Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


006 Tonypandy


HLCA 006 Tonypandy
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol (gan gynnwys caffis Eidalaidd a siopau trin gwallt); anheddiad cyfansawdd, gydag anheddiad rhagflaenol ôl-ganoloesol a ganolwyd ar Bandy neu felin bannu gydag anheddiad strimynnog cam cyntaf, gydag ychwanegiadau patrwm grid helaeth, yn bennaf yn ystod yr ail gam; ailddatblygu'r ardal cam 1af cychwynnol yn ddiweddarach fel canolfan fasnachol yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, siopau, capeli ac adeiladau cyhoeddus y cyfnod; tai hapfasnachol yn bennaf yn ystod cyfnodau mwy diweddar.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA006)

Tonypandy, canol gyda Threalaw ym mlaen y llun.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tonypandy yn deillio o anheddiad cnewyllol o amgylch y Pandy, neu'r felin bannu (gwelir ei olion hyd heddiw) a Phont y Pandy yn Nhonypandy a ddynodir ar fap Degwm 1844, i'r gogledd o Nant Clydach ar dir Penpant Clydach a Thyr y pandy (Tir-y-pandy) a oedd yn rhan o ystad Can De Winton. Ar yr adeg hon roedd yr ardal hon yn cynnwys adfeilion y felin a'r ardd, hen felin dycio, ty a gardd a leolwyd ar ddaliadaeth Tyr y Pandy a Llys a gardd ar Fferm Penpant Clydach. Mae'r ardal i'r de o Nant Clydach, lle datblygodd anheddiad diwydiannol yn ddiweddarach, yn rhan o Ystad Dunraven, sef tir Fferm Gelli Fallwg yn bennaf. Roedd yr anheddiad yn y fan hon yn cynnwys ty ffatri a gardd gerllaw Nant Clydach a Bythynnod Ton Pandy a leolwyd wrth ymyl pen deheuol yr anheddiad diweddarach. Erbyn 1875 roedd Tonypandy wedi datblygu ar batrwm strimynnog nodweddiadol fel anheddiad llinellol ar ymyl y ffordd ar hyd strydoedd De Winton a Dunraven gan ymestyn mor bell â'r dramffordd a Nantgwyn. Roedd yr anheddiad yn cynnwys bythynnod unigol, pâr a rhesi terasog o fythynnod, yn aml â gardd neu gwrt ar oleddf i ffwrdd o'r annedd; roedd tair tafarn yno hefyd, Gwesty'r De Winton ac o leiaf chwe chapel o eiddo enwadau gwahanol. Roedd Llinell Pwllyrhebog Rheilffordd y Taff Vale yn rhedeg drwy ran ogleddol yr anheddiad i fyny at Gwm Clydach (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1885, a fapiwyd ym 1875). Y pyllau agosaf at Donypandy yn y cyfnod hwn oedd Pwll Glo Adare a agorwyd ym 1879 (sef pwll glo'r Pandy yn ddiweddarach), Pyllau Anthony (1910) a Phwll Glo Nantgwyn (1892).

Yn ystod diwedd y 19eg ganrif ehangwyd Tonypandy yn ôl patrwm grid trefnus i'r de orllewin o Dunraven Street ac i'r gogledd o Reilffordd y Taff Vale, gan gynnwys Primrose Street, Kenry Street a strydoedd Court, Thomas a Charles. Ar yr un pryd, roedd Llinell Cwm Elái'r GWR yn dynodi ffin orllewinol?? Tonypandy, cyn iddi droi i gyfeiriad y gorllewin i fyny Cwm Clydach. Roedd clybiau adeiladu yn weithredol yn yr ardal yn ystod y cyfnod; er enghraifft, cododd clwb adeiladu Dunraven ddeg annedd ar Primrose Hill ym 1890 (Fisk 1995). Dylid nodi hefyd i'r gwaith datblygu tai ail gam hwn gael ei gynnal yn bennaf ar ran buddsoddwyr eiddo a/neu fel mentrau hapfasnachu (Jones 1969). Roedd agweddau newydd ar y dref a oedd yn cadarnhau statws Tonypandy ymhlith cymunedau eraill yn y cymoedd yn ystod y cyfnod yn cynnwys Neuadd y Dref, Eglwys St Andrews (1876-7) ac ysgolion. Dangosir pwll glo ychwanegol, sef Pwll Glo Nantgwyn ar ail argraffiad y map AO 6 modfedd a gyfrannodd, heb os, at ehangu'r dref (ail argraffiad cynllun 6 modfedd yr AO 1901, a ddiwygiwyd ym 1898). Erbyn 1914/15 roedd Tonypandy wedi ehangu i'r gogledd ac i'r gorllewin i'w ffiniau cyfredol i gynnwys Danycoed Terrace ac Ely Street. Ymhlith y datblygiadau newydd roedd y Gwaith Nwy ar lan Afon Rhondda a chae pêl-droed gerllaw Llinell Elái'r GWR.

Prif elfennau canol dref Tonypandy yw'r siopau y capeli a'r adeiladau cyhoeddus cyffredin sy'n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed ganrif (ymhlith yr ychwanegiadau mwy diweddar mae'r llyfrgell gyhoeddus leol); sy'n adlewyrchu pwysigrwydd diwydiannau gwasanaethu'r dref i ardal y Rhondda Fawr yn ystod y cyfnod. Yn Dunraven Street, prif stryd Tonypandy, gwelir amrywiaeth o adeiladau nodweddiadol, gan gynnwys Capel Methodistiaid Calfinaidd y Drindod (1886) a godwyd yn yr arddull gothig a'i Neuadd (1893), Capel yr Annibynwyr, Ebeneser (Lled-glasurol 1867-8), Capel Moriah (Arddull Unionsyth, 1905), Capel Bethel y Bedyddwyr, Neuadd y Dref (1892) sydd bellach wedi'u haddasu at ddibenion masnachol, Swyddfa Bost Art Deco (1938). Gwelir hefyd derasau o siopau sy'n dyddio o 1915 (manylion teracota Baroc) a 1905, a thai teras sy'n dwyn i gof darddiad y dref yng nghanol y 19eg ganrif, yn enwedig rhifau 137-145 Dunraven Street a grwp ar Gilfach Road.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk