Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


Prosesau, themâu a chefndir hanesyddol
y Rhondda


  • Y Dirwedd Naturiol

    Lleolir tirwedd hanesyddol y Rhondda o fewn llwyfandir rhanedig rhanbarth ucheldirol Blaenau Morgannwg. Mae'r rhan ogleddol yn cynnwys tarren Craig-y-Llyn, sef tarren o Dywodfaen Pennant. Yn ganolog i'r ardal hon mae copa amlwg Carn Moesen (600m) ac oddi yma mae tair cefnen wastad yn ymestyn tua'r de ddwyrain, gan amgáu cymoedd dwfn afonydd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. I'r dwyrain mae Cefn Gwyngul a Charn-y-Pigwn (470m) yn amgáu'r Rhondda Fach oddi wrth system afon Cynon. Yn y canol mae cefnen Cefn-y-Rhondda a Mynydd y Maerdy (481m) yn ffurfio'r cefn deuddwr rhwng y ddau Gwm Rhondda ac i'r gorllewin mae Mynydd William Meyrick yn gwahanu'r Rhondda Fawr oddi wrth ragnentydd Afonydd Ogwr Fawr, Garw ac Afan. Mae ffynonellau'r ddwy Afon Rhondda wedi'u lleoli ar Garn Moesen a Mynydd Beili-glas yng ngogledd yr ardal. Maent yn cydgyfarfod yn y Porth i greu Afon Rhondda sy'n llifo i Afon Taf ym Mhontypridd.

    Prif ffynhonnell Afon Rhondda Fawr yw Ffynnon-y-Gwalciau, tua 544m OD. Mae'r brif ragnant, Nant Carn Moesen yn disgyn yn sydyn gan ymuno â llednant Nant Selsig islaw Pen Pych. Yn y fan hon (yn enwedig yn Nhreherbert a Phenyrenglyn) mae llawr y cwm yn lledu ychydig, er nad yw'r cwm yn fwy na chwarter milltir o led yn gyffredinol. Prin yw'r tir gwastad yn y cwm ei hun neu gymoedd y llednentydd, er y ceir eithriad ar yr ysgafell ddatblygedig yn yr ardal rhwng Ton Pentre a'r Gelli. Rhwng Llwynypia a Thonypandy mae'r afon yn llifo i gyfeiriad y de ac yna'n newid cyfeiriad gan lifo i'r de de-ddwyrain i'r Porth gan gydlifo ag afon Rhondda Fach. Mae llawr y prif gwm yn disgyn o 200m ym Mlaenrhondda, ym mlaenau'r cwm, i ryw 110m yn y Porth.

    Mae Afon Rhondda Fach yn codi o gors ucheldirol 489m OD rhwng Mynydd Beili-glas a Mynydd Bwllfa gan lifo drwy Twyn Rhondda Fach a Chastell Nos, heibio'r Maerdy a Glynrhedynog, i'r de ddwyrain am Bontygwaith. Yn Ynys-hir mae'r afon yn troi tua'r de tuag at ei chydlifiad ag Afon Rhondda Fawr yn y Porth. Mae cwm Rhondda Fach hyd yn oed yn fwy culrychog na chwm Rhondda Fawr, ac ar wahân i'r ardal rhwng y Maerdy a Glynrhedynog, mae'n gwm ag iddo lethrau serth heb lawer o ddatblygiadau ar lawr y cwm, ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o'r aneddiadau yn yr ardal wedi cyfnod yr oesoedd canol, ac eithrio aneddiadau'r Maerdy a Glynrhedynog, i'w gweld ar lethrau'r cwm.

    Newidiwyd tirwedd yr ardal yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, gan rewlifiant i greu'r dirwedd a adwaenwn heddiw. Prif bwynt ymgasglu rhewlifol De Cymru oedd Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog, lle roedd yr wyneb gogleddol yn ffynhonnell nifer o beirannau rhewlifol. Yr unig rwystr a lwyddodd i wyro prif rewlif Bannau Brycheiniog oedd tarren Pennant Craig-y-Llyn gan greu ei chapan rhew ei hun. Newidiwyd Cymoedd y Rhondda gan rym y rhew hwn, gan greu nodweddion rhewlifol nodweddiadol, megis y peirannau neu'r cymoedd rhewlifol a welir heddiw yng Nghwmsaerbren a Chwm-parc.

    Er y cynhaliwyd rhywfaint o waith dadansoddi paill ar safleoedd archeolegol yn yr ardal, maent wedi canolbwyntio ar ddadansoddi deunydd yn gysylltiedig â'r Oes Efydd a chyfnodau diweddarach. O ganlyniad, prin yw'r dystiolaeth leol a geir o'r sefyllfa amgylcheddol gynharach ac yn wir y cyfnod a ddilynai'r cyfnod ôl-rewlifol. Tybir i goetir brodorol trwchus ymledu'n raddol drwy'r ardal wrth i'r hinsawdd wella yn dilyn y cyfnod rhewlifol. Mae effaith dyn ar y coetir hwn yn gymharol ddramatig; darganfuwyd bwyelli yn dyddio o'r cyfnod Neolithig yn yr ardal sy'n awgrymu i'r coetir gael ei dorri'n raddol o leiaf o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Mae gwaith dadansoddi paill o'r garnedd gladdu sy'n dyddio o'r Oes Efydd ar Grug-yr-Afan ger Cwm-parc yn dynodi amgylchedd cyfoes o rostir gyda choetir agored o goed derw yn bennaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ardaloedd ucheldirol y Rhondda, yn yr un modd â rhan fwyaf yr ucheldiroedd, wedi'u gorchuddio â thrwch helaeth o fawn erbyn diwedd yr Oes Efydd.

    Er gwaethaf ymdrechion dyn, mae'n amlwg i natur goediog helaeth yr ardal barhau drwy gydol yr oesoedd canol a'r cyfnod ôl-ganoloesol hyd at ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf; mae mapiau Arolwg Ordnans 1814 a map Colby sy'n dyddio o 1833 yn dangos natur goediog drwchus Cymoedd y Rhondda yn y cyfnod. Ategir hyn gan ddisgrifiadau cyfoes ymwelwyr o Loegr i'r ardal, o John Leland i Thomas Roscoe. Mae tystiolaeth bellach o natur goediog y dirwedd yn goroesi yn yr enwau lleoedd megis Coed Penpych, coed Llwynypia a Choed Ynys-hir, Coedcae'r Arglwydd, Coedcae Rhondda a Choedcae Hafod ac enwau fel Gelli Ystrad, Gellifaelog a Gellidawel.


    Fodd bynnag, yn sgîl dyfodiad y diwydiant glo i'r ardal, newidiwyd natur goediog tirwedd y Rhondda; dinoethwyd y cymoedd o'u coed ar gyfer pyst cynnal y pyllau glo gan adael olion prin o'r hyn a fu. Erbyn heddiw mae planhigfeydd diweddar y Comisiwn Coedwigaeth wedi ychwanegu'n helaeth at y coetir hyn.

  • Y Cefndir Daearegol
  • Lleolir yr ardal dirwedd hanesyddol ym Maes Glo De Cymru; mae daeareg yr ardal yn perthyn i'r System Garbonifferaidd. Lleolir Cymoedd y Rhondda yn y Cystradau Glo ger canol y synclin Carbonifferaidd. Mae uwchblygiadau eilaidd neu anticlinau, yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin wedi cymhlethu daeareg yr ardal gan ddod â gwythiennau glo niferus yr ardal yn agosach at yr wyneb. Pan ddarganfuwyd nodweddion daearegol yr ardal yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygwyd Maes Glo'r Rhondda yn gyflym, ac estynnwyd diwydiant glofaol y rhanbarth, a gyfyngwyd cyn hynny i'r Rhondda Isaf, i'r ddau gwm.

    Mae tair cyfres i'r Cystradau Glo; Cyfres Glo Uwch, Cyfres Pennant a Chyfres Glo Is, - dim ond y ddwy olaf sydd i'w cael yng Nghymoedd y Rhondda. Yng Nghyfres Pennant ceir tywodfaen a grut a adwaenir fel Tywodfaen Pennant; mae'r siâl sy'n perthyn i'r gyfres hon yn llai arwyddocáol yn y Rhondda er bod y gyfres yn cynnwys dwy wythïen o lo pyg, sy'n addas ar gyfer gwresogi a chynhyrchu nwy, sef Gwythiennau Rhif 1 a 2 y Rhondda. Mae'r Gyfres Glo Is yn cynnwys y glo pyg a'r glo ager o'r radd flaenaf y seiliwyd enwogrwydd y Rhondda arnynt. Roedd gwythïen Rhif 3 y Rhondda, gwythïen uchaf y gyfres, yn danwydd cartref a golosg yn bennaf. Fodd bynnag, prif nod y diwydiant glo oedd y glo ager dyfnach a oedd yn uchel o ran carbon a'i dymheredd llosgi ynghyd â'i natur ddi-fwg. Y gwythiennau glo ager oedd yr Abergorchi, yr Hafod, y Pentre, y Gorllwyn a'r 'Two-Feet-Nine', y 'Four Feet', y Six Feet' y Wythïen Goch, y 'Nine Feet', y Bute, y 'Five Feet' a'r Gellideg.

    Roedd nifer o broblemau daearegol yn fwrn ar y gwaith mwyngloddio glo yn ardal y Rhondda. Nododd Lewis y problemau hyn fel a ganlyn: 'pwysau' a oedd yn achosi i'r nenfydau gwympo wrth dynnu'r glo; ffrwydradau nwy; glo rhydd yn tueddu i ddymchwel; gwythiennau yn teneuo ac yn diflannu; a ffawtiad daearegol anffafriol. Y tri phrif ffawt sy'n effeithio ar ardal y Rhondda yw Ffawt Ty-mawr neu Lanwynno ar hyd y dwyrain, Ffawt y Cymer (Dinas) yn y canol a Ffawt Dinas (Pen-y-graig) yn y gorllewin (Lewis 1959).

  • Y Dirwedd Weinyddol
  • Mae ardal dirwedd hanesyddol y Rhondda yn cynnwys cymunedau modern Cwm Clydach, y Cymer, y Maerdy, Glynrhedynog, Llwynypia, Pentre, Pen-y-graig, y Porth, Tonypandy, Trealaw, Trehafod, Treherbert, Treorci, Tylorstown, Ynys-hir ac Ystrad sydd oll o fewn rhanbarth y Rhondda ym Mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf. Mae ffiniau modern y Rhondda yn adlewyrchu ardal ddalgylch afonydd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. Roedd hen blwyf Ystradyfodwg yn cynnwys y Rhigos ond nid oedd yn cynnwys yr ardal o Drewiliam i Ddinas i Drebanog (a fu gynt yn rhan o blwyf Llantrisant) a'r ardal i'r dwyrain o'r Rhondda Fach (Llanwynno gynt). Mae'r ffiniau presennol cyfan yn dyddio o'r cyfnod pan sefydlwyd Awdurdod Hylendid Trefol Ystradyfodwg ym 1877, rhagflaenydd Cyngor Dosbarth Trefol Ystradyfodwg (a ffurfiwyd ym 1895), a ddaeth yn ei dro yn Gyngor Dosbarth Trefol y Rhondda ym 1897.

    Ac eithrio'r ffiniau naturiol, megis nentydd ac afonydd, mae'n siwr mai'r ffiniau tiriogaethol cynharaf, ac felly'r ffiniau gweinyddol cynharaf yn yr ardal oedd y rheini a ddynodwyd gan henebion angladdol cynhanesyddol h.y. carneddau'r Oes Efydd (2300-800CC) fel Bachgen Carreg (SAM Gm 234), Carn Fach, Carn Fawr, Carn-y-Pigwn (SAM Gm 372), Carn-y-wiwer (SAM Gm 323), Carn-y-Bica, Crug-yr-Afan (SAM Gm 233), Bedd Eiddil, Garnwen a Phebyll a leolir ar y tir uchel uwchlaw'r cymoedd. Yn ddi?os roedd y nodweddion hyn yn amlwg yn y dirwedd ac iddynt gryn arwyddocâd cymdeithasol a defodol pan y'u codwyd gyntaf. Gallant hefyd fod wedi gweithredu fel arwyddbyst i ffiniau tiriogaethol corfforol ac ysbrydol i'r cymunedau a wasanaethwyd ganddynt. Mae parhad ffiniau gorllewinol y Rhondda yn amlwg drwy'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol hyd heddiw gyda ffiniau modern, megis ffiniau plwyf eglwysig, cymunedau modern a ffiniau Etholaethau Sirol yn parhau i ddefnyddio'r nodweddion cynnar hyn.

    Gallai dosbarthiad a graddfa aneddiadau sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol roi syniad i ni o'r dirwedd weinyddol yn ystod y cyfnod. Hwyrach bod rhyw elfen o swyddogaeth weinyddol yn perthyn i'r anheddiad caerog ar gopa'r bryn yng Ngwersyll Maendy (SAM Gm 99), Hen Dre'r Mynydd (SAM Gm 101), yr anheddiad diamddiffyn mwyaf yn ne-ddwyrain Cymru a ddyddiai o gyfnod yr Oes Efydd/Rhufeinig Brydeinig (800CC-410OC), a'r safle llai yn Hendre'r Gelli.

    Lleolir y dirwedd hanesyddol yn Sir ôl-ganoloesol Morgannwg, a fu gynt yn rhan o Deyrnas Glwysing cyn goresgyniad y Normaniaid a adwaenwyd yn ddiweddarach fel Morgannwg. Rhannwyd Morgannwg yn saith rhanbarth gweinyddol neu gantref; lleolwyd ardal y Rhondda o fewn cantref Penychan gan ffurfio rhan ogledd-orllewinol y cantref hwnnw. Roedd Cantref Penychan yn cyffinio â Chantref Gorfynydd i'r gorllewin, Senghennydd i'r dwyrain a'r Cantref Mawr i'r gogledd, sef rhan o Deyrnas Brycheiniog. Yn draddodiadol rhannwyd pob cantref yn ddau gwmwd, a chanddynt ystadau neu faenorau a ffurfiwyd o nifer o drefi neu drefgorddau. Ni wyddom union ffurf cymydau'r ardal hon cyn cyfnod y Normaniaid, credir i gymydau Glynrhondda a Meisgyn ddyddio o adeg pan ad-drefnwyd yr ardal yn dilyn cyfeddiant rhan ddeheuol isaf Penychan gan y Normaniaid.

    Gwelir olion ffosydd a chroesgloddiau, sy'n nodweddiadol o'r ardal hon, a oedd yn rhan o system helaethach o groesgloddiau canoloesol cynnar (8fed 9fed ganrif) a reolai'r cefnffyrdd ucheldirol i mewn i ardal y Rhondda - ffyrdd a ddyddiai o'r cyfnod cynhanesyddol. Mae'r croesgloddiau hyn yn olion amlwg o'r dirwedd weinyddol ganoloesol gynnar yng Nghymru ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y croesgloddiau ym Mwlch-yr-Afan (SAM Gm 246) a Bwlch-y-Clawdd (SAM Gm 500) ar y ffin rhwng Cantref Penychan a Chwmwd (Arglwyddiaeth, yn ddiweddarach) Glynrhondda a Chantref cyfagos Gwrinydd i'r gorllewin, tra bod Ffos Toncenglau (SAM Gm 118) yn SN 916031-919020 yn dynodi ffin ogleddol yr ardal â'r Cantref Mawr gan bontio'r Gefn-Ffordd (Heol Adam) hynafol. Mae'r nodweddion ffiniol hyn hefyd yn ymddangos rhwng y cymydau yn ogystal â'r cantrefi; mae'r croesglawdd (SAM Gm285) ger Bedd Eiddil ym Mryn-du sydd hefyd yn pontio'r Gefn-Ffordd, yn dynodi ffin ddwyreiniol cwmwd Glynrhondda â chwmwd Meisgyn. Ar sail y dystiolaeth hon ymddengys i'r ffiniau rhwng y cymydau a ddyddiai o gyfnod cyn cyfnod y Normaniaid gael eu cadw o fewn yr ardal a arhosodd yn nwylo'r Cymry er efallai fod yr elfennau mewnol, fel y maenorau a'r trefi wedi cael eu haddasu er mwyn adlewyrchu'r diriogaeth a gollwyd.

    Gellir ond dyfalu p'un a oedd yr ardal a gyfeddiannwyd gan y Normaniaid yn ystod camau cyntaf eu concwest yn cynnwys canolbwynt gwreiddiol yr ardal, a oedd, yn ôl rhai, yn Ninas Powys; byddai hyn wedi'i wneud yn ofynnol i sefydlu canolfan newydd; awgrymwyd hwyrach i Lantrisant weithredu i'r perwyl hwn. Fodd bynnag, yn ôl tystiolaeth enwau lleoedd mae'n bosibl i weinyddiaeth Frenhinol Gymreig ym Mhenychan, cyn goresgyniad y Normaniaid, gael ei gweithredu o anheddiad Maerdref a leolwyd o bosibl yn Llanilltud Faerdre i'r de-ddwyrain o'r ardal dirwedd hanesyddol.

    Yn dilyn concwest y Normaniaid yn rhan ddeheuol Morgannwg, parhaodd y diriogaeth ogleddol rhwng afonydd Taf a Nedd yn nwylo'r arglwyddi Cymreig; ar y pryd yr Arglwydd Cymreig oedd Caradog ab Iestyn. Ar ôl ei farwolaeth rhannwyd yr ardal rhwng ei feibion, yn ôl yr arfer. Rhoddwyd Meisgyn i Maredudd a Glynrhondda i Cadwallon. Genhedlaeth yn ddiweddarach, unwyd tiriogaeth Penychan unwaith yn rhagor pan ddiorseddwyd Morgan ap Cadwallon o Glynrhondda gan ei gefnder Hywel ap Maredudd. Er i Hywel ddod yn arweinydd amlwg yn erbyn cryfder y Normaniaid, byrhoedlog fu'r annibyniaeth hon; ym 1246 methodd ag atal Richard de Clare rhag cipio Meisgyn a Glynrhondda. Daeth gwrthwynebiad brodorol i'r amlwg drwy gyfrwng yr arweinydd enigmatig Cadwgan Fawr o Fiscin; fodd bynnag erbyn diwedd y 1330au, yn dilyn cyfnod cythryblus iawn, roedd gafael y Normaniaid ar yr ardal yn gadarn. Ymgorfforwyd yr ardal yn uned weinyddol Normanaidd Morgannwg ac wedi hynny fe'i rheolwyd gan Arglwyddi Morgannwg, y de Clares a'u holynwyr, y Despensers, Brenin Richard III, Jasper, Dug Bedford, Brenin Harri VIII a William Herbert, Iarll Penfro.

    Ystyriwyd i safle castell canoloesol Castell Nos (SAM Gm 408) i'r gogledd o'r Maerdy uwchlaw Cwm Rhondda Fach, fod yn gadarnle i Maredudd ap Caradog ab Iestyn, llywodraethwr Cymreig Meisgyn a Glynrhondda yn ystod diwedd y 12fed ganrif, ac mae'n siwr i'r safle hwn weithredu fel canolfan weinyddol hefyd.

    Mae arwyddion eraill o hen systemau gweinyddol canoloesol yn y dirwedd hanesyddol wedi'u cadw mewn enwau lleoedd. Mae ffermdy ôl-ganoloesol y Maerdy yn y Rhondda Fach yn dynodi enw ty neu anheddiad y Maer Canoloesol neu'r distain; hwyrach bod agosrwydd anheddiad y Maerdy a safle Castell Nos yn arwyddocáol ac yn awgrymu'n bendant i ryw fath o swyddogaeth weinyddol barhau hyd ddiwedd y cyfnod canoloesol. Mae anheddiad (bod) Rhyngyll, swyddog canoloesol (canghellor) y gwyddom ei fod yn gysylltiedig â system weinyddol y rheolwyr Cymreig brodorol yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda, wedi'i gadw yn enw Bodrhyngallt, ffermdy ôl-ganoloesol yng Nghwm Bodrhyngallt, Ystrad.

    Yn ystod y cyfnod canoloesol, roedd cymydau Glynrhondda a Meisgyn yn rhan o blwyf eglwysig Llantrisant. Credir i'r plwyf hwn darddu'n wreiddiol o'r gwaith o ad-drefnu esgobaeth Llandaf yn blwyfi, a wnaed gan yr Esgob Urban (Esgob rhwng 1107-1133). Roedd y ganolfan blwyfol newydd a sefydlwyd yn Llantrisant yn gweinyddu ei thiriogaeth drwy gyfrwng pedair eglwys, sef Llantrisant, Ystradyfodwg, Llanwynno a Llanilltud Faerdre (gyda phob un ohonynt yn esblygu'n ganolfannau plwyfol yn eu rhinwedd eu hunain erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol diweddarach).

  • Tirweddau Angladdol, Eglwysig a Chwedlonol

    Hwyrach mai nodweddion cynharaf a mwyaf gweledol y dirwedd gyn-ddiwydiannol drwy'r ardal gyfan yw'r henebion angladdol a leolir ar yr ucheldiroedd sy'n dyddio o'r Oes Efydd (2300-800CC); mae'r nodweddion hyn yn niferus ac yn cynnwys safleoedd unigol trawiadol fel Bachgen Carreg (SAM Gm 234), Carn Fach, Carn-y-Pigwn (SAM Gm 372), Carn-y-wiwer (SAM Gm 323), Carn-y-Bica, Bedd Eiddil, Garnwen, Carn Fawr, Carn Fach, y garnedd a'r gist ar Fynydd Pen-y-graig a Phebyll ymhlith eraill. Mae Crug-yr-Afan ar flaenau Cwm Afan (SAM Gm 233) yn enghraifft ddiddorol. Mae'n fath anarferol ar gyfer ardal ucheldirol am ei fod yn feddrod ffos, yn debyg i grugiau cloch Wessex, sy'n dyddio o 2000-1450 CC. Datgelodd gwaith cloddio ym 1902 dwmpath cyfansawdd, â'i rhan isaf, o bridd cleiog, wedi'i hamgylchynu gan ysgafell wastad a ffos. Torrwyd cist ganolog yn yr isbridd islaw'r twmpath, ac roedd yn cynnwys amlosgiad a chyllell efydd â rhychau ar hyd ei hymyl a ymdebygai i'r math a oedd yn nodweddiadol o ardal Wessex yng nghyfnod cynnar yr Oes Efydd. Codwyd carnedd lai a amgylchynwyd yn wreiddiol gan ymylfaen neu gylch o gerrig unionsyth dros y domen is. Mae grwpiau o garneddau hefyd i'w cael yn ardal y Rhondda, fel y gwelir ar Fynydd Ton, y maes carnedd ar Fynydd y Gelli (SAM Gm 354) sy'n cynnwys cylch mwy a charneddi ymylfaen, tra bod clwstwr pellach o henebion angladdol gan gynnwys carnedd gylchol ysbeiliedig a'r grwpiau carnedd ar Fynydd Maendy. Pan gloddiwyd un o'r grwpiau hyn ym 1901 daethpwyd o hyd i gyllell efydd wedi'i difrodi, crochenwaith, gan gynnwys teilchion o wrn corfflosgi a fflintiau. Mae'r nodweddion hyn yn parhau'n weledol yn y dirwedd ac yn wir, mewn tirwedd sydd yn aml yn ddinodwedd, mae nodweddion gweledol o'r fath yn parhau fel cyfeirbwyntiau ar gyfer ffiniau gweinyddol cyfoes.

    Hwyrach mai'r man mwyaf diddorol o ran chwedloniaeth ac yn ddiau, pwysigrwydd eglwysig yn y Rhondda yw Penrhys. Yn ôl y chwedl, dyma oedd safle brwydr rhwng Rhys ap Tewdwr a Iestyn ap Gwrgant tua 1085-88, ac mae'r enw Penrhys yn deillio o'r chwedl i'r tywysog Rhys ap Tewdwr gael ei ddienyddio. Daeth mynwent gyfagos Erw Beddau sy'n dyddio o'r Oes Efydd yn gysylltiedig â'r frwydr honno drwy draddodiad. Traddodiad diddorol arall sy'n gysylltiedig â'r ardal yw'r sôn bod Edward II wedi llochesu yma ym 1326, cyn iddo gael ei ddal yn y pen draw.

    Hyd yma mae hanes eglwysig y cyfnod canoloesol cynnar yn annelwig a phrin yw'r dystiolaeth uniongyrchol sy'n goroesi y tu hwnt i enwau seintiau Celtaidd yr ardal, Tyfodwg Sant a Gwynno Sant a sefydlodd, yn ôl pob tebyg, y celloedd mynachaidd bach yn ystod y 6ed ganrif ar safleoedd y canolfannau plwyfol canoloesol diweddarach, h.y. yn Ystradyfodwg a Llanwynno. Ymddengys i'r ardal fod o dan ddylanwad y fam eglwys Llanilltud Fawr a ad-drefnwyd yn ddiweddarach yn dilyn concwest y Normaniaid yn rhan iseldirol Penychan o dan reolaeth Llantrisant a ddaeth o fewn esgobaeth Llandaf.

    Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd y faenor fynachaidd ym Mhenrhys â'i chapel, cysegrfan a gwesty, a oedd yn eiddo i Abaty Sistersaidd Llantarnam, yn arbennig o adnabyddus oherwydd nodweddion iacháol ei ffynnon, Ffynnon Fair. Gwyddom i'r Sistersiaid ffermio defaid ar raddfa fawr ar eu hystadau a'u bod wedi rhoi'r gorau i ffermio defaid o ddechrau'r 14eg ganrif, gan rannu'r faenor yn 30 o ddaliadau gan brydlesu eu tiroedd. Dymchwelwyd y gysegrfan yn ddiweddarach yn ystod y diddymu yn y 16eg ganrif yn dilyn gwaredu cerflun y Forwyn Fair drwy orchymyn Brenhinol yn 1538. Dywedwyd i'r pren gael ei ddefnyddio i adeiladu fferm gyfagos Ty'n-tyle (Davies 1975; Pride 1969; a Williams 1990). Mae arwyddocâd eglwysig y dirwedd yn parhau hyd heddiw wrth i'r ardal gael ei defnyddio fel canolfan bererindota gan gymuned Babyddol y rhanbarth. Mae'r cerflun o'r Forwyn Fair a godwyd ger safle'r capel ym 1953 yn dyst i hyn.

    Mae canolfannau eglwysig canoloesol Ystradyfodwg a Llanwynno (y tu allan i dirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda) yn goroesi, er bod Ystradyfodwg wedi'i boddi bellach gan anheddiad diwydiannol trefol y 19eg ganrif ac mae eglwys y plwyf, eglwys Ioan Fedyddiwr wedi'i hailadeiladu droeon - fe'i hailadeiladwyd olaf yn ystod yr 20fed ganrif.

    Prif nodweddion eglwysig tirwedd y Rhondda yn ddiau yw capeli ac eglwysi anghydffurfiol y 19eg ganrif. Cartref cynharaf Anghydffurfiaeth oedd y Cymer, yn rhan isaf y Rhondda, pan godwyd capel y Cymer neu'r Ty Cwrdd ym 1743. Ymhlith y capeli cynnar eraill roedd Ty Cwrdd y Bedyddwyr, Ynysfach (1786) a ailenwyd yn ddiweddarach yn Nebo, yn Heolfach, Capel Ebeneser (1830) a Dinas, y capel Methodistaidd cyntaf yn y Rhondda (Lewis 1959). Mae'r ardal yn cynnwys sawl enghraifft wych o bensaernïaeth eglwysig o'r 19eg ganrif. A hwythau'n destun i arolygon Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mae'r capeli a'r eglwysi hyn yn elfennau pwysig yn y dirwedd ddiwydiannol drefol. Mae iddynt arweddion nodweddiadol sy'n perthyn i'r rhan fwyaf o aneddiadau trefol yng Nghymru ac nid y Rhondda yn unig gan weithredu fel tystiolaeth weledol o orffennol ysbrydol a chymdeithasol yr ardal.

  • Tirweddau Anheddu cyn-ddiwydiannol

    Mae'r dystiolaeth gynharaf o anheddu dynol yn ardal y Rhondda wedi'i chynrychioli gan ddarganfyddiadau o ddeunydd sy'n dyddio o'r cyfnod Mesolithig (10000-4400CC) y daethpwyd o hyd iddynt dros ardal helaeth. Mae'r deunydd yn cynnwys casgliadau a darganfyddiadau unigol o fflint, gan gynnwys creiddiau, llafnau, naddion, crafellau a microlithau a gysylltir yn aml â golosg. Mae natur y dosbarthiad yn tueddu i awgrymu cryn dipyn o anheddu ar y tir uwch yn enwedig ym mlaenau uchaf cymoedd y Rhondda. Ymhlith y safleoedd anheddu Mesolithig mae Cefn-glas, Cwm Saerbren, Fforch uwchben Cwm-parc, Gwyneb-yr-haul, Mynydd Beili-glas, Mynydd Blaenrhondda, Mynydd Ton, Mynydd Tyle-coch, Mynydd Ystradffernol, Nant Lluest, Nant-y-gwair a'r ardal o amgylch cronfa ddwr y Maerdy lle cofnodwyd casgliadau fflint a darganfyddiadau digyswllt. Prin yw'r archwiliadau systematig a gynhaliwyd ar aneddiadau'r cyfnod ac eithrio'r gwaith cloddio yng Nghraig-y-llyn (Lacaille ym 1962). Ystyrir bod y dystiolaeth hon o weithgaredd dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela ucheldirol dros dro a feddiannwyd gan grwpiau o helwyr-gasglwyr fel rhan o batrwm ymfudo tymhorol rhwng yr iseldir arfordirol a'r Blaenau ucheldirol.

    Unwaith eto, cynrychiolir aneddiadau'r cyfnod Neolithig (4400-2300CC) gan ddarganfyddiadau dyddiedig o offer fflint gan gynnwys pennau bwyeill petit tranchet a phennau saethau petit tranchet a siâp dail. Mae'r darganfyddiadau hyn hefyd yn aml yn gysylltiedig â golosg. Mae dosbarthiad y safleoedd yn debyg i'r hyn a nodwyd ar gyfer y cyfnod Mesolithig ac yn cynnwys darganfyddiadau o Fynydd y Gelli, Mynydd Ystradffernol, Tarren Pantyffin a phen bwyell petit tranchet a ddarganfuwyd ar lethrau Mynydd Ynysfeio. Cofnodir gwaith prosesu fflint ar Fynydd Tynewydd ac uwchlaw Cwm-parc hefyd, ac mae llawr cwt sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod Neolithig a ddarganfuwyd yng Nghefn-glas hefyd o gryn ddiddordeb.

    Ceir cryn dystiolaeth o weithgaredd yn y Rhondda yn ystod yr Oes Efydd (2300-800CC); fodd bynnag mae hyn yn bennaf gysylltiedig â'r henebion angladdol ucheldirol. Mae lleoliad aneddiadau yn bennaf seiliedig ar ddarganfyddiadau digyswllt o offer fflint, gyda'r dosbarthiadau yn debyg i gyfnodau cynharach. Ymhlith y darganfyddiadau sy'n dyddio o'r Oes Efydd mae pen picell seidiog efydd gyda llafn asennog o Flaenrhondda, pen saeth o Fynydd y Gelli a chelc o gelfi efydd o'r chwarel a oedd hefyd ar Fynydd y Gelli. Mae'r safle twmpath llosg ar Fynydd Maendy (Arch.Camb. 1902, t. 258) yn dystiolaeth fwy sylweddol o anheddiad o'r Oes Efydd. Credir bod y safle hwn, sy'n nodweddiadol o'r cyfnod, yn gysylltiedig â choginio.

    Mae effaith gweithgaredd dynol ar lystyfiant naturiol yr ardal yn amlwg yn sgîl gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal; mae hyn ar ei anterth tua diwedd cyfnod yr Oes Efydd, ac efallai nad yw'n syndod bod olion cyntaf effaith ddylanwadol anheddu dynol ar yr amgylchedd ffisegol yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod hwn a'r cyfnod dilynol, yr Oes Haearn.

    Gwyddom am nifer o safleoedd anheddu yn yr ardal sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, hwyrach mai'r safle mwyaf diddorol yw safle Hen Dre'r Mynydd (SAM Gm 101), Blaenrhondda, yr anheddiad diamddiffyn mwyaf yn ne-ddwyrain Cymru a ddyddiai o gyfnod yr Oes Efydd/Rhufeinig-Brydeinig (800CC-410OC), a safle o bwysigrwydd cenedlaethol. Lleolir y safle, fel enghreifftiau eraill o'i fath, ar rostir agored uchel; mae ei leoliad yn awgrymu anheddu tymhorol, pan symudwyd anifeiliaid i'r porfeydd uwch yn ystod yr haf. Mae'r olion i'w gweld dros ardal helaeth o dir sy'n goleddfu'n raddol i'r de-ddwyrain ac sy'n cynnwys rhes o dai crwn a llociau a sawl hyd o waliau, sy'n ffurfio pentref rhyng-gysylltiedig ag iddo batrwm unffurf. Pan gloddiwyd y safle ym 1921, datgelwyd fawr ddim ar wahân i ychydig bach o haearn a thystiolaeth o ledr. Gallai hyn awgrymu tlodi ond yn yr un modd gallai awgrymu natur dymhorol yr anheddu ar y safle. Ymddengys y bu'r anheddu yn barhaus gan bontio'r Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Ceir tystiolaeth o hyn yn olion y tai crwn yn Hendre'r Gelli sy'n dyddio o ddiwedd yr Oes Haearn/y cyfnod Rhufeinig-Brydeinig; cafwyd hyd i grochenwaith sy'n dyddio o'r 2il a'r 3edd ganrif ar y safle hwn yn ystod gwaith cloddio ar droad y ganrif. Mae'r anheddiad caerog ar gopa'r bryn yng Ngwersyll Maendy (SAM Gm 99) hefyd o gryn bwysigrwydd gan ei fod yn enghraifft brin o 'fryngaer' o'r Oes Haearn ym mlaenau Morgannwg. Mae'r safle, a gloddiwyd ym 1901, yn cynnwys lloc canolog bach ar siâp pedol wedi'i amgáu gan gloddiau allanol bylchog isel a rhwng y rhagfuriau mewnol ac allanol mae carnedd sy'n dyddio o'r Oes Efydd. Fel llawer o enghreifftiau eraill, ymddengys mai swyddogaeth fugeiliol yn bennaf fu gan anheddiad caerog Maendy, gyda'i leoliad ar esgair y bryn a'i loc canolog bychan a'r cloddiau â bylchau llydan rhyngddynt. Mae patrwm y safle yn awgrymu mai swyddogaeth o fagu anifeiliaid a'u diogelu oedd iddo yn hytrach nag amddiffyn tiriogaeth.

    Ni wyddom hyd a lled yr anheddu canoloesol cynnar yn yr ardal; fodd bynnag mae'n debygol i rywfaint o'r aneddiadau brodorol barhau i oroesi o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol/y cyfnod Rhufeinig. Yr unig arwydd pendant o anheddu o'r cyfnod canoloesol cynnar, y tu hwnt i'r system o groesgloddiau (gweler uchod), yw'r dystiolaeth a geir mewn enwau lleoedd e.e. Dinas a Bodrhyngallt a'r ffaith eglwysi'r ardal gael eu cysegru i'r Seintiau Celtaidd cynnar. Er enghraifft, mae'r ardal dirwedd hanesyddol yn cynnwys safle eglwys a gysegrwyd i Dyfodwg Sant o'r 6ed ganrif yn Nhon Pentre (eglwys plwyf Ystradyfodwg) ac ychydig y tu hwnt i'r ffin ddwyreiniol mae'r eglwys a gysegrwyd i Wynno Sant (Llanwynno). Ymddengys i'r ardal fod o dan ddylanwad y safle mynachaidd mawr a sefydlwyd gan Illtud Sant, Llanilltud Fawr. Mae'n arwyddocáol yn ôl pob tebyg bod Llanilltud Faerdre, safle arall sy'n gysylltiedig ag Illtud Sant, ychydig i'r de; mae'r elfen Faerdre yn awgrymu i'r eglwys fod yn gysylltiedig â maerdref anheddiad gweinyddol Brenhinol secwlar. Nodweddir yr ardal o amgylch eglwys Ystradyfodwg gan dir mwy llydan terasau'r afon a gynigiai dir amaethyddol mwy gwastad o ansawdd da a fyddai'n ddelfrydol ar gyfer anheddiad. Mae dwysedd uchel y ddau anheddiad cynharach, e.e. aneddiadau cynhanesyddol Gwersyll Maendy a Hendre'r Gelli, a'r anheddiad diweddarach, e.e. llwyfannau canoloesol ar Fynydd y Gelli a Mynydd Ton, ar y tir uwch sy'n amgylchynu'r ardal, hefyd yn awgrymu bodolaeth anheddiad a ddyddiai o'r cyfnod canoloesol cynharach, os nad ynghynt.

    Mae llawer iawn o'r nodweddion anheddu cynharach wedi diflannu yn sgîl datblygiadau diwydiannol a threfol ar hyd llawr y cwm yn ardal y dirwedd hanesyddol arbennig. Mae'r cofnodion cartograffig a thystiolaeth enwau lleoedd yn cynnig rhyw syniad o leoliad aneddiadau canoloesol ar lawr y cwm, fel y gwelir ar y tir uwch h.y. enwau lleoedd hafod a hendre. Dim ond ar yr ardaloedd ucheldirol uwch y mae nodweddion anheddu'r cyfnod hwn wedi goroesi. Yn bennaf, tai llwyfan neu gytiau hirion wedi'u gosod fel arfer mewn parau sy'n nodweddu'r patrwm anheddu; ymddengys fod gan yr anheddau ucheldirol hyn neu hafodau swyddogaeth dymhorol a'u bod yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fugeiliol, yn seiliedig yn bennaf ar fagu gwartheg. Mae safleoedd y tai llwyfan wedi'u lleoli fel arfer ar doriad uchaf y llethr ar ochrau'r cwm ar hyd ymylon y tir pori ucheldirol helaeth, ac mae'r lleoliad yn aml yn adlewyrchu'r graddau yr amgaewyd ac y tresbaswyd ar dir comin yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Hwyrach y byddai astudiaeth bellach o'r dystiolaeth gartograffig yn dangos cydberthynas rhwng dosbarthiad yr aneddiadau ucheldirol y gwyddom amdanynt ag aneddiadau ar lawr y cwm. Mae enghraifft o anheddiad ucheldirol canoloesol sydd wedi'i chadw'n dda i'w gweld yng Ngharn-y-wiwer, sy'n cynnwys dau grwp o dai llwyfan mewn pâr nodweddiadol (SAM Gm 323). I'r gogledd a'r dwyrain o'r tai llwyfan mae grwp o ryw 19 carnedd fechan sy'n gysylltiedig â thystiolaeth o aredig; hwyrach eu bod yn gyfoes, gyda'r carneddau yn cynrychioli deunydd a gliriwyd o'r caeau cyfagos. Ymhlith safleoedd eraill y cyfnod mae grwp o bedwar ty llwyfan ar Graig Tir Llaethdy, safleoedd tai llwyfan nodweddiadol Craig Rhondda-fach, Cwm Cesig, Cwm Lan, Mynydd Ty'n-tyle a Nant-y-Gwiddon, Mynydd y Gelli, Twyn Disgwylfa ac aneddiadau cytiau hirion yn y Cwm a Nant Saerbren. Gwyddom hefyd fod Hafodau anheddau amaethyddol ucheldirol tymhorol wedi'u lleoli yng Nghwm-y-fforch, Mynydd Ynysfeio, Garreg Lwyd, Blaenrhondda a Blaen-cwm a hefyd yn Hafod Fach, Hafod Fawr, Hafod Ganol a Hafod Uchaf, tra bod aneddiadau canoloesol amhendant yn bodoli ym Mhenrhiw Castell Llaeth. Ymhlith y nodweddion cysylltiedig sy'n perthyn i'r cyfnod canoloesol neu'r cyfnod ôl-ganoloesol mae clostiroedd neu ffaldau a oedd yn gysylltiedig â rheoli stoc, er enghraifft olion yn Ffald Lluest a Tharren Saerbren.

    Mae tai llwyfan, fel y rhai yng Ngharn-y-wiwer, ac olion yr hafodau drwy'r ardal gyfan yn adrodd hanes y modd y defnyddid yr ucheldiroedd, yn aml yn dymhorol ar gyfer ffermio gwartheg, a defaid yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar credir i'r system hafod-hendre gael ei disodli'n raddol gan newid mewn arferion bugeiliol. Y brif agwedd yw datblygiad oddi wrth symudiadau tymhorol grwpiau carennydd gyda'r gwartheg i fugeiliaid unigol wedi'u trefnu'n gymunedol. Ystyrir bod y safleoedd lluest yn perthyn i'r system ddiweddarach hon (Locock, 2000). Goroesodd y system llwythi Cymreig gyda'i harferion penodol, ei system gyfreithiol a'i hetifeddiaeth a daliadaeth dir yn hirach ym Mhenychan nag mewn ardaloedd ymhellach i'r de a fu'n agored ynghynt i oresgyniad y Normaniaid; mae'r effaith a gafodd hyn ar ddatblygiad amaethyddiaeth ôl-ganoloesol a'r daliadau amaethyddol eu hunain yn ddiddorol. Roedd y rhan fwyaf o'r ffermydd rhydd-ddaliad yn y Rhondda wedi'u sefydlu erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg; er na cheir dealltwriaeth lawn eto o'r prosesau a fu'n sail i'w datblygiad a'r dyddiad y digwyddodd hyn, ac felly mae angen astudiaeth fanwl bellach yn y maes hwn.

    Yn gyffredinol mae'r ffermydd ôl-ganoloesol sy'n goroesi wedi'u lleoli ar yr ochr waered mewn mannau cysgodol ar lethrau sy'n goleddfu'n raddol/esgeiriau. Mae'r ffermydd yn dyddio'n bennaf o'r 17eg ganrif ac yn bennaf ar ffurf y ty hir rhanbarthol, fel Nant Dyrys-uchaf (sydd wedi'i addasu'n sylweddol erbyn hyn) a fferm y Gelli (grwp cyntedd-aelwyd: tai hirion Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae llawer o'r ffermdai ôl-ganoloesol wedi diflannu yn sgîl twf diwydiannol a threfol y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, er bod nifer yn goroesi fel enghreifftiau o sawl amrywiad ar y ty hir rhanbarthol. Roedd y math hwn o ffermdy yn nodweddiadol yn y Rhondda yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif, lle byddai'r ffermwr, ei deulu, y gweision fferm a'r da byw oll yn byw o dan yr un to. Fel arfer roedd yr adeiladau hyn wedi'u trefnu ar ongl sgwâr i'r llethr gyda beudy ar y lefel is a'r ystafelloedd byw ar y lefel uwch yn aml gydag aelwyd ganolog rhyngddynt gan rannu mynedfa a oedd drwy'r beudy fel arfer.

    Yr enghraifft orau sydd wedi goroesi o'r ty hir yn y Rhondda yw Ty'n-tyle; roedd yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau'r 17eg ganrif ac mae iddo dau lawr a hanner, gyda'r aelwyd ganolog a phorth gwreiddiol i gyntedd uwch rhwng y neuadd a'r beudy, er bod mynedfa newydd â phortsh wedi'i hadeiladu yn syth i'r neuadd. Mae'r ffermdy hwn, sydd wedi'i osod mewn pant a gloddiwyd ar ongl sgwâr i lethr y bryn, yn nodweddiadol o gynllun y tai hirion: mae'r fynedfa sydd ar yr ochr i'r simnai ganolog, yn union rhwng y beudy, ar lefel is, a'r ystafelloedd byw; roedd y fynedfa allanol wreiddiol yn dod drwy'r beudy (ty hir tair uned gyda neuadd rhwng ystafell fewnol gul a'r beudy; grwp cyntedd-aelwyd: tai hir gyda chyntedd uwch, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Enghraifft debyg o hyn yw fferm Blaenllechau, a godwyd ar ddechrau'r 17eg ganrif ac a addaswyd ym 1761 a gynhwysai ty hir tair uned â neuadd, ystafell fewnol â lle tân a beudy gyda chyntedd uwch (grwp cyntedd-aelwyd: gyda chyntedd uwch, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Gellir gweld amrywiad ar y ty hir ym Modringallt (Bodrhyngallt), adeilad arall sy'n dyddio o'r 17eg ganrif, a nodweddir gan fynedfa uniongyrchol i ganol y ty ac nid oes ganddo simnai ganolog (Grwp mynediad uniongyrchol: ty simnai ar y pen, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Mae Hafod Fach hefyd yn nodweddiadol o hyn gyda mynediad uniongyrchol yng nghanol y ty a diffyg simnai ganolog (grwp mynediad uniongyrchol: ty simnai ar y pen: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Amrywiad diddorol arall ar thema'r ty hir yw ffermdy Troed-y-rhiw, sydd ag aelwydydd canolog a thalcen gyda mynedfa i'r ochr i'r simnai ganolog, er nad oes mynedfa uniongyrchol rhwng y beudy a'r ystafelloedd byw. Mae hwn yn dy tair uned, dau a hanner llawr gyda mynedfa drwy gyntedd sy'n dyddio o tua 1700, ac a ailadeiladwyd yn ddiweddarach (grwp mynedfa-cyntedd: tai simnai fewnol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru).

    Ymhlith mathau llai nodweddiadol o dai ôl-ganoloesol mae Fferm Tynewydd sef ty tair uned â'i simnai'n cefnu ar y fynedfa gyda phortsh lloriog a neuadd rhwng yr ystafelloedd mewnol ac allanol ag iddi le tân (grwp cyntedd-aelwyd: tai gyda neuadd ystafelloedd allanol a mewnol neu dy mynedfa-portsh math B) a deial haul dyddiedig 1652. Mae'r ffermdai yng Nghefn-llechau-uchaf a Thy-draw hefyd yn eithriadau ac wedi'u dosbarthu i'r grwp amrywiol (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Ymhlith yr adeiladau amaethyddol cyfoes mae ysgubor 4 cowlas sy'n dyddio o'r 18fed ganrif ym Mlaenllechau ac ysgubor 4 cowlas gyda chowlas ychwanegol yn creu sied gertiau a sied wartheg yn Hafod Fawr.

  • Tirweddau Amaethyddol

    Mae ychydig olion o'r dirwedd amaethyddol i'w gweld o hyd mewn mannau uwchlaw llawr y cwm, yn bennaf ar y llethrau mwy serth a'r cribau ucheldirol lle na fu'r datblygiadau diwydiannol mor ddwys. Er y bu amaethyddiaeth draddodiadol ardal y Rhondda yn seiliedig ar system o ffermio cymysg, yr elfen amlycaf fu'r elfen fugeiliol, magu da byw, ac mae'r cofnodion archaeloegol yn adlewyrchu hyn; er enghraifft mae nodweddion bugeiliol yn perthyn i fryngaer Oes Haearn Gwersyll Maendy ac mae ganddo gynllun sy'n fwy addas at gorlannu gwartheg yn hytrach nag amddiffyn ardal. Mae aneddiadau ucheldirol diwedd y cyfnod cynhanesyddol/Rhufeinig-Brydeinig ym Mlaenrhondda a Hendre-Gelli ill dau wedi'u cysylltu â llociau a hwyrach mai'r dehongliad gorau yw iddynt fod yn aneddiadau tymhorol a oedd yn gysylltiedig â'r porfeydd ucheldirol yn ystod misoedd yr haf.

    Fel yr amlinellwyd yn yr adran uchod ar anheddu, parhaodd y defnydd tymhorol hwn hyd at y cyfnod canoloesol; mae olion tai llwyfan canoloesol, systemau caeau creiriol cysylltiedig (e.e. yr anheddiad yng Ngharn-y-wiwer), llociau a hafotai, (e.e. yng Ngharreg Lwyd, Blaenrhondda ac ym Mlaen-cwm) yn dystiolaeth i'r defnydd parhaus hwn; tra bo lleoliadau'r prif aneddiadau gaeafol, neu'r hendre ar lawr y cwm wedi'u dynodi gan dystiolaeth gartograffig gynnar. Buasid wedi cadw gwartheg yn bennaf ond ceir tystiolaeth o ddefaid hefyd yn ystod y cyfnod canoloesol, yn enwedig ar dir hen faenor fynachaidd Mynachdy Penrhys lle bu'r Sistersiaid yn ffermio defaid hyd at ddechrau'r 14eg ganrif. Mae'n ddiddorol nodi i'r broses o rannu daliadaeth fynachaidd Penrhys yn brydlesi, a ddigwyddodd bryd hynny, gael ei hystyried yn rhywbeth a arweiniodd at greu ffiniau. Nid yw'n glir fodd bynnag, p'un a yw'r ffiniau hyn yn parhau fel nodweddion yn y dirwedd. Hwyrach ei bod yn fwy arwyddocáol i batrwm mwy rheolaidd o gaeau mwy o faint ddatblygu yn ardal y faenor. Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae'r tir caeëdig sy'n goroesi yn y Rhondda wedi'i nodweddu'n bennaf gan glytwaith o gaeau afreolaidd bach a chanolig eu maint, fel y dynodir ar fap y Degwm ac argraffiad cyntaf mapiau'r Arolwg Ordnans, gyda'r llethrau mwy serth, yn enwedig yn y Rhondda Fach wedi'u gorchuddio'n bennaf gan goetir. Waliau cerrig sychion yn bennaf oedd y ffiniau a nodai hyd a lled y modd y caewyd y tir ac y tresmaswyd ar dir comin y llethrau yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, er bod cloddiau a gwrychoedd i'w gweld hefyd.

    Mae olion ffisegol amaethyddiaeth ôl-ganoloesol yn cynnwys corlannau, llochesau defaid, cytiau anifeiliaid a safleoedd lluest. Roedd y lluest yn lloches ucheldirol a ddefnyddid, yn ôl pob tebyg, gan fugeiliaid unigol yn dymhorol; ac yn wir mae traddodiad yn ategu hyn. Er i fagu gwartheg barhau yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, daeth ffermio defaid yn gonglfaen i amaethyddiaeth yn y Rhondda ac yng ngweddill ardal y Blaenau. Arferai ffermwyr yr ardal fynychu'r marchnadoedd neu'r ffeiriau yng Nghastell-nedd, Merthyr, Llantrisant, Ynys-y-bwl a Llandaf gan ddefnyddio porthmyn, lle y bo angen i symud da byw i farchnadoedd ymhellach i ffwrdd. Y prif ffyrdd allan o'r Rhondda a ddefnyddid gan y porthmyn oedd i'r gogledd drwy Flaenrhondda a Chomin Hirwaun i Henffordd ac i'r de drwy Lantrisant.

    Er mai bugeiliol oedd yr amaethyddiaeth yn bennaf, llwyddwyd i gynnal cynhyrchiant cyfyngedig ond digonol o gynnyrch âr, sef ceirch, barlys a gwenith yn bennaf ynghyd â'r cnydau gwraidd traddodiadol. Arferid tyfu yd yn y caeau mwy ffrwythlon ar wastatir llifwaddodol a dolydd y Rhondda Fawr ym Mhenyrenglyn, y Gelli a Llwynypia ac yng nghymoedd ochrol Cwm-parc a Fforch. Yn y Rhondda Fach, dim ond yn Ynys-hir y caed dolydd iseldirol; mewn mannau eraill tyfid cnydau grawn ar derasau ar lethrau'r cwm, lle y lleolid y ffermydd gan amlaf. Arferid tyfu ceirch yn rheolaidd yn y cymoedd a chyfeiriwyd yn aml at ardal Glynrhondda fel Gwlad y Gyrchen yn ôl traddodiad. Nododd John Leland a ymwelodd â'r ardal yn ystod y 16eg ganrif ei bod yn ardal '..meatly good for Barle and Otes but little Whete'. Anaml iawn y tyfid cnydau ar y llwyfandir uchel ei hun - dim ond mewn cyfnodau o galedi mawr; o ganlyniad i brinder cnydau grawn yn sgîl y rhyfeloedd hir â Ffrainc a chyfyngiadau'r Deddfau Yd, roedd rhyg a cheirch yn cael eu tyfu ar uchder o 275m ar Benrhys ac uwchlaw Fferm Glynfach yn y Porth.

    Fe barhaodd ffermio yn y Rhondda yn ôl y dulliau traddodiadol yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif; parheid i ddefnyddio'r aradr wedi'i dynnu gan ych yn ogystal â'r car llusg a'r ffustiau traddodiadol. Dim ond ar ôl 1850 y gwelwyd gwelliant yng nghyflwr amaethyddiaeth yn y Rhondda yn sgîl marchnadoedd diwydiannol cynyddol a diwedd y dirwasgiad amaethyddol. Yn yr un modd, hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a datblygiad y diwydiant glo parhaodd cymeriad gwledig y Rhondda gyda'i goetir cymysg a'i dirwedd ucheldirol anial. Ddechrau'r 19eg ganrif yr unig eithriadau i'r olygfa wledig oedd ambell i bentref bach glofaol, megis Hafod, y Cymer a Dinas yn y Rhondda Isaf a'r aneddiadau glofaol llai yng Nghwm Clydach ac Ynys-hir yn y Rhondda Fach. Cyfeiriodd Benjamin Heath Malkin (1769-1842) a ysgrifennai ym 1803 at brinder unrhyw aneddiadau o bwys yn yr ardal y tu hwnt i'r grwpiau achlysurol o fythynnod gweithwyr ym Mhenyrenglyn, Ystrad a Phontygwaith.

    Esgorodd amaethyddiaeth ar amrywiaeth o grefftau, masnachau a diwydiannau bach, a oedd yn nodweddiadol o gymuned wledig anghysbell a hunan-gynhaliol. Roeddent yn cynnwys gofaint, seiri maen, llifwyr, cowpwyr, gwneuthurwyr gwlân, gwehyddion, teilwriaid, towyr a chryddion. Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif defnyddid melinau dwr i brosesu gwenith, barlys a cheirch; gyda melinau lleol yng Nghwmsaerbren a Glyncoli yn y Rhondda Fawr uchaf, Melin-yr-Om ( y felin ganoloesol a oedd yn gysylltiedig â maenor fynachaidd Penrhys) yng nghanol y Rhondda, a melinau yn y Pandy, Dinas a Thy'n-y-cymer a wasanaethai'r Rhondda isaf. Byddai defaid yn cael eu cneifio ar ddiwrnodau cneifio cymunedol a thra neilltuwyd gwlân du er mwyn gweu hosanau, nyddwyd y gweddill yn edafedd ar droellau cartref neu ei weu i frethyn; aethpwyd â'r cynnyrch gorffenedig i'r pandy, neu'r felin bannu, yn yr achos hwn i'r ffatri wlân a'r pandy yn Nhonypandy a sefydlwyd ym 1738 gan Harri David.

    Roedd coedwigoedd yr ardal hefyd yn allweddol i'r economi wledig leol. Mae'r dystiolaeth gartograffig, megis mapiau AO 1814 neu fap Colby dyddiedig 1833, yn dangos bod coetir trwchus i'w gael yn y ddau brif gwm; ategwyd y ffaith hon gan ddisgrifiadau teithwyr i'r ardal o Thomas Leland i Thomas Roscoe ynghyd â'r dystiolaeth a welir yn yr enwau lleoedd niferus sy'n cynnwys y geiriau coed, coedcae a gelli. Roedd coedwigaeth yn ffynnu yn yr ardal yn ystod dechrau'r 19eg ganrif; roedd y Llynges yn derbyn cyflenwadau o goed o'r Rhondda yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Roedd diwydiannau eraill a oedd yn ymwneud â choed yn cynnwys llosgi golosg, mae sawl llwyfan neu aelwyd gols a oedd yn gysylltiedig â llosgi golosg yn goroesi yn yr ardal, ee Blaenrhondda a'r Gelli, tra defnyddid rhisgl gan y diwydiant barcio. Er i gonifferau gael eu plannu yn helaeth ar draws ucheldiroedd y Rhondda yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, mae'r hyn sy'n goroesi heddiw o'i hen goetir cymysg a thoreithiog yn weddill bychan iawn. Yn dilyn tranc diwydiant glofaol yr ardal a diwedd ar y gwaith o dorri coed ar raddfa helaeth ar gyfer y pyst cynnal yn y pyllau glo, mae'r coetir hwn yn graddol adfywio unwaith yn rhagor.

  • Tirweddau milwrol ac amddiffynnol

    Prin yw'r tirweddau amddiffynnol neu filwrol gwirioneddol sydd gan y Rhondda; yr adeiladwaith cynharaf a 'amddiffynnwyd' sydd wedi goroesi yn yr ardal yw anheddiad caerog Gwersyll Maendy (SAM Gm 99) o'r Oes Haearn (800CC - 1000C) ar Fynydd Maendy sy'n edrych dros Gwm-parc. Mae Gwersyll Maendy yn enghraifft brin yn ucheldiroedd Morgannwg o fryngaer sy'n dyddio o'r Oes Haearn; cloddiwyd y safle ym 1901 ac mae'n safle sy'n nodweddiadol o safle 'bugeiliol' gyda phatrwm sy'n cynnwys lloc canolog bach ar siâp pedol wedi'i amgáu gan gloddiau allanol bylchog isel. Mae natur y safle yn awgrymu swyddogaeth corlannu da byw yn hytrach nag amddiffyn tiriogaeth. Mae'r enw lle Dinas hefyd yn awgrymu gwersyllfan neu anheddiad amddiffynnol a ddyddiai o'r Oes Haearn neu gyfnod canoloesol cynnar, er na wyddom am fodolaeth unrhyw anheddiad o'r fath yn ardal y fferm ôl-ganoloesol neu'r anheddiad presennol sy'n dwyn yr un enw yn y Rhondda isaf. Uwchlaw Blaenllechau fodd bynnag mae'r gwersyll cyrch Rhufeinig Twyn-y-Briddallt (SAM Gm 259), gwersyllfan dros dro sy'n dyddio o'r ganrif gyntaf. Dim ond dau adeiladwaith amddiffynnol arall sydd yn yr ardal, ac maent ill dau yn dyddio o'r cyfnod canoloesol, yn benodol, olion y mwnt yn Ynysygrug a safle'r castell canoloesol Castell Nos (SAM Gm 408), yn y Maerdy; roedd y cyntaf a oedd yn gysylltiedig, yn ôl pob tebyg, â chyrchoedd cynharaf y Normaniaid yn yr ardal, wedi'i ddinistrio ymron yn llwyr wrth i Reilffordd y Taff Vale gael ei hadeiladu yn ystod y 19eg ganrif, tra bod y safle olaf, a oedd, fwy na thebyg, yn gadarnle Cymreig brodorol i Maredudd ap Caradog ab Iestyn, arglwydd Cymreig Meisgyn yn ystod diwedd y 12fed ganrif, wedi'i gadw'n well gydag amddiffynfeydd sy'n cynnwys sgarp a ffos wedi'i wneud gan ddyn i'w gweld ar yr ochrau gogleddol a gorllewinol.

  • Parcdir a Thirweddau Hardd

    Mae ffynonellau dogfennol yn cyfeirio at ddau barc hela canoloesol yn Arglwyddiaeth Glynrhondda ac mae un ohonynt, Parc Cwm Brychinog wedi'i leoli o fewn ardal Tirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda. Mae tystiolaeth i'r ardal hon fod yn Barc ar un adeg i'w gweld yn enwau'r ffermydd Parc-chaf a Pharc-isaf a'r cwm ei hun, Cwm-parc. Rhannwyd Parc Cwm Brychinog i'r ffermydd Parc-uchaf a Pharc-isaf, Cwmdâr a Bwlch-y-Clawdd yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Mae natur arwahanol ardal y parc a'i ffiniau i ryw raddau wedi'i hatgyfnerthu gan ei sefyllfa a'i lleoliad daearyddol, sef mewn cwm ochrol, gyda tharenni rhewlifol serth o'i hamgylch.

    Ceir cyfeiriadau at agwedd naturiol tirwedd y Rhondda mewn ffynonellau eraill; denwyd teithwyr a detholwyr gweithiau topograffig yn ystod dechrau'r 19eg ganrif gan dirwedd wyllt a choediog yr ardal - yr enwocaf o'u plith oedd Benjamin Heath Malkin (1769-1842). Ac yntau'n ysgrifennu ym 1803, nododd Malkin brinder unrhyw anheddu o bwys yn yr ardal a'r argraff a wnaeth 'undeb gwylltineb a thoreth', gan ddisgrifio rhan isaf Cwm Rhondda Fawr fel ardal â 'chyferbyniad o ddolydd toreithiog ac ir, gyda mynyddoedd gwyllt a rhamantaidd yn eu hamgylchynu, yn ei gwneud yn ardal hynod hardd'. Disgrifia rhan uchaf y Rhondda Fawr fel tirwedd 'mor annofadwy wyllt ag y gellid ei ddychmygu'. Gwnaeth yr ardal argraff ar awduron gweithiau topograffig mawr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y Parch. T Rees a S Lewis tra disgrifiwyd yr ardal fel 'ardal wyllt a mynyddig lle'r oedd natur yn teyrnasu mewn tawelwch cadarn a di-dor' gan Thomas Roscoe ym 1836 yn Wanderings through South Wales. Hyd yn oed mor ddiweddar â 1847, roedd y teithiwr Charles Frederick Cliffe yn disgrifio'r ardal fel 'perl De Cymru nad oes mo'i thebyg yn y Gogledd Alpaidd'. Er gwaethaf effeithiau dros gant a hanner o flynyddoedd o gloddio am lo a phlanhigfeydd helaeth mwy diweddar y Comisiwn Coedwigaeth, mae natur wyllt ysblennydd ochrau uwch y cwm a'r mynyddoedd yn parhau; fodd bynnag mae tirweddau ochrau is y cymoedd a'i lloriau wedi'u trawsnewid yn llwyr.

  • Trafnidiaeth a Chysylltiadau

    Y rhwydweithiau cyswllt cynharaf y gwyddom amdanynt yn yr ardal yw'r llwybrau cefnffyrdd (ee Heol Adam) sy'n rhedeg ar hyd y tair cefnen de-ddwyreiniol, Cefn-gwyngul, Cefn-Rhondda a Mynydd Meyrick a'r llwybrau sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws gogledd yr ardal uwchben Llyn Fawr a thrwy Maendy dros Fwlch-y-clawdd yng Nghwm Garw. Ystyrir i'r llwybrau hyn gael eu defnyddio, yn ôl pob tebyg, ers cyfnodau cynhanesyddol ac mae'r Ffordd Rufeinig rhwng y caerau yng Nghastell-nedd a Phenydarren yn dilyn llinell un o'r llwybrau hyn. Ymddengys i'r llwybrau hyn oroesi hyd at gyfnod yr Oesoedd Canol gyda mynediad iddynt yn cael ei reoli gan system o groesgloddiau canoloesol cynnar (8fed - 9fed ganrif), h.y. Ffos Toncenglau (SAM Gm 118), un arall ger Bedd Eiddil ym Mryn-du (SAM Gm 285), ym Mwlch-yr-Afan (SAM Gm 246) ac ym Mwlch-y-Clawdd (SAM Gm 500), oll wedi'u lleoli mewn safleoedd strategol ar yr hyn sy'n ymddangos fel ffiniau gweinyddol y cyfnod.

    Mae'r rhwydwaith o isffyrdd a thraciau a llwybrau sy'n arwain dros ochrau'r cwm i'r ucheldiroedd yn dyddio o'r cyfnod cyn-ddiwydiannol ac fe'u dynodir ar argraffiad cyntaf yr Arolwg Ordnans, y map Degwm ynghyd â mapiau cynharach. Ymddengys i nifer o'r llwybrau cyswllt esblygu i gysylltu safleoedd canoloesol a safleoedd sy'n dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, megis canolfannau eglwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar yn Ystradyfodwg a Llanwynno; yn ogystal â chanolfannau gweinyddol sifil megis Bodrhyngallt a'r Maerdy. Credir i'r rhwydwaith hwn ddatblygu'n fwy cymhleth erbyn dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar i wasanaethu'r rhydd-ddaliadau amaethyddol a gâi eu sefydlu o ddiwedd y cyfnod canoloesol ymlaen. Ymddengys i hwylustod cysylltiadau fod yn ystyriaeth bwysig wrth leoli maenor fynachaidd Mynachdy Penrhys gyda'i llety; byddai'r ganolfan bererindota wedi'i lleoli ar un o'r llwybrau pererindota niferus, gan ddilyn y llwybr cefnffordd traddodiadol yn y fan hon a oedd hefyd yn rhoi mynediad i'w tiriogaeth ac i'r cymoedd cyfagos. Dim ond yn y cyfnod ôl-ganoloesol y disodlwyd y llwybrau cefnffyrdd cynnar fel y prif lwybrau drwy'r ardal gan ffordd y plwyf ar hyd gwaelod y cwm lle y datblygodd yr aneddiadau trefol diwydiannol yn y pen draw.

    Gwyddom i'r ffordd a ddefnyddid yn draddodiadol gan y porthmyn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol adael yr ardal i'r gogledd, drwy Flaenrhondda, Garreg Lwyd a Mynydd Beili-glas yn y cofnod cartograffig. Mae'n debyg y byddai llwybrau eraill wedi cael eu defnyddio a byddai astudiaeth bellach o'r pwnc hwn yn fuddiol.

    Roedd llawer o'r twristiaid a'r awduron topograffig a ymwelodd â'r Rhondda yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif yn cwyno am gyflwr gwael y llwybrau cefnffyrdd a cheir cofnodion rheolaidd ynghylch esgeulustod dyletswydd y gwaith ffordd statudol gan y Llys Cantref yn Llantrisant a Goruchwylwyr y Priffyrdd; cofnododd Goruchwylwyr y Priffyrdd ym 1815 fod ffordd y plwyf yn Ystradyfodwg mewn 'cyflwr hynod ddifrifol' tra bod adroddiadau mor ddiweddar â 1845 yn cadarnhau nad oedd fawr ddim wedi newid. Cyn 1860 un o'r prif rwystrau o ran teithio oedd prinder pontydd da; prin oedd y pontydd yn y Rhondda gan mai rhydau oedd y dull arferol o groesi afonydd yr ardal. Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, prif bontydd yr ardal oedd y ddwy bont yn y Cymer, Y Bont Fawr (o garreg ac a ailadeiladwyd ym 1764, ac a gostiai rhwng £20 a £30 y flwyddyn i'w hatgyweirio) dros Afon Rhondda Fawr a'r Bont Fach (o bren) dros Afon Rhondda Fach a phontydd eraill ym Mhont Rhondda, Clydach, Ynyswen, Ystradyfodwg a Phont-Rhyd-Tew yn y Rhondda Fawr ac yn y Rhondda Fach roedd pont grwca yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ym Mhontygwaith ac ym Mhont Lluest-wen roedd pont un bwa yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Er i fân newidiadau gael eu gwneud i ffordd y plwyf, daeth tramffordd Dinas ac yna Reilffordd y Taff Vale yn brif ddolen gyswllt ar gyfer ardal ddiwydiannol newydd y Rhondda isaf.

    Gyda datblygiadau diwydiannol ym mlaenau Cwm Rhondda rhwng 1860 a 1880, cyflymodd y broses o wella'r rhwydwaith ffyrdd. Cychwynnwyd y gwaith gan Ymddiriedolwyr Bute a osododd ffordd 50 troedfedd o led ar draws eu heiddo, Stryd Bute, Treherbert a'r Stryd Fawr yn Nhreorci ar hyd llwybr ffordd y plwyf. Yn ddiweddarach rhoddwyd wyneb ar y ffordd yn yr ardal hon ar ôl y 1890au gyda chlincer a gwenithfaen a thar yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Problem gyffredin a wynebwyd oedd ymsuddiant yn sgîl gwaith tanddaear a olygai y bu'n rhaid gwneud gwaith adfer ar bontydd a ffyrdd. Bu'n rhaid gwneud cryn dipyn o waith i ailgodi'r ffordd yn sgîl tirlithriad y Pentre ym 1916 pan fu ond y dim i'r cyswllt rhwng rhan uchaf y Rhondda a rhan isaf y Rhondda gael ei dorri. Yn ddiweddarach yn ystod y 1920au gwelwyd alinio dwy o'r ffyrdd traddodiadol allan o'r Rhondda Fawr ym Mlaenrhondda (h.y. ffordd bresennol yr A4061), ychydig yn uwch i fyny'r llethr na'r llwybr cynharach a'r ffordd honno drwy Gwm-parc, sef Ffordd yr A4061/A4107 bresennol i gymoedd cyfagos Cwm Afan a Chwm Ogwr.

    Crybwyllwyd eisoes tramffyrdd cynnar Dr Griffiths a gysylltai Hafod, drwy gyfrwng Camlas y Meddyg i Gamlas Morgannwg yn Nhrefforest ym 1809, a thramffordd Walter Coffin a agorwyd erbyn diwedd 1810. Bu'r tramffyrdd hyn yn gyfrifol am gysylltu ardal lofaol y Rhondda isaf â'i marchnadoedd, er i wrthdaro buddiannau godi yn ddiweddarach dros fonopolïau cludiant yn yr ardal.

    Yn ddiau, y datblygiad mwyaf arwyddocáol o ran trafnidiaeth yn ardal yr astudiaeth oedd adeiladu Rheilffordd y Taff Vale ac yn ddiweddarach Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe. Roedd Rheilffordd y Taff Vale a oedd wedi cyrraedd Eirw ym 1841, wedi'i hymestyn drwy'r Rhondda Fawr i gyd erbyn 1856. Roedd gwaith i ddatblygu cyswllt â rhan isaf y Rhondda wedi dechrau ym 1845 ar gais entrepreneuriaid glo lleol, Insole, Gethin a Lewis Edwards a oedd ar fin agor pyllau yn y Cymer a Nythbran. Er i Linell y Rhondda Fach gyrraedd Ynys-hir erbyn mis Mawrth 1849 ac erbyn mis Mai y flwyddyn honno roedd Llinell y Rhondda Fawr wedi cyrraedd Dinas, cafwyd oedi cyn ei hymestyn ymhellach hyd nes yr oedd haenau glo ager rhannau uchaf y Rhondda wedi'u profi ym 1853. Yn dilyn hynny, yn unol â Deddf Estyniadau 1846, ymestynnodd Cwmni Rheilffordd y Taff Vale y llinell hyd Tynewydd, gan gyrraedd Gelligaled erbyn Rhagfyr 1855 a Phwll glo'r Bute Merthyr yn Nhreherbert ym mis Awst y flwyddyn ganlynol. Adeiladwyd llinell ychwanegol i gysylltu ag inclein Pwll glo Cwmclydach ym Mhwllyrhebog ar ôl 1858 ac ymestynnwyd y llinell yn y Rhondda Fach o Ynys-hir i Flaenllechau yn y flwyddyn ganlynol yn sgîl y dybiaeth y byddai'r pyllau glo ym Mhontygwaith a Glynrhedynog yn llwyddo i ddod o hyd i'r haenau glo ager. Roedd Rheilffordd y Taff Vale a Doc Gorllewinol Bute yn allweddol wrth sefydlu ardal y Rhondda fel ardal o bwys ym maes cynhyrchu glo. Erbyn 1862, roedd Rheilffordd y Taff Vale wedi'u hymestyn i Dreherbert yn y Rhondda Fawr a Glynrhedynog yn y Rhondda Fach, gyda gwasanaethau i deithwyr yn dechrau yn Nhreherbert y flwyddyn ganlynol a gwasanaeth tebyg i Glynrhedynog erbyn 1876. Agorwyd llinell breifat (o eiddo Mordecai Jones) y flwyddyn ganlynol rhwng Glynrhedynog a'r Maerdy.

    Ymgorfforwyd Rheilffordd Cwm Elái rhwng Rheilffordd de Cymru a'r Lefel lo gyntaf ym Mhen-y-graig ar 13 Gorffennaf 1857, a'i chwblhau ym 1860. Ym 1877 ymestynnwyd y llinell hon i Byllau Glo y Cambrian yng Nghwm Clydach. Ymddangosodd rhwydweithiau rheilffordd newydd ar ôl 1880 gan dorri monopoli Rheilffordd y Taff Vale ac ystad Bute ar gludiant rheilffordd yn y Rhondda. Yn gyntaf ar ffurf Rheilffordd y Barri a Dociau'r Barri o dan gyfarwyddyd perchenogion glo nodedig ac eraill, David Davies (Pwll Glo'r Ocean), Crawshay Bailey (perchennog eiddo mwynau helaeth), Lewis Davis (Glynrhedynog), Archibald Hood (Llwynypia), John Cory (y Gelli), James Insole (y Cymer) ac Edmund Hanney (y National, Wattstown). Roedd y llinell, a gwblhawyd o'r Barri i Hafod ym 1889 yn allweddol i dwf diwydiant glo'r Rhondda o'r 1880au gyda'r glo a'r golosg a gludwyd yn cynyddu o 720,347 a 9,171 o dunelli ym mis Rhagfyr 1889 i 1,386,435 a 34,254 o dunelli ar ei anterth ym mis Mehefin 1892. Er na fu'r cynllun i gysylltu pen uchaf y Rhondda Fawr â'r Dociau yn Abertawe mor llwyddiannus ag y rhagwelwyd yn wreiddiol; dyma oedd Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe, a ymgorfforwyd ym mis Awst 1882 ac a godwyd fesul cam gan gyrraedd pen uchaf y Rhondda a Threherbert drwy Dwnel y Rhondda ar 2 Gorffennaf 1890. Cwblhawyd y cyswllt ag Abertawe ym mis Rhagfyr 1894. Mae llawer o rwydwaith rheilffordd yr ardal wedi diflannu yn sgîl dirywiad diwydiannol yr ardal gyda'r llinell rhwng Treherbert a'r Porth yn goroesi, fodd bynnag mae'r hen lwybrau i'w gweld yn gyffredinol fel hafnau ac argloddiau.

    Roedd nifer o dramffyrdd bychain ac incleiniau yn aml yn gysylltiedig â'r brif reilffordd. Roeddent yn gysylltiedig â phyllau glo a chwareli cerrig amrywiol yr ardal gan gynnwys y system halio inclein rheolaidd yng Nghefn Ynysfeio (SAM Gm 508) lle y mae'r cwt halio i'w weld o hyd ymhlith nifer o adeiladau eraill, inclein a thramffordd pwll glo'r National yn Wattstown, inclein y dramffordd (gyda'r cwt injan) i bwll glo Coedcae (2il argraffiad AO 1900), sef y Lewis Merthyr Consolidated yn ddiweddarach yn Hafod a'r enghraifft fwy diweddar uwchben Ynys-hir. Mae'r nodweddion segur hyn yn parhau'n elfennau amlwg yn y dirwedd sy'n arwyddion gweladwy o'r rhwydweithiau cludiant diwydiannol a fu unwaith yn chwarae rhan mor hanfodol yn natblygiad yr ardal.

    Yn sgîl y cynnydd ym mhoblogaeth y Rhondda yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, agorwyd Rheilffordd y Taff Vale i wasanaethau i deithwyr a chyflwynwyd gwasanaethau'r omnibws ceffyl yn ystod y 1860au mewn sawl man. Erbyn 1888 roedd y system gyntaf o dramiau wedi'u tynnu gan geffylau wedi'i chyflwyno i'r Rhondda isaf er mwyn ymdopi â'r cynnydd yn y galw ond daethpwyd â'r gwasanaeth hwn i ben erbyn 1902 oherwydd problemau â chyflwr y ffyrdd. Yn yr un flwyddyn dyfarnwyd pwerau i Gynghorau Dosbarth Trefol y Rhondda a Phontypridd i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Pontypridd a'r Porth. Yn Neddf Tramffyrdd y Rhondda amlinellwyd sefydliad tramffyrdd trydanol newydd o'r Porth i Dreherbert a Glynrhedynog. Ffurfiwyd Rhondda Tramways Co. Ltd ym 1906 ac ymgorfforwyd y Rhondda Tramways Electric Supply Co.Ltd y flwyddyn ganlynol i gyflenwi'r trydan. Dechreuodd y gwasanaeth newydd ym mis Gorfffennaf 1908 a redai rhwng Trehafod a Ffordd Partridge yn y Rhondda Fawr a Phontygwaith yn y Rhondda Fach, erbyn 1912 roedd estyniadau pellach wedi'u hagor rhwng Glynrhedynog a'r Maerdy, Pen-y-graig a Threwiliam a Threherbert a Thy-newydd. Er iddynt roi'r gorau'r i'r system Dramffordd ym mis Rhagfyr 1933 yn y Rhondda Fawr ac erbyn mis Chwefror y flwyddyn ganlynol yn y Rhondda Fach o ganlyniad i'r cynnydd ym mhoblogrwydd y gwasanaethau bysys, mae ei heffaith ar y patrwm anheddu rhwng Glynrhedynog a'r Maerdy yn y Rhondda Fach yn arbennig o amlwg.

  • Cefndir Diwydiannol

    Cyn i'r diwydiant glo dra-arglwyddiaethu yn yr ardal, roedd y Rhondda'n gymharol anniwydiannol. Ar wahân i'r chwareli cerrig bach lleol a ddefnyddid at ddibenion amaethyddol a domestig a'r diwydiannau gwledig nodweddiadol fel pren, golosg, pannu a melino a grybwyllwyd uchod, ymddengys mai'r unig ddiwydiant cynnar arall oedd gwaith haearn bychan ym Mhontygwaith a nodwyd fel hen ffwrnais ar argraffiad cyntaf map Arolwg Ordnans (arolygwyd ym 1875, 1884).

    Cloddiwyd am lo yn yr ardal ers yr 17eg ganrif. Ceir tystiolaeth o gloddio am lo ar raddfa fechan ar fapiau ystadau sy'n dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif. Nododd Lewis i ddatblygiad y diwydiant glo rannu'n ddau gyfnod penodol, gydag agor y pwll glo ager cyntaf ym 1855 yng Nghwmsaerbren (Treherbert) yn nodi'r ffin rhwng y ddau gyfnod. Nodweddwyd y cyfnod cyntaf o gloddio am lo, tua 1809 a 1855, gan waith cloddio glo pyg yn ardal y Rhondda isaf drwy gyfrwng lefelau bychan a phyllau bas a gloddiwyd gan arloeswyr unigol; yn yr ail gyfnod 1855-1924 gwelwyd twf aruthrol y diwydiant ym mhob rhan o gymoedd y Rhondda yn dilyn profi glo ager o'r radd flaenaf ac adeiladu'r seilwaith rheilffyrdd ategol. Hefyd agwedd nodedig yng nghyd-destun y datblygiadau trefol a diwydiannol oedd y cynnydd cyflym yn nifer y chwareli cerrig, sy'n amlwg ar 2il a 3ydd argraffiad y mapiau AO, a oedd yn cyflenwi'r diwydiant adeiladu â symiau cynyddol o'r Tywodfaen Pennant lleol.

    Yr ysgogiad effeithiol cyntaf ar gyfer datblygiadau diwydiannol y Rhondda oedd agor Camlas Morgannwg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd ym 1798; roedd cysylltu Camlas Morgannwg â Hafod yn Nhrefforest drwy Broadway gan dramffordd Dr Richard Griffiths erbyn 1790 a phrydlesi hawliau mwynau i Jeremiah Homfrey ar ran o fferm Hafod Fawr, oll yn ffactorau hanfodol i ddatblygiad y Rhondda.

    Er i Jeremiah Homfrey weithio ar Lefel Hafod o 1809 hyd ei fethdaliad ym 1813, ystyrir mai Walter Coffin (1785-1867) oedd arloeswr diwydiannol cyntaf ac amlycaf y Rhondda ac mai ef a sefydlodd enw da'r Rhondda fel ffynhonnell y glo pyg gorau yn Ne Cymru. Coffin oedd y cyntaf i agor lefelau a gwyddom am o leiaf bump ohonynt, ac erbyn 1811 roedd wedi cysylltu ei waith yn Ninas, Gwaunadda a Graig-ddu drwy dramffyrdd yn cysylltu â Thramffordd Griffiths. Darganfuwyd yr haen lo Rhif 3 y Rhondda yn ei bwll cyntaf, Dinas Isaf a agorwyd ym 1812, sef y cyntaf yn y Rhondda. Daeth y glo o'r haen honno, a farchnatwyd yn wreiddiol fel 'Dynas No 3' yn enwog fel 'glo enwog Coffin' a ystyrid yn dda at ddibenion golosg a gwaith gofaint. Ehangwyd y fenter drwy agor cyfres o byllau, pwll glo Dinas Canol (1832), Haen Brithweunydd (1839) a phwll glo Gellifaelog (1845), cysylltu tramffordd Coffin â Rheilffordd y Taff Vale yn Eirw a'r marchnadoedd tramor cynyddol. Erbyn 1845 Dinas oedd y pwll glo 'glo morol' mwyaf (h.y. nad oedd yn gysylltiedig â gweithfeydd haearn) yn ucheldiroedd Morgannwg gyda chynhyrchiant blynyddol o dros 50,000 o dunelli.

    Yn ystod y 1840au gwelwyd datblygiadau pellach yn yr haenau glo yn y Rhondda isaf yn sgîl cyfuniad o ffactorau fel agor Rheilffordd y Taff Vale yn y Rhondda isaf, technegau cloddio gwell, agor Doc Gorllewinol Bute yng Nghaerdydd a'r cynnydd yn y galw. O 1844 roedd George Insole a'i fab James Harvey Insole yn gweithredu yn y Cymer; gan yrru Lefel De Cymer i haen lo Rhif 2 y Rhondda yn wreiddiol. Ym 1847 agorwyd Hen Bwll y Cymer i haen lo Rhif 3 ac yna bwll glo Cymer Uwch (Haine's Pit) ac yn ddiweddarach ym 1855, bwll glo'r New Cymer. Agorwyd lefelau a phyllau bychan gan nifer o hapfasnachwyr unigol yn yr ardal gyfagos yng Nglynfach, Bedw, y Porth, Llwyncelyn a Nythbran. Yn ystod blwyddyn ffyniannus 1845 agorwyd pwll glo Gyfeillion gan John Calvert, tra agorwyd eraill yn y Rhondda Fach a Chwmclydach, fel Cwmni Glo Ynys-hir Shepherd ac Evans, pwll Troedyrhiw Leonard J Hadley a'i Gwmni a Phwll Glo Tynewydd James Thomas a oedd hefyd yn gyfrifol am ehangu Troedyrhiw tra roedd William Perch a'i Gwmni yn gweithredu yng Nghwm Clydach o amgylch canol y ganrif.

    Cyn 1855 y farn gyffredinol oedd na fyddai'n bosibl cloddio'r haenau glo ager dyfnach a weithiwyd yn helaeth yng Nghwm cyfagos Aberdâr yn y Rhondda ei hun. Yn dilyn cynnig Rheilffordd y Taff Vale o £500 i'r person cyntaf i agor pwll i ddyfnder o 120 o lathenni islaw gwely'r afon yn rhan uchaf y Rhondda, ystad Bute oedd y cyntaf i ymchwilio i botensial llawn yr ardal gan agor pwll arbrofol ar eu tir yng Nghwm Saerbren ym 1851 ar gyngor eu hasiant mwynau, W S Clarke. Maes o law, cyrhaeddwyd glo ager yr haen pedair troedfedd uwch ar ddyfnder o 125 o lathenni ac ar 21ain Rhagfyr 1855 dosbarthwyd y glo ager cyntaf i Gaerdydd ar hyd Rheilffordd y Taff Vale a oedd newydd ei hymestyn: carreg filltir arwyddocáol yn natblygiad y gwaith glo yn y Rhondda. Yn sgîl llwyddiant ystad Bute, dechreuodd David Davis, perchennog pwll yn Aberdâr waith cloddio arbrofol ym Mlaenllechau yn y Rhondda Fach ym 1857. Ar ôl cryn anhawster cyrhaeddwyd yr haen pedair troedfedd ym 1862 ar ddyfnder is o 278 o lathenni. Ar yr un pryd estynnwyd Rheilffordd y Taff Vale hyd at Flaenllechau.

    Araf iawn y bu'r gwaith o gloddio'r glo ager ar y dechrau, dim ond tri phwll newydd, sef y Bute Merthyr, Tyle-coch ac Ynysfeio a agorwyd yn y Rhondda Fawr cyn 1846, wrth i'r entrepreneuriaid ganolbwyntio'u hymdrechion ar gloddio'r glo uwch yn enwedig ym Mhentre, Bodringallt, Llwynypia a Phen-y-graig. Dim ond wedi 1870 y gwelwyd cynnydd yn y gwaith o gloddio glo ager yn yr ardal gyda'r galw yn prysur gynyddu, yn bennaf o du cwmnïau'r llongau stêm a'r Llynges ond hefyd o sefydliadau diwydiannol yn Ffrainc a chan reilffyrdd Ewrop a De America ac yn y cwymp yn y cyflenwad a ddaeth o ffynonellau traddodiadol fel Cwm Aberdâr. Ymhlith y ffactorau eraill yn ystod y 1870au a'r 80au roedd gwelliannau cyffredinol mewn cyfleusterau rheilffyrdd a docio (h.y. estyniad Rheilffordd y Taff Vale ar hyd y ddau brif gwm erbyn 1870, adeiladu Rheilffordd y Barri ac agor Dociau'r Barri ym 1889) ac yn y pyllau eu hunain wrth i bwer mecanyddol a ffrwydron gael eu defnyddio'n helaethach. Agorwyd cyfanswm o 24 o byllau newydd yng nghymoedd y Rhondda rhwng 1870 ac 1884 gydag allbwn blynyddol cyfun o ymron i dair miliwn o dunelli gan gofio mai pum miliwn a hanner o dunelli oedd cyfanswm allbwn cyfan maes glo'r Rhondda. Er nad agorwyd llawer o byllau newydd yn y blynyddoedd rhwng 1884 a 1913, roedd gwaith dwys yn y pyllau a fodolai eisoes a'r gwaith o'u hymestyn wedi cynyddu lefel cynhyrchiant glo i'w huchafswm o 9,610,705 o dunelli erbyn 1913.

    Y busnesau mwyaf yn y Rhondda yn ystod y cyfnod oedd: Cwmni Glo'r Glamorgan, Llwynypia a sefydlwyd gan Archibald Hood; Cwmni Glo'r Ocean gyda phyllau yn Nhon Pentre, a Chwm-parc a sefydlwyd gan David Davies; pyllau glo Fernhill yn Nhreherbert a Blaenrhondda a sefydlwyd gan Thomas Joseph ac Ebenezer Lewis; Cwmni Glofa'r Cambrian, Cwm Clydach a agorwyd gan Samuel Thomas; Cwmni Glofa'r Naval ym Mhen-y-graig a Thonypandy; a'r Cory Brothers and Company yn y Pentre a'r Gelli yn y Rhondda Fawr. Y prif fusnes yn y Rhondda Fach oedd 9 pwll David Davis and Sons Ltd. Erbyn degawd olaf y ganrif ychwanegwyd at y rhain gan byllau glo'r Maerdy (Mardy) a sefydlwyd gan Mordecai Jones, pyllau glo Ynys-hir James Thomas a'r National yn Wattstown. Yn y Rhondda isaf roedd yr Insoles Ltd wedi ymestyn pyllau'r Cymer, gan agor haenau glo ager ac agorwyd busnes newydd yn Hafod a adwaenwyd wedyn fel Pyllau Glo'r Lewis Merthyr, a agorwyd gan William Thomas Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach).

    Er gwaethaf cwymp bychan yn yr allbwn yn ystod blynyddoedd cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adfer yn sgîl rheolaeth gan y llywodraeth ym 1917, parhaodd y cynhyrchiant ar lefel uchel o wyth miliwn a hanner o dunelli i ddiwallu gofynion y Llynges, gyda'r cwymp cyntaf mewn cynhyrchiant yn digwydd ym 1921. Ni ddaeth difrifoldeb y broblem i'r golwg ar y dechrau yn sgîl anghydfod maith yn niwydiant glo'r Unol Daleithiau a'r ffaith i Ffrainc feddiannu'r Ruhr a olygai fod ymron i 40,000 o lowyr yn cael eu cyflogi wrth i boblogaeth y Rhondda gyrraedd uchafswm o tua 169,000.

    Erbyn diwedd 1924 daeth dirwasgiad i'r diwydiant glo yn sgîl ffactorau fel colli marchnadoedd yn dilyn polisi iawndal Versaille, adfer y safon aur a datblygiad pwer trydan dwr ac, yn fwy na dim, y ffaith i olew ddisodli glo fel prif danwydd llongau. Lleddfwyd y dirwasgiad gan yr Ail Ryfel Byd ac er gwaethaf y gobeithion mawr yn sgîl gwladoli ym 1947, roedd oes aur y diwydiant glo yn y Rhondda wedi dod i ben i bob pwrpas ym 1924. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, wynebodd y diwydiant broblemau daearegol a chaewyd nifer o byllau yn ystod y 1930au a'r 40au ac yn ystod y cyfnod rhesymoli yn dilyn gwladoli. Roedd anghydfod diwydiannol hefyd yn gyffredin yn ystod y cyfnod gan ddiweddu gyda streic y glowyr ym 1984.

    Caewyd y pwll gweithredol olaf yn y Rhondda, Pwll Glo'r Mardy ar 21 Rhagfyr 1990 ac ym mis Mawrth 1996, cliriwyd y safle ar gyfer uned ddiwydiannol. Heddiw yr enghraifft orau o bwll glo sydd wedi goroesi yn y Rhondda yw Pwll Glo'r Lewis Merthyr, sef Amgueddfa Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod ger y Porth.

  • Tirweddau Trefol Diwydiannol a Nodweddion Trefol

    Mae twf diwydiannol a threfol y Rhondda, mewn sawl ffordd, yn unigryw ac o ystyried cyflymder y datblygiad a'r dirywiad hwyrach na chafwyd mo'i debyg yn unman arall. Mae'r twf dramatig i'w gweld amlycaf yn ffigurau'r boblogaeth ar gyfer plwyf Ystradyfodwg, O boblogaeth gymharol sefydlog o lai na 500 cyn cyfrifiad cyntaf 1801, roedd y boblogaeth wedi dyblu i 951 erbyn 1851, gan dreblu yn y tri degawd canlynol gan gyrraedd dros 50,000 erbyn 1891 a chyrraedd ei anterth o 167,000 ym 1923-4.

    Dechreuodd anheddu diwydiannol yn ardal y Rhondda ar raddfa fechan ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roedd yn gyfyngedig yn y lle cyntaf i rannau isaf y Rhondda; roedd yr ymchwydd cyntaf o anheddu diwydiannol cynnar yn cyd-daro â gweithgareddau Walter Coffin o 1812 ymlaen a ganolwyd ar Ddinas. Yn ystod y 1840au gwelwyd datblygiadau helaeth o ran anheddu yn yr ardal wrth i entrepreneuriaid eraill gan gynnwys DW James yn y Porth, Leonard Hadley yn Nhroedyrhiw a'r Meistri Shepherd ac Evans yn Ynys-hir ymuno â Coffin, a oedd yn berchen ar 46 o dai yn Ninas erbyn 1841. Er mai cytiau pren dros dro oedd llawer o'r tai gwreiddiol a adeiladwyd ar gyfer y gweithwyr hynny a oedd yn agor y pyllau, codwyd adeiladau mwy parhaol hefyd sef tai bychain a oedd yn debyg i fythynnod y werin wledig. Gydag amser, y tai mwyaf cyffredin a godwyd yn y Rhondda oedd y tai deulawr talcen sengl a godwyd o'r Tywodfaen Pennant lleol, fel y rhai a godwyd gan George Insole, perchennog y pwll yn y Cymer ac America Fach, y Porth, er i derasau unigol o fythynnod unllawr fel Teras Glanselsig ym Mlaencwm gael eu hadeiladu hefyd. Nodir hefyd derasau mwy o dai masanheddu a oedd yn gysylltiedig â datblygiadau glofaol ar gyfer y cyfnod. Roedd y datblygiadau cynnar fodd bynnag, yn gyfyngedig ac yn cynnwys yn bennaf bentrefi'r Cymer, Dinas, Eirw, Graig-ddu a Store House yn y Rhondda isaf. Fe'u nodweddwyd gan batrwm anffurfiol ar hap wedi'u gosod o fewn cyd-destun a oedd yn parhau i fod yn wledig yn bennaf.

    Roedd twf yr anheddu a ddigwyddodd y tu hwnt i rannau isaf ardal y Rhondda yn dilyn y datblygiadau yn y diwydiant glo yn y Rhondda Fawr ac yna'r Rhondda Fach yn ddiweddarach a welwyd yn ystod y 1850au a'r 1860au ymlaen. Rhesymolwyd cynllun y tai hefyd yn ystod y 1860au a chynyddwyd maint yr anheddau. Mae enghreifftiau da o'r cyfnod yn cynnwys tai teras deulawr talcen sengl Ton Row, Pentre a thai deulawr talcen dwbl Terasau'r Scotch yn Llwynypia. Yr unig astudiaeth gynhwysfawr o'r tai yn y Rhondda hyd yma yw astudiaeth M J Fisk (Fisk 1995). Mae Fisk yn olrhain datblygiad y tai yn eu cyd-destun diwydiannol a chymdeithasol, o'r 'tai bac a ffrynt' cynnar a'r bythynnod bach cynllun sgwâr a fyddai wedi bod yn gyfarwydd i Walter Coffin yn y 1840au, i ddatblygiad y tai diwydiannol yn ystod y 1860au ee Terasau'r Scotch, Llwynypia i ddiwygiadau tai ddechrau'r 20fed ganrif a datblygiad tai lles a thai cyngor. Cafodd deddfwriaeth gymdeithasol a gyflwynwyd yn ystod y 1870au, yn bennaf Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875 a sefydlu Awdurdod Hylendid Trefol Ystradyfodwg ym 1877 a'i is?ddeddfau mabwysiedig (a ddaeth i rym o 1879) gryn effaith ar ddatblygiad a chymeriad tirwedd drefol y Rhondda yn ddiweddarach. Er mai ychydig yn hwyr yn y dydd fu'r newidiadau hyn i lawer o'r tai yn y Rhondda, eu heffaith oedd creu cymeriad cryf unffurf, waeth beth oedd y ddaliadaeth neu'r asiantaeth, a orfodwyd ar ddatblygiadau trefol y Rhondda yn ddiweddarach.

    Mae arddulliau'r tai sefydledig yn cynnwys tai teras deulawr ag iddynt dalcenni sengl a dwbl a'r tai unllawr llai cyffredin;ac mae'r defnydd o fanylion bric a'r defnydd diweddarach o friciau a hyd yn oed concrid wrth godi'r tai ynddo'i hun yn nodedig. Er nad yw'r arddulliau adeiladu o reidrwydd yn darparu'r unig sail o wahaniaethu rhwng un ardal gymeriad ac un arall, mae pob un yn cyfrannu at gymeriad cyffredinol y dirwedd drefol.

    Mae nodweddu'r aneddiadau trefol diwydiannol wedi dibynnu i raddau helaeth ar ddwy astudiaeth ddaearyddol arloesol yn y 1960au, sef astudiaeth forffolegol a swyddogaethol Wayne KD Davies o fannau canolog yn aneddiadau'r Rhondda (Davies 1968) ac astudiaeth P N Jones o ffurf, adeiladwaith a lleoliad aneddiadau glofaol yn ne Cymru (Jones 1969).

    Yn fyr, mae astudiaeth Davies yn ymwneud â chanfod y rhyng-berthynas rhwng morffoleg (h.y. ffurf ac adeiladwaith) a swyddogaeth (h.y. y diben bwriadedig); mae'n cysylltu astudiaethau morffolegol â'r prosesau deinamig a greodd y nodweddion morffolegol trefol tra'n ymchwilio i'r prosesau sy'n gyfrifol am amrywiadau gofodol mewn morffoleg drefol yng nghyd-destun eu rhyng-berthynas â swyddogaeth.

    Noda Davies i forffoleg ddeillio o swyddogaeth, h.y. bod ffurf adeilad neu gyfres o adeiladau yn seiliedig ar y dibenion bwriadedig a gall ffurf yn ogystal â swyddogaeth newid dros amser. Gwelir cyfnod oedi yn y berthynas rhwng y ddwy yn aml, gyda ffurf yn aml yn newid yn arafach na swyddogaeth. Er enghraifft wrth i adeiladau a fwriadwyd yn wreiddiol at ddibenion domestig (sef y ty teras cyffredin fel arfer) gael eu defnyddio at ddiben swyddogaeth fasnachol eilaidd maent yn parhau yn ddigyfnewid ar wahân i fân newidiadau, ar y dechrau o leiaf, ac mae'r nodweddion gwreiddiol ond segur yn goroesi. Yn gyffredinol mae ffryntiadau mwy cymhleth yn cael eu codi neu caiff gwaith ailadeiladu ei gynnal maes o law ac maent yn ddibynnol ar lwyddiant y fenter(mentrau) a'r ganolfan fasnachol ei hun.

    Mae Davies yn ystyried mai casgliadau o adeiladau yw canolfannau masnachol a nodweddir gan unffurfiaeth o ran swyddogaeth ac amrywiaeth o ran arddulliau adeiladu gydag anghytgord ffurfiol cyfatebol. Canlyniad addasiadau yw hyn a hyd yn oed ailgodi adeiladau er mwyn eu gwneud yn addas at eu swyddogaethau masnachol gan arwain yn y pen draw at amrywiaeth o ran ffurfiau ac arddulliau adeiladu sy'n adlewyrchu'r cyfnod(au) pan addaswyd y stoc adeiladu.

    Er mwyn dadansoddi canolfannau masnachol yn forffolegol, mae angen ystyried rhai ffactorau penodol: efallai fod swyddogaethau arbennig yn creu ffurfiau penodol neu ffurfiau amlswyddogaethol a bod ffurf yn ddibynnol ar swyddogaeth nid yn unig o ran math ond hefyd o ran dwyster tra bod yr holl beth wedi'i osod yn erbyn y cefndir a ddarperir gan arddulliau pensaernïol y cyfnod. Fel y nodir uchod, yn aml gwelir cyfnod o oedi lle bydd swyddogaethau yn aml yn gweithredu o fewn ffurfiau hyn, ac felly mae'r nodweddion creiriol yn parhau yn amlwg. I'r gwrthwyneb gellir dadwneud gwaith addasu eilaidd ar adeiladwaith er mwyn adfer y ffurfiau cynharach.

    Nododd Davies y canolfannau gan briodoli gradd swyddogaeth i bob un yn seiliedig ar ddwyster y tir/defnydd masnachol. Yn ogystal â hyn mae'n defnyddio system sgorio forffolegol gan ddefnyddio ffurf hollbresennol y Teras Pennant fel sylfaen gan ddyrannu sgoriau graddedig i bedwar categori nodweddu sylfaenol fel a ganlyn:

  • nifer y lloriau (1-2, 3 neu 4)
  • arddull adeiladu (teras neu heb fod yn deras)
  • deunydd adeiladu (tywodfaen bras Pennant, neu friciau a deunydd arall)
  • arwyddion o weithgaredd masnachol (dim addasiadau morffolegol, ffrynt siop arferol neu ffrynt siop modern)

    Roedd canlyniadau'r dadansoddiad hyn yn creu mynegeion swyddogaethol a morffolegol a, heb fanylu ynghylch cymhlethdodau ei ddarganfyddiadau, roedd dadansoddiadau Davies yn caniatáu i gyfatebiaeth gael ei gwneud rhwng swyddogaeth a morffoleg. Nododd Davies y gellir meintioli cymeriad morffolegol ardal a bod hyn yn ddibynnol ar gymhlethdod swyddogaethol yr ardal honno a'i datblygiad dros amser. Nododd Davies bum gradd swyddogaethol ar gyfer canolfannau: A, B, C, D ac E, ac o'r rheini dim ond B-E sydd i'w gweld yn yr ardal. Bu'r hierarchaeth forffolegol/swyddogaethol yn ddefnyddiol fel dull sylfaenol wrth nodi nodweddion trefol cyffredinol (Davies 1968).

    Nodweddir Grwp B gradd swyddogaethol Davies ar gyfer canolfannau gan ardal ganolog amlwg sydd â chraidd o adeiladau masnachol mwy, fel arfer gyda ffryntiadau siop modern ac i'r naill ochr o'r adeiladau hyn mae eiddo deulawr llai masnachol a ffryntiadau siop modern. Mae'r rhain yn eu tro yn arwain at gymysgedd o eiddo masnachol sydd, yn gyffredinol, o ganlyniad i addasu tai ac yna i ardaloedd preswyl heb eu haddasu. Yn y categori hwn mae prif ganolfannau masnachol y Porth, Tonypandy a Threorci.

    Nodweddir Grwp C yn bennaf ar sail addasu tai, er y gwelir eiddo deulawr masnachol amlwg a ffryntiadau siop modern. Mewn aneddiadau o'r math hwn mae swyddogaeth fasnachol wedi datblygu yn bennaf drwy addasu terasau deulawr preswyl drwy ychwanegu ffryntiadau siop pren yn ogystal â chraidd caled o eiddo masnachol mwy amlwg o ffryntiadau siop deulawr a modern gan arwain at dirwedd drefol gymysg. Mae Glynrhedynog, Pen-y-graig a Threherbert yn aneddiadau nodweddiadol yn y grwp hwn.

    Nodweddir Grwp D gradd swyddogaethol Davies ar gyfer canolfannau ar sail addasu, gydag ychydig o ffryntiadau siop modern ac eiddo masnachol amlwg. Ceir enghreifftiau niferus o addasu tai gan osod ffryntiadau siop pren a oedd yn nodweddiadol o ddiwedd y 19eg ganrif neu ddechrau'r 20fed ganrif. Mae Cwm-parc, y Gelli, y Maerdy, Pentre, Pontygwaith, Ton Pentre, Tylorstown, Tynewydd, Trewiliam, Ynys-hir ac Ystrad yn nodweddiadol o'r grwp hwn o aneddiadau.

    Mae Grwp E, sef gradd isaf Davies yn hierarchaeth swyddogaethol/morffolegol canolfannau yn cynnwys yr aneddiadau hynny a fethodd ddatblygu canolfannau masnachol ac y mae eu cymeriad preswyl wedi parhau i bob pwrpas. Ymhlith yr enghreifftiau nodweddiadol o'r grwp hwn mae Blaenllechau, Blaenrhondda, Blaen-cwm, Hafod, Llwynypia, Trealaw, Wattstown a Stanleytown.

    Ar y llaw arall mae Jones yn edrych yn benodol ar ddatblygiad yr anheddiad glofaol ar sail ffurf a datblygiad yn hytrach na hierarchaeth swyddogaethol/morffolegol y canolfannau trefol masnachol yn gyffredinol; mae cysylltiad rhwng y modd y mae anheddiad yn datblygu a'i gymeriad hanesyddol. Mae'r astudiaeth yn cynnig model a system ddosbarthu yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddatblygiad aneddiadau drwy Faes Glo De Cymru. Noda hefyd, fodd bynnag, nad yw'n bosibl defnyddio'i fodel ar ei ffurf symlaf yn llawn yng nghyd-destun y Rhondda Fawr oherwydd i'r anheddu glofaol ymsefydlu ymron yn llawn yn yr ardal erbyn 1878. Er mwyn hwyluso'i ddadansoddiad, mae Jones yn cydnabod tri phrif gam neu gyfnod yn natblygiad anheddu'r Maes Glo: y cam cyntaf (hyd at tua 1878); yr ail gam (tua 1878-1905); a'r trydydd cam (1905-1921). Mabwysiadwyd y camau hyn at ddibenion yr astudiaeth bresennol.

    Mae'r categorïau o aneddiadau a amlinellir yn y system ddosbarthu sy'n berthnasol i ardal yr astudiaeth, fel y'u cyflwynir gan Jones, fel a ganlyn:

    A. Anheddiad Glofaol Cyfansawdd, a is-rennir ymhellach yn Aa, cnewyllyn o ddatblygiad cam cyntaf cynnar (hyd at tua 1878), gan gynnwys tai cwmni glofaol yn aml, sydd fel arfer yn cynnwys y ganolfan fasnachol bresennol. Ymhlith yr enghreifftiau mae Cwm Clydach, Cwm-parc, y Cymer, Glynrhedynog, Hafod, Llwynypia, y Pentre, Pen-y-graig, y Porth, Tonypandy, Treherbert, Treorci, Tynewydd, Ystrad; Ab, blociau rheolaidd mawr cryno o aneddiadau wedi'u codi (yn bennaf) yn ystod yr ail a'r trydydd camau, gyda thystiolaeth, ar adegau, o reolaeth ystad, ee. y Gelli, Ton Pentre, Trealaw, Tylorstown a Threwiliam.

    B. Anheddiad pen pwll ail gam (tua 1878-1905): llai nag A ond yn aml â phoblogaeth o fwy na 5,000 pan oedd y gweithgaredd glofaol ar ei anterth. Roedd yr aneddiadau hyn bob amser wedi'u lleoli o amgylch un lofa neu grwpiau penodedig o byllau, e.e. y Maerdy a Wattstown.

    C. Anheddiad pen pwll neu ar oleddf cam cyntaf (hyd at tua 1878) a ddaeth i fodolaeth yn ystod gwladychiad cam cyntaf yn y cwm ac maent yn anad dim, yn aneddiadau sydd wedi'u lleoli o amgylch pyllau glo neu'n aneddiadau ar oleddf. Mae pob un yn parhau'n fach ac mae aneddiadau ar oleddf yn arbennig, mewn lleoliadau arunig yn aml. Nodwyd pedwar isdeip: C1, aneddiadau mwy wedi'u lleoli ar byllau cam cyntaf, sydd wedi parhau'n gymharol ddigyfnewid; isdeip prin gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn ganolbwynt i ddatblygiadau pellach, e.e. Blaenllechau a Blaenrhondda; C2, terasau bychan neu grwpiau o fythynnod arunig, yn aml mewn rhesi, sy'n ffurfio rhannau o aneddiadau glofaol, e.e. Abergorci; a C3, fel C2, ond gyda thai yn cael eu codi o'r newydd yn ystod y trydydd cam (1905-1921), e.e. Blaen-cwm.

    Yr elfen fwyaf nodweddiadol o'r aneddiadau yn y Rhondda Fawr yn ystod y cam cyntaf (h.y. hyd at tua 1878) oedd yr anheddu strimynnog ar hyd ffordd droellog y plwyf. Roedd y datblygiadau glofaol wedi cyrraedd cam cymharol ddatblygedig ac roedd cymoedd llednentydd, fel Clydach wedi'u hagor. Roedd aneddiadau pen pwll penodol yn gymharol brin yn yr ardal; Llwynypia yw'r enghraifft orau. Yn gyffredinol roedd strimyn yr anheddiad wedi datblygu fwyaf lle'r oedd crynhoad o byllau glo, fel Treorci neu'r Pentre. Yn ystod y cam cyntaf roedd bylchau sylweddol yn parhau rhwng yr aneddiadau, fel Treherbert a Threorci a rhwng Ystrad a Llwynypia. Roedd yr unedau anheddu mwy yn tueddu i ddilyn patrwm grid ac roedd y rhan fwyaf o'r aneddiadau glofaol yn y Rhondda Fawr wedi datblygu mewn dull mwy organig gan ddilyn dosbarthiad helaeth y pyllau glo a phrif lwybr cysylltiadau'r cwm sef heol y plwyf. Y tu allan i'r prif gwm fodd bynnag, mae enghreifftiau o'r cyfnod hwn yn cynnwys rhesi arunig fel Blaen-cwm, Blaenrhondda, Blaenllechau ac yng Nghwm Clydach ac unedau pen pwll mawr yn gysylltiedig â phyllau glo cyfagos, fel Cwm-parc a Glynrhedynog.

    Nodweddion anheddu mwyaf trawiadol yr ail gam efallai yw'r aneddiadau pen pwll fel y Maerdy, Tylorstown a Wattstown yn y Rhondda Fach, er eu bod yn llai nodweddiadol eu cymeriad. Roedd yr unedau pen pwll hyn a oedd yn gyffredinol fawr, yn gysylltiedig â'r pwll neu'r pyllau glo y'u codwyd hwy i'w gwasanaethu. Yn y Rhondda Fawr, roedd y twf mewn cyflogaeth yn ystod yr ail a'r trydydd cam (h.y. ar ôl 1878) a oedd yn gysylltiedig ag ehangiad cyflym yr aneddiadau ymron yn gyfan gwbl ynghlwm wrth y pyllau glo; yn sgîl hynny parhaodd y dosbarthiad anheddu arbennig. Nodweddir hyn gan y ffaith i dai gael eu hadeiladu yn y bylchau rhwng aneddiadau ac wrth i ddatblygiadau strimynnog helaeth newydd ymddangos ar hyd heol y plwyf. Prif nodwedd anheddu arall, a oedd yn hanfodol i ddatblygiad y patrwm anheddu cyffredinol yn ystod yr ail a'r trydydd cam oedd twf unedau anheddu atodol mawr, yn fwyaf nodedig yng Nghwm Clydach, y Gelli, Ton Pentre a Thonypandy. Mae Jones yn nodi i ddatblygiad y patrwm anheddu yn seiliedig ar dwf cnewyllol aneddiadau creiddiol penodol a datblygiadau strimynnog pellach bwysleisio 'aeddfedrwydd y patrwm llawn'.

    Er i rai unedau anheddu arunig fel Blaenrhondda, Blaen-cwm a Chwm-parc ehangu yn ystod y trydydd cam, roedd y twf yn yr ardal yn fwy cyfyngedig yn gyffredinol nag a fu yn ystod y camau blaenorol. Roedd hyn er gwaethaf y potensial cynyddol ar gyfer hyblygrwydd o ran anheddu a grëwyd yn sgîl agor pyllau glo newydd yn rhannau uchaf y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach, e.e. Mardy, Ty-draw a Glenrhondda (dim ond Pwll Lady Margaret a gaewyd). Ffactor pwysig arall a fu'n gyfrifol am ehangu aneddiadau yn ystod y cyfnod oedd y gwelliannau i'r drafnidiaeth reilffordd i deithwyr ac yn arbennig adeiladu system tramffordd drydanol a fu'n weithredol yn rhan isaf y Rhondda o 1905 ac a wasanaethodd yr ardal gyfan yn y pen draw. Roedd y system tramffordd yn bennaf gyfrifol am y datblygiad strimynnog arbennig rhwng y Maerdy a Glynrhedynog ar hyd ei llwybr.

    Roedd asiantaethau'r darpariaethau tai ym Maes Glo De Cymru yn cynnwys y cwmnïau glofaol, hapfuddsoddwyr a chlybiau adeiladu gweithwyr y glo ac i raddau llai, perchennog-ddeiliaid, yr ystadau tirfeddiannol ac yn ddiweddarach yr awdurdodau lleol. O'r rhain, buddsoddwyr eiddo a chlybiau adeiladu'r gweithwyr oedd amlycaf yn y Rhondda, yn enwedig yn ystod yr ail a'r trydydd cam. Roedd tai a godwyd ar gyfer perchennog-ddeiliaid yn llai cyffredin a'r tai ar gyfer yr ystadau tirfeddiannol yn brin iawn; Treherbert, lle'r adeiladodd Ystad Bute rhwng 50 a 60 o dai yn ystod y 1850au, yw'r unig enghraifft yn y Rhondda.

    Hwyrach mai rôl y cwmnïau glofaol sydd fwyaf diddorol. Roedd cwmnïau glofaol yn asiantaethau cymharol fawr yng nghyd-destun darpariaeth tai yn ystod y cam arloesol cyntaf, h.y. hyd at 1878. Yn ystod yr ail a'r trydydd cam roedd ganddynt rôl safonol ym maes adeiladu tai a ddilynwyd yn anochel ac yn ddisymwth wedyn gan asiantaethau codi tai eraill (h.y. clybiau adeiladu, perchennog-ddeiliaid a hapfuddsoddwyr). Mae'r enghreifftiau gorau o'r rôl arloesol a chwaraewyd gan gwmnïau glofaol yn natblygiad trefol y Rhondda yn cynnwys Terasau'r Scotch yn Llwynypia, a oedd yn gysylltiedig ag Archibald Hood o Bwll Glo'r Glamorgan a David Davies a thai Pwll Glo'r Ocean yn Nhon Pentre; ill dau yn dyddio o'r 1860au. Mae enghreifftiau diweddarach o'r rhan a chwaraeodd y pyllau glo yn y ddarpariaeth tai i'w gweld yn y cynlluniau a roddwyd ar waith gan H Taylor and Company yn Tylorstown a'r National Company yn Wattstown yn y Rhondda Fach. Mae'n ddiddorol nodi mai Lewis Merthyr Consolidated Collieries Ltd oedd darparwr mwyaf y tai cwmni yng nghymoedd y Rhondda gyda 214 o dai, hynny yw 36.7% o dai cwmni yn ardal Dosbarth Trefol y Rhondda yn ystod y cyfnod ôl-gofrestru, er gwaethaf y ffaith mai yn Hafod yr oedd canolbwynt ei weithgareddau glofaol sef un o'r ardaloedd mwyaf poblog a pharhaus o ran anheddu yn y Rhondda (Jones 1969; Fisk 1995).

    Nid oes gwahaniaethau amlwg i'w gweld rhwng arddull y tai a godwyd ar gyfer yr asiantaethau gwahanol, ar wahân i ychydig o'r enghreifftiau mwy ffurfiol a gynlluniwyd yn Nhreherbert, a godwyd ar gyfer Ystad Bute, e.e. Elusendai St Mary a phen gogleddol Dumfries Street, sydd ill dau yn gymesur o ran cynllun gyda bloc canolog bargodol ac adenydd a'r rheini a godwyd ar gyfer yr awdurdodau lleol ar ôl y trydydd cam, e.e. ystadau cyngor ym Mhen-y-graig, Treherbert a mannau eraill. Mae tai diwydiannol nodweddiadol yr ardal yn amrywiadau ar y teras Tywodfaen Pennant deulawr hollbresennol, er i dai pâr trydydd cam ddod yn fwy cyffredin pan oedd lle ar gael, e.e. ym Mlaen-cwm. Pan nodir gwahaniaethau mewn arddull tai, priodolir hyn i'r cyfnod, neu, yn ddiweddarach, ddyheadau cymdeithasol y darpar ddeiliaid.

    Hwyrach mai'r effaith fwyaf arwyddocáol ar y dirwedd drefol yn fwy diweddar fu cau, dymchwel ac adfer safleoedd diwydiannol yr ardal, pyllau glo yn bennaf, y seiliwyd yr aneddiadau arnynt yn wreiddiol ac a oedd yn ddibynnol arnynt, ac eithrio safle Trehafod, sef canolfan Treftadaeth y Rhondda ar hyn o bryd. Ymhlith y dylanwadau diweddar eraill mae darparu priffyrdd a ffyrdd osgoi modern ac adeiladu ystadau diwydiannol, ffatrioedd, ysgolion ac ystadau tai, yn aml ar dir rhwng y cymunedau gwreiddiol a ryddhawyd yn sgîl clirio safleoedd y pyllau glo blaenorol a'u rhwydweithiau cludiant cysylltiedig. Mae hyn oll i raddau wedi newid cymeriad hanesyddol y dirwedd drefol, er bod digon yn goroesi i wahaniaethu rhwng yr ardaloedd anheddu amrywiol sy'n caniatáu i ni ddeall eu datblygiad.


  • Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk