Llancarfan
009 Greendown
HLCA 009 Greendown
Cysylltiadau eglwysig a hanesyddol; system gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Greendown yn cynrychioli ardal yr ystyrir ei bod yn rhan o'r hen faenor a elwir yn 'Greendona Grange'. Yn ffinio â hi i'r gorllewin ceir ardaloedd cymeriad Liege Castle (HLCA 011) a Chanol Dyffryn Llancarfan (HLCA 008) ac i'r dwyrain ceir ardal o goetir a phrysgdir eithinog heb ei wella. I'r de o'r ardal ceir Nant Whitton. Roedd yr ardal yn rhan o blwyf Tresimwn ac fe'i cofnodir ar ddyraniad degwm Tresimwn dyddiedig 1839 fel caeau sy'n eiddo i Robert Savayrs a Thomas Edwards ac fel 'Down Mawr', ym meddiant Llewellyn Treharne a Thomas Meezy.
Mae cysylltiad crefyddol cryf yn yr ardal sy'n dechrau mor gynnar â 1205, a cheir cyfeiriadau at wahanol ddarnau o dir a roddwyd i fynachod yn Nhresimwn. Yn ddiweddarach cyfeirir yn benodol at faenor yn Nhresimwn mewn llythyr gan y Pab dyddiedig 1261; serch hynny mae'n ddiddorol nodi, erbyn 1291 mewn cofnodion treth y pab, er y ceir cyfeiriadau at rent blynyddol a 'work done by the nativi', nad oes unrhyw sôn am faenor (CBHC 1982).
Ni nodwyd unrhyw leoliad pendant ar gyfer y faenor uchod am nad yw ffynonellau dogfennol yn cynnwys llawer o fanylion. Ystyriwyd dau safle fel lleoliadau tebygol gan y Comisiwn Brenhinol (CBHC 1982, 293): lleolir y ddau ohonynt y tu allan i'r ardal gymeriad hon. Lleolir y cyntaf i'r gogledd-orllewin ac mae'n gloddwaith hirsgwar isel o fewn HLCA011 a nodwyd ar fap yr AO fel hen 'Chapel and Graveyard' (PRN 00362s) a oedd yn gysylltiedig â Liege Castle; mae'r llall yn amddiffynfa gylch (PRN 00798s), a safle posibl plasty Simon de Bonville, sylfaenydd Normanaidd tybiedig Tresimwn.
Mae pwysigrwydd y nentydd sy'n llifo drwy'r ardal hon hefyd yn ystyriaeth wrth leoli'r faenor am ei bod yn debyg bod eu cyrsiau yn bwysig wrth nodi ffin y faenor o'r 13g ganrif o leiaf: ymddengys y byddai tir y faenor wedi ymestyn dros ardal ehangach na'r ardal gymeriad bresennol ac y byddai wedi ymestyn i'r goledd ac i'r dwyrain i Dresimwn (Williams 1990).
Mae ffurf y caelun o fewn yr ardal gymeriad hon wedi'i chadw fwy neu lai fel y'i dangosir ar argraffiad 1af map yr AO. Yr unig anheddiad yn yr ardal gymeriad yw fferm Greendown ('Meadowbank' bellach) gyda'i hadeiladau amaethyddol cysylltiedig wedi'u gosod o fewn clostir lled-hirsgwar sydd wedi'i rannu'n ddwy a chyda pherllan i'r gogledd a'r ffermdy i'r de; dangosir y ffermdy ar argraffiad 1af, 2il agraffiad a 3ydd argraffiad mapiau'r AO fel adeilad unionlin a leolir i'r gorllewin o'r lôn ac sy'n ei hwynebu gyda rhes afreolaidd lai o faint y tu ôl iddo (i'r gorllewin), a gardd hirsgwar o'i flaen Lleolir rhes linellol ar wahân o adeiladau allan gan gynnwys ysgubor a thwlc moch (deuol) ar wahân ac iard hirsgwar yn y cefn ar yr ochr arall i'r lôn i'r gorllewin sydd unwaith eto yn wynebu'r lôn, er eu bod wedi'u gosod yn ôl ohoni ychydig; ymhellach i'r de ceir adeilad arall sy'n sefyll ar ei ben ei hun, ac ymhellach i'r de chwarel (wedi'i gorchuddio â phrysgwydd) ac odyn galch (sy'n hen ar argraffiad 1af map yr AO). Ni fu fawr o newid tan ail hanner yr 20fed ganrif, pan ehangwyd yr anheddiad ac addaswyd y fferm i'w defnyddio at ddibenion preswyl. Adeiladwyd dros y chwarel a dyma safle 'The Paddocks' a 'Wild Meadow Cottage' heddiw. Gwnaed rhywfaint o waith i isrannu'r clostiroedd a oedd agosaf at yr anheddau newydd i greu gerddi a phadogau bach yn ystod y cyfnod hwn.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Greendown gan ei chaelun yn bennaf a hefyd gan ei chysylltiadau hanesyddol a chrefyddol. Caeau afreolaidd, canolig a bach eu maint y mae eu ffiniau wedi'u ffurfio yn bennaf o wrychoedd â rhai coed nodedig yw nodweddion allweddol y caelun hwn.
Gwnaed rhywfaint o waith i gyfuno caeau yn rhan ogleddol yr ardal gymeriad: i'r de o anheddiad modern Greendown fel arall y mae ac mae caeau wedi'u hisrannu. Mae'r system gaeau nodweddiadol a ddisgrifiwyd uchod yn cynnwys cae siâp diemwnt afreolaidd nodedig yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal nad yw'n cyd-fynd â'r patrwm a ddisgrifiwyd uchod. Mae'n bosibl mai'r cae hwn yw safle tyddyn neu annedd, a gallai fod yn gysylltiedig â'r hen faenor yn ogystal â'r rhai a nodwyd gan y Comisiwn Brenhinol. Mae ffin gromliniol, ychydig yn afreolaidd yn amgáu'r ardal anheddu gyffredinol ar yr ochr ddwyreiniol o fferm Greendown tua'r de, ac mae'n ei gwahanu oddi wrth y caelun amaethyddol y tu hwnt. Drwy astudio ffiniau'r caeau yn yr ardal hon ymhellach mae'n bosibl y cawn ddata defnyddiol am y modd y datblygodd clostiroedd ac efallai y bydd yn ein galluogi i nodi lleoliad posibl y faenor fynachaidd hyd yn oed. Ar hyn o bryd ni ellir ond dyfalu ynglyn â lleoliad y faenor. fodd bynnag, nodwyd ôl cnwd (NPRN 309,018) ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, ychydig i'r de o anheddiad modern Greendown, unwaith eto o fewn ffin gromliniol, ac efallai y byddai'n werth astudio'r nodwedd hon ymhellach.
Nodweddir yr ardal gymeriad hon gan ei chysylltiadau hanesyddol a chrefyddol yn bennaf, sydd wedi nodi ei ffiniau i raddau helaeth. Mae'n rhan o diroedd hen faenor Greendown, a fu'n eiddo i nifer o foneddigion, arglwyddiaethau ac abatai, drwy gydol y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol, gan gynnwys Hugh de Raelagh a roddodd ei faenor 'Greendona' i Abaty Margam rywbryd tua 1161 (Williams 1990). Daeth yr ardal gymeriad hon i feddiant Syr John St. John o dan un berchenogaeth, HLCA 009, a Maenor Tresimwn yn 1541, ac o ganlyniad sefydlwyd cysylltiad hanesyddol cryf rhwng y ddwy (CBHC 1982).
Prin yw'r enghreifftiau o adeiladau ôl-ganoloesol yn yr ardal ac maent yn cynnwys 'Meadowbank', fferm ôl-ganoloesol Greendown sydd wedi goroesi, fe ymddengys, (o argraffiad 1af, 2il argraffiad a 3ydd argraffiad mapiau'r AO), ac, ar yr ochr arall i'r ffordd, ei hadeiladau allan a addaswyd bellach, rhes linellol o adeiladau cerrig a gynhwysai ysgubor: mae'r elfen hon wedi'i chadw yn yr enw 'Ysguboren House'. Mae gan y ffermdy ddrychiadau wedi'u rendro a ffenestri codi o dan do llechi. Ar wahân i Greendown Farm nodweddir yr ardal dan weithgarwch anheddu ar raddfa fach sy'n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Waliau wedi'u plastro â morter sy'n ffurfio'r ffiniau o amgylch yr anheddiad modern yn Greendown ac yn agos ato.
Mae ffiniau eraill a geir o fewn yr ardal yn cynnwys ffiniau ffisegol megis llwybrau cyflenwadau dwr, er enghraifft Nant Whitton i'r de, Canol Dyffryn Llancarfan i'r gorllewin a choetir/prysgwydd i'r dwyrain. Mae ffiniau gweinyddol hirsefydlog eraill yn cynnwys hen dir maenoraidd a ffiniau plwyf Tresimwn sy'n ddiweddarach. ffurfiau'r tiroedd a ddelid gynt gan Liege Castle ffin i'r ardal hon hefyd yn y gorllewin.
At hynny mae mân nodweddion eraill yn ymwneud â mân nodweddion diwydiannol megis odynau calch a safle cloddio chwarel. Defnyddiwyd y rhain i gynhyrchu calch i'w ddefnyddio at ddibenion amaethyddol yn ogystal ag ar gyfer adeiladu. Mae'r nodweddion hyn wedi'u dogfennu yn y dirwedd o argraffiad 1af map yr AO o leiaf. Fodd bynnag nid yw eu cyflwr presennol yn hysbys.