The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

008 Cwrs Golff Cynffig


Golygfa gyffredinol o Gwrs Golff Cynffig.

HLCA 008 Cwrs Golff Cynffig

Ardal agored o dwyni tywod sefydlog; defnydd hamdden - fe'i rheolir ac fe'i defnyddir fel cwrs golff; archeoleg gladdedig; cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwrs Golff Cynffig yn ardal o dwyni tywod a fu gynt yn agored, a oedd yn sefydlog o ganol y 19eg ganrif o leiaf, os nad ynghynt. Lleolir nifer o ffynonellau dwr, pyllau a ffynhonnau naturiol bach, megis Ffynnon y Mer, ar hyd ffiniau deheuol a dwyreiniol yr ardal gerllaw aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol. Mae nifer fawr o lwybrau a ffyrdd yn nodweddion amlwg yn yr ardal. Mae'n debyg i rai o'r llwybrau a'r ffyrdd hyn, a oedd wedi hen ymsefydlu erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol, gael eu sefydlu'n gynharach. Ychydig a wyddom am archeoleg yr ardal ei hun, ond mae darganfyddiadau gwasgaredig o ardaloedd cyfagos i'r de ac i'r gorllewin yn awgrymu rhywfaint o ddeiliadaeth yn ystod y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig.

Mae'r ardal yn ffurfio rhan dde-ddwyreiniol Twyni Cynffig ac fe'i defnyddir ar hyn o bryd gan Gwrs Golff y Pîl a Chynffig y lleolir ei glwb ychydig y tu allan i'r ardal i'r de-ddwyrain.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Cwrs Golff Cynffig fel ardal o dwyni tywod sefydlog, a reolir ac a ddefnyddir ar hyn o bryd fel cwrs golff, ac ymddengys iddi gael ei defnyddio fel tir pori cyffredin yn y gorffennol. Yn debyg i'r ardal i'r gorllewin, sef HLCA 021 Twyni Cynffig, ystyrir mai tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod sy'n cynnwys archeoleg gladdedig yn bennaf yw prif nodwedd hanesyddol yr ardal hon. Mae cysylltiadau, hy llwybrau troed, llwybrau a lonydd syth, hefyd yn thema hanesyddol amlwg yn yr ardal gymeriad.