Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 014 Ty-newydd Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tynewydd yn cynnwys anheddiad glofaol a adeiladwyd ar fferm Tynewydd a oedd yn eiddo i ystad Bute, ac eiddo cyfagos Ystradffernol, rhan o ystad Dunraven. Mae Ffermdy Tynewydd, enghraifft brin o ffermdy yn yr arddull frodorol sydd wedi goroesi yn y Rhondda, yn dy tair uned â'i simnai yn cefnu ar y fynedfa. Mae ganddo bortsh a chyntedd lloriog rhwng yr ystafelloedd allanol a mewnol, y ddau wedi'u gwresogi (grwp yr aelwyd-gyntedd: sef tai a chanddynt ystafelloedd cyntedd allanol a mewnol, neu dy mynedfa-portsh math B), a deial haul dyddiedig 1652. Roedd yr anheddiad a godwyd gerllaw yn ddiweddarach yn fersiwn dipyn llai o'r Pentref Model arfaethedig, Bryn Wyndham, a gynlluniwyd yn wreiddiol gan y dyngarwr diwydiannol Thomas Joseph ar gyfer Clyngwyn yn ardal Blaenrhondda gerllaw. Awgrymir i Thomas Joseph, a oedd wedi agor lefelau glofaol ym Mlaen-cwm gerllaw ar ddiwedd y 1850au ac yn ystod y 1860au, gael ei ysbrydoli gan waith y dyngarwr o Gymro Robert Owen yn New Lanark yn yr Alban. Fodd bynnag mae'n fwy tebyg mai gwaith Benjamin Hall yn Abercarn, a gwaith y rheolwr gwaith dur Richard Johnson yn Butetown a oedd wedi dylanwadu arno (Fisk 1996). Cynhwysai craidd anheddiad Tynewydd 20 o dai fwy neu lai ar Scott's Street a Wyndham Street, ac adeiladwyd 60 o anheddau eraill ar ôl 1872 gan y London & South Wales Coal Company y gwerthodd Thomas Joseph ei fuddiannu iddo. Adeiladwyd y tai, a'r datblygiad ei hun i raddfa dipyn llai nag a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer y Pentref Model. Mae argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875, yn enwi pentref Bryn Wyndham, tra bod yr ardal wedi'i hailenwi yn Dynewydd erbyn i 2il argraffiad map 6 modfedd yr AO gael ei gyhoeddi ym 1900. Dengys yr argraffiad cyntaf gynllun terasog llinellol craidd yr anheddiad gwreiddiol, a gynhwysai Wyndham Street, Scott's Street a Bull's Row a'r Wyndham Arms (Tafarn) a chapeli. Dangosir pyllau glo Tynewydd a Rhondda Merthyr, a hefyd Rheilffordd y Taff Vale, a agorwyd ym 1856. Roedd tai eraill wrthi'n cael eu hadeiladu, h.y. terasau Blaen-cwm a Bryn Wyndham a Gwendoline Street. Erbyn cyhoeddi'r 2il Argraffiad (1897-98, a gyhoeddwyd ym 1900) roedd y datblygiad uchod wedi'i gwblhau ac roedd ysgol a Theras Halifax a'r ardal i'r de o dy Tynewydd (h.y. Miskin Street) wrthi'n cael eu datblygu, tra roedd Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe, a agorwyd ym 1890, bellach yn gwasanaethu'r ardal yn ogystal â Rheilffordd y Taff Vale. Roedd Cronfa Ddwr Ty'n-y-Waun hefyd wedi'i hadeiladu erbyn y cyfnod hwn. Cyrhaeddodd yr anheddiad ei anterth ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf pan adeiladwyd rhagor o dai i'r de-orllewin o Halifax Terrace, i'r de o Dy Tynewydd, ac yn yr ardal rhwng y ddwy reilffordd (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|