Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


027 Brith-weunydd a Throed-y-rhiw


HLCA 027 Brith-weunydd a Throed-y-rhiw
Tirwedd amaethyddol greiriol a addaswyd i raddau gan ddatblygiadau diwydiannol; ffiniau amlwg a chynnar o bosibl; rhan o gyn faenor Sistersaidd ganoloesol; anheddu ucheldirol ôl-ganoloesol (tai hirion); coridor cysylltiadau cynnar; ôl coetir hynafol ac enwau caeau Coedcae; tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig ag echdynnu mwynau, glo yn bennaf.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA027)

Troed-y-rhiw: lloc ôl-ganoloesol a thomenni uwchlaw Ynys-hir.

Cefndir Hanesyddol

Roedd ardal tirwedd hanesyddol Brith-weunydd a Throed-y-rhiw yn rhan o Faenor Sistersaidd helaeth Penrhys yn ystod y cyfnod canoloesol, a rannwyd yn ddaliadau llai o faint ac a brydleswyd o ddechrau'r 14eg ganrif. O dan y Sistersiaid, a'u tenantiaid diweddarach, defnyddid yr ardal yn bennaf at ddibenion pori defaid; parhaodd y defnydd hwn ar ôl diddymu'r mynachlogydd yn yr 16eg ganrif. Mae'r ffermydd ôl-ganoloesol, sef Brith-weunydd (1633) , Llethr-ddu, Penrhiw a Throed-y-rhiw, y ffermid yr ardal ohonynt yn ddiweddarach, yn dyddio o'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ac fe'u lleolir ar y llethrau isaf i'r de. Lleolir y ffermydd hyn bellach o fewn yr ardal a'r ardal cymeriad tirwedd hanesyddol drefol gyfagos, sef HCLA 005 Trealaw. Yr enghraifft fwyaf diddorol yw fferm Troed-y-rhiw; ty hir yn dyddio o tua 1700, a ailadeiladwyd yn ddiweddarach, sydd â lleoedd tân yn y canol ac yn y talcen, mynedfa o'r naill ochr i'r simnai ganolog, er nad oes ganddo'r fynedfa uniongyrchol arferol rhwng y beudy a'r ystafelloedd byw. Dosberthir yr adeilad fel ty mynedfa-cyntedd tair uned, dau hanner llawr (y grwp o dai mynedfa-cyntedd: tai â simnai fewnol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Ystyrir bellach bod yr adeilad allan adfeiliedig gerllaw ym Mhenrhiw o bosibl yn dy hir. Dengys Map degwm 1844 ac argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884 y ffermydd hyn cyn y newidiadau a wnaed ar ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed ganrif, wedi'u gosod o fewn tirwedd yn cynnwys cymysgedd o gaeau mawr, canolig a bach.

O ddiwedd y 19eg ganrif manteisiwyd yn llawn ar fwynau'r ardal a chloddiwyd y tywodfaen pennant lleol i adeiladu tai lleol; y nodweddion diwydiannol cynharaf a ddangosir ar argraffiad 1af map 6" yr AO dyddiedig 1884 yw chwarel ac inclein uwchlaw Pwll Glo Brith-weunydd, Trealaw a lefelau o fewn Coed Ynys-hir. Gadawodd mân nodweddion diwydiannol niferus eu hôl ar gymeriad yr ardal, gan gynnwys chwareli, tramffyrdd/incleins a thomenni rwbel, a ddangosir ar 2il argraffiad map yr AO ac argraffiad 1921.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk