Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


030 Ucheldiroedd y Rhondda


HLCA 030 Ucheldiroedd y Rhondda
Ffridd ucheldirol, yn rhannol goediog; tirwedd aml-gyfnod ac aml-swyddogaeth; tirwedd anheddu cynhanesyddol ac angladdol; coridor cysylltiadau cynnar; adeiladweithiau milwrol Rhufeinig a chanoloesol; ffiniau gweinyddol canoloesol cynnar; anheddiad ucheldirol canoloesol; tirwedd ddiwydiannol ôl-ganolesol; tirwedd amaethyddol ucheldirol greiriol; tystiolaeth ddogfennol ac enwau llefydd.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA030)

Golygfa o'r awyr o Gronfa Ddwr Lluest-wen a rhannau uchaf y Rhondda Fach.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ucheldiroedd y Rhondda yn dirwedd dra phwysig, ac mae'n cynnwys amrywiaeth o nodweddion archeolegol tra hynafol sydd wedi goroesi. Nodweddir y dirwedd gan ffriddoedd heb eu gwella yn ymestyn dros dir comin mynyddig, a orchuddir â gwair bras a llystyfiant hesgen yn bennaf. Mae coed wedi'u plannu dros ran sylweddol o'r ardal; ceir planhigfeydd mawr o befrwydd a phinwydd ac ambell i glwstwr o larwydd. Nodweddir y dirwedd gan gopaon moel sy'n graddol ddisgyn, a chlogwyni creigiog a llethrau coediog serth ar y cyrion. Ar wahân i amaethyddiaeth, buwyd yn cloddio yn yr ardal hefyd am gerrig adeiladu, yn arbennig o Chwarel Ynys-feio sydd bellach yn segur ac yn cynnal archwiliadau prawf am fwynau a lefelau glo.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o olion archeolegol pwysig yn dyddio o wahanol gyfnodau. Darganfuwyd llawer o ddeunydd yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC) ledled yr ardal sy'n arwydd o anheddu ar raddfa fawr ar y tir uwch yn ystod y cyfnod hwnnw; mae'r deunydd yn cynnwys casgliadau a darganfyddiadau unigol ar ffurf fflintiau, gan gynnwys creiddiau, llafnau, naddion, ysgrafelli a microlithau a gysylltir yn aml â golosg o Gwm Saerbren, Mynydd Beili-glas, Mynydd Blaenrhondda, Nant Lluest, Mynydd Tyle-coch, Mynydd Ystradffernol, ac ardal Cronfa Ddŵr y Maerdy. Gwyddom fod aneddiadau Mesolithig yng Nghraigyllyn (a rannol gloddiwyd gan Lacaille ym 1962) ac ar Fynydd Beili-glas. Mae cryn nifer o olion archeolegol yn dyddio o'r Oes Neolithig (4400-2300CC), a'r Oes Efydd (2300-800CC) hefyd a darganfuwyd offer fflint, gan gynnwys blaenau saethau petit tranchet a blaenau saethau siâp deilen o'r Oes Neolithig a blaenau saethau hirseidiog, a seidiog a bachog o'r Oes Efydd ac mae llawr cwt yn dyddio o ddiwedd yr Oes Neolithig a leolir yng Nghefn-glas yn arbennig o ddiddorol.

Y safleoedd cynhanesyddol amlycaf a mwyaf cyffredin yn yr ardal yw'r carneddau claddu yn dyddio o'r Oes Efydd. Mae'r nodweddion hyn yn niferus ac maent yn cynnwys Bachgen Carreg (SAM Gm 234), Carn Fach, Carn-y-Pigwn (SAM Gm 372), Carn-y-wiwer (SAM Gm 323), Carn-y-Bica, Bedd Eiddil, Garnwen, a Phebyll ymhlith eraill. Ymddengys i'r anheddu barhau'n ddi-dor a bu pobl yn byw yn yr ardal yn ystod yr Oes Haearn ac i mewn i'r cyfnod Rhufeinig. Enghraifft dda yw safle'r anheddiad Hen Dre'r Mynydd sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol/y cyfnod Rhufeinig (800CC-OC410) (SAM Gm 101), sef yr anheddiad diamddiffyn mwyaf yn ne-ddwyrain Cymru yn dyddio o'r Oes Haearn, safle o bwys cenedlaethol, a leolir yn SN 923 018 i'r gogledd o'r ardal ar lethrau uchaf Mynydd Beili-glas. Dangosodd gwaith cloddio a wnaed ym 1921 pa mor dlawd oedd y deiliaid o ran deunyddiau; ni ddarganfuwyd fawr ddim ar wahân i ychydig o haearn a thystiolaeth o ledr. Mae'r gwersyll cyrch Rhufeinig yn dyddio o'r ganrif 1af yn Nhwyn-y-Briddallt (SAM Gm 259), a leolir uwchlaw Blaenllechau a Chraig y Gilwern, mewn cyflwr da. Credir bod y ffordd Rufeinig sy'n cysylltu'r ceyrydd yng Nghastell-nedd a Phenydarren, yn croesi rhan ogleddol yr ardal, ar linell llwybr traddodiadol Cefn-ffordd (gweler isod).

Mae nodweddion yn dyddio o'r cyfnod canoloesol yn cynnwys system helaeth o groesgloddiau yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol (8fed-9fed ganrif), sydd mewn cyflwr da, ac sy'n gwarchod y cefnffyrdd ucheldirol i mewn i'r Rhondda. Hwyrach nad yw'n gyd-ddigwyddiad bod y croesgloddiau hyn yn gorwedd ar draws y cefnffyrdd hynafol (sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol eu hunain) ac maent hefyd yn nodi ffiniau gweinyddol o ddechrau'r cyfnod canoloesol rhwng cymydau a chantrefi; mae Ffos Toncenglau (SAM Gm 118) yn SN 916031 - 919020, yn nodi'r ffin ogleddol â Chantref Mawr, ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd hynafol, sef y Gefn-ffordd (Heol Adam) ac mae'r croesglawdd (SAM Gm 285) ger Bedd Eiddil ym Mryn-du, hefyd o boptu i'r Gefn-ffordd, yn Nhwyn Croesffordd, lle y mae ei llwybr yn croesi ffin ddwyreiniol Glynrhondda â chwmwd Meisgyn. Mae safle'r castell canoloesol Castell Nos (SAM Gm 408) i'r gogledd o'r Maerdy, a leolir ar frigiad creigiog yn edrych dros Gwm Rhondda-fach, hefyd yn haeddu sylw. Mae amddiffynfeydd y safleoedd yn cynnwys tarren a ffos o waith llaw dyn ar yr ochr ogleddol a'r ochr orllewinol. Mae'r Comisiwn Brenhinol yn awgrymu ei fod yn gadarnle i Maredudd ap Caradog ab Iestyn, llywodraethwr Cymreig Meisgyn ar ddiwedd y 12fed ganrif. Ceir enghraifft sydd mewn cyflwr da o anheddu ucheldirol yn ystod y cyfnod canoloesol yng Ngharn-y-wiwer, sy'n cynnwys dau grŵp o lwyfannau tai sydd mewn parau yn ôl yr arfer (SAM Gm 323). I'r gogledd ac i'r dwyrain o'r tai llwyfan ceir grwp o tua 19 o garneddau bach yn gysylltiedig â thystiolaeth o aredig; fodd bynnag ni ddangoswyd y berthynas rhwng gwahanol elfennau'r dirwedd eto; gall y carneddau fod yn garneddau claddu yn dyddio o'r Oes Efydd, gall y gwaith aredig fod yn ddiweddarach na'r tai llwyfan, neu gallent i gyd berthyn i'r un cyfnod, gyda'r carneddau yn cynnwys deunydd a gliriwyd o'r caeau cyfagos. Mae safleoedd aneddiadau canoloesol eraill yn yr ardal yn cynnwys grŵp o bedair llwyfan tþ ar Graig Tir Llaethdy, cwt hir a chwt llwyfan yng Nghwm Saerbren, tra lleolir tai llwyfan eraill yn Graig Rhondda-fach ac ar Fynydd Ty'n-tyle. Mae caeau neu ffaldau yn dyddio o'r un cyfnod i'w gweld o hyd yn Ffald Lluest a Tharren Saerbren.

Mae'r tai llwyfan, megis y rhai yng Ngharn-y-wiwer, yn edrych dros Gwm Rhondda Fach ac olion eraill safleoedd hafodau a lluestai trwy'r ardal yn galw i gof y defnydd a wneid o'r ucheldiroedd, yn aml yn dymhorol, ar gyfer ffermio gwartheg, ac yn ddiweddarach ddefaid, yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol; ategir hyn gan dystiolaeth enwau lleoedd a thystiolaeth gartograffig. Lleolir Pont Lluest-wen, pont un lôn sydd ag un bwa (a phen cylchrannol) dros Afon Rhondda Fach gerllaw ffin yr ardal.

Mae nodweddion diwydiannol yn cynnwys Chwarel Ynys-feio, Chwarel Abergorky a chwarel lechfeini ym Mryn-y-gelli-uchaf (papurau ystad Dunraven). Nodir gweithgarwch cloddio ar raddfa fach yn arbennig ar 2il argraffiad map yr AO a gyhoeddwyd ym 1900, yn ogystal â lefelau helaeth y National Colliery, Wattstown a'i dramffordd/inclein. Erbyn y 3ydd argraffiad roedd chwareli a thramffordd/inclein llinellol sylweddol arall yn eu lle uwchlaw Ynys-hir yn ymestyn i mewn i'r ardal. Crëwyd tomenni glo sylweddol ar yr esgair uwchlaw'r Maerdy.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk