Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 003 Pen-y-graig Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-graig yn cynnwys anheddiad diwydiannol a ddechreuodd fel grwp bychan o fythynnod, siop a chapel a mynwent ger Ty Ffrwd Amws. Roedd yr anheddiad cnewyllol hwn wedi'i leoli'n rhannol ar dir Ystad Dunraven ac yn rhannol ar dir o eiddo Lewis Edwards a George Gething ym mhlwyf Ystradyfodwg ger y ffin â phlwyf Llantrisant (map Degwm Ystradyfodwg 1844). Y tai teras diwydiannol cynharaf ym Mhenygraig oedd Whiterock Row a Tai Row (a ddymchwelwyd erbyn 1915) yn yr ardal i'r gogledd orllewin o'r maes chwarae. Roedd y tai hyn, a ddisgrifir fel 20 o Dai a Gerddi'r Gweithwyr ar fap Degwm Llantrisant (1842) wedi'u lleoli ar ran o ddaliadaeth Fferm Dinas Uchaf ym mhlwyf cyfagos Llantrisant ac roeddent yn eiddo i Walter Coffin, yr entrepreneur glofaol; datblygwyd y ddaliadaeth hon yn helaeth ar ôl 1875 i ffurfio cymunedau Penygraig a Threwiliam (HLCA 004). Cysylltir yr ardal â gweithgareddau Moses Rowlands o Ben-y-graig, peiriannydd mwyngloddio lleol; ym 1857/8 mewn partneriaeth â Richard Jenkins, daearegydd, agorodd Lefel Pen-y-graig. Ym 1864 agorwyd Pwll Glo Pen-y-graig gan y Penygraig Coal Company (Moses Rowlands a'i Bartneriaid); chwe blynedd yn ddiweddarach roedd gan y pwll glo allbwn blynyddol o ryw 100,000 o dunelli ac fe gaewyd y pwll ym 1919. Agorwyd pyllau'r Pandy neu Bwll Glo'r Adare gan y Naval Colliery Company a sefydlwyd gan Moses Rowlands a William Morgan ym 1875, gan gyrraedd y prif wythiennau glo ym 1879. Cafwyd dau ffrwydrad yn y pwll glo hwn. Bu farw 101 o lowyr yn y ffrwydrad cyntaf ym 1880 a bu farw 14 o lowyr a swyddogion yn yr ail ffrwydrad ym 1884. Ym 1887 gwerthwyd y cwmni a'i ailenwi o dan y teitl New Naval Collieries Company ac agorwyd tri phwll glo newydd yn yr ardal: yr Ely (1892), Nantgwyn (1892) a'r Anthony (1910). Yn sgîl y cwymp yn y galw am lo, caewyd pob un o'r pyllau ym 1958. Mae argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1875 yn dynodi anheddiad newydd Pen-y-graig a'r ffactorau ysgogol i'w ddatblygiad sef Pwll Glo Pen-y-graig a'i ffyrnau golosg cysylltiedig i'r de o'r anheddiad a Phwll Glo newydd yr Adare a ailenwyd yn ddiweddarach yn Byllau Glo'r Pandy (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO ), i'r gogledd. Pen-y-graig hefyd oedd gorsaf derfynol Rheilffordd y Great Western ym mlaen Cwm Elái ac erbyn y dyddiad hwn roedd ganddo o leiaf tair Tafarn, Gwesty, dau gapel ac ysgol y lofa. Patrwm llinellol strimynnog neu ar ymyl y ffordd sydd i'r datblygiad yn bennaf gan ymestyn ar hyd Penygraig Road, o bobtu'r cnewyllyn gwreiddiol. Unwaith eto roedd yr anheddiad yn y cyfnod hwn yn gyfyngedig ymron yn llwyr i dir Ystad Dunraven, yn arbennig ffermdir Hendre Cefn-isaf (Hendre Cafan issaf) a Phentre Cegl (Pentre Cegil) a thir o eiddo Lewis Edwards a George Gething, Fferm Ffrwd Amws ym mhlwyf Ystradyfodwg. Yn ogystal â hynny, erbyn 1875 roedd o leiaf tri grwp o dai teras, Balaclava Row, Mountain Cottages, Cross Row a Thy'n-y-cae ac ysgol wedi'u hadeiladu ar ran o ddaliadaeth Fferm Dinas Uchaf ym mhlwyf cyfagos Llantrisant. Roedd proses gyflym o fewnlenwi yn mynd rhagddi'n gyflym erbyn 1898 gyda strydoedd rheolaidd o dai teras, gan gynnwys Hughes Street a Station Terrace yn cael eu gwthio yn ôl o Penygraig Road (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, diwygiwyd 1898). Mae rheoleidd-dra a natur drefnus y datblygiad yn amlwg iawn ym mhatrwm Tyle Celyn a Hughes Street y tu hwnt i derfynau anheddiad 1875; yma fe welir patrwm grid i'r strydoedd yn bennaf. Mae cynllun AO 1921 (diwygiwyd 1914/15) yn dangos y broses wedi'i chwblhau gyda'r anheddiad yn ymdebygu i'r hyn ydyw heddiw fwy neu lai. Y tai cyngor cyntaf i'w hadeiladu yn y Rhondda oedd yn Bransby Street, Millbourne Street ac Aubry Road rhwng 1920 a 1921; ac roedd y cynllun yn cynnwys 44 o anheddau, sef nifer yn llai na'r ffigur o 160 a ragwelwyd yn wreiddiol, a J Thomas, W Pugh a FG Rideout (Fisk 1995) oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu. Ceir gwrthgyferbyniad nodweddiadol o ran lleoliad ac arddull yr eglwysi sefydledig a'r capeli anghydffurfiol a welir mewn mannau eraill yn y Rhondda. Mae eglwys St Barnabas (1914-15) wedi'i gosod ar dir uwch gan ddilyn yr arddull Seisnig Gynnar, tra bod, er enghraifft, Capel y Bedyddwyr, Soar (1902) wedi'i leoli yng nghanol y pentref. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|