Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 005 Trealaw Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Trealaw yn ymddangos gyntaf ar argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1875. Roedd wedi'i lleoli ar lethrau i'r de o Bwll Glo Brith-weunydd gyda Gwesty'r Miskin ar ben deheuol yr anheddiad. Er i rywfaint o ymgais gael ei wneud i sicrhau patrwm rheolaidd i'r strydoedd, mae'r bythynnod a'r gerddi mawr yn ymddangos yn debyg i'r rheini a oedd yn nodweddiadol o ddatblygiadau strimynnog cynnar nas cynlluniwyd. Yn ystod y cyfnod daeth Trealaw i sylw'r Awdurdod Lleol oherwydd cyflwr hylendid gwael y tai, yn enwedig Miskin Road gyda'i dwyster uchel o anheddau 'seler'. Adeiladwyd y pwll glo a'r anheddiad ar ffermydd Ynis y Graig (a enwir yn Ynys Crug hefyd) a Berth-weunydd Uchaf. Mae map Degwm Ystradyfodwg 1844 yn nodi bod yr eiddo wedi'i ddal gan ysgutoriaid Anne Saunderson ac wedi'i brydlesu i Walter Coffin, yr entrepreneur glofaol cynnar. Dechreuwyd a datblygwyd y gwaith o gloddio am lo yn yr ardal gan Walter Coffin o Lefel Brith-weunydd (1839-1879) a Phwll glo Gellifaelog (1845-1868) ar ystad gyfagos Dunraven a Phwll Glo Dinas Ganol (1832). Erbyn 1898 roedd Trealaw wedi ehangu ar batrwm llinellol i gyfeiriad y gogledd ar hyd Ynys Cynon Road ac i'r de ddwyrain ar hyd Brith-weunydd Road tuag at fynwent drawiadol Llethrddu. Ar wahân i'r fynwent a'r capel angladdol, roedd gan Drealaw eglwys, yr Holl Seintiau, capeli, ysgolion, Neuadd Genhadol a Gwesty'r Bute erbyn y dyddiad hwn (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, diwygiwyd 1898). Gwelwyd datblygiadau pellach yn y cyfnod hyd at 1915, yn bennaf ymestyn Trealaw Road ac adeiladu tai uwchlaw ac islaw Brith-weunydd Road i'r gorllewin union i Fynwent Llethrddu ac i'r dwyrain o Nant Brith-weunydd. Roedd y datblygiad olaf yn cynnwys patrwm strydoedd wedi'u cynllunio fel grid gydag ysgol babanod (argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1921, a fapiwyd ym 1914-15). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|