Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


012 Cwm-parc


HLCA 012 Cwm-parc
Enghraifft o anheddiad(aneddiadau) glofaol pen pwll, a ddatblygodd o resi unigol yn ystod y cam cyntaf a unwyd yn anheddiad llinellol parhaus unigol yn ystod yr ail a'r trydydd cam; terasau llinellol yn rhoi gwedd weledol unffurf i'r ardal; aneddiadau glofaol preswyl heb lawer o amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol; enghreifftiau o dai glofaol cyn 1880 a thai hapfasnachol diweddarach; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y cwm.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA012)

Cwm-parc, golygfa o'r dwyrain gyda Graig-fawr yn y cefndir.

Cefndir Hanesyddol

Mae Ardal tirwedd hanesyddol Cwm-parc yn gysylltiedig â datblygiad pyllau glo Parc a Dare. Sefydlwyd pwll glo'r Dare a agorwyd ym 1865 a Phwll Glo'r Parc a agorwyd ym 1870, gan David Davies a'i Gwmni, a ac fe'u prynwyd yn ddiweddarach gan yr Ocean Coal Company Ltd. Ym 1929 gosodwyd y baddondai pen pwll cyntaf yn y Rhondda ym Mhwll Glo'r Parc. Ym 1935 daeth y ddau yn rhan o gwmni mawr Powell Dyffryn Associated Collieries Ltd ac ar ôl cael eu gwladoli ym 1947 fe'u cyfunwyd ac yn y pen draw fe'u caewyd o dan y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Tirluniwyd safleoedd y ddau bwll glo ar ôl hynny; erbyn hyn saif Neuadd Gymunedol a thai ar safle Pwll Glo'r Dare.

Adeiladwyd yr anheddiad ar eiddo Griffith Llewellyn a Leyshon Morgan ar ffermydd Cwmdare, Parc-isaf a Pharc-uchaf, ac fe'i hymestynnwyd yn ddiweddarach i gynnwys rhannau is ffermydd Pencelli ac Ystrad-fechan. Gellir dilyn y ffordd y mae'r anheddiad yn datblygu o'r dystiolaeth gartograffig. Mae'r dystiolaeth hon yn dechrau pan agorwyd y pwll glo gwreiddiol ac yr adeiladwyd yr anheddiad gerllaw (braidd yn ddigynllun) gan y pwll glo, a ddilynwyd yn fuan ar ôl hynny gan waith ehangu pellach ar ffurf agor pwll eilaidd ac adeiladu anheddiad pen pwll glofaol cynlluniedig mwy rheolaidd, a seilwaith cysylltiol. Yn fuan ar ôl hynny adeiladwyd cryn nifer o gapeli anghydffurfiol yn yr ardal wag rhwng y ddau anheddiad pen pwll a dim ond wedyn rhagor o dai hapfasnachol, a gysylltodd y ddwy ardal ben pwll yn y pen draw yn un anheddiad llinellol mawr. Er i'r capeli gael eu hadeiladu trwy danysgrifiad cyhoeddus ar y cyfan, ymddengys i stoc tai cynharaf yr ardal gael ei adeiladu i raddau helaeth gan gwmni'r pwll glo lleol. Parhaodd cwmni David Davies, sef yr Ocean Coal Company, i adeiladu tai yn yr ardal tan tua. 1875; roedd y ty teras deulawr ag un ffrynt yn nodweddiadol o'r eiddo hwn (Fisk 1995).

Gwelwyd y datblygiadau cyntaf, rhwng 1866 a 1875, yn yr ardaloedd gerllaw safleoedd y pyllau glo; ymddengys fod y craidd cynharach wedi'i leoli i'r gogledd ddwyrain o Bwll Glo'r Dare a chynhwysai ben dwyreiniol yr ardal lle yr adeiladwyd Baglan Street a Lower Terrace yn ddiweddarach a chyda Gwesty wedi'i adeiladu gerllaw, tra roedd grwp llinellol o derasau â chynllun mwy rheolaidd wedi'u hadeiladu i'r gogledd ac i'r dwyrain o Bwll Glo'r Parc, sef yn y bôn Greenfield Row a Cwmparc Row (a ailenwyd ar ôl hynny yn Railway Terrace) lle y safai Capel yr Annibynwyr, a thafarn o'r enw The Tremain Inn. Roedd y ddwy Res bryd hynny wedi'u cysylltu gan dramffordd i Bwll Glo'r Parc. Gwasanaethwyd y ddau bwll glo gan Reilffordd Cwm-parc, a oedd yn cysylltu â changen y Rhondda o Reilffordd y Taff Vale. Bryd hynny roedd y ddau anheddiad pen pwll wedi'u cysylltu gan ragflaenydd Parc Road. Ar hyd ochr ogleddol y ffordd honno safai ysgol, Capel Bethel (Bedyddwyr), Capel y Parc (Methodistiaid Calfinaidd) a safai Ystafell Ddarllen gyferbyn â hwy; ni chafwyd unrhyw ddatblygiadau tai yn yr ardal hon (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd 1875).

Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd craidd anheddiad Cwm-parc yn ei le, gan gynnwys Cwmparc Road, Baglan Street a Tallis Street. Roedd tai a Swyddfa Bost wedi'u hadeiladu ar y lleiniau ar hyd Cwmparc Road a fu gynt yn dir agored ac roedd eglwys, ychwanegiad hwyr at dirlun crefyddol yr ardal, (sef Eglwys St George gan GE Halliday 1895-6, arddull Unionsyth y Mudiad Celfyddyd a Chrefft) wedi'i hadeiladu ar Tallis Street, i fyny'r llethr a'r tu ôl i Baglan Street, sef y brif stryd. I'r dwyrain i ffwrdd o'r prif anheddiad roedd Pencae Terrace a Gwesty Pengelli a oedd ynghlwm wrtho wedi'u hadeiladu i'r gogledd o fferm Ystrad-fechan (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO 1900, a ddiwygiwyd 1897-98). Yn ystod y cyfnod ar ôl 1875 adeiladwyd bron yr holl dai yn yr ardal ar gyfer buddsoddwyr eiddo yn unig fel mentrau hapfasnachol. Erbyn 1914 roedd ffurf derasog linellol Cwm-parc fwy neu lai yn gyflawn; roedd ychwanegiadau at yr anheddiad yn cynnwys tai ar hyd ochr ddeheuol Cwmparc Road (a elwir yn Park Road bellach), a therasau a adeiladwyd yn gyfochrog â hyn, sef Barrett Street, Castle Street a Treharne Street a Vicarage Terrace. Roedd yr ardal uwchlaw Pencae Terrace yng ngogledd ddwyrain yr anheddiad hefyd wedi'i datblygu i gynnwys Conway Road, Chepstow Street a Clifton Street, a chynhwysai'r ddwy stryd olaf dai a adeiladwyd yn unswydd ar gyfer clybiau adeiladu gweithwyr y pyllau glo, tra roedd gerddi rhandir gerllaw'r ddau bwll glo a rhagor o ysgolion wedi'u hadeiladu hefyd erbyn y dyddiad hwn (Argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk