Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam
010 Trwyn y Sger i Drwyn Porthcawl
HLCA 010 Trwyn y Sger i Drwyn Porthcawl
Parth arfordirol a rhynglanwol; tir comin agored; nodweddion rhynglanwol; cysylltiadau hanesyddol; cysylltiadau llai pwysig a ffiniau pendant. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn y Sger i Drwyn Porthcawl yn cynnwys y parth arfordirol o dir agored yn bennaf (parth rhynglanwol ac ymyl y clogwyn), i'r gorllewin o Borthcawl ac mae'n cynnwys Lock's Common a leolir gerllaw; mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi'i dynodi fel ardal cadwraeth tirwedd. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn enwog fel cyrchfan i longddryllwyr a smyglwyr. Mae'r ardal yn cynnwys angorfa'r Sger a wellwyd yn artiffisial, a elwid yn Bwt-hafn, gwely cregyn moch a nifer o nodweddion naturiol sy'n nodweddiadol o'r morlin creigiog (argraffiad 1af y map 6 modfedd dyddiedig 1884).
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Trwyn y Sger i Drwyn Porthcawl fel parth arfordirol/rhynglanwol, a ddiffinnir yn bennaf gan ymyl lanwol o greigiau a chlogwyni, ond sydd hefyd yn cynnwys tir comin agored gerllaw, sef Lock's Common a thir pori arfordirol arall. Nodweddir yr ardal hon yn bennaf gan nodweddion rhynglanwol: megis llongddrylliadau, amddiffynfeydd môr, llithrfa, gorsaf gwylwyr y glannau, pafiliwn a hafdy a nodweddion yn gysylltiedig ag angorfa a physgota. Mae darganfyddiadau ar hap yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, y cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol cynnar hefyd yn nodweddiadol o'r ardal ac maent yn cynnwys ffigwr bach o glai wedi'i grasu yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig o Lock's Common. Mae cysylltiad cryf rhwng y darn hwn o arfordir a llongddrylliadau a llongddryllio, a cheir nifer fawr o gyfeiriadau hanesyddol ato. Mae nodweddion eraill yn cynnwys ffiniau pendant a nodweddion cysylltiadau bach, gan gynnwys llwybrau troed, llwybrau a lonydd syth.