Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 011 Treorci Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Treorci yn cynnwys anheddiad cyfagos Ty-n-y-bedw i'r de ddwyrain. Yn yr ardal hon roedd ardal helaethaf y tir demên yn Arglwyddiaeth ganoloesol Glynrhondda a gynhwysai ddaliadau Ystrad Fechan a Thir Cadogan (Tir Gibbon Dio a Phentwyn yn ddiweddarach). Yn ystod hanner olaf y 16eg ganrif roedd y tir hwn yn rhan o eiddo rhydd-ddaliad y teulu Cadwgan a oedd, yn ôl traddodiad cerddi Dafydd Benwyn, bardd o'r un cyfnod, yn deulu o fri yn yr ardal. Sefydlwyd anheddiad modern Treorci ei hun yn gyfan gwbl ar dir ystad Bute o'r 1850au ymlaen (gan gynnwys ffermydd Tyr Gibbon, Ystrad Fechan, Tyr y Felin, Glyn Coli, Tile Du ac Abergorchwy). Roedd patrwm y strydoedd llydan yn adlewyrchu rheolaeth yr ystad ar y gwaith cynllunio (yn dilyn Deddf Iechyd Cyhoeddus 1848). Daw enw ardal Ty'n-y-bedw a ddatblygwyd ar dir Crawshay Bailey gerllaw Pentre o'r fferm sy'n dwyn yr un enw. Prif achos twf Treorci oedd Pwll Glo Abergorki a leolwyd yng Nghwm Orci i'r gogledd. Fe'i hagorwyd fel lefel ym 1859 gan Haughty Huxman, cyn reolwr ym Mhwll Glo'r Bute Merthyr ac fe'i gwerthwyd i JH Insole o'r Cymer ym 1862, gan gau ym 1938. Ymhlith y pyllau glo a oedd yn gysylltiedig â datblygiad trefol yr ardal oedd pyllau glo'r Parc & Dare (y tu allan i'r HLCA ei hun) a agorwyd ym 1865 a 1870 gan David Davies and Company ac a gaewyd ym 1966 o dan y Bwrdd Glo Cenedlaethol; Pwll Glo Tyle-coch a agorwyd ym 1854 gan gwmni o Newcastle, Messrs. John Carr, Morrison and Company ac a gaewyd ym 1895, ysgol uwchradd fodern a godwyd ar y safle ym 1965; a Phwll Glo Ty'n-y-bedw a agorwyd ym 1876 gan Edmund Thomas a George Griffiths ac a gaewyd ym 1933. Ymddengys mai datblygiad strimynnog fu'r datblygiad cychwynnol ar hyd y brif ffordd gan greu Bute Street a High Street. Fel y crybwyllwyd eisoes roedd y strydoedd yn llydan eu cynllun ac erbyn yr arolwg o argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO ym 1875, gwelir patrwm grid llinellol cnewyllol yn ymddangos i'r de orllewin a'r gogledd ddwyrain o'r brif ffordd gan gynnwys Cardiff Street, Chapel Street, Clark Street, Dumfries Street, Herbert Street, Luton Street (gydag ystafell Band y Parc a'r Dâr, cartref y band glofa enwog), River Row, School Street, Senghenydd Street a Windsor Street. Codwyd y terasau hir o fythynnod deulawr o bobtu'r High Street i raddau helaeth, erbyn y cyfnod hwn. Fodd bynnag nid oedd Ty'n-y-bedw wedi datblygu eto y tu hwnt i'r strimyn cychwynnol hwn. Erbyn y cyfnod hwn roedd gan y dref eglwys, St Mathew, gan George E Robinson ym 1871 gyda'i hysgol eglwys gysylltiedig. Hefyd gwelir o leiaf bedwar capel anghydffurfiol wedi'u lleoli'n bennaf ar y brif stryd: Capel Bethlehem (Methodistiaid Calfinaidd, a ailfodelwyd yn ddiweddarach ym 1881); Capel Noddfa (Bedyddwyr Cymraeg); Capel Horeb; a Chapel y Tabernacl (Annibynwyr Cymraeg). Hefyd erbyn y cyfnod hwn roedd mynwent helaeth a nodweddiadol y dref wedi'i hadeiladu gyda dau gapel angladdol, un i Eglwys Loegr a'r llall yn gapel Anghydffurfiol. Yr unig westy a enwir yw'r Red Lion Inn ym mhen Ty'n-y-bedw y dref. Yr unig ddatblygiad i'r de orllewin o afon Rhondda yn y cyfnod hwn yw Tyle-coch Place, i'r gogledd orllewin o Bwll Glo Tyle-coch a Taff Terrace i'r de orllewin union o Reilffordd y Taff Vale a Gorsaf Treorci ei hun. Dynodir hefyd waith brics y dref, chwarel Ty'n-y-bedw, pyllau glo Tyle-coch ac Abergorki a'u tramffyrdd, anheddiad pen pwll gwasgaredig pwll glo Abergorki o resi unigol Upper Row a Lower Row (bellach wedi'u dymchwel) a'r siafftau glo ger Myrtlehill, sef Pwll Glo Ty'n-y-bedw (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig1884, a fapiwyd ym 1875). Erbyn 1897-98 roedd patrwm grid llinellol Treorci wedi'i sefydlu, roedd Dumfries Street wedi'i hymestyn ac roedd y patrwm strydoedd i'r de orllewin o Bute Street tuag at Afon Rhondda Fawr wedi'i gwblhau. Roedd y patrwm grid llinellol yn Nhy'n-y-bedw wedi'i sefydlu o bobtu'r High Street, gan gynnwys Regent Street, Ty'n-y-bedw Street a Prospect Place. Erbyn y cyfnod hwn roedd gan Dreorci Swyddfa Bost, capeli ychwanegol ac ysgol babanod. I'r de orllewin o'r afon roedd Capel Methodistaidd a Sefydliad y Gweithwyr (Neuadd Gweithwyr y Parc a'r Dâr a godwyd gan Jacob Rees, 1895 a ffasâd clasurol ysblennydd 1913) wedi'u hadeiladu (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1900, a ddiwygiwyd ym 1897-98). Parhaodd datblygiadau trefol hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn bennaf ar ffurf datblygiad fertigol i fyny llethrau'r cwm, gan gynnwys Stuart Street a Treasure Street, Troed-y-rhiw Terrace a Ty'n-y-bedw Terrace ac i'r de orllewin o'r afon adeiladwyd Dyfodwg Street ac Illtyd Street. Mae Gorsaf yr Heddlu, y Pafiliwn a'r Capel Cynulleidfaol i'r de orllewin o'r afon yn dyddio o'r cyfnod hwn (argraffiad map 6 modfedd yr AO 1921 a ddiwygiwyd ym 1914). Mae'r Crown Hotel, High Street a adeiladwyd tua 1910 yn yr arddull Celfyddyd a Chrefft Baroc yn perthyn i'r cyfnod hwn. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|