Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Llancarfan
Tirwedd iseldir nodweddiadol yw Bro Morgannwg, a ffurfiwyd ar Iwyfandir calchfaen tonnog a rennir gan ddyffrynnoedd bas, ac sy'n ymestyn o gyffiniau Caerdydd i'r dwyrain, fwy neu lai i Ben-y-bont ar Ogwr yn y gorllewin. Yn ei hystyr ehangaf, cymerir bod Bra Mnrgannwg yn draddodiadol yn cwmpasu'r holl dir isel o'r arfordir hyd at darren Tywodfaen Pennant amlwg yn y gogledd, sydd mwy neu lai yn ffin galed Blaenau Morgannwg neu'r ucheldir llai cyfoethog. Er hynny, mae'r ardal fwy nodweddiadol a daearyddol unffurf i’r de o'r A48 gyfoes, rhwng y Barri ac Afon Ogwr, lle mae cymeriad hanesyddol y tirwedd, gan gynnwys yr eglwysi mawrion a'r patrwm aneddiadau, yn gyffredinol annodweddiadol o Gymru, gan ymdebygu mwy i dirweddau dros y ffin yn Lloegr.
Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.
Mae'r wlad a'r pentrefi cnewyllol o gwmpas y fro wledig yn hysbys am eu cymeriad hanesyddol a deniadol. Mae'r tirwedd amaethyddol o gwmpas hefyd yn gyfoethog o ran gwrychoedd, coed a choedlannau bach, y mae llawer ohonynt yn eirthaf hen. Yn hanesyddol, ardal amaethyddol bwysig fu'r Fro, a ffrwythlondeb y tir yn deillio o'r priddoedd bas ond rhydd eu traeniad, sydd yn dir gwych ar gyfer ei drin a'i bori. Fe'i canmolwyd gan Rhys Meurug yn niwedd y 1580au fel tir o 'gaeau dymunol a phorfa ffrwythlon, y gwastadeddau’n ffrwythlon ac yn addas i'w trin, gyda helaethrwydd o fathau o rawn'.
Nodwedd y pentrefi yw eu natur wledig, enghreifftau o bensaernďaeth werinol amaethyddol ac adeiladau eglwysig, Mae'r mynedffyrdd at y pentrefi yn am1 yn isel a chyda gwrychoedd o bobtu, tra bod waliau cerrig yr aneddfannau yn nodwedd amlwg. Elfennau eraill sy'n hanfodol i draddodiad a chymeriad gwerinol arbennig y pentrefi yw'r adeiladau gwledig (sydd yn aml wedi eu gwyngalchu, gyda ffenestri bach a thoeau uchel eu pig), eu crefftwaith a'u defnyddiau adeiladu arbennig, mannau agored a fflora aeddfed.
Hen aneddiad a dyffryn tawel Llancarfan, yn llwyfandir canol y fro, yw un o'r engreifftiau gorau a mwyaf nodweddiadol o dirwedd hanesyddol Bro Morgannwg gyfan. Mae lleoliad yr eglwys fawr yng nghanol y pentref cnewyllol a darluniadwy yn nodweddiadol o'r dylanwadau cryf, mynachaidd, Eingl-Normanaidd yn y fro, fel eu gwelir mewn mannau eraill, megis Llandoche, Llanilltud Fawr a Merthyr Mawr. Mae safle canolog yr eglwys hynafol yn Llancarfan, sydd ei hun yn dystiolaeth o Gristnogaeth Gynnar yng Nghymru, hefyd yn nodweddiadol o batrwm aneddiadau ardal gyfan.
Mae'r ardal yn ymestyn o gymer Nant Llancarfan gydag Afon Kenson a Llancatal yn y de, tua'r gogledd at gefndeuddwr Nant Llancarfan. Yma, fe'i diffinnir gan yr A48 bresennol ger Tresimwn, sef llinell gydnabyddedig y ffordd Rufeinig o geyrydd ategol hysbys Caerdydd I’r gorllewin tuag at Gastell-nedd. Y terfynau gorllewinol yw'r is-ffordd sy'n rhedeg tua'r de i Lancatal, gyda chyfuchliniau amlwg y bryniau yn ffurfio’r terfyn dwyreiniol. Nid yw'r ardal yn unman yn uwch na 94m uwchben SO.
Daw'r eilw Llancarfan o'r eglwys (llan) a'r ffrwd (Nant Carfan). Ymddengys yr enw presennol gyntaf fel llurguniad yn y 12fed ganrif. Mae aneddiad Llancarfan a dyffryn yr afon o gryn ddiddordeb archeolegol. Y dystiolaeth gynharaf o aneddiad yw'r fryngaer fawr o Oes yr Haearn, Ffosydd y Castell, sydd i'r dwyrain o'r pentref.
Sefydlydd yr eglwys bresennol oedd Cadog ap Gwynllyw, un o'r enwocaf o'r seintiau Cymreig o'r 6ed ganrif, a oedd yn un o gyfoedion Dewi Sant. Yr oedd ei sefydliad, a godwyd ar ryd yn Llancarfan, ar y patrwm mynachaidd arferol, sef clas neu gymuned o fyneich, gydag Abad a swyddogion eraill, gan gynnwys offeiriad neu gaplan, meddyg a chanon. Dinistrwyd y fynachlog gan y Daniaid yn AD 988. Ym 1093-94, ymosododd y Normaniaid ar Forgannwg, a meddiannu'r fynachlog, gan orfodi Llancarfan i ildio'i goruchafiaeth dros y plwyf. Rhoddwyd y fynachlog gan Fitzhamon, arglwydd Normanaidd Morgannwg, i Abaty Benedictaidd Sant Pedr, Caerloyw, ar ddiwedd yr 11eg ganrif, pryd, o ganlyniad i orchfygiad, y cafodd ei gostwng i statws eglwys blwyf. Mae eglwys bresennol Sant Cadog yn dyddio o'r 14eg ganrif, er bod tystiolaeth o waith cynharach, o'r 12fed ganrif. Dernyn o siafft croes biler gyda gwaith cnotiog dolennau triphlyg wedi'u cerfio, yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrifoedd, yw'r unig ôl sy'n weddill o'r eglwys Geltaidd gyn-Normanaidd. Daeth yr eglwys a Nant Llancarfan yn ganolbwynt yr aneddiad diweddarach, gan greu llawer o ddiwydiant lleol yn defnyddio pwer dwr ar gyfer y melinau yd a gwlân yn y pentref.
Mae Llancarfan a'r ardal o gwmpas a nodir yma felly yn arwyddocaol fel un o'r rhannau hanesyddol mwyaf nodweddiadol sy'n weddill o Fro Morgannwg gyfan, ac o amrywiaeth dylanwadau'r gorffennol a'i creodd ar ei ffurf bresennol. Yn yr un modd, mae'r aneddiad hynafol a'i eglwys gynnar, mewn dyffryn arbennig, yn cadw'i hunaniaeth hanesyddol arbennig ei hun, a'i chysylltiadau â’r gorffennol.