The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

002 Morfa Margam


Morfa Margam - morfa heli a adferwyd ac a amgaewyd.

HLCA 002 Morfa Margam

Tir pori gwlyb morfa heli a adferwyd ac a amgaewyd; caeau canoloesol/ôl-ganoloesol a thir a arferai berthyn i faenor fynachaidd ganoloesol, patrwm caeau amrywiol sy'n cynnwys nodweddion cefnen a rhych, cloddiau a draenio nodweddiadol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Margam yn cynnwys ardal o wlyptir isel a adferwyd ar uchderau o rwng 4.5m a 5m DO, a leolir yn bennaf o fewn SoDdGA Gweunydd Margam. Rhan o ddaliadau Abaty Sistersaidd Margam yn ystod y cyfnod canoloesol; yr ardal a gâi ei ffermio yn ôl pob tebyg o Faenor Morfa Mawr ychydig i'r gorllewin y tu hwnt i ffin y Dirwedd Hanesyddol, ar safle'r fferm ôl-ganoloesol ddiweddarach (a ddymchwelwyd ei hun yn 1976). Gwyddom hefyd am ddwy faenor fynachaidd arall sy'n gysylltiedig â Margam yn yr ardal, sef New Grange (neu Middle Burrows Grange) a Theodoric's Grange. Mae'r cysylltiad cryf ag Abaty Margam yn awgrymu i'r gwaith o adfer llawer o'r llain arfordirol gael ei wneud yn y cyfnod canoloesol yn ôl pob tebyg os nad ynghynt.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Morfa Margam fel tir pori gwlyb amgaeëdig isel a leolir ar forfa heli a adferwyd. Mae nodweddion yr ardal yn gysylltiedig â chaeau ôl-ganoloesol, sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol yn ôl pob tebyg, patrwm caeau amrywiol nodweddiadol, gan gynnwys clostiroedd datblygedig/afreolaidd a chlostiroedd rheolaidd bach a mawr. Mae nodweddion ffiniau yn cynnwys systemau cefnen a rhych, cloddiau pridd a ffosydd draenio, ffosydd megis Ffosydd Lower Mother a Middle Mother. Mae nodweddion eraill yn cynnwys nodweddion cysylltiadau lleol, megis llwybrau troed, llwybrau a lonydd syth.