The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

001 Prif Linell De Cymru (Rheilffyrdd y Great Western a Phort Talbot) a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands


Prif Linell De Cymru a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands.

HLCA 001 Prif Linell De Cymru (Rheilffyrdd y Great Western a Phort Talbot) a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands

Coridor cysylltiadau: rheilffordd. Nôli'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Prif Linell De Cymru a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands yn cynnwys rhan o lwybrau cyfochrog Rheilffordd De Cymru a Rheilffyrdd Port Talbot. Cynlluniwyd y gyntaf a adeiladwyd rhwng Cas-gwent ac Abertawe gan IK Brunel ac fe'i hagorwyd ar 18fed Mehefin 1850. Cyfunwyd y llinell lydan hon yn ddiweddarach â Rheilffordd y Great Western ym 1863, ac fe'i newidiwyd yn llinell Led Safonol ym 1872. Arferai llinellau diweddarach Rheilffordd Port Talbot redeg yn gyfochrog ar ochr y môr i'r SWR (GWR) rhwng llinellau Dociau Port Talbot yng Nghyffordd y Gwaith Copr a Chyffordd Cefn lle y terfynai gyda'r llinell a redai o'r Pîl i Dondu. Agorwyd y llinell ar 18fed Rhagfyr 1898 ar ôl i Ddeddf Ymestyn Rheilffordd Cwm Ogwr dyddiedig 7fed Awst 1896 gael ei hawdurdodi. O fis Ionawr 1922 cyfunwyd Rheilffordd Port Talbot â Rheilffordd y Great Western ac adeiladwyd Rheilffordd Ddolennog Newlands yn 1960 o dan British Rail, gan gysylltu llinellau Rheilffordd De Cymru a Rheilffordd Port Talbot gynt.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Prif Linell De Cymru a Choridor Rheilffordd Ddolennog Newlands fel coridor cysylltiadau pwysig sy'n gysylltiedig â systemau rheilffordd diwydiannol a chyhoeddus. Mae'r ardal yn dal i fod yn rhannol weithredol fel y brif linell rhwng Abertawe a Chaerdydd, er bod llinell Rheilffordd Port Talbot gynt a chilffyrdd cysylltiedig o Reilffordd Ddolennog Newlands wedi'u datgymalu bellach. Mae'r nodweddion sydd wedi goroesi yn cynnwys pontydd rheilffordd.