Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


015 Blaenrhondda


HLCA 015 Blaenrhondda
Anheddiad glofaol ym mhen uchaf y cwm wedi'i gynllunio'n llinellol; anheddiad pen pwll cam cyntaf gyda rhesi unigol ar y cyrion gydag ychwanegiadau trydydd cam; anheddiad preswyl gan fwyaf heb fawr ddim datblygiadau masnachol; gwedd weledol debyg, tra'n dynodi datblygiadau o fewn anheddiad glofaol ffurfiannol; hunaniaeth pentref neilltuol yn parhau ar wahân i'r aneddiadau cyfagos; enghreifftiau da o dai teras glofaol nodweddiadol a'r capeli ac ysgolion cysylltiedig; safle Pwll Glo Fernhill wedi'i adfer.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA015)

Golygfa o'r awyr gyda Blaenrhondda yn y blaen a Chwm-parc yn y cefndir.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Blaenrhondda yn cwmpasu anheddiad glofaol yn dyddio o'r 1860au, a safle'r cyn-byllau glo cysylltiedig a godwyd ar dir ffermydd Blaenrhondda ac Ystradffernol, y ddwy yn rhan o Ystad Dunraven (map Degwm a chofrestr Ystradyfodwg, 1844). Y penderfyniad i agor dau bwll glo, sef pyllau glo Blaenrhondda a Fernhill, a ysgogodd yr anheddiad yn wreiddiol. Agorwyd Pwll Glo Blaenrhondda, a elwid hefyd yn North Dunraven Pit, ym 1859 gan George Lockett, James Marychurch, Herbert Kirkhouse a Rees Jones a bu'n masnachu fel y Cardiff and Merthyr Steam Coal Company nes iddo gael ei brynu fel cwmni gweithredol gan y London and South Wales Coal Company ym 1875. Yn y cyfamser dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu Pwll Glo Fernhill gerllaw ac agorwyd pyllau Rhifau 1 a 2 gan J. Marychurch a'i Bartneriaid ym 1871. Agorwyd pyllau Rhifau 3 a 4, Fernhill, o dan berchenogaeth y Mri Crowley, John ac Oldroyd o Dewsbury yn ddiweddarach ym 1872. Unwyd pyllau glo Blaenrhondda a Fernhill ym 1893 o dan berchenogaeth George Watkinson a'i Feibion i ffurfio Glo Fernhill Collieries Limited. Rhoddodd y cwmni'r gorau i fasnachu ym 1966, ac adferwyd y safle ar ôl hynny ar ôl bod yn barc thema Gorllewin Gwyllt am gyfnod byr.

Ymddengys i'r anheddiad gael ei adeiladu mewn cyfnod cymharol fyr o amser, a rhedai ei gynllun strimynnog llinellol ar hyd Brook Street, yn gyfochrog â Changen Blaenrhondda o Reilffordd y Taff Vale (1859), a arweiniai at y pyllau glo a Gwaith Brics Blaenrhondda, y mae'n amlwg ei fod wedi'i sefydlu erbyn arolwg Argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO ym 1875. Dangosir hefyd y 'rhesi' neu gytiau terasog anghysbell (cytiau pren a ddarparwyd gan berchenogion y pyllau glo ar gyfer gweithwyr a fu wrthi'n agor y siafft wreiddiol, a ddefnyddid yn aml am gyfnodau llawer hwy nag y bwriadwyd yn wreiddiol ac a ddioddefai fel arfer gan amgylchiadau aflan), saith i gyd, gan gynnwys rhes a enwyd yn Caroline Street ar ôl hynny, i'r gogledd o safle Pwll Glo Blaenrhondda, Fferm Blaenrhondda a chapel, a Bythynnod Fernhill i'r de o Bwll Glo Fernhill. Erbyn cyhoeddi'r ail argraffiad ym 1900 (a ddiwygiwyd ym 1874-75), dangosir Brook Street wedi'i chwblhau gyda chapeli (Capel Bethesda, Methodistiaid a Bedyddwyr), gwesty ac ysgol (nas defnyddir mwyach), tra bod yr ardal o dai neu fythynnod gerllaw Pwll Glo Blaenrhondda wedi'i lleihau gryn dipyn. Dangosir tramffordd Craig-yr-Hesg hefyd, tra bod rhandiroedd ar y llethrau uwchlaw'r tai yn dod yn nodwedd amlwg yn nhirwedd yr anheddiad am y tro cyntaf. Dengys argraffiad 1921 (a ddiwygiwyd ym 1914) y ddau bwll glo, wedi'u hymestyn fel Pyllau Glo Fernhill, ac erbyn hyn mae gan anheddiad Blaenrhondda Sefydliad, tafarn, capel, sef Capel Tabernacle, ac ysgol fwy o faint, tra bod Brook Street wedi'i hymestyn ymhellach i'r de ar yr ochr ddwyreiniol a Clyngwyn Road a Blaenrhondda Road wedi'u hadeiladu. Mae teras arall hefyd wedi'i adeiladu dros yr iardiau y tu ôl i Caroline Street. Ni ddigwyddodd fawr ddim newidiadau amlwg erbyn cyhoeddi argraffiad dros dro map 6 modfedd yr AO ym 1948.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk