Disgrifio Nodweddian
Tirweddau Hanesyddol |
|
HLCA 004 Trewiliam Cliciwch
yma i gael map o'r ardal cymeriad hon
|
|
Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Trewiliam yn cynnwys anheddiad diwydiannol a godwyd ar ran ddeheuol Fferm Dinas Uchaf o hanner olaf y 19eg ganrif. Ar y pryd roedd Fferm Dinas Uchaf, ym mhlwyf Llantrisant yn rhan o ystad Walter Coffin, yr entrepreneur glofaol arloesol. Y datblygiad cychwynnol oedd anheddiad strimynnog bychan a gwasgaredig o dai yn dwyn yr enw Alma Terrace (argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1885, a fapiwyd ym 1875). Fodd bynnag, erbyn 1898 roedd yr anheddiad wedi newid yn sylweddol; roedd y datblygiadau yn mynd rhagddynt ac roedd yr anheddiad wedi ehangu y tu hwnt i'r terasau cyntaf a godwyd ar ymyl y ffordd ar hyd Cornwall Road gan greu patrwm grid rheolaidd o dai teras gan gynnwys Arthur Street, Rowling Street, Caroline Street a School Street. Roedd y datblygiad hwn yn ddibynnol yn bennaf ar lwyddiant y pyllau glo cyfagos, h.y. Pyllau Glo Ely, Dinas-isaf, Penrhiw-fer a Phen-y-graig. Lleolir pyllau glo Dinas-isaf a Phenrhiw-fer y tu allan i Ardal Tirwedd Hanesyddol Arbennig y Rhondda. Yn yr un modd ag ardal gyfagos HLCA 003 Pen-y-graig, mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â gweithgareddau Moses Rowlands a ddatblygodd Lefel Pen-y-graig ym 1857/8 mewn partneriaeth â Richard Jenkins. Ffurfiwyd y Penygraig Coal Company gan Rowlands a Jenkins mewn partneriaeth â William Morgan, William Williams (yr enwyd yr anheddiad ar ei ôl) a John Crocket yn ddiweddarach ac agorwyd Pwll Glo Pen-y-graig ym 1864. Chwe blynedd yn ddiweddarach roedd gan y pwll glo allbwn blynyddol o tua 100,000 o dunelli. Caewyd y pwll ym 1919. Dynodir Pwll Glo Ely ar argraffiad cyntaf y map AO ond ni chaiff ei enwi ac mae'n amlwg yn weithredol cyn i'r prif ddatblygiad anheddu ddigwydd yn Nhrewiliam. Ym 1892 agorwyd Pwll Ely o eiddo'r New Naval Colliery Company, a oedd yn rhan o'r Cambrian Combine (1908) yn ddiweddarach. Ym 1910 roedd yn cyflogi 939 o ddynion a dyma oedd man cychwyn anghydfod chwerw a siglodd Maes Glo De Cymru am flynyddoedd lawer. Parhaodd y pwll glo i weithredu tan 1928 ac yna defnyddiwyd y pwll at ddibenion pwmpio tan iddo gau ym 1958. Datblygodd Trewiliam yn gyflym yn ystod blynyddoedd olaf y 19eg ganrif ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn ymdebygu i'r hyn ydyw heddiw (argraffiad map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1921 a ddiwygiwyd ym 1914/15). |
|
Ffynonellau | |
Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y
cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk
neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk
|