Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 018 Wattstown Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Datblygodd ardal tirwedd hanesyddol Wattstown i'r gogledd o Afon Rhondda Fach ar dir ffermio Aberlleche a Thirbach (a ddelid gan ysgutorion Anne Saunderson ar fap degwm Llanwynno 1841). Dim ond tafarn y Butchers Arms a fferm Aberllechau ym Mhont-rhyd-y-cwch, a elwid yn Wattstown ar ôl hynny, a ddangosir ar argraffiad cyntaf cynllun 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1875, ac nid oes unrhyw waith datblygu i'w weld. Prynodd Crawshay a William Partridge Bailey yr hawliau cloddio ar gyfer Pont-rhyd-y-cwch ym 1881. Yn ystod yr un flwyddyn ffurfiodd Ebenezer Lewis, Henry Lewis a Matthew Cope yr United National Coal Company, ac agorwyd siafftau Rhifau 1 a 2 (a elwid yn Bwll Mawr ac yn Bwll Bach hefyd) i weithio'r wythïen chwe throedfedd. Gweithiwyd y siafftau hyn gan gwmnïau eraill ar ôl hynny gan gynnwys y Mri Griffiths a'u Cwmni a'r Mri Watts a'u Cwmni. Cafwyd ffrwydrad yn y National Colliery (a elwid y Cwtch Colliery yn lleol) ym 1887, a laddodd 39 o ddynion. O dan y National Steam Coal Company (y National Collieries Company Ltd. yn ddiweddarach) gwnaed y siafftau yn ddyfnach ym 1894 i weithio'r gwythiennau glo ager pum troedfedd is. Ym 1905, cafwyd ffrwydrad arall a'r tro hwn collodd 119 o ddynion a bechgyn eu bywydau, y drychineb lofaol waethaf yn y cymoedd ers Glynrhedynog ym 1867. Ym 1914 unwyd y pwll glo â Standard Collieries, a daeth yn rhan o'r Ocean Coal Company ar ôl hynny. Oherwydd problemau daearegol gostyngodd cynhyrchiant ar ôl iddo gael ei wladoli a chaewyd y pwll glo ym 1968 (Carpenter 2000). Mae anheddiad pen pwll Wattstown yn dyddio o'r 1880au, a dechreuodd dyfu ar ôl sefydlu'r pwll glo a adwaenid ar ôl hynny fel y National Colliery. Mae'r anheddiad yn dringo ochr y cwm mewn cyfres o derasau llinellol, sy'n ymestyn ar draws y llethrau uwchlaw Rheilffordd y Taff Vale (Cangen y Rhondda Fach) a adeiladwyd ym 1856 a'r National Colliery, sydd i bob pwrpas yn llenwi'r lle cyfyngedig ar lawr y cwm. Roedd rhan isaf yr anheddiad i'r gogledd o Afon Rhondda Fach ym Mhont-rhyd-y-cwch yn cynnwys Aberllechau Road a'i chapel, ei swyddfa bost a'i dwy dafarn, tra roedd yr orsaf nwyddau wedi'i lleoli ar yr ochr arall i'r afon. Dengys 2il Argraffiad map yr AO Eglwys St Thomas a chapel yn union uwchlaw'r National Colliery, tra bod Hillside Terrace a Bailey Street, sef y prif ardaloedd preswyl, yn rhedeg ar draws y llethrau isaf ar y naill ochr a'r llall i Nant Llechau a'r National Colliery. Cafodd y National Steam Coal Company brydlesi i adeiladu tai ar gyfer ei lowyr yn yr ardal: ar gyfer 60 o dai yn Hillside Terrace ym 1884 ac ym 1885 ar gyfer 39 o dai eraill yn Hillside Terrace a Bailey Street. Roedd gan y tai hyn i gyd un ffrynt a grisiau gwrthdro o'r ystafell fyw a arweiniai at dair ystafell wely lan lofft oddi ar landin fach ac estyniad ôl yn cynnwys cegin gefn (Fisk 1995). Erbyn y cyfnod hwn yn natblygiad yr anheddiad roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau dringo ymhellach i fyny'r llethrau ar ochr orllewinol Nant Llechau i gynnwys Victoria Street, Stanley Street a'i hysgol (School Terrace yn ddiweddarach), Bryn Terrace a phen dwyreiniol Pleasant View (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, a ddiwygiwyd ym 1898). Roedd gan gwmni'r pwll glo lleol, sef yr United National Collieries bryd hynny, ran allweddol hefyd yn y gwaith o adeiladu Pleasant View, lle yr adeiladwyd 40 o dai. Parhaodd y gwaith datblygu, ond yn arafach; ymestynnwyd Pleasant View i'w llawn hyd a pharatowyd y cynllun strydoedd ar gyfer teras arall uwchlaw (Argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914-15). Mae New Bryn Terrace, Heol Llechau, Heol Ceiriog, Heol Goronwy a Heol-y-Twyn yn dyddio o gyfnod diweddarach, ac maent yn cynnwys datblygiadau tai cyngor. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|