Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 026 Mynydd Brith-weunydd a Mynydd Troed-y-rhiw Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Brith-weunydd a Mynydd Troed-y-rhiw yn ardal o fynydd agored sy'n gysylltiedig â ffermydd o'r un enw wedi'u lleoli o fewn HLCA 027 gyfagos Brith-weunydd a Throed-y-rhiw i'r de ac i'r dwyrain. Tair heneb angladdol yn dyddio o'r Oes Efydd (2300-800CC): olion dwy garnedd, y naill yn 10m ar ei thraws a'r llall yn 13.4m ar ei thraws, ar gopa Mynydd Brith-weunydd (Berth-weunydd); a thrydedd garnedd, twmpath anniffiniedig ar Fynydd Troed-y-rhiw, yw'r nodweddion archeolegol cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal dirwedd. Yn ystod y cyfnod canoloesol delid yr ardal gan Faenor Sistersaidd Penrhys a arferai fod yn helaeth ac a rannwyd yn ddaliadau llai o faint yn ddiweddarach ac a brydleswyd o ddechrau'r 14eg ganrif. O dan y Sistersiaid, a'u tenantiaid diweddarach, defnyddid yr ardal yn bennaf at ddibenion pori defaid; parhaodd y defnydd hwn ar ôl y diwygiad ac mae olion niferus corlannau a ddangosir ar argraffiad 1af map 6" yr AO dyddiedig 1884 yn darparu digon o dystiolaeth bod defaid yn cael eu pori yma yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Lleolir y ffermydd ôl-ganoloesol, y ffermid yr ardal ohonynt yn ddiweddarach, sef Brith-weunydd, Llethr-ddu a Throed-y-rhiw, ar y llethrau isaf i'r de o fewn yr HCLA gyfagos. O ddiwedd y 19eg ganrif manteisiwyd yn llawn ar fwynau'r ardal a chloddiwyd y tywodfaen Pennant lleol i adeiladu tai lleol; mae olion mân nodweddion diwydiannol niferus yn cynnwys lefelau glo, chwareli, tramffyrdd/incleins a thomenni rwbel, a ddangosir ar 2il argraffiad map yr AO (1900) ac argraffiad 1921, y mae pob un ohonynt wedi gadael eu hôl ar gymeriad yr ardal. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|