Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


001 Y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda


HLCA 001 Y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda
Canolfan fasnachol a gwasanaethu sylweddol; anheddiad glofaol cyfansawdd; ardal anheddu diwydiannol gynnar gyda thai cyfoes a datblygiadau glofaol cynnar; nodweddion adeiledig, yn dyddio gan amlaf o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, gan gynnwys tai teras, capeli, eglwysi, adeiladau cyhoeddus, siopau a sefydliadau gweithwyr; mae'r anheddiad presennol yn gytrefiad cnewyllol a ganolir ar ardal fasnachol graidd ddiweddarach; canolbwynt cludiant/dosbarthu; canolfan gynnar i Gristnogaeth anghydffurfiol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA001)

Y Porth, golygfa i'r dwyrain o gyfeiriad Dinas gyda Mynydd-y-Glyn yn y cefndir.

Cefndir Hanesyddol

Nid yw tirwedd hanesyddol y Porth: Mynedfa i Gymoedd y Rhondda gyda'i aneddiadau dibynnol, Dinas, y Cymer, Trebanog, Tynewydd a Glynfach yn nodweddiadol o'r Rhondda. Yn ogystal â'i hynafiaeth yng nghyd-destun datblygiad diwydiannol yr ardal mae ei safle daearyddol ar gymer y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn ei gwneud yn unigryw ymhlith aneddiadau'r Rhondda. Mae'r Porth a'i aneddiadau cyfagos oll yn deillio o glwstwr cymharol dynn o byllau glo cynnar a'u dibyniaeth ar y pyllau hynny: Pwll Glo'r Cymer (1847-1940); Pyllau Glo Dinas Isaf (1812-1893) a Dinas Canol (1832-1893); Pwll Glo Glynfach; Pwll Glo New Cymer (1855-1940); Pwll Glo Upper Cymer (1851 - 1940) a Phwll Glo Tynewydd (1852-1901); gyda Phwll Glo Hafod (1850-1983); Pwll Glo Llwyncelyn (1851-1895) ychydig ymhellach i'r dwyrain. Roedd Cymer ac yn arbennig Dinas, yn cynrychioli cam cychwynnol yr anheddu glofaol yn y Rhondda ac yn wir cadwodd ei chymeriad preswyl yn bennaf yn dilyn hynny. Fodd bynnag, mae'r Porth sydd ychydig yn iau o ran oedran wedi'i thrawsnewid yn aruthrol fel canolfan fasnachol a dosbarthu ar ddechrau'r 20fed ganrif, ochr yn ochr â datblygiad diwydiannol y Rhondda Fach; mae ei safle unigryw yn caniatáu iddi wasanaethu'r Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach fel ei gilydd. Caiff hyn ei hwyluso gan ei lleoliad ar gyffordd canghennau Rheilffordd y Taff Vale a wasanaethodd y ddau gwm Rhondda. Tyfodd y clwstwr tynn o byllau glo a'u cymunedau yn y man lle y mae'r Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn cydgyfarfod yn gyflym i'w faint presennol gan gyfuno i ffurfio un datblygiad trefol ar lawr ac ochrau is y cwm, gyda chraidd masnachol y Porth yn ganolbwynt iddo.

Mae'r Porth ei hun yn ymddangos gyntaf ar argraffiad cyntaf cynllun 6 modfedd yr AO 1875 ac nid oes anheddiad trefol yn ymddangos ar fap Degwm 1841 sydd ond yn dynodi fferm ôl-ganoloesol o dan berchenogaeth Thomas Jones ac sy'n dwyn yr un enw â'r anheddiad. Roedd gorsaf gan Reilffordd y Taff Vale a adeiladwyd tua 1856 yn y Porth: roedd y rheilffordd ei hun yn rhannu'r fferm yng nghyfeiriad y gogledd-orllewin-de-ddwyrain. Mae argraffiad cyntaf cynllun 6 modfedd yr AO hefyd yn dangos bod yr anheddiad yn wreiddiol yn cynnwys tair prif ardal sef tai yn bennaf. Lleolir America-fach, ardal o dai teras a godwyd yn rhannol gan berchennog y pwll glo George Insole (Fisk 1996), gyda'i Gapel Wesle a'i ysgol i'r gogledd-ddwyrain o fferm y Porth, ochr yn ochr â choetir diffaith Graig-rhiw-gwynt ar hyd York Street. Dynodir Porth Terrace gyda Chapel Bethlehem (Methodistaidd Calfinaidd) ar hyd ymyl gorllewinol y fferm yn ffinio â Pontypridd Road ac Afon Rhondda ger pont y Cymer, ac yn olaf i'r de ceir grwp o dai teras ger Capel Salem (Bedyddwyr). Ar yr adeg hon roedd fferm y Porth yno o hyd, ond erbyn 1898 fodd bynnag, mae'r fferm gyfan i'r ddwy ochr o Reilffordd y Taff Vale wedi diflannu yn sgîl yr anheddu gyda therasau o dai yn codi i fyny'r llethrau. O'r adeg hon ymlaen ystyrir y Porth fel canolfan drefol o bwys gan newid o fod yn bentref i dref. Ymhlith y terasau ar lethrau'r mynydd sy'n dyddio o'r cyfnod hwn mae Birchgrove Street, Charles Street, The Parade a Primrose Terrace (ail argraffiad map 6 modfedd AO 1900/1901, diwygiedig 1892). Roedd canol neu graidd masnachol y Porth ger yr Orsaf Reilffordd hefyd yn datblygu yn y cyfnod hwn. Mae argraffiad 1921 map 6 modfedd AO, a ddiwygiwyd ym 1914-15 yn cofnodi datblygiadau trefol sylweddol pellach, fel Coronation Terrace, ychwanegiadau i Charles Street, adeiladu Terasau Lewis, Gethin a Nyth-bran islaw Fferm Nyth-bran, Llwyncelyn. Mae cryn dipyn o'r gwaith adeiladu hyn yn ddiddorol fel enghreifftiau diweddar o dai a godwyd gan y pyllau glo; adeiladodd Lewis Merthyr Consolidated Collieries Ltd 214 o dai o'r math hwn yn ardal Llwyncelyn rhwng 1890 a 1902 (Fisk 1996).

Codwyd Eglwys gyfagos St Luke ac ysgolion yn Llwyncelyn hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae anheddiad glofaol Dinas yn hyn na datblygiad diwydiannol y Rhondda ynghanol y 19eg ganrif a hwn yw'r anheddiad diwydiannol cynharaf yn y Rhondda. Mae map Degwm Llantrisant (1842) yn dynodi'r anheddiad fel bythynnod ar wasgar ar batrwm llinellol gyda chapel Ebeneser a godwyd ym 1830 sef y Capel Methodistaidd cyntaf yn y Rhondda (Lewis 1959) wedi'u trefnu ar lan ddeheuol y Rhondda Fawr o dan berchenogaeth Morgan David. Roedd o leiaf ddau o'r grwpiau hyn o fythynnod, yr oedd un ohonynt yn deras o chwe annedd, wedi'u prydlesu i Walter Coffin a oedd y cyntaf i fanteisio ar lo'r Rhondda ac a oedd yn fuan wedi hynny yn arwain y blaen ym maes cynhyrchu 'glo môr' ym Morgannwg (Carpenter 2000). Erbyn 1841 gwyddom fod gan Walter Coffin 41 o dai yn Ninas a'r cyffiniau (Fisk 1996). Mae dwy enghraifft o'r math o dai a godwyd ar y pryd yn goroesi yn Ninas sef Penygefnen a Ty Mellyn. Mae argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig1875 yn dangos anheddiad strimynnog llinellol ychydig yn fwy gyda phont yn croesi i Orsaf y Pandy (Rheilffordd y Taff Vale) ar lan ogleddol y Rhondda Fawr. Roedd gan yr anheddiad yn y cyfnod hwnnw swyddfa bost ac o leiaf dair Tafarn a dau gapel sef Capel y Methodistiaid a Chapel Bethania (Annibynwyr). Yn ogystal â phyllau Dinas isaf a grybwyllir uchod, dynodir Pwll Glo Dinas Ganol gydag ardal helaeth o ffyrnau golosg wedi'u gwasanaethu gan reilffordd (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1875); roedd y pwll glo hwn a agorwyd ym 1832 yn enwog oherwydd dyma oedd safle'r ffrwydrad mawr cyntaf yn y Rhondda pan fu farw 12 o ddynion a bechgyn ar 1 Ionawr 1844. Er gwaethaf agor siafft newydd ym 1869 i wella'r amodau a chynyddu cynhyrchiant cafwyd trychineb arall ddeng mlynedd yn ddiweddarach pan fu farw chwe deg a thri. Dim ond mân ddatblygiadau anheddu a welir ar 2il argraffiad map 6 modfedd yr AO 1901 (diwygiwyd ym 1892), sef dau deras cyfochrog, y tai concrid o eiddo'r Dinas Steam Colliery Company, a enwyd ar argraffiad 1921 (sydd wedi'u dymchwel bellach) ac ysgol yng Ngraig?ddu i'r de o Ddinas. Caeodd y pyllau yn Ninas ym 1893 a'r prif bwll glo yn yr ardal wedyn oedd Pwll Glo'r Upper Cymer (gweler isod).

Dechreuodd anheddiad y Cymer ar gyffordd dwy ffordd, sef y ffordd o Bontypridd a redai i fyny Cwm Rhondda (Glynfach Road yn ddiweddarach) a'r ffordd o'r Porth i Lantrisant (High Street yn ddiweddarach). Dyma oedd troedle cynharaf Anghydffurfiaeth yn y Rhondda oherwydd ym 1743 agorwyd y capel neu'r ty cwrdd yn y Cymer. Erbyn 1834 roedd capel newydd wedi'i adeiladu gan Annibynwyr y Cymer yn ystod y diwygiad crefyddol cyntaf o blith nifer yn ystod y 19eg ganrif (Lewis 1959). Datblygodd yr anheddiad cynnar, sef clwstwr bychan organig heb ei gynllunio o fythynnod a thy tafarn a ddynodir ar gynllun Degwm 1842 Llantrisant, o amgylch y capel hwn ger y gyffordd, gyda'r ty capel a'r fynwent; oll o dan berchenogaeth dyn o'r enw Evan Morgan.

George Insole, un o'r meistri glo cynnar fu'n bennaf gyfrifol am ddatblygiad diwydiannol cynnar yr ardal. Ym 1844 roedd wedi prynu hawliau mwynau yn y Cymer gan Evan Morgan o Fferm Ty'n-y-Cymer. Erbyn 1847 roedd wedi agor Pwll Glo Cymer No 1 a ddaeth yn enwog drwy'r byd am gynhyrchu'r glo golosg gorau a chodwyd 36 o ffyrnau golosg ar y safle ym 1848. Roedd cymaint o alw am y glo nes i Insole ymestyn ei waith ym 1851 gan agor Pwll Glo Cymer Uchaf. Ym 1855 agorwyd Pwll Glo'r New Cymer gerllaw hen bwll glo'r Cymer (Pwll No. 1); daeth y pwll glo hwn i amlygrwydd yn sgîl ffrwydrad 1856 pan fu farw 114 o weithwyr. Fe'i caewyd ym 1940 a bellach mae archfarchnad ar y safle. Roedd Insole wedi codi tai ar gyfer ei weithwyr hefyd yn y Cymer; enghraifft gynnar o dai diwydiannol yw Rhif 28 High Street, yr unig fwthyn o blith chwech i oroesi a godwyd yn wreiddiol mewn clwstwr o amgylch Capel y Cymer (Fisk 1996). Mae twf yr anheddiad yn amlwg yn gysylltiedig â llwyddiant pyllau glo'r ardal; erbyn 1875 roedd yr anheddiad wedi tyfu'n sylweddol o amgylch ei gnewyllyn gwreiddiol gyda thai teras yn ymledu ar hyd y prif ffyrdd o'r gyffordd mewn patrwm strimynnog, ynghyd ag ysgol, Capel Annibynwyr y Cymer a thafarn y New Inn.

Nid yw 'anheddiad ymyl ffordd' Trebanog, sy'n dilyn patrwm strimynnog llinellol, yn ymddangos tan hanner olaf y 19eg ganrif; ar y dechrau roedd y datblygiadau wedi'u cyfyngu i deras ar ymyl y ffordd a theras Windsor Row a dwy dafarn gymharol arunig, sef y Farmer's Arms a'r Trebanog (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig1885, a fapiwyd ym 1875).

Mae anheddiad Glynfach yn dyddio o ail hanner y 19eg ganrif. Cyn hyn roedd yr ardal yn dir pori o eiddo Evan Morgan a ffermiwyd o Dy'n-y-Cymer (cynllun Degwm Llantrisant 1842). Mae argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig1875 yn dangos yr anheddiad wedi'i leoli i'r dwyrain o Bwll Glo Glynfach, sef y lofa gysylltiedig. Roedd yr anheddiad hwn yn cynnwys clwstwr o dai teras gan gynnwys Clifton Row a thafarn y Britannia.

Aeth y datblygiadau yn y Cymer, Trebanog a Glynfach rhagddynt yn gyflym yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif. Erbyn 1892 roedd cymuned Glynfach wedi ehangu i'w heithaf, gan gwmpasu Eirw Road a River Terrace a Morgan Terrace. Ffaith nodedig arall yw bod Pwll Glo Glynfach wedi cau (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, diwygiwyd 1892). Parhaodd y cymunedau cyfagos i ehangu yn amlwg yn ystod y cyfnod gyda'r terasau yn dechrau dringo i fyny'r llethrau uwchben y Cymer a'i bwll glo a oedd newydd ehangu. Roedd y terasau'n gyfochrog â High Street a Glynfach Road ac yn cynnwys Argyle Street, Lincoln Street a Glyn Street (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, diwygiwyd 1892). Roedd y broses hon o ehangu fertigol fwy neu lai wedi'i chwblhau erbyn 1914 (map AO 6 modfedd 1921, diwygiwyd 1914) gydag ychwanegiadau Graigwen Road, Richard Street a St John's Street ynghyd â llenwi bylchau'r tai teras ar batrwm strimynnog ar hyd Trebanog Road erbyn y cyfnod hwn gyda datblygiad strimynnog ychwanegol ar wahân ar gyffordd Trebanog Road ac Edmonstown Road. Felly ehangodd y cymunedau hyn i'w maint presennol gan uno i ffurfio un datblygiad trefol parhaus ar hyd llawr y cwm. Yr unig ychwanegiad mawr i'r dirwedd oedd ystad cyngor ar ben y mynydd yn Nhrebanog yn hanner olaf yr 20fed ganrif.

Ym 1875, roedd yr ardal i'r gogledd o gymer y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn Nhy-newydd heb ei datblygu y tu hwnt i Bwll Glo Tynewydd, Gorsaf Tynewydd a grwp bychan o fythynnod a thafarn y Carpenter's Arms ger Pwll Glo'r Aber-Rhondda a fu'n weithredol o tua 1845 fel Pwll Glo Troed-y-rhiw (argraffiad cyntaf map AO 6 modfedd, diwygiwyd 1875). Agorwyd Pwll Glo Tynewydd gan James Thomas, Cope a Lewis o 'r Troed-y-rhiw Coal Company ym 1852. Ym 1877 bu'n lleoliad i drychineb ac ymgais ddramatig i achub pedwar ar ddeg o lowyr a oedd yn gaeth danddaear pan lifodd dwr o Bwll Glo Cymer (Pwll Hindes) i'r gweithfeydd. Bu farw pump ohonynt. Caeodd y pwll ym 1901. Roedd datblygiad trefol yr ardal yn mynd rhagddo erbyn 1892 (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, diwygiwyd 1892) a gwelir anheddiad strimynnog o dai teras a Gwesty ar ben Aber-Rhondda Road i'r gogledd o Bwll Glo'r Aber-Rhondda. Gwelir hefyd i ddatblygiad y llethrau i'r gogledd o Bwll Glo Tynewydd, Mount Pleasant ddechrau gydag Oak Street a Fern Street. Mae Ysbyty Bwthyn ac ysgol hefyd i'w gweld ar y map. Tyfodd Mount Pleasant ac Aber-Rhondda i'w maint presennol erbyn 1914-15. Nodweddir y datblygiadau sy'n dyddio o'r 20fed ganrif gan derasau llinellol ar hyd cyfuchliniau llethrau'r mynydd (argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1921, diwygiwyd ym 1914-15).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk