Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


002 Hafod


HLCA 002 Hafod
Dau anheddiad glofaol 'pen pwll' llinellol cam cyntaf, a oedd yn wreiddiol yn rhesi unigol o dai teras a bythynnod, datblygiad strimynnog a phatrwm grid o ddiwedd y 19eg ganrif; tai teras nodweddiadol yn parhau, eiddo masnachol a chapeli; dim llawer o ddatblygiadau masnachol; henebion diwydiannol wedi goroesi, Parc Treftadaeth y Rhondda.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA002)

Parc Treftadaeth y Rhondda yn y blaen gyda rhan o Drehafod a Mynydd-y-Glyn yn y cefndir.

Cefndir Hanesyddol

Datblygwyd ardal tirwedd hanesyddol Hafod a enwir ar ôl y fferm gyfagos, Hafod Fawr yn wreiddiol fel dwy ardal anheddu fechan ar wahân: Trehafod, sef datblygiad llinellol ar ymyl y ffordd ac Eirw, anheddiad pen pwll llinellol. Trefnir yr aneddiadau hyn, sy'n strimynnog eu natur yn bennaf, ar hyd Hafod Road (argraffiad 1af AO, a fapiwyd ym 1875). Cysylltir yr ardal yn bennaf â dau bwll glo, Pwll Glo Coedcae a'r ffyrnau golosg a Phwll Glo Hafod gerllaw.

Y sbardun ar gyfer sefydlu anheddiad Eirw oedd datblygiad y diwydiant glo a chodi Rheilffordd y Taff Vale (Llinellau Eirw a Rhondda). Sefydlwyd yr anheddiad ar lan orllewinol Afon Rhondda ar dir pori o eiddo Fferm Eirw Isaf rywbryd cyn arolwg Degwm 1842 pan oedd yr anheddiad llinellol o fythynnod a thai gyda gerddi a thy tafarn (y Vaughan Arms ar argraffiad cyntaf AO 1875) yn ffurfio rhan o ystad Nash Edwards Vaughan. Erbyn arolwg argraffiad cyntaf y map AO 6 modfedd ym 1875 roedd yr anheddiad wedi'i ganoli ar Bwll Glo Coedcae a agorwyd ym 1850 gan Edward Mills ac a ddaeth, yn ddiweddarach, yn rhan o'r Lewis Merthyr Consolidated Collieries (tua 1900). Erbyn 1898 roedd yr anheddiad craidd cynnar wedi rhannol ddiflannu yn sgîl ehangu Pwll Glo'r Lewis Merthyr Consolidated Collieries er iddo gael ei ymestyn i'r de gyda bloc cydlynol ond ar wahân, o derasau wedi'u cynllunio a gynhwysai Bryn Eirw Street, Woodfield Terrace a Rheolau Terrace. Prin yw'r datblygiadau ffisegol a welir yn y cyfnod dilynol a arweiniai at y Rhyfel Byd Cyntaf (cynllun 6 modfedd yr AO 1921, diwygiwyd 1914).

Nid yw anheddiad Trehafod yn ymddangos fel anheddiad penodol hyd hanner olaf y 19eg ganrif. Mae map Degwm 1841 yn dangos mai tir isel ar lan yr afon cymharol wael oedd yr ardal, sef rhan o fferm Hafod Fawr o dan berchenogaeth Catharine Morgan ar y pryd (Tenant Lewis Morgan Ysw). Mae'r un cynllun yn dangos tri bwthyn ar geg Cwm Hafod a gartrefai gweithwyr amaethyddol yn ôl pob tebyg; ymddengys i'r rhain gael eu chwalu yn ddiweddarach yn sgîl adeiladu Rheilffordd y Taff Vale. Yr anheddiad diwydiannol cyntaf a ddynodir ar argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1875 yw anheddiad llinellol ar wasgar ar hyd y brif ffordd (Trehafod Road), gan gynnwys capeli Bethel a Gyfeillion ac ar hyd lôn yn arwain at Bwll yr Hafod a agorwyd gan y brodyr David a John Thomas ym 1850 a brynwyd, ynghyd â Phwll Glo Coedcae yng nghanol y 1870au gan William Thomas Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach). Erbyn y dyddiad hwn roedd anheddiad craidd Trehafod wedi tyfu i lenwi'r ddolen gyfan yn Afon Rhondda i'r de orllewin o hen Reilffordd y Taff Vale (sef prif ffordd yr A4058 bellach). Roedd y datblygiad hwn yn cynnwys terasau i'r gogledd ac i'r de o Hafod/Trehafod Road gan gynnwys Fountain Street, Morgan Street, Wayne Street, Lewis Street ymhlith eraill (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO a gyhoeddwyd ym 1901, diwygiwyd 1898). Unwaith eto, prin yw'r newid a nodir yn ystod y cyfnod sy'n arwain at 1914 (cynllun 6 modfedd yr AO 1921, diwygiwyd 1914).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk