Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 007 Cwm Clydach Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Clydach yn cwmpasu aneddiadau Clydach Vale a Blaen Clydach a Phenpant Clydach a safleoedd y pyllau glo cysylltiedig. Roedd yr ardal yn rhan o ffermydd Blaen Clydach, Pwllyrhebog, Ffynnon-dwym a Phenpant Clydach ar adeg y datblygiadau diwydiannol cychwynnol (map Degwm Ystradyfodwg 1844) yn ystod y 1860au a'r 70au. Erbyn 1875 roedd yr anheddiad glofaol cam cyntaf 'gwasgaredig' o resi unigol wedi'i sefydlu yng Nghwm Clydach (fel bythynnod Cwm Clydach neu Bush Houses), ac mae tri phwll hefyd i'w gweld yn y cyfnod hwn: Pwll glo Cwm Clydach a'r ffyrnau golosg a agorwyd ym 1864 ac a gaewyd ym 1895; Pwll Glo Blaen Clydach, a agorwyd gan Mr Bush a'i gwmni ym 1875 (roedd Lefelau cynharach wedi'u hagor gan Frank James ym 1863); a Phwll Glo Clydach Vale, a agorwyd ym 1872 gan Samuel Thomas a J Osborne Riches, a adwaenwyd yn ddiweddarach fel y Cambrian ac a gaewyd ym 1966 (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1885, a fapiwyd ym 1875; Carpenter 2000). Roedd safleoedd diwydiannol eraill yn cynnwys Pwll Drifft Blaenclydach (neu Pwll Drifft Gorci) o eiddo'r Blaenclydach Colliery Company, a agorwyd ym 1912 a hefyd Pyllau glo Brookvale a Nant Rhondda. Datblygodd rhwydwaith o reilffyrdd, tramffyrdd ac incleiniau i wasanaethu pyllau glo'r ardal. Tua diwedd y 1850au, adeiladodd Rheilffordd y Taff Vale linell i wasanaethu Cwm Clydach a'i byllau. Adeiladwyd Inclein Pwllyrhebog (1863-1951) gan y Cwmclydach Colliery Company i gysylltu â Rheilffordd y Taff Vale ac ymestynnodd yr Ely Valley Railway Company ei linell o Ben-y-graig i Byllau Glo'r Cambrian ym 1877. Roedd patrwm grid strydoedd Clydach Vale, Blaen Clydach a Phenpant Clydach wedi'u hadeiladu erbyn diwedd y 19eg ganrif, gan gynnwys High Street, Marian Street, Howard Terrace, Murton Terrace a Park Terrace, Clydach Vale a'r terasau llinellol gyda gerddi Strydoedd Court, Thomas, Maddox a Charles a Clydach Road, Blaen Clydach i enwi ond ychydig. Erbyn y dyddiad hwn roedd gan Blaen Clydach eglwys, capeli a gof ac roedd gan Clydach Vale Swyddfa Bost a gwesty mawr y New Inn Hotel yn ogystal â chapeli ac ysgolion (2il argraffiad cynllun 6 modfedd yr AO dyddiedig 1901, a ddiwygiwyd ym 1898). Mae'n amlwg bod yr anheddu ail gam hwn yn cynnwys yn gyffredinol y tai a godwyd ar gyfer buddsoddwyr eiddo a/neu fentrau hapfasnachol yn yr ardal, fodd bynnag y tai a godwyd gan glybiau adeiladu'r glowyr ym mhwll glo Clydach Vale a'r Cambrian sydd i'w gweld amlaf. Felly roedd yr anheddiad wedi'i sefydlu i raddau helaeth erbyn diwedd y 19eg ganrif gydag ychydig iawn o fewnlenwi, codi ysgolion newydd a rhai terasau ychwanegol i'w gweld cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys Oak Street, Francis Street a Brynhyfryd Street, uwchben Clydach Vale a Blaen Clydach o boptu Nant Cae-Dafydd (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO a fapiwyd ym 1914-15). Crëwyd y dirwedd drefol a welir heddiw yn gyflym iawn a hynny mewn cyfnod o lai na 25 mlynedd. |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|