The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

006 Afon Cynffig a Llanmihangel


Afon Cynffig a Llanmihangel - aneddiadau/caeau ôl-ganoloesol.

HLCA 006 Afon Cynffig a Llanmihangel

Tirwedd amaethyddol o aneddiadau/caeau ôl-ganoloesol â nodweddion canoloesol creiriol sydd wedi goroesi sy'n gysylltiedig yn bennaf â maenor fynachaidd Llanmihangel; ffiniau caeau pendant; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Afon Cynffig a Llanmihangel yn cynnwys rhannau isaf dyffryn afon Cynffig. Yn ei hanfod mae'r ardal yn cynnwys tir sy'n perthyn i ffermydd ôl-ganoloesol Marlas a Llanmihangel.

Yn ystod y cyfnod canoloesol ffurfiai'r ardal graidd Maenor Llanmihangel a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Margam, y nodir bod ganddi dir âr a gweirglodd-dir, cwrtil, melin ddwr a melin bannu mewn dogfennau yn dyddio o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Mae olion yn cynnwys safle posibl capel y faenor, a ddynodir gan dystiolaeth enwau lleoedd a darnau o groes yn dyddio o'r 10fed/11eg ganrif (SAM Gm 345) a charreg nadd o ffenestr, ysgubor ddegwm gysylltiedig bosibl sydd wedi'i hadeiladu o gerrig llanw.

Ymddengys fod fferm ôl-ganoloesol Llanmihangel, ffermdy deulawr a adeiladwyd o gerrig llanw a chanddo addurniadau yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, gan gynnwys ffenestri myliynog, wedi'i leoli ar safle'r brif faenor. I'r de ceir Melin Yd Llanmihangel (Rhestredig gradd 2*), melin drillawr yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif a saif yn ôl pob tebyg ar safle melin gynharach a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Margam, y cyfeirir ati yn 1291; Mae ffrwd ac argae cofrestredig i'w gweld o hyd ar y safle (SAM Gm 449), rhan o gyfadeilad y felin ganoloesol.

Credir bod fferm Marlas (Marlais) (Rhestredig gradd 2), ty rhanbarthol a chanddo simnai fewnol, cyntedd mynediad, grisiau wrth y lle tân a ffenestri siamffrog isel yn dyddio'n rhannol o'r 16eg ganrif, (annedd Richard ap Thomas yn 1543); roedd y rhannau cynharaf o'r adeilad sydd wedi goroesi wedi'u lleoli o amgylch iard yr oedd ei fynedfa wedi'i lleoli i'r de. Roedd rhan o'r adeilad wedi bod yn cael ei defnyddio ers amser hir fel bragdy ac mae'n dal i gynnwys simnai gorbelog fawr gynnar. Mae nodweddion cynnar eraill yn cynnwys grisiau cerrig yn arwain o ochr orllewinol y ffermdy i'r iard a ffenestri a drysau Tuduraidd

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Afon Cynffig a Llanmihangel yn dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf, er bod darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol yn awgrymu bod pobl yn ei defnyddio ac yn ei datblygu cyn y cyfnod hwnnw, er nad oes unrhyw olion o'r gweithgarwch cynharach hwnnw i'w gweld heddiw. Yn y bôn, nodweddir y dirwedd gan aneddiadau/caeau ôl-ganoloesol a nodweddion canoloesol creiriol sydd wedi goroesi sy'n gysylltiedig â'r defnydd a wnaed ohoni fel un o faenorau mynachaidd Llanmihangel a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Margam ac mae'r olion a nodwyd yn cynnwys capel, ysgubor ddegwm a safle melin yn dyddio o'r cyfnod canoloesol Nodweddir y dirwedd amaethyddol gan batrwm caeau datblygedig, ond eithaf rheolaidd, yn cynnwys caeau o faint canolig i fawr a lleiniau o gefnen a rhych sydd wedi goroesi a ffiniau caeau pendant. Mae coetir hynafol a choetir llydanddail arall ac ardaloedd o brysgwydd nas rheolir i'w gweld yn yr ardal. Nodweddir patrwm anheddu'r ardal gan ffermydd/bythynnod gwasgaredig a cheir enghreifftiau da o adeiladau brodorol ôl-ganoloesol. Mae nodweddion diwydiannol lleol sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, sef melino gan fwyaf (yd a phannu), yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a gorffennol mynachaidd yr ardal. Nodweddir yr ardal hefyd gan rwydwaith o lwybrau troed, llwybrau a lonydd bach sy'n droellog ac yn syth.