Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 032 Parc Cwm Brychinog Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Cyfeirir at ardal tirwedd hanesyddol Parc Cwm Brychinog mewn ffynonellau dogfennol fel un o ddau barc hela canoloesol yng Nglynrhondda, Parc Cwm Brychinog; lleolid y llall yn y Rhigos i'r gogledd o Dirwedd Hanesyddol y Rhondda. Mae enwau ffermydd Parc-uchaf a Pharc-isaf ac enw'r cwm ei hun, sef Cwm-parc, yn tystio i'r ffaith i'r ardal gael ei dynodi fel Parc. Rhannwyd Parc Cwm Brychinog i greu ffermydd Parc-uchaf a Pharc-isaf, Cwmdare a Bwlch-y-Clawdd yn ystod y cyfnod Tuduraidd, ac oherwydd hynny bu'n rhaid gosod ffiniau newydd. Mae daliadau cyfagos Ystrad Fechan a Thir Cadogan (Tir Gibbon Dio a Phentwyn yn ddiweddarach), hefyd yn ddiddorol. Yn ystod ail hanner yr 16eg ganrif roeddynt yn rhan o eiddo rhyddfraint y teulu Cadwgan a oedd yn deulu â chryn statws yn lleol, yn ôl y traddodiad, ac yn arbennig cerddi Dafydd Benwyn, bardd o'r un cyfnod. Mae'r ardal yn cynnwys nifer fach o olion archeolegol pwysig yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol. Mae'r darganfyddiadau cynharaf o'r ardal yn cynnwys fflintiau Mesolithig, gan gynnwys microlithau a bwyell garreg o'r Oes Neolithig. Gwyddom fod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ac mae safle prosesu fflintiau uwchlaw Cwm-parc a set bosibl o gytiau crwn o fewn clostir crwn (SAM Gm 278), ger Bwlch-yr-Afan; fodd bynnag, dengys gwaith cloddio a wnaed ym 1962 fod yr ail safle sy'n rhestredig mewn gwirionedd yn nodwedd ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig â ffermio defaid (SMR, PRN 0037m). Lleolir Crug-yr-Afan (SAM Gm 233), carnedd gladdu yn dyddio o'r Oes Efydd (2000-1000CC) ar fan uchel yn edrych dros gymer tri chwm ym Mwlch-yr-Afan; Cwm Parc, Cwm Ogwr Fawr a Chwm Nant-ty ym mlaen Cwm Afan ar gwr gorllewinol yr ardal ac fe'i lleolir ar ffin draddodiadol yn rhedeg o'r gogledd i'r de. Mae'r math hwn o safle yn anarferol ar gyfer yr ucheldiroedd, am ei fod yn cynnwys crug â ffos, yn debyg i grugiau cloch Wessex, sy'n dyddio o tua 2000-1450CC. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed ym 1902 dwmpath cyfansawdd. O amgylch rhan isaf y twmpath hwn, a gynhwysai bridd cleiog, roedd silff neu ysgafell wastad, a ffos. Wedi'i thorri i mewn i'r isbridd o dan y twmpath roedd cist ganolog, a gynhwysai gorff wedi'i amlosgi, a chyllell efydd, â rhigolau ar hyd yr ochrau, o fath a oedd yn nodweddiadol o Wessex ar ddechrau'r Oes Efydd. Roedd carnedd gerrig lai o faint, yr oedd ymyl neu gylch o slabiau unionsyth o'i hamgylch yn wreiddiol, wedi'i chodi dros y twmpath isaf. Dangosodd dadansoddiad o'r paill o'r safle fod yr amgylchedd yn un o rostir a thir agored wedi'i orchuddio â choed, coed derw yn bennaf. Ym Mwlch-yr-Afan a Bwlch-y-Clawdd ceir olion cloddiau a ffosydd neu groesgloddiau, rhan o system fwy helaeth o groesgloddiau yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol (8fed-9fed ganrif), sy'n rheoli llwybrau'r cefnffyrdd ucheldirol i mewn i ardal y Rhondda. Mae'r nodweddion hyn yn dwyn i gof dirwedd weinyddol yr ardal ar ddechrau'r cyfnod canoloesol ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y croesgloddiau ym Mwlch-yr-Afan (SAM Gm 246) a Blwch-y-Clawdd (SAM Gm 500) yn ymestyn ar draws llwybrau cefnffyrdd hynafol, sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol eu hunain, sy'n croesi ffin Cantref Penychan a Chwmwd (ac Arglwyddiaeth yn ddiweddarach) Glynrhondda a Chantref Gwrinydd i'r gorllewin gerllaw (gweler hefyd HLCA 030). Mae'r ardal yn cynnwys nifer o nodweddion diwydiannol, sy'n gysylltiedig yn bennaf â Phwll Glo'r Park, gan gynnwys Siafft Ffordd Aer y Park. Sefydlwyd Pwll Glo'r Parc ym 1870 gan David Davies a'i Gwmni, ac fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan yr Ocean Coal Company Ltd. Gosodwyd y baddondai pen pwll cyntaf yn y Rhondda ym Mhwll Glo'r Parc ym 1929. Chwe blynedd yn ddiweddarach daeth y pwll glo yn rhan o'r cwmni mawr Powell Dyffryn Associated Collieries Ltd ac ar ôl cael ei wladoli ym 1947 fe'i hunwyd â Phwll Glo Dare gerllaw. Caeodd y pwll glo yn y diwedd ym 1966 a thirluniwyd safle'r pwll glo ar ôl hynny. Mae nodweddion eraill yn cynnwys lefelau glo a thir lle y ceir tomenni wedi'u rhannol adfer. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|