Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


010 Ton Pentre a'r Gelli


HLCA 010 Ton Pentre a'r Gelli
Anheddiad glofaol cyfansawdd yn cynnwys: datblygiad pen pwll cam cyntaf o ganol y 19eg ganrif gyda thai cychwynnol a godwyd gan y lofa a phatrwm grid i gynnwys i system ffordd a fodolai a rhesi unigol gyferbyn; a datblygiad ail gam yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ar batrwm grid llinellol, gan gynnwys creu anheddiad pen pwll ail gam mawr yn y Gelli a mân ychwanegiadau trydydd cam; pentref glofaol preswyl heb lawer o ddatblygiadau swyddogaethol a morffolegol trefol; canolfan ganoloesol a phlwyfol yn ddiweddarach (Ton Pentre).

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA010)

Golygfa o'r awyr yn dangos y Gelli, canol a Thon Pentre, ar y dde.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ton Pentre a'r Gelli yn cynnwys dau anheddiad pen pwll ar lan orllewinol Afon Rhondda Fawr. Ymddengys i bentref cynharach Ton Pentre ddatblygu'n wreiddiol yn ystod y 1860au, wedi'i ganoli ar eglwys plwyf Ystradyfodwg a ailgodwyd ym 1846 ar safle'r adeilad canoloesol gwreiddiol. Mae'r Gelli, ar y llaw arall, yn anheddiad glofaol ail gam diweddarach sy'n dyddio o ddiwedd y 1870au. Roedd yr ardal yn nwylo ystad Crawshay Bailey ac roedd yn cynnwys ffermydd ôl-ganoloesol Gelli Fawr, Maendy, Ton, Ty-isaf, Tyr yr Eglwys ac Ynyscoy. Mae'n siwr y bu adeiladau canoloesol ar nifer o'r safleoedd hyn cyn hynny. Mae cyfran fechan o ffermdir cyfagos Penpont Rhondda wedi'i chynnwys ar ffin ddeheuol yr ardal (Cynllun a rhaniadau Degwm ar gyfer Ystradyfodwg, 1844).

Roedd pyllau glo'r ardal yn cynnwys Pwll Maendy a Phwll Glo'r Gelli, ac ychydig ymhellach i ffwrdd roedd Pwll Eastern, Lefel Bwllfa a Phwll Glo Ton wedi'u lleoli yn yr ardal gyfagos i'r de orllewin. Agorwyd Pwll Maendy (neu Bwll Glo'r Ocean) ar ôl 1864 pan ddaeth David Davies, Llandinam o hyd i'r haen lo ager 4 troedfedd ym 1866. Marchnatwyd y glo hwn fel glo Ocean Merthyr, gan ddefnyddio enwogrwydd Merthyr fel pwynt gwerthu. Ar ei anterth ym 1894, roedd y pwll yn cyflogi 1,399 o ddynion; roedd y ffigur hwn wedi gostwng i 350 pan gaewyd y pwll ym 1948 o dan y Bwrdd Glo Cenedlaethol. Cliriwyd a thirluniwyd y safle yn dilyn hynny a chodwyd ystad tai ddethol ar y safle yn y pen draw ar ddechrau'r 1990au. Agorwyd Pwll Glo'r Gelli ym 1877 gan Edmond Thomas a George Griffiths ac fe'i prynwyd ym 1884 gan y Brodyr Cory o Gaerdydd flwyddyn ar ôl i bum glöwr farw yn dilyn ffrwydrad nwy. Ar ei anterth ym 1928, o dan berchenogaeth Cwmni Powell Dyffryn roedd y pwll yn cynhyrchu 950 o dunelli o'r glo ager gorau fesul dydd gyda gweithlu o 1,200 o lowyr. Cliriwyd y safle ym 1964 ac fe'i datblygwyd fel ystad ddiwydiannol. Roedd y tramffyrdd a gysylltai Lefelau Bwllfa, Pwll Maendy, Pwll glo Ton a Phwll Eastern â Rheilffordd y Taff Vale, a ddynodir ar argraffiad cyntaf y map AO, yn nodweddion amlwg yn y dirwedd (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875). Heb os roedd adeiladu Rheilffordd y Taff Vale yn y 1850au, a oedd wedi dechrau gwasanaethau i deithwyr erbyn 1861, yn ysgogiad i ddatblygiad yr ardal.

Erbyn 1875 dynodir pentref Ton (Pentre) fel cynllun grid i'r de union i eglwys plwyf Ioan Fedyddiwr a'i ficerdy (a gysegrwyd gynt i un o'r seintiau Celtaidd, Tyfodwg). Mae'r pentref yn cynnwys Church Road, Church Street, Llanfoist Street, Parry Street a gerllaw tramffordd Maendy, ac i gyfeiriad y gogledd, Ton Row. Ym 1865 adeiladwyd rhan isaf Ton Row, Ton Pentre gan y perchennog glo David Davies Llandinam a'i bartneriaid. Gyda llwyddiant ei bwll glo, Yr Ocean, aeth Davies yn ei flaen i ddatblygu llawer ar Don Pentre gan gynnwys rhan uchaf Ton Row a Parry Street. Yn y pen draw roedd yn berchen ar gannoedd o dai yn yr ardal. Mae'r ty teras â thair ystafell uwchben a dwy islaw â phantri ag iddo dalcen sengl a godwyd o'r garreg leol gyda grisiau pren crwm â simnai o frics yn nodweddiadol o ddatblygiad Ton Row. Yn ystod y cyfnod, ar wahân i'r eglwys ganoloesol gynharach, codwyd dau gapel yn yr ardal, Capel Hebron a Chapel Jerusalem (Methodistiaid Calfinaidd, a adeiladwyd ym 1881 yn yr arddull glasurol gan y Parchedig William Jones), dau Westy, y Gelli Hotel a'r Windsor Castle. Mae argraffiad cyntaf y map AO yn dynodi Pwll Glo'r Gelli gyda'i ffyrnau golosg, Gelli Row a bragdy'r Gelli (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884 a fapiwyd ym 1875). O fewn ugain mlynedd roedd yr anheddiad glofaol pen pwll ail gam, sef y Gelli wedi'i adeiladu yn ôl patrwm grid i'r ardal i'r de orllewin o Ystrad ac Afon Rhondda; mae Alexander Road, Avondale Road, Dorothy Street, Lloyd Street, Stanley Road ac Ystrad Terrace ac eglwys Dewi Sant oll yn perthyn i'r cyfnod hwn (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1900, a ddiwygiwyd ym 1897-98).

Yn ystod yr un cyfnod roedd Ton Pentre wedi ehangu i'r gogledd ac i'r gorllewin yn ôl patrwm grid hyd at Nant Iain, gan ymestyn Parry Street a Ton Row i'r gorllewin o Church road a chreu strydoedd teras ychwanegol gan gynnwys Bailey Street, Canning Street, Clara Street, Gordon Street, Metexta Street a Queen Street. Codwyd y rhan fwyaf o'r tai yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer clybiau adeiladu gweithwyr y pyllau glo, tra codwyd y gweddill fel mentrau hapfasnachol i fuddsoddwyr eiddo (Fisk 1996, Jones 1969). Mae'r Capel Cynulleidfaol Seisnig a godwyd yn yr arddull Gothig (1884) ar Church Road hefyd yn dyddio o'r un cyfnod, fel y gwna adeilad urddasol Capel Cymraeg yr Annibynwyr, Bethesda ar Bailey Street a ailfodelwyd ym 1906-07 yn yr arddull glasurol gan WD Morgan. Ailadeiladwyd eglwys St Ioan, a ddisodlwyd gan adeiladwaith modern, hefyd rhwng 1893-4 yn ôl cynlluniau a luniwyd gan Bruce Vaughan (Newman 1995). Parhaodd yr anheddiad i dyfu ac erbyn 1914 roedd tai ychwanegol wedi'u codi ymhellach i fyny'r llethr gan gynnwys Belgrave Street, Kennard Street a Wyndham Street yn Nhon Pentre. Yn y Gelli hefyd, gwelir patrwm tebyg o derasau llinellol ar hyd y llethrau gan gynnwys Bronllwyn Road, Colwyn Road, King Street, Llanfair Hill a South Street. Ymhlith y newidiadau nodedig i'r dirwedd drefol yn y Gelli a Thon Pentre roedd ysgolion ychwanegol, neuadd ymarfer (Ton Pentre) a gerddi rhandir helaeth. Roedd y rhan fwyaf o'r gerddi rhandir hyn wedi'u lleoli gerllaw'r tramffyrdd a arweiniai at y pyllau glo (argraffiad 1921 map AO 6 modfedd, a ddiwygiwyd ym 1914).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk