Llancarfan
001 Llancarfan
HLCA 001 Llancarfan
Anheddiad ôl-ganoloesol cnewyllol (yn tarddu o'r cyfnod canoloesol); adeiladau canoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; patrwm caeau datblygedig/afreolaidd; archeoleg creiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; cyfathrebu; nodweddion eglwysig; cysylltiad hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir hanesyddol
Nodweddir ardal tirwedd hanesyddol Llancarfan gan anheddiad cnewyllol sefydledig sy'n cynnwys Llancarfan, sef prif ganolbwynt yr anheddiad a chanddo gysylltiadau mynachaidd pwysig yn dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar. Mae wedi'i hamgylchynu gan ddyffryn coediog serth Nant Carfan, neu Nant Llancarfan. Yn ffinio â hi i'r gorllewin ceir coetir hynafol dwys Coed-y-Crinallt, ac i'r de ac i'r gogledd ceir tir pori a chaeau o dir âr. Mae'r ardal yn cynnwys prif anheddiad Llancarfan gan gynnwys y llethrau a'r tir i'r de o'r ardal y nodir ei fod yn glastir ar fap degwm 1840. Mae'r ardal yn cyfateb, fwy neu lai, i Ardal Gadwraeth Llancarfan, ar wahân i ddarn bach o dir amaethyddol i'r gogledd o'r ardal gadwraeth a osodwyd yn HLCA008.
Mae union darddiad enw anheddiad Llancarfan wedi'i drafod mewn mannau eraill; fodd bynnag, mae cysylltiad pendant rhwng yr enw a'r abaty sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar a sefydlwyd ar y safle yn y 5ed neu'r 6ed ganrif OC. Ceir y sôn cyntaf am abad yn Llancarfan, sy'n ymddangos yn y ffurf Nant Carban a Llan Gharban (PRN 00384s) mewn siarter yn dyddio o'r 7fed ganrif Iacob abbas altaris Sancti Catoci (LL144 dyddiedig c650), ac ar ôl hynny mewn siarter yn dyddio o'r 10fed ganrif simul cum dignitae pontificalis cathedrae abbati totius dignitatis ecclesiae Sancti Catoci Lann Caruaniae (LL243 dyddiedig c980) (Davies 1978, 135; 1979, 97, 125). Ceir sôn am 'Lann Gharban' yn y llawysgrif Wyddelig Bucheddau Finnian Sant sy'n dyddio o'r 9fed-10fed ganrif sy'n awgrymu anheddiad mynachaidd. Priodolir sefydlu'r abaty, sy'n abaty Celtaidd cynnar neu'n glas mwy o faint, i un o dri sant cynnar, sef Sant Germanus (Sant Garmon) yn y 5ed ganrif, Dubricius (Dyfrig) ar ddiwedd y 6ed ganrif, neu y farn gyffredinol yw iddo gael ei sefydlu gan St Cadoc/Cattwg, mab Gwynllyw, ac un o gyfoeswyr Dubricius, tua 500 OC; enwir yr olaf (fel Landcaruan/Nant Caruguan) gan Vita Sancti Cadoci (Buchedd Cadog Sant) a ysgrifennwyd gan Lifris tua 1100 (Wade-Evans 1944, xi, 52-5). Bu dadlau ynghylch ei leoliad, gyda rhai o blaid Llanfeuthin, ac eraill o blaid Llancarfan. Roedd Evans o'r farn, yn 1944, y gallai fod wedi bod ar safle'r eglwys bresennol yn Llancarfan (PRN 385s). O fewn yr eglwys ceir croes golofn yn dyddio o ddiwedd y 9fed ganrif neu'r 10fed ganrif, yr ychwanegwyd arysgrif ati sy'n dyddio, yn ôl pob tebyg, o'r 11eg ganrif neu'r 12fed ganrif (PRN 780s; CBHC 1976, 62 rhif 940). Yn ôl Lives of the British Saints (Baring-Gould & Fisher 1907-13) lleolid yr abaty cynnar i'r de, mewn cae o'r enw 'The Calvary' neu 'Culvary'. Mae argraffiad cyntaf map yr AO dyddiedig 1885 hefyd yn cofnodi'r cae hwn fel safle'r abaty. Buwyd yn cloddio yma ar raddfa fach yn 1964, pan ddatgelwyd mur sylfaen sylweddol wedi'i blastro â morter yn ymestyn o'r gogledd i'r de, gyda phridd gwaith a chrochenwaith yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif, a haen rwbel o deils toi o Dywodfaen Pennant oedd yn cynnwys teils crib gwydrog gwyrdd danheddog wedi torri o fath sy'n perthyn i'r 14eg ganrif. Datgelwyd tystiolaeth gysylltiedig arall gan brosesau erydol nant sy'n ffinio â'r cae i'r dwyrain. Mae'r ardal wedi'i chofrestru bellach. Fodd bynnag, mae CBHC yn gwrthod derbyn mai'r safle hwn yw safle'r anheddiad mynachaidd canoloesol cynnar am nad oes unrhyw dystiolaeth benodol, archeolegol neu fel arall, ac mae'n ffafrio mynwent (PRN 03736s) anarferol o fawr eglwys y plwyf fel clostir mynachaidd Lann Gharban (PRN 384s; CBHC 1976, 17 rhif 827). Dangosir y fynwent fawr ar y map degwm dyddiedig 1840 (GlRO/36/7) fel clostir afreolaidd a chanddo gornel grwn yn y de-orllewin, ac yn debyg i'r fynwent yn Llanilltud Fawr ceir nant yn ffinio â hi (Evans 1998).
Ceir sôn yn gyntaf am adeilad presennol eglwys Llancarfan (Adeilad Rhestredig Gradd I; PRN 00385s) yn 1106 (Green 1907, 68), pan drosglwyddwyd degymau Llancarfan i Abaty Tewksbury. Cyn hynny roedd yr hen glas mynachaidd wedi'i roi i eglwys Sant Pedr yng Nghaerloyw, drwy grant a roddwyd gan Fitzhammon rhwng 1091 a 1104. Ymddengys fod ffynonellau dogfennol yn cadarnhau'r honiad i rywfaint o waith adfer gael ei wneud ar yr eglwys yn Llancarfan yng nghanol y 12fed ganrif, tra bod y nodwedd ddyddiadwy gynharaf sydd wedi goroesi, sef bwa'r gangell Drawsnewidiol, a ddyddiwyd gan Newman i tua. 1200 ar sail y cerfwaith ar fandiau'r arbyst (Newman 1995, 374). Dengys tystiolaeth ddogfennol i'r gangell gael ei hatgyweirio rhwng 1284 a 1307, ac mae'n debyg bod hyn yn cyfeirio at yr adeiladwaith yn yr eglwys sy'n dyddio o'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif (Evans 1998; Orrin 1988b, 181). Atgyweiriwyd yr eglwys unwaith eto yn 1877-8 a gwnaed llawer o waith ar y twr yr adeg honno neu ychydig yn ddiweddarach yn 1890.
Nid oes unrhyw olion o Gapel Santes Marged (PRN 01850s) a safai gynt ‘at the end of St Margaret's Bridge over the River Carven’ ac a ddisgrifiwyd gan Lluyd fel adeilad adfeiliedig yn ei Parochalia (Arch Camb 1911, rhan 3, 22). Dwy nodwedd ganoloesol neu ôl-ganoloesol arall sy'n gysylltiedig ag Eglwys Llancarfan ac sydd bellach wedi diflannu yw'r eglwysty (PRN 03564s), a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel ysgol, ac ysgubor ddegwm Llancarfan (PRN 03565s/01402s), y disgrifiwyd y ddau ohonynt yn 1901; roedd yr eglwysty yn adeilad deulawr â grisiau allanol, tra bod gan yr adeilad arall ddrws plaen, tri 'oeillet' croesffurf yn y wal ogleddol ac un arall yn y talcen uwchben.
Ar gwr de-ddwyreiniol y pentref nodwyd pedwar balc (PRN 01417s) yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd y llethr lle y darganfuwyd teilchion Canoloesol sy'n awgrymu bod y tir yma yn cael ei aredig a'i wreithio yn ystod y cyfnod hwnnw.
Y prif berchenogion tir erbyn canol y 19eg ganrif oedd Syr Thomas Aubrey, sef deon a chabidwl Caerloyw, er i nifer o bobl eraill barhau i fod â buddiant yn y pentref hefyd gan gynnwys Charles Kemys Tynte a'r Parch William Lisle a Meackham Berkin, er enghraifft.
Nid oes fawr ddim gwahaniaeth yng nghynllun Llancarfan rhwng map degwm 1840 ac argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1878/79, ar wahân i fân ychwanegiadau a cholledion, megis yr ysgubor ddegwm yng nghornel dde-orllewinol y fynwent sydd wedi diflannu ac adenydd gogleddol a deheuol yr eglwys ei hun a ddymchwelwyd. Gellir gweld dau graidd ar wahân, y naill wedi'i ganoli ar yr eglwys, a'r llall ar Cross Green, a'r Hen Felin Yd. Yn y bôn mae cynllun y ffyrdd yn cynnwys prif lôn yn rhedeg o'r gogledd i'r de ar ochr orllewinol dyffryn Nant Carfan, neu Nant Llancarfan o Dresimwn i'r gogledd, drwy Greendown i Painscross ac i'r de. Mae nifer o lwybrau sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin, fwy neu lai, (ar argraffiad 1af map yr AO) yn ymuno â'r prif lwybr drwy'r dyffryn yma a cheir llwybrau sy'n arwain i Moulton a Threwallter ac oddi yno, a lôn i Garnllwyd i'r gogledd-ddwyrain. Mae'r llwybrau hyn yn croesi Nant Llancarfan (Nant Carfan hefyd) mewn tri man. Ceir dau fan croesi yn Cross Green, yr un gogleddol lle y croesir yr afon dros bompren yn unig, ac un i'r de lle y ceir rhyd a phompren. Ceir man croesi arall ym mhrif ran y pentref ychydig i'r de-ddwyrain o'r eglwys; yn y fan hon mae pont ffordd a phompren yn rhychwantu'r nant uwchben rhyd gynharach. Mae lôn arall yn rhedeg o'r gogledd i'r de, gyda thyddyn bach sydd wedi'i nodi ar y map degwm ac argraffiad 1af map yr AO (Bwthyn Gwyn bellach) ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, yn cysylltu'r ffyrdd i Moulton a Threwallter, ac i'r dwyrain o'r man croesi deheuol dros y nant mae lôn yn arwain i'r de i Ben-onn a thu hwnt.
Lleolir prif ran y pentref o amgylch y fynwent wyffurf afreolaidd y ceir Nant Llancarfan yn ffinio â hi i'r dwyrain a lonydd i'r gorllewin ac i'r de. Dangosir y fynwent ar argraffiad 1af map yr AO (1878/79) ynghyd â'r tloty, sydd wedi'i ddymchwel bellach, wedi'i leoli yn ei wal derfyn ddeheuol. Cynhwysai'r prif bentref dafarn y Fox & Hounds a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, rhes linellol o adeiladau i'r gogledd o'r fynwent, a wynebai'r lôn i Painscross (roedd gan dafarn y Fox and Hounds ardd drionglog y tu ôl i'r ffin ddwyreiniol a nodir gan Nant Llancarfan). Gyferbyn ar ochr orllewinol y lôn, mae datblygiad hirgul llinellol o fythynnod (y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u dymchwel neu eu hehangu bellach) yn ymestyn tua'r gogledd a thua'r de o swyddfa bost (Brook Cottage) a Chapel y Methodistiaid Wesleaidd a'i fynwent sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif i'r de i Gapel Bedyddwyr Bethlehem, a adeiladwyd yn 1823 ac a ailadeiladwyd yn 1870, gyda'i fynwent a'i gefail gerllaw, a Hillside y tu hwnt, y nodwyd bod gan yr olaf risiau lle tân. Gyferbyn â Hillside i'r dwyrain o'r lôn mae Corner House ac i'r de, Great House a Fern Cottage, y tu hwnt iddo. Yng Nghapel Bethlehem, mae lôn yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin yn mynd heibio i ffin ddeheuol y fynwent hyd at fan croesi ar Nant Llancarfan. Ar ochr ddeheuol y lôn ac yn ei hwynebu ychydig i'r dwyrain o Corner House a gyferbyn â'r tloty, sydd wedi'i ddymchwel bellach, ceir rhes linellol o fythynnod teras (sydd wedi'i newid a'i rhannol gwtogi bellach) dangosir adeilad pellach (sydd wedi'i ddymchwel bellach) yn union i'r dwyrain, gyda'i dalcen yn wynebu'r lôn. I gyfeiriad y dwyrain ar draws y nant ar ochr ogleddol y lôn mae'r Ysgol (Bechgyn a Merched) a adeiladwyd yn 1875; erbyn hyn mae'r adeilad hwn yn gartref i Ysgol Gynradd Sirol Llancarfan. Ymhellach i'r de ar gwr yr anheddiad i'r' dwyrain o'r nant mae nifer o adeiladau eraill a adeiladwyd cyn 1879 gan gynnwys yr Hen Bersondy a dwy res gyfochrog y ‘New mill’ ym mhen deheuol pwll melin ar ffurf cilgant.
Mae'n amlwg bod nifer o'r tai hyn yn y pentref wedi'u gosod yn groes i'r lonydd, hynny yw gyda'u talcenni yn wynebu'r ffordd, er enghraifft Great House, Fern Cottage, Bwthyn Gwyn, a Brook Cottage, ymhlith eraill, y dangosir neu yr enwir bob un ohonynt ar fap degwm 1840. Mae'n bosibl bod y trefniant hwn yn adlewyrchu trefniant llinellol y tyddynnod neu'r daliadau tir lle y'u codwyd, neu'r traddodiad cynhenid hyn o leoli adeiladau yn groes i'r llethr, h.y. wedi'u hadeiladu i mewn i'r llethr, datblygiad sy'n gysylltiedig yn rhannol â thraddodiad y ty hir y mae iddo fanteision amlwg o ran cysgod a draenio.
Yr adeg honno dangosir Cross Green, a leolir ar wahân ychydig i'r gogledd, ac a enwyd yn ôl pob tebyg ar ôl y gyffordd lle y cyfarfyddai nifer o lonydd a llwybrau, fel darn agored o dir a dangosir yr hen felin yd, a chlwstwr o fythynnod o fewn matrics o gaeau afreolaidd; Crossgreen a Green Cottage, ac ychydig i'r gorllewin, dros ryd (gyda phompren gerllaw) ar draws Nant Llancarfan, Caradoc Cottage a Thy-to-maen sy'n ychydig fwy o faint (a ddymchwelwyd bellach), y mae'n debyg bod yr enw yn dynodi ty o gryn bwys, a nodweddwyd gan ei do-maen, deunydd toi drud mewn ardal lle y byddai gwellt wedi cael ei ddefnyddio fel arfer fel deunydd toi tan o leiaf canol y 19eg ganrif. Gallai'r enw hefyd awgrymu adeilad yn dyddio o'r 17eg ganrif neu o gyfnod cynharach.
Mae mapiau dilynol yr AO yn nodi rhagor o fân newidiadau i adeiledd yr anheddiad: er enghraifft mae Ty-to-maen wedi'i gwtogi (neu mae wedi'i ddisodli gan strwythur llai o faint), tra bod ty newydd o'r un enw wedi'i godi i'r gogledd-orllewin ar safle newydd, mae'r tloty gerllaw'r eglwys wedi'i ddymchwel, ychwanegiadau wedi'u gwneud at ochr ogleddol y Capel Wesleaidd, ac mae rhagor o adeiladau wedi'u codi i'r de o Fern Cottage erbyn cyhoeddi 2il argraffiad map yr AO yn 1900. Erbyn 1919 (trydydd argraffiad map yr AO) roedd neuadd bresennol y pentref (a enwyd yn Church Room) wedi'i chodi ar ffin ddeheuol y fynwent, ac roedd gwaith datblygu arall wedi digwydd ar gyrion yr anheddiad ar ffurf adeiladau amaethyddol ar ffurf U yn Nhy-to-maen (i'r gogledd o'r ty gwreiddiol), ac yng nghwr deheuol y pentref anheddiad newydd ‘New House’. Cafwyd rhagor o ddatblygiadau mewnlenwi yn ystod yr ugeinfed ganrif ar ffurf tai mewn arddull led-faestrefol yn bennaf yn yr ardal i'r gogledd-ddwyrain o'r fynwent, Cross Green, a chwr deheuol y pentref, er na fu graddfa na natur y datblygiadau hyn gyfryw hyd yma fel eu bod wedi newid cymeriad hanesyddol gweladwy'r anheddiad yn sylweddol.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Disgrifir Llancarfan fel anheddiad neu bentref organig cnewyllol ôl-ganoloesol a sefydlwyd ar ddechrau'r cyfnod canoloesol. Yn wreiddiol roedd gan yr anheddiad ddau ganolbwynt i bob pwrpas: y naill yn seiliedig ar eglwys a mynwent ganoloesol Llancarfan, a'r llall ar hen ‘lawnt bentref’, sef Cross Green, a arferai fod yn ddarn o dir agored wrth gyffordd a man croesi afon, a lleoliad cynharach melin yd y pentref. Mae'r ardal olaf, a ddatblygodd fel anheddiad clystyrog o amgylch y felin, a'r prif anheddiad o amgylch yr eglwys wedi'u cysylltu bellach gan ddatblygiadau hirgul ar hyd y briffordd sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de drwy'r anheddiad, ac yn fwy diweddar cafwyd datblygiadau tai mwy tameidiog yn yr ardal rhwng clystyrau hyn yr anheddiad craidd o amgylch yr eglwys â'r hen felin yd a lawnt y pentref.
Mae'r mathau amrywiol a chymysg o adeiladau a welir yn yr ardal yn adlewyrchu natur a datblygiad organig yr anheddiad ac maent yn cynnwys tai ar wahân, bythynnod, bythynnod teras, addoldai a melinau. Mae'r prif ddeunyddiau adeiladu a nodwyd yn yr ardal yn cynnwys cerrig cymysg, cerrig patrymog a brics, tra bod deunyddiau toi, sef llechi, teils a choncrid wedi disodli’r to gwellt traddodiadol yn llwyr, y mae ambell enghraifft ohono wedi goroesi yn yr ardal oddi amgylch.
Ar wahân i eglwys ganoloesol y plwyf, sef Eglwys Cadog Sant, efallai mai tafarn y Fox and Hounds (PRN 01418s) a leolir gerllaw yw adeilad amlycaf yr ardal. Er iddo gael ei newid mae'r adeilad hwn wedi cadw cryn dipyn o'i gymeriad hanesyddol; mae'n cynnwys rhes o adeiladau deulawr â waliau wedi'u rendro yn dyddio o'r 18fed ganrif, o dan do llechi, talcenni, cyrn simnai o gerrig, ffenestri â dwy gwarel a chasmentau pren (llawr cyntaf) a barrau gwydro fel arfer a drws panelog pensgwar. Mae adeiladau nodweddiadol eraill yn cynnwys Hillside (PRN 01624s), bwthyn a newidiwyd gryn dipyn (e.e. newidiwyd drws i'r stryd i greu ffenestr, mae'r grisiau i'w gweld o hyd) sy'n dyddio o bosibl o'r 18fed ganrif neu o gyfnod cynharach. Mae gan y bwthyn hwn risiau lle tân, waliau wedi'u rendro a tho llechi ar oleddf serth â chorn simnai o frics yn y talcen sydd wedi goroesi, ffenestri codi yn dyddio o'r 19eg ganrif neu'r 20fed ganrif. Newidiwyd Corner House (PRN 01422s), bwthyn â ffasâd cymesur sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, gryn dipyn yn ddiweddar; nodwyd bod ganddo ffenestri cwarelog bach (a ddisodlwyd bellach gan rai UPVC), portsh canolog a dau gorn simnai a'i fod wedi'i rendro â sment a'i liwio. Roedd gan y bwthyn hwn do gwellt ar un adeg, a ddisodlwyd, yn debyg i lawer o doeau gwellt yn y fro, gan do llechi. Mae Chapel House neu Chapel Cottage (sy'n gysylltiedig â Chapel Bethlehem i'r de) yn adeilad traddodiadol sydd hefyd yn dyddio o'r 19eg ganrif a chanddo ychwanegiadau cynnar i'r pen gorllewinol a'r pen dwyreinol. Mae'r adeilad ffrynt dwbl hwn hefyd wedi'i rendro â sment ac mae ganddo do llechi, cyrn simnai yn y talcenni, a ffenestri casment pren.
Mae nifer o'r tai hyn yn y pentref wedi'u gosod yn nodweddiadol yn groes i'r lôn, neu wedi'u halinio â'u talcen yn wynebu'r ffordd, er enghraifft Great House (adeilad yn dyddio o'r 18fed ganrif neu o gyfnod cynharach a adeiladwyd o gerrig a chanddo do llechi, drychiadau wedi'u rendro â sment, a ffenestri newydd), Fern Cottage, Bwthyn Gwyn, a Brook Cottage, Chapel House, ymhlith eraill. Fel y nodwyd uchod, gallai'r trefniant hwn adlewyrchu trefniant llinellol y tyddynnod neu'r daliadau tir lle y codwyd y tai hyn, neu mae'n bosibl eu bod yn gysylltiedig â'r traddodiad cynhenid hyn o leoli adeiladau yn groes i'r llethr; datblygiad sy'n gysylltiedig yn rhannol â thraddodiad y ty hir y mae iddo fanteision amlwg o ran cysgod a draenio.
Mae nodweddion eraill yn cynnwys blwch ffôn rhestredig (LB Gradd II; PRN 02158s) a leolir rhwng neuadd y plwyf a'r bont; ciosg sgwâr, coch a adeiladwyd o haearn bwrw gan ddilyn cynllun safonol Giles Gilbert Scott o Lundain a gyflwynwyd gan y Swyddfa Bost Gyffredinol yn 1936, a neuadd y plwyf neu'r pentref sy'n dyddio o ddechrau'r 20fed ganrif, adeilad â waliau wedi'u rendro (wedi'u chwipio â gro) â chonglfeini o frics melyn plaen a manylion o amgylch y ffenestri a'r drysau a tho hanner talcennog. Mae'r stoc dai fodern yn cynnwys yn bennaf eiddo sylweddol o frics wedi'u rendro o fewn eu lleiniau eu hunain.
Mae Nant Llancarfan yn llifo drwy'r pentref ac mae'n nodwedd bwysig. Mae hefyd yn ffynhonnell dwr ac felly nodweddir yr ardal gan y defnydd sydd wedi'i wneud o ynni dwr at ddibenion melino. Nodweddir archeoleg ddiwydiannol wledig gan yr adeiladau a'r systemau o ffrydiau melinau sy'n gysylltiedig â'r Old Mill yn Cross Green, a New Mill, yn ne'r pentref. Addaswyd y gyntaf, a nodir fel y felin yd ar y map degwm ac argraffiad 1af map yr AO, yn annedd, er bod ei holwyn ddwr i'w gweld o hyd. Roedd gefail, neu weithdy gof gwledig, yn y pentref ar un adeg, nodweddion ‘diwydiannol’ neu nodweddion crefft gwledig a oedd yn nodweddiadol o aneddiadau cyn canol yr 20fed ganrif.
Mae waliau cerrig wedi'u plastro â morter, megis y rhai o amgylch y fynwent, yn nodwedd o fewn yr anheddiad, ac mae rhai enghreifftiau wedi'u rendro (e.e. sy'n arwain i Fern Cottage). Ceir enghreifftiau o ffiniau traddodiadol eraill hefyd, megis cloddiau ag wyneb carreg â gwrychoedd, gwrychoedd, a ffosydd, sy'n adlewyrchu natur y dirwedd amaethyddol ehangach. Mae cyrion yr anheddiad wedi ymestyn i mewn i'r caelun afreolaidd oddi amgylch, sy'n dal i gynnwys tystiolaeth greiriol a chladdedig o arferion amaethyddol canoloesol ar ffurf balciau ac mae'n bosibl i'r ffiniau sydd wedi goroesi gael eu sefydlu, o leiaf yn rhannol, yn y cyfnod canoloesol.
Mae archeoleg greiriol yr ardal yn gysylltiedig yn y bôn â'r anheddiad canoloesol a'r dirwedd amaethyddol gysylltiedig, fel y tystia balciau a chrochenwaith yn dyddio o'r 13eg/14eg ganrif a ddarganfuwyd, anheddiad wedi'i ganoli ar ei eglwys ganoloesol (a'i fynwent afreolaidd ei siâp, sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar, ac sy'n darparu nodwedd eglwysig bwysig). Er bod golwg allanol eglwys Cadog Sant, sy'n dangos arddulliau addurnedig ac unionsyth, yn dyddio o'r 13eg, y 14eg a'r 15fed ganrif yn bennaf, mae tystiolaeth wedi goroesi i awgrymu iddi gael ei hadeiladu yn y 12eg ganrif, ac mae heneb o garreg gerfiedig a thopograffi'r fynwent yn awgrymu iddi gael ei sefydlu ar safle cyn-Normanaidd. Ymddengys fod siâp y fynwent hefyd wedi cael dylanwad hirhoedlog ar gynllun yr anheddiad; mae cynllun y ffordd yn nodi ffin darn o dir, yr adeiladwyd dros ran honno bellach, yn union i'r dwyrain o'r fynwent a Nant Llancarfan, yr ymddengys ei fod yn estyniad naturiol o'r fynwent o ran ei ffurf o leiaf.
Mae archeoleg gladdedig bwysig yn cynnwys twmpath hirgrwn afreolaidd (sy'n rhestredig bellach) mewn ardal i'r de o'r fynwent a elwir yn ‘Culvery’ neu ‘Calvary Park’, a gloddiwyd yn 1964. Datgelodd y gwaith cloddio fur sylfaen sylweddol wedi'i blastro â morter yn ymestyn o'r gogledd i'r de, ynghyd â chrochenwaith yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif, a haen rwbel o deils toi o dywodfaen oedd yn cynnwys teils crib gwydrog gwyrdd o fath sy'n perthyn i'r 14eg ganrif (PRN384s; SAM GM075; CBHC 1982). Ni chadarnhawyd beth yn union yw'r cysylltiad rhwng yr olion strwythurol hyn na'u diben; mae'r dystiolaeth yn awgrymu strwythur neu adeilad, sy'n gysylltiedig â sbwriel adeiladu o statws uchel (naill ai lleyg neu eglwysig) nad yw'n gynharach na'r 13eg ganrif. er y byddai tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu y gallai fod gan y safle fath o gysylltiad eglwysig, ni ellir honni yn bendant mai dyma oedd lleoliad safle mynachaidd canoloesol cynnar Llancarfan, yn hytrach na'r fynwent ei hun.
Cynrychiolir nodwedd eglwysig yr ardal yn weledol gan eglwys blwyf ganoloesol drawiadol, y nodwyd mai hi oedd yr un fwyaf yn y Sir yn 1801; mae'r eglwys, a adferwyd yn y cyfnod Fictoraidd, yn cynnwys corff yr eglwys, cangell ar wahân, ystlys ddeheuol (gan gynnwys Capel Rhaglan) sydd o'r un lled â chorff yr eglwys, portsh deheuol, a thwr gorllewinol crenelog, go isel. Roedd gan yr eglwys groglofft anarferol o lydan; mae'r croglenni cysylltiedig wedi goroesi fel nodwedd fewnol bwysig. Mae rhan helaeth o ochr ddeheuol yr adeilad wedi'i gorchuddio â gwyngalch traddodiadol, a roddwyd ar gerrig wedi'u rendro gan mwyaf, ond lle y gellir gweld gwaith maen mae wedi'i adeiladu o rwbel haenog o garreg galch las leol. Defnyddiwyd carreg Sutton ar gyfer y ffenestri Addurnedig a thywodfaen ar gyfer yr agoriadau eraill ac ar gyfer yr arcedau. Bwa'r gangell Drawsnewidiol yw'r nodwedd ddyddiadwy gynharaf sydd wedi goroesi, a ddyddiwyd gan Newman i c1200 ar sail y cerfwaith ar fandiau'r arbyst. Mae arcêd corff yr eglwys a'r drws rhwng corff yr eglwys a'r portsh yn yr arddull Seisnig Gynnar ac maent yn dyddio o ganol y 13eg ganrif neu'r 14eg ganrif. Ymddengys fod gwaith atgyweirio a wnaed ar y gangell, a'r twr, gan gynnwys gosod ffenestri newydd, yn dyddio o'r un cyfnod (Evans 1998, 16-17; Newman 1995, 374; Orrin 1988b).
Mae capeli anghydffurfiol, a ddangosir ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1885 a map degwm 1840, yn ychwanegu at nodwedd eglwysig y pentref. Mae Capel Gwyn (PRN 01419s) yn Gapel Wesleyaidd sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif, a addaswyd bellach yn annedd breifat; saif y capel gwyngalchog hwn sydd â waliau wedi'u rendro, ffenestri lansed (barrau gwydro croes ar ffurf rhwyllwaith), to llechi, bondo bargodol ac adain groes fynediad fargodol ddeulawr a ychwanegwyd yn ei ben gogleddol gyda chwarel fwaog uwchben, mewn safle amlwg wedi'i osod yn ôl o'r ffordd. I'r de ceir Capel Bethlehem (PRN 1421s), capel yn dyddio o'r 19eg ganrif a chanddo ddrychiad talcen blaen diddorol, tra bod y drychiadau eraill yn blaen; mae gan y ffasâd mynediad ddrws pengrwn â ffrâm o gerrig nadd cylchrannog, plac enw a dyddiad uwchben ac ar y naill ochr a'r llall iddo ceir ffenestri pengrwn, cornis wedi'i fowldio sy'n bargodi a phediment ffurfiedig uwchben.
Gan barhau â thema ddefodol, o leiaf, yn hytrach nag un eglwysig ceir Ffynnon sanctaidd Llancarfan (PRN 01849s) ychydig y tu allan i'r pentref, ffynnon ‘pinnau a chlytiau’ y dywedir ei bod yn gwella Clefyd y Brenin (sgroffwla); câi darnau o ddefnydd o ddillad is eu hongian ar lwyni ar ôl yfed o'r ffynnon. Nododd Jones fod y ffynnon hon yn enwog yn draddodiadol yn bennaf fel ffynnon iachusol, ac nid am ei bod yn perthyn i ddosbarth o ffynnon a oedd yn gysylltiedig â seintiau neu eglwysi (Jones 1954, 186-7).
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o nodweddion cysylltiadau nodweddiadol gan gynnwys llwybrau, lonydd syth a throellog, a ddiffinnir gan dopograffi naturiol a ffiniau'r clostiroedd cynharach yn yr anheddiad, yn enwedig ffin y fynwent afreolaidd ei siâp sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol cynnar. I ddechrau defnyddiai pobl rydau i groesi Nant Llancarfan ac wedyn yn ddiweddarach bomprennau a phontydd ffordd; ceir pont ffordd a rhyd yn y pentref, sy'n fân nodweddion yn yr ardal.
Mae topograffi a natur goediog yr ardal o amgylch yr anheddiad yn cyfrannu at greu naws gaeedig iawn; mae coetir Hynafol yr ardal a leolir ar y llethrau serth, yn enwedig i'r gorllewin o'r pentref, ynghyd ag ardaloedd eraill o goetir llydanddail o fewn yr anheddiad ei hun yn nodwedd bwysig a gweladwy. Mae'r coetir hwn hefyd yn cuddio llawer o'r datblygiadau tai diweddarach, ac felly er gwaethaf ychwanegiadau diweddarach nid ymddengys fod yr anheddiad wedi newid rhyw lawer.
Mae gan y pentref a'r ardal o'i amgylch gysylltiadau hanesyddol pwysig â nifer o bobl, gan ddechrau gyda Cadog Sant a Sant Germanus, a fu'n byw yn y cyfnod canoloesol cynnar, Caradog yr hanesydd y cyfeirir ato gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia, ac awdur Buchedd Cadog a Buchedd Gildas, ac efallai Vita Cungari, yr ystyrir hefyd fod ganddo gysylltiad posibl â Llyfr Llandaf. At hynny mae cysylltiad cryf rhwng Llancarfan a'r bardd Iolo Morgannwg, a anwyd ym Mhen-onn gerllaw yn 1746 ac sy'n enwog am ei ddehongliad dychmygus o hanes gan gynnwys ffugio nifer o groniclau, megis Brut Aberpergwm a Brut Ieuan Brechfa (Lewis 1971, 449-554).