Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 020 Blanllechau a Glynrhedynog Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Blaenllechau a Glynrhedynog yn cynnwys dau anheddiad glofaol cam 1, Blaenllechau a Glynrhedynog, y mae cysylltiad agos rhyngddynt. Adeiladwyd y cyntaf yn wynebu'r de-orllewin ar lethrau fferm Blaenlleche, a oedd yn eiddo i Thomas Evans pan wnaed yr arolwg degwm (Llanwynno 1841), tra adeiladwyd Glynrhedynog ar yr ochr arall i'r afon ar ffermydd Rhondda Fechan a Dyffryn Sarfwch, a oedd yn eiddo bryd hynny i'r teuluoedd Graydon a Saunderson yn y drefn honno. O ran ei arddull mae ffermdy Rhondda Fechan (neu Fach) yn perthyn i grwp y Dadeni: sef tai â grisiau yn y bargodiad ôl. Ym 1857 cymerodd David Davies yr hawliau cloddio ar gyfer 500 erw o dir Blaenllechau ar brydles a phrynodd lefel fach nad oedd yn cael ei defnyddio ar y fferm, a chychwynnodd ar y gwaith o agor pwll. O'r diwedd ym 1862 trawyd ar wythïen bedair troedfedd ar ddyfnder o 278 o droedfeddi o fewn siafft Rhif 1 Glynrhedynog, a ymestynnwyd ymhellach i ddyfnder o 400 o droedfeddi ar ôl hynny. Ym 1870, ar ôl dau ffrwydrad, y naill ym 1867, a laddodd 178, y llall ym 1869, a arweiniodd at farwolaeth 53 o lowyr eraill, agorodd Lewis Davies, sef mab David Davies, siafft Rhif 2 i wella'r system awyru. Agorodd David Davies a'i Fab siafft Rhif 4 dri chwarter milltir ymhellach i'r gogledd ym 1876 (roedd Rhif 3 yn y Rhondda Fawr ym Modringallt) a siafft Rhif 5 ym 1889, ger pentref Blaenllechau. Trosglwyddwyd Pyllau Glo Glynrhedynog i'r Welsh Associated Collieries ym 1927, a chaewyd siafftau Rhif 2 a 4 ar ôl hynny. Cyn cael eu gwladoli fe'u trosglwyddwyd i Powell Dyffryn Associated Collieries ym 1935. Datblygodd y pyllau glo i fod yn un o gyflenwyr mwyaf glo ager o safon ym Maes Glo De Cymru. Caewyd y pwll glo gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1959. Tirluniwyd safleoedd y siafftau a'r Banana Tip enwog yn ystod y 1980au. Crëwyd Parc Coffa ar safle pwll Rhif 1 er cof am y glowyr a laddwyd o ganlyniad i drychinebau 1867 a 1869, ac mae gweddill y tir a adferwyd bellach yn cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes a hamdden. Rhoddwyd y cloddwyr a gychwynnodd ar y gwaith cloddio ym 1857, tua 40 ohonynt, gyda'i gilydd mewn un llety, tra rhoddwyd llety i'r glowyr cyntaf yng Nglynrhedynog a'u teuluoedd mewn nifer fawr o gytiau pren a elwid 'The Barracks'. Mae papur newydd The Times ym 1867 yn nodi bod poblogaeth o ryw 800 yn byw mewn cytiau pren wedi'u hadeiladu rywsut-rywsut 'fel cytiau pren Americanaidd'. Dymchwelwyd llawer o'r cytiau hyn pan gynyddodd lefel y mudo i'r ardal yn y 1870au ac adeiladwyd terasau hir o dai cerrig yn eu lle gan gwmni'r pwll glo (Lewis 1959), ond er hynny hyd yn oed mor hwyr â 1906-1908 roedd cwmni Davies a'i Fab, sef y Ferndale Coal Company, yn codi cytiau pren newydd yn lle 55 o gytiau pren ym Mlaenllechau (Fisk 1995). Erbyn 1875 roedd creiddiau cychwynnol Blaenllechau a Glynrhedynog wedi'u sefydlu. Mae Blaenllechau, sy'n gynharach na Glynrhedynog yn ôl pob tebyg, yn cynnwys terasau a bythynnod unigol, yn bennaf Baptist Square, Club Row, Double Row, Long Row, Mountain Row, Pit Row (George Street 3ydd argraffiad), Tirbach, Underhill Cottage, ac Upper Row, ac mae'n cynnwys swyddfa bost, ysgol a dau gapel, Capel Carmel (Methodistiaid Calfinaidd) a Chapel Nazareth (Bedyddwyr Cymreig). Mae'r anheddiad wedi'i drefnu ar hyd croesfan ac o'r naill ochr iddi, a ganolwyd ar Dafarn Glyn-rhedynog (Gwesty o'r 2il argraffiad), ar lonydd (Commercial Street, Aberdare Road a Blaenllechau Road 2il/3ydd argraffiad) yn arwain allan o'r cwm i Ferthyr Tudful, Aberdâr, a Llanwynno, i'r gogledd ac i'r dwyrain. Nid yw'n syndod efallai i lawer o'r glowyr a sefydlodd yr anheddiad a'r pwll glo ddod yma o ardal Aberdâr gerllaw. Erbyn 1862 roedd Rheilffordd y Taff Vale wedi'i hymestyn i Lynrhedynog ac roedd gorsaf islaw Blaenllechau. I'r de yn union gyferbyn â Phwll Glo Glynrhedynog ar lan orllewinol Afon Rhondda Fach ym Mryn Derwen, lleolir anheddiad rheolaidd cryno Glynrhedynog. Yn ystod y cyfnod cynhwysai bedair stryd gyfochrog: sef Fountain Street, Maxwell Street, Pontypridd Road (High Street yn ddiweddarach) a Wellfield Street (Lake Street 2il argraffiad) wedi'u cysylltu gan Rhondda Road (y Strand 2il argraffiad). Roedd gan Lynrhedynog ddau gapel erbyn y dyddiad hwn: Capel Bethel (Wesleaid Cymreig); a Thre-Rhondda (Annibynnol), y capel hynaf yn y Rhondda Fach a adeiladwyd ym 1867 ac a ymestynnwyd ym 1878. Lleolwyd y Rhondda Inn a rhai terasau gerllaw'r ffordd yn arwain i'r de, ac oddi ar y ffordd hon ceir tafarn y Dyffryn Arms. Roedd Mynwent Glynrhedynog a'i Gapel Angladdol hefyd wedi'i sefydlu i'r gogledd o'r ardal (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875). Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd Blaenllechau wedi'i ymestyn i gynnwys Glyn Terrace ar Aberdare Road, roedd tai wedi'u hadeiladu ar hyd Commercial Street ac Aberdare Road, ac roedd ysgol wedi'i hadeiladu gerllaw Baptist Square. Roedd Pit Row (Old Drum, George Street yn ddiweddarach ar y 3ydd argraffiad) wedi'i hymestyn, yn ogystal â Mountain Row ac Upper Row ac roedd Prince's Street wedi'i hychwanegu at yr anheddiad, tra bod Baptist Row wedi'i hychwanegu i fyny'r llethr o Baptist Square. Roedd Taff Road wedi'i hadeiladu i'r de-orllewin o Reilffordd y Taff Vale gerllaw'r orsaf. Roedd rhandiroedd ac iardiau niferus bellach yn un o nodweddion y dirwedd drefol. Ddiwedd y 19eg ganrif roedd Pwll Glo Glynrhedynog wedi'i ymestyn i gynnwys ty injan, gefail gof, melinau llifio, a chilffyrdd, a dangosir Pyllau Glynrhedynog Rhif 2 a 4 yn ogystal â Lower Pit, Middle Pit ac Upper Fan Pit. Roedd anheddiad Glynrhedynog hefyd wedi tyfu yn ystod y cyfnod i'r de, i'r gogledd ac ychydig i'r gorllewin o'r craidd cynharach unwaith eto mewn patrwm grid llinellol tebyg. Roedd y datblygiadau i'r de yn cynnwys Ayron Street, Brook Street (a enwir ar y 3ydd argraffiad), Bryn Hyfryd Terrace, Dyffryn Street, Hill Terrace, Irfon Street, Oakland Terrace, Pleasant View, Regent Street, Rhondda Terrace, a Victoria Street (enghraifft o dai hapfasnachol a adeiladwyd ym 1897-98 gan Thomas Owen Brown, a ailenwyd yn Brown Street ar ôl hynny). I'r gogledd ceir Ardwyn Terrace a North Street, ac oddi ar North Street ceir Elm Street, Oak Street a Church Street (a ddynodir ac a enwir ar y 3ydd argraffiad), tra bod strydoedd Wood, Beach, Lime a strydoedd Frederick a West (a ddangosir ond a enwir ar y 3ydd argraffiad) i'r gorllewin ar y llethrau islaw Llyn y Forwyn. Yn ystod y cyfnod hwn adeiladwyd rhagor o ysgolion, capeli ac eglwysi yng Nglynrhedynog, tafarn y Maxwell Hotel, a maes saethu i'r gogledd o'r fynwent (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1900, a ddiwygiwyd ym 1987-98). Ni newidiodd Blaenllechau fawr ddim yn ystod y cyfnod ar ddechrau'r 20fed ganrif, ar wahân i'r ffaith i Gapel Nazareth gael ei hadeiladu yn George Street. Ar y llaw arall roedd Glynrhedynog yn parhau i ddatblygu yn bennaf i'r gogledd ac i'r gorllewin. Roedd Darren Terrace, Llyn Crescent (datblygiad clwb adeiladu), a Tudor Street wedi'u hadeiladu yn rhan orllewinol yr anheddiad ynghyd ag ysgolion newydd, tra bod Bryngolau Crescent, a strydoedd Fir a Pine ynghyd â gwaith wagenni i'w gweld. Roedd y datblygiad strimynnog ar hyd y briffordd, h.y. Faldau Terrace a'r Parade a ymestynnwyd yn ddiweddarach gan Hayfield Street (erbyn 1945), wedi gwthio i'r gogledd orllewin tua'r Maerdy (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914-15). Roedd ychwanegiadau diddorol at dirwedd drefol y cyfnod yn cynnwys: eglwys St Dunstan, Lake Street a adeiladwyd ym 1905?06 yn yr arddull Seisnig Gynnar yn ôl cynlluniau EM Bruce Vaughan; Capel Penuel, capel y Methodistiaid Calfinaidd Seisnig, yn George Street, â'i ffasâd clasurol syml a adeiladwyd ym 1904-05 gan Lewis a Morgan, gan ailwampio capel 1878; a Neuadd y Gweithwyr Glynrhedynog a adeiladwyd ym 1907 mewn arddull Faróc gan T Richards o Bontypridd (Newman 1995). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|