Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 009 Ystrad a Phentre Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Dechreuodd ardal tirwedd hanesyddol Ystrad a Phentre fel anheddiad strimynnog llinellol ar hyd y brif ffordd drwy'r Rhondda Fawr yn ystod y 1860au. Cyn y datblygiadau trefol/diwydiannol roedd yr ardal yn eiddo i bum ystad wahanol heb un ystad yn drech na'r llall; ehangodd yr anheddiad yn y diwedd i gynnwys tir pori isel ffermydd Ty-isaf, Ty'r Melin-yr-Om, Ty'n-tyle, Gelli Dawel a Bodringyll (cynllun y Degwm a Rhaniadau ar gyfer Ystradyfodwg, 1844). Mae'r ardal yn chwarae rhan amlwg yn hanes cynnar Anghydffurfiaeth yn yr ardal pan godwyd Ty Cwrdd Ynysfach (a ailenwyd yn Nebo yn ddiweddarach) gan y Bedyddwyr ym 1786, yn Heolfach (Lewis 1959). Nodwedd arall o orffennol cyn-ddiwydiannol yr ardal yw'r hen felin a ddynodir ar y map Degwm ac argraffiad cyntaf y map AO 6 modfedd, sef Melin-yr-Om, y felin a oedd yn gysylltiedig â maenor Sistersaidd Llantarnam ar Fynachdy Penrhys. Roedd tri phwll glo wedi'u lleoli'n agos at yr ardal hon, sef pyllau glo Bodringallt, Pentre a Thy'n-y-bedw (ardal gyfagos HLCA 011). Agorwyd Pwll Glo Bodringallt ym 1864 gan Warner Simpson and Company a chynhyrchodd dros 34,000 o dunelli o lo yn ei flwyddyn gyntaf. Yn dilyn ei brynu ym 1890 gan David Davies and Sons, ailenwyd pwll glo Ferndale yn Bwll Glo Ferndale No 3. Caewyd y pwll hwn ym 1959 a chliriwyd a thirluniwyd y safle. Mae'r gwaith brics ym Modringallt hefyd yn nodedig oherwydd dyma oedd y gwaith a gynhyrchai'r nifer fwyaf o frics yn y Rhondda ac eithrio Llwynypia, gan allforio brics drwy Faes Glo De Cymru ar gyfer siafftau a chodi adeiladau a thai glofaol (Carpenter 2000). Agorwyd Pwll Glo Pentre ar ôl i Edward Curteis brydlesu'r hawliau mwynau i dir ym Mhentre ym 1857; erbyn 1864 agorwyd siafftau i'r gwythiennau dyfnach. Prif gyfnod yr ehangu oedd rhwng 1874 a 1884 pan dreblwyd yr allbwn o 59,000 o dunelli i 159,000 o dunelli o dan berchenogaeth y Brodyr Cory o Gaerdydd a brynodd y pwll glo ym 1861. Bu farw tri deg wyth o lowyr yn dilyn ffrwydrad nwy yn y pwll ym 1871. Caeodd y pwll ym 1929 a thirluniwyd y safle. Bellach fe'i defnyddir at ddibenion hamdden.
Erbyn 1875 roedd cnewyllyn strimynnog yr anheddiad wedi datblygu ar hyd y brif ffordd (h.y. Ystrad Road, Llywellyn Street a Carne Street); ym Mhentre roedd y datblygiad strimynnog eisoes wedi datblygu i ffurfio patrwm grid cynlluniedig o derasau gan gynnwys Albert Street, Queen Street a Treharne Street ymhlith eraill. Yn ogystal â'r pwll glo, y gwaith brics a'r tai teras ym Mhentre, mae argraffiad cyntaf y map yn nodi Pentre House; ficerdy; dwy ysgol; dau gapel Methodistaidd (Cyntefig a Wesle), o leiaf pump o dafarndai gan gynnwys bailey Arms, y Griffin Inn, y Llywelyn Arms, Gwesty Pentre a Gwesty Woodfield â'i fragdy. Ar y pryd roedd Ystrad yn cynnwys Arthur Street, Bodrhyngallt Cottages, Church Row, Copse Row (Gelli Dawel), Gelli Cottages, Heolfach a Primrose Hill. Roedd gan yr anheddiad dair ysgol; tair tafarn, y Kings Head, y Lamb a'r Railway; gwaith nwy, yr Ystrad Gas Works; a Gorsaf Ystrad (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1884, a fapiwyd ym 1875).
|
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|