Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


035 Mynydd-Glyn


HLCA 035 Mynydd-y-Glyn
Ffridd fynyddig neu ucheldirol; tirwedd amaethyddol a diwydiannol ucheldirol greiriol; gwaith adfer a choedwigo modern.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA035)

Mynydd-y-Glyn, gan ddangos ardal o waith tirlunio a choedwigaeth.

Cefndir Hanesyddol

Ardal o dirwedd ucheldirol yw ardal tirwedd hanesyddol Mynydd-y-Glyn yn y bôn, y lleolir y rhan fwyaf ohoni y tu allan i ffiniau Tirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda.

Defnyddiwyd rhan sylweddol o'r ardal yn helaeth ar gyfer tomenni glo ac fe'i nodweddid gynt gan nodweddion diwydiannol, megis hen chwareli (argraffiad 1af map yr AO 1884) a thomenni helaeth, a adferwyd bellach, wedi'u cysylltu gan inclein tramffordd (a thþ injan) â Phwll Glo Coedcae (2il argraffiad map yr AO 1900), Lewis Merthyr Consolidated Collieries yn ddiweddarach (argraffiad 1921 map yr AO), yn Hafod yn y dyffryn islaw. Nodir chwareli a thomenni eraill yn yr ardal uwchlaw Glynfach. Yr unig gofrestr ar gyfer yr ardal ar yr SMR yw chwarel fawr nas defnyddir (yn ST 0448 9044) a leolir o fewn coedwig a blannwyd yn ystod y cyfnod modern.

Cysylltir nodweddion cynharach yn bennaf â'r defnydd a wneid o'r ardal fel ffriddoedd mynyddig ac maent yn cynnwys corlannau ôl-ganoloesol a ffiniau ucheldirol a adeiladwyd o gerrig sych a physt a gwifrau.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk