Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Y Rhondda


021 Y Maerdy


HLCA 021 Y Maerdy
Anheddiad glofaol pen pwll ail gam; lleoliad ym mlaen y cwm; yn benodol gysylltiedig ag un lofa; anheddiad cnewyllol cynlluniedig; craidd ail gam o dai teras unffurf, tai a godwyd gan y lofa a chyfleusterau hamdden; datblygiadau preswyl yn bennaf heb lawer o ddatblygiadau masnachol gydag ychwanegiadau trydydd cam gan gynnwys datblygiad strimynnog; hunaniaeth neilltuol ar wahân i'r gymuned gyfagos; tirwedd ddiwydiannol wedi'i hadfer.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 


(Ffoto: GGAT HLCA021)

Y Maerdy: Tai teras talcen sengl nodweddiadol, Griffiths Street.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Maerdy yn cwmpasu'r anheddiad glofaol a safle cyn bwll glo'r Mardy. Lleolir yr anheddiad yn bennaf ar y fferm o'r un enw ac ar dir fferm Rhondda Fechan gerllaw. Mae'r enw Maerdy (hefyd Mardy) yn amlygu tarddiad canoloesol y safle, ac mae'n cofnodi lleoliad ty neu anheddiad distain; un o agweddau pwysig y safle yn ystod y cyfnod canoloesol oedd ei swyddogaeth weinyddol, a byddai wedi rheoli mynediad i'r tir comin oddi amgylch a'r defnydd a wneid ohono. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr anheddiad pen pwll a oedd yn datblygu wedi dileu pob arwydd o'r fferm (2il argraffiad map 6 modfedd yr AO, 1900 a ddiwygiwyd ym 1897-98).

Datblygodd anheddiad diwydiannol y Maerdy yn nodweddiadol ar ôl sefydlu ei sylfaen ddiwydiannol, sef ei bwll glo; felly dim ond un dramffordd rhwng Fferm y Maerdy a siafft glo (safle Pwll Glo'r Mardy) a ddangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO dyddiedig 1884 (a fapiwyd ym 1875). Dyma Byllau Rhifau 1 a 2 y Mardy a agorwyd ym 1875 gan bartneriaeth Mordecai Jones a Wheatley Cobb. Gwnaed y pyllau hyn yn ddyfnach ym 1878 i gyrraedd y glo ager; y flwyddyn ganlynol gwerthwyd y pwll glo i Gwmni Lockett-Merthyr, a ffynnodd y cwmni o dan ei reolaeth. Ym 1885 bu ffrwydrad nwy trychinebus ar safle'r pwll glo, a bu farw ryw 81 o lowyr. Ymestynnwyd y gweithfeydd ym 1893 pan agorwyd Pwll Rhif 3 y Mardy tua milltir ymhellach i fyny'r cwm, ac unwaith eto ym 1914 pan agorwyd Pwll Rhif 4 gerllaw. Erbyn cyhoeddi ail argraffiad map 6 modfedd yr AO (a gyhoeddwyd ym 1900, a ddiwygiwyd ym 1897-98) mae craidd anheddiad pen pwll y Maerdy, â'i gynllun patrwm grid cnewyllol o fewn cwrt wedi'i amgáu â wal berimedr, yn ei le. Bryd hynny cynhwysai'r anheddiad James Street, Griffith Street, Wood Street, Mountain Road, North Terrace, Oxford Street, Pentre Road a Church Street. Erbyn y dyddiad hwn roedd gan yr anheddiad eglwys, ysgol fabanod, a maes chwarae, tra cynhwysai estyniad i'r de o'r prif graidd ar hyd Maerdy Road ysgol ychwanegol, y Royal Hotel, a dau gapel, Capel Bethania a Chapel Seion. Dangosir hefyd Gorsaf derfynol Rheilffordd y Taff Vale, y rheilffordd fwynau i Bwll Rhif 3 Pwll Glo'r Mardy a'r gronfa ddwr yng Nghastell Nos. Erbyn cyhoeddi argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, roedd craidd y cwrt wedi'i gwblhau, ac erbyn hynny roedd Edward Street a'r rhandiroedd yn ymddangos o fewn y cwrt (argraffiad 1921 map 6 modfedd yr AO, a ddiwygiwyd ym 1914). Mae adeilad trawiadol Sefydliad y Gweithwyr gan Edmund Williams yn dyddio o'r cyfnod hwn (1882-1905). Ar ben hynny roedd yr anheddiad wedi ymestyn ymhellach i'r de ddwyrain o Maerdy Road i gynnwys Richard's Street a Blake Street a chae pêl-droed.

Unwaith yr oedd craidd yr anheddiad wedi'i gwblhau sicrhaodd cyfyngiadau daearyddol fod yr anheddiad wedi ehangu'n llinellol. Y canlyniad oedd ychwanegiad strimynnog yn rhedeg i'r de o Fynwent Glynrhedynog, a chyrion gogleddol yr anheddiad cyfagos. Mae gwaith mewnlenwi nodweddiadol diweddarach ar gwr yr anheddiad yn cynnwys tai mwy o faint o statws uwch, fel arfer â ffenestri bae, a'r orsaf betrol leol ac ystad ddiwydiannol hollbresennol. Yn y bôn mae statws masnachol yr anheddiad, sydd â swyddfa bost a rhai siopau yn gwerthu nwyddau angenrheidiol ar hyd Maerdy Road, yn isel.

Y dirwedd ddiwydiannol adferedig i'r gogledd o'r anheddiad yw safle helaeth Pwll Glo'r Mardy. Caewyd Pyllau Rhif 1 a Rhif 2 y Mardy ym 1932 o dan gwmni Bwllfa and Cwmaman Collieries Ltd ac ym 1940, bum mlynedd ar ôl eu trosglwyddo i'r Powell Dyffryn Company, daeth y cynhyrchiant i ben ym Mhyllau Rhifau 3 a 4. Ar ôl gwladoli'r diwydiant ym 1947, adeiladwyd pwll glo modern ar safle Pyllau Rhifau 3 a 4, yn cynnwys lefelau tanddaearol wedi'u cysylltu â Bwllfa. Canlyniad cynllun moderneiddio yn costio £5 miliwn ar gyfer gweithio cronfeydd glo cymoedd Cwmdâr a'r Rhondda Fach, a gymeradwywyd ym 1948, oedd hyn. Caewyd y pwll glo, y pwll gweithredol olaf yn y Rhondda, ar 21 Rhagfyr 1990, ac ym mis Mawrth 1996 cliriwyd y safle i wneud lle ar gyfer uned ddiwydiannol (ffatri Fenner Polymer).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk