Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


016 Blaen-cwm


HLCA 016 Blaen-cwm
Anheddiad glofaol llinellol ym mhen uchaf y cwm; anheddiad glofaol cam cyntaf wedi'i lleoli o amgylch haen lo gynnar a'r gwaith adnewyddu trydydd cam wedi'i ganoli ar ddatblygiadau glofaol diweddarach, a nodweddir gan resi unigol gydag ychwanegiadau diweddarach yn ystod datblygiadau ehangu newydd yn ystod yr 20fed ganrif; cymeriad preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau masnachol; yn dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol ffurfiannol; tarddiad ar wahân i aneddiadau cyfagos ac yn cadw hunaniaeth pentref neilltuol hyd heddiw; enghreifftiau da o dai teras glofaol annodweddiadol a nodweddiadol; tirwedd lofaol wedi'i hadfer; lleoliad llednant ar wahân ar ochr y cwm.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA016)

Blaen-cwm, golygfa o'r gorllewin.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Blaen-cwm yn cynnwys y pentref llinellol a safleoedd cyn-byllau glo; adeiladwyd yr anheddiad, a nodweddid yn wreiddiol gan grŵp o Resi anghysbell, ar dir Walter Edwards yn Hendrewen, a hefyd Tydraw a Hendre Geulan, yr olaf yn rhan o Ystad Dunraven (Map Degwm Ystradyfodwg 1844).

Dengys argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO anheddiad braidd yn ddigynllun yn cynnwys rhesi gwasgaredig o fythynnod gerllaw'r lôn fferm gynharach, sy'n dolennu ar hyd llawr y dyffryn. Lleolir craidd Blaen-cwm gerllaw fferm Ty-uchaf ac mae'n cynnwys Long Row a'r Dunraven Arms (Gwesty Hendrewen yn ddiweddarach) a chlwstwr o derasau byr eraill (y rhoddir yr enwau Beynon Row, Lower and Upper Terraces, ymhlith eraill, arnynt ar fapiau diweddarach), mae'r olaf yn cynnwys Glanselsig Terrace, sef teras unigol o fythynnod unllawr, math cymharol brin o dy yn yr ardal hon, a adeiladwyd cyn 1860. Dangosir ysgol a gasomedr hefyd ar argraffiad cyntaf y map (Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875). Dangosir adeiladau neu derasau llinellol eraill, cytiau pren o bosibl a oedd yn gysylltiedig â'r gwaith o agor y pwll gwreiddiol, (a elwir yn Chicago ar 2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1900, a ddiwygiwyd ym 1897) gerllaw cilffyrdd tramffordd i'r gogledd-orllewin o Bwll Glo Dunraven (a'i 3 thy injan); mae'r rhain wedi diflannu erbyn 1914. Ym 1890 agorodd Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe yr ardal gyda Thwnel y Rhondda, a gwblhawyd ym 1889. Fodd bynnag, prin yr ymestynnwyd yr anheddiad tan ddechrau'r 20fed ganrif, pan agorodd Pwll Glo Glen Rhondda. Roedd yr ardal rhwng Nant Selsig ac i'r de i Hendrewen Road wedi'i hadeiladu erbyn 1914, gan gynnwys terasau ar hyd ochr ogleddol Hendrewen Road. Mae Dilys Street a strydoedd eraill sydd wedi'u trefnu yn dangiadol i'r prif batrwm strydoedd a redai o'r dwyrain i'r gorllewin, yr ysgol fabanod, swyddfa bost, capeli'r Bedyddwyr a'r Methodistiaid hefyd yn dyddio o'r cyfnod (Argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914).

Ymddengys i'r anheddiad gael ei sefydlu i wasanaethu lefelau cynnar ym mhen y cwm. Dengys map Colby dyddiedig 1833 lefelau glo ym Merw-nant-y-gwair, tra gweithiwyd Lefel Graig yn Nant-y-Gwair o ddiwedd y 1850au, a lefelau eraill hefyd megis yr un yng Nghwm Glan-nant-dyrys ac mewn mannau eraill ar hyd Craig Selsig (pob un yn yr HLCA gyfagos). Lleolid y pwll glo cyntaf, sef Tydraw, neu Bwll Glo Dunraven, yng ngenau'r cwm ychydig i'r dwyrain o'r anheddiad. Diddymwyd y pwll glo hwn, a agorwyd ym 1865 gan Thomas Joseph o Aberdâr ar ran y Dunraven United Collieries Company Limited, flwyddyn yn ddiweddarach. Fe'i hatgyfodwyd ym 1872, gan Edmond Hanney Watts a'i bartneriaid, ac fe'i prynwyd ar ôl hynny gan gwmni Cory Brothers o Gaerdydd. Parhaodd y pwll glo i weithredu ar ôl cael ei wladoli a chaeodd yn y diwedd ym 1959 o ganlyniad i broblemau daearegol ac economaidd. Agorwyd Pwll Glo Glen Rhondda, a oedd wedi'i leoli i'r gorllewin o'r anheddiad, gan Glenavon Garw Colliery Company; agorwyd Pwll Rhif 1, sef Glen Rhondda, ym 1911, a phwll Rhif 2 ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1921. Oherwydd problemau daearegol ni fu lefel y cynhyrchiant mor uchel ag mewn mannau eraill yn y Rhondda ac er i'r gweithlu gael ei gynyddu, parhaodd y cynhyrchiant i ostwng; caeodd y pwll glo ym 1966. Ers hynny tirluniwyd y safle hwn a safle Tydraw/Dunraven.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk