caerog Gwersyll Maendy (SAM Gm 99) ar ben Mynydd Maendy yn edrych dros Gwm-parc i'r gogledd ac anheddiad cyfagos Hendre'r Gelli, ychydig y tu allan i'r ardal. Mae Gwersyll Maendy yn enghraifft brin o fryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn yn ucheldiroedd Morgannwg; disgrifir y safle, a gloddiwyd ym 1901, fel un 'bugeiliol', ac mae ei gynllun yn cynnwys clostir canolog bach ar ffurf pedol sydd wedi'i amgáu â chloddiau allanol isel â gofod eang rhyngddynt. Lleolir carnedd yn dyddio o'r Oes Efydd rhwng y rhagfuriau mewnol ac allanol. Yn ystod y cyfnod canoloesol, ymddengys fod y patrwm anheddu yn yr ardal a'r defnydd a wnaed ohoni yn debyg i'r hyn a welwyd yn HLCA 030 i'r gogledd; nodweddir aneddiadau ucheldirol yn ystod y cyfnod hwn gan dai llwyfan, a cheir enghreifftiau o'r math hwn o dy yng Nghwm Cesig, uwchlaw Ton Pentre ac yn Nant-y-Gwiddon. Mae llwybrau canoloesol hefyd wedi goroesi yn y dirwedd, megis yr un yn Nharren-y-Bwllfa, Cwm Clydach. Cynhwysai'r ardal, ynghyd ag ardaloedd Cwm-parc a Threorci gerllaw sydd bellach wedi'u trefoli yr ardal fwyaf helaeth o dir demên yn Arglwyddiaeth Glynrhondda, wedi'i chanoli o amgylch fferm Ystrad Fechan a Thir Cadogan (Pentwyn a Thir Gibon Dio yn ddiweddarach), sef y tir demên a gysylltir â'r teulu Cadwgan yng nghanol yr 16eg ganrif; dangosir pa mor bwysig oedd y teulu yn y ffaith i'r bardd Dafydd Benwyn lunio marwnadau i dri o'r teulu, a ddarfu â bod ym 1585. Mae ffynonellau dogfennol a chartograffig, a ategir gan dystiolaeth enwau lleoedd, yn rhoi rhyw syniad o'r modd yr oedd tirwedd amaethyddol gynddiwydiannol yr ardal wedi'i threfnu; mae'n dwyn i gof y defnydd a wneid o'r ucheldiroedd, yn aml yn dymhorol, ar gyfer ffermio gwartheg, ac yn ddiweddarach ddefaid, yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae dylanwadau eraill ar y dirwedd yn gysylltiedig â'r datblygiadau diwydiannol a welwyd yn yr ardal yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif; mae'r rhain yn cynnwys nodweddion cymharol ddibwys, lefelau glo, lefelau prawf a thomenni glo bach a ffyrdd aer i'r nifer fawr o lefelau tanddaearol gan mwyaf. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|