Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


008 Llwynypia


HLCA 008 Llwynypia
Enghraifft brin o anheddiad pen pwll cam cyntaf cynnar yn y Rhondda; anheddiad clos a chnewyllol o derasau llinellol a adeiladwyd gan y lofa yn ôl cynllun, gydag ychwanegiadau strimynnog ail gam ac ychwanegiadau ar lethrau'r bryn yn bennaf; anheddiad glofaol preswyl gydag amrywiaeth swyddogaethol/morffolegol cyfyngedig; enghreifftiau cynnar o dai teras a godwyd gan y lofa - 'Terasau'r Scotch' sef bythynnod teras ffrynt dwbl neilltuol; Ty Injan Glofa Llwynypia, sef enghraifft brin o heneb ddiwydiannol sydd wedi goroesi yn y Rhondda.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA008)

Golygfa o'r awyr o Lwynypia gan ddangos Terasau'r 'Scotch' yn y blaen i'r dde.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llwynypia yn cynnwys yr anheddiad diwydiannol a adeiladwyd ar dir ffermydd Llwynypia a Glyncornel (Degwm 1844) o eiddo ystad teulu'r De Winton. Roedd Rheilffordd y Taff Vale a godwyd ym 1856 yn rhedeg i'r de o'r anheddiad ac erbyn 1875 roedd ganddo bwll glo, tafarn, capeli, ysgolion, melin lifio a gwaith brics. Roedd craidd neu gnewyllyn yr anheddiad, a ddynodir ar argraffiad cyntaf y cynllun AO (1884 a fapiwyd ym 1875) yn cynnwys cyfluniad tynn o derasau llinellol, gan gynnwys Terasau Cambria, Llywelyn, De Winton, Glamorgan a Holyrood a adwaenir fel Terasau'r 'Scotch' ar ôl yr entrepreneur glofaol, Archibald Hood a oedd yn hanu o'r Alban ac a fu'n gyfrifol am eu hadeiladu. Roedd Hood yn berchen ar Bwll Glo cyfagos y Glamorgan (Scotch) neu Lwynypia. Mae'r terasau, a godwyd o 1865 ymlaen, yn enghreifftiau prin o'r tai sy'n dyddio o'r cyfnod cyn Deddf Iechyd Cyhoeddus 1875 a gafodd ddylanwad mawr ar y diwydiant adeiladu. Nid yw'r math yma o dai yn gyffredin yn y Rhondda, sef tai â ffrynt dwbl gyda dwy ystafell lawr llawr a thair i fyny gyda ffasadau'n edrych dros gerddi ffrynt hir. Gwnaethpwyd y briciau a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu yn lleol ym Mhwll Glo Llwynypia, gan ddefnyddio'r clai tân o Bwll Rhif 3; dros amser, y gwaith brics hwn oedd yn cynhyrchu'r mwyaf o frics yn ardal y Rhondda.

Yn ystod y cyfnod anheddu cychwynnol, roedd bwlch sylweddol rhwng yr aneddiadau yn Llwynypia ac Ystrad a'r Gelli i'r gogledd a dim ond ar ail argraffiad y map y gwelir y dirwedd anheddu barhaus sy'n bodoli heddiw. Gwnaed mân ychwanegiadau i'r anheddiad ar droad y 19eg/20fed ganrif gydag ysgolion a dwy stryd Railway View a Sherwood Street (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, a ddiwygiwyd ym 1898). Codwyd Sherwood Street fel rhan o ddatblygiad hapfasnachol o dai deulawr o ansawdd â ffenestri bae wedi'u hanelu at berchennog-ddeiliaid (Fisk 1996). Erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd yr anheddiad wedi ehangu ymhellach drwy ychwanegu Hillside Terrace a School Terrace a Pont Rhondda Road. Roedd gwelliannau i gyfleusterau, fel ysgolion wedi'u hymestyn a'r maes criced i'r gogledd o Gapel Salem wedi'u cyflawni erbyn y dyddiad hwn (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a fapiwyd ym 1914).

Agorwyd siafftau rhif 1, 2 a 3 Pwll Glo Llwynypia neu'r Glamorgan, a adwaenwyd hefyd yn lleol fel Pwll Glo'r Scotch, ym 1862. Agorwyd tair siafft ychwanegol at ddibenion pwmpio a thyllau aer o dan reolaeth y Glamorgan Coal Company. Yn ddiweddarach daeth y gwaith yn rhan o'r Cambrian Combine ym 1908 o dan reolaeth DA Thomas AS Rhyddfrydol dros Ferthyr (1888-1910) ac yn ddiweddarach, Is-iarll Rhondda. Er i'r cloddio am lo ddod i ben ym 1945, parhaodd y pwll ar agor tan y 1960au ac yna cliriwyd y safle, Yr unig dystiolaeth o fodolaeth y pwll glo ar y safle hwn yw'r Pwerdy neu'r peiriandy, sydd bellach yn adeilad rhestredig.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk