Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


028 Mynydd Dinas a Mynydd Cymer


HLCA 028 Mynydd Dinas a Mynydd Cymer
Ffridd mynyddig neu ucheldirol; nodweddion amaethyddol greiriol; defnydd angladdol cynhanesyddol; anheddu ôl-ganoloesol, amaethyddol a diwydiannol; tirwedd ddiwydiannol ucheldirol helaeth.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA028)

Golygfa o'r awyr o Fynydd Dinas gan ddangos coetir gweddilliol a chopa wedi'i hadfer/tirlunio'n rhannol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Dinas a Mynydd y Cymer yn fynydd agored gan mwyaf ac mae'n cyfuno defnydd angladdol cynhanesyddol a defnydd amaethyddol yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol a defnydd diwydiannol yn ddiweddarach. Y nodwedd archeolegol gynharaf y gwyddom amdani yn yr ardal yw carnedd gladdu unigol yn dyddio o'r Oes Efydd (2,300-800CC), ar Fynydd Dinas. Mae'r enw Mynydd Dinas yn awgrymu lleoliad gwersyll neu anheddiad amddiffynnol yn yr ardal yn dyddio o'r Oes Haearn neu ddechrau'r cyfnod canoloesol, er na wyddom am unrhyw un. Defnyddid yr ardal at ddibenion pori da byw, defaid yn ddiweddarach, gan ffermydd wedi'u lleoli yn yr ardaloedd isel y tu allan i'r HLCA; mae argraffiad cyntaf map 6" yr AO dyddiedig 1884 yn darparu tystiolaeth o gorlannau a chysgodfeydd. Yr unig fferm a leolir o fewn yr ardal yw Fferm Craig-ddu, ffermdy dwy uned unllawr a hanner llawr ôl-ganoloesol sydd wedi'i leoli yn wynebu i lawr yr allt.

Roedd yr ardal fwyaf helaeth yn cynnwys nodweddion diwydiannol ar Fynydd y Cymer. Yn ogystal â'r chwareli, lefelau glo, ffyrdd aer a thramffyrdd/incleins arferol nas defnyddir, a ddangosir ar 2il argraffiad map 6" yr AO (1900) ac argraffiad 1921, ym Mhenygefnen, Dinas, mae'r ardal yn cynnwys enghraifft ddiddorol o dai diwydiannol cynnar (1840-1879), olion teras â chynllun sgwâr yn cynnwys tri bwthyn ag un ystafell lan llofft a dwy ystafell ar y llawr gwaelod (Fisk 1995).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk