Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 022 Ffaldau Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Ffaldau yn rhan ar wahân o HLCA 023 y Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm. Yn gwahanu'r parsel anghysbell hwn o dir caeëdig a HLCA 023 y Rhondda Fach: Ochrau Caeëdig Dwyreiniol y Cwm i'r de ddwyrain mae topograffi mwy serth. Mae'r ardal yn cynnwys yn benodol ffaldau canoloesol/ôl-ganoloesol sydd wedi goroesi fel y'u cofnodir mewn ffynonellau cartograffig. Mae'r enw lle Ffaldau, sef 'llociau neu gorlannau' yn adlewyrchu pwysigrwydd yr ardal yn economi bugeiliol yr ardal. Mae union ddiben y nodweddion hyn yn fater o ddyfalu i raddau helaeth. Gallai lleoliad Ffaldau gerllaw cyn-fferm y Maerdy, sef ty neu anheddiad y maer neu'r distain canoloesol, roi cliw o ran tarddiad a phrif ddiben yr ardal; fel corlannau, man casglu ar gyfer didoli da byw i hwyluso gwaith cyfrifo a/neu reoli symudiadau i'r ffriddoedd neu'r ardaloedd gweinyddol cyfagos ac oddi yno. Fodd bynnag, gallai'r enw yn yr un modd awgrymu ardal o gyn-borfeydd mynydd y bu pobl yn tresmasu arni neu a gaewyd tua diwedd y cyfnod ôl-ganoloesol (h.y. 18fed ganrif), efallai yn seiliedig ar gorlannau cynharach. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|