The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifiad o'r tirwedd

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam


Ffurfiodd tywod a chwythwyd gan y gwynt gryn ehangder o dwyni tywod ar nifer o fannau ar hyd arfordir De Cymru, gyda thopograffeg yr arfordir a'r gwyntoedd gorllewinol yn bennaf yn rheoli eu dosbarthiad. Fe'u ceir fel arfer yn y baeau, lle mae maint y bae a thirwedd y gefnwlad yn rheoli eu lledaeniad. Dengys tystiolaeth hanesyddol y digwyddodd tywodi yn gyflym iawn yn y cyfnod canoloesol diweddar, yn ystod y 13edd i'r 15fed ganrifoedd, gyda dirywiad yn yr hinsawdd a chynnydd sylweddol mewn tywodi o ganlyniad i stormydd, glawiad uwch a llanw anarferol, oll yn digwydd gyda'i gilydd. Arweiniodd yr amodau hyn at erydu twyni tywod yr arfordir, a'r tywod yn symud i mewn i'r tir.

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Mae Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam yn ddwy ardal o dwyni ar wahHn ar arfordir gorllewinol Morgannwg, a dyma'r enghreifftiau gorau yn Ne Cymru o'r grymusderau naturiol a dilywodraeth hyn, ac o'r effaith sylweddol a gawsant ar gymdeithasau cynharach. Yn anorfod, cynrychiolir dau dirwedd, y nail1 ym Margam a Chynffig yn dirwedd a dywodwyd yn y b8n oherwydd amodau tywydd anffafriol a ffenomenh'r llanw yn y Canol Oesoedd ac yn gynt, efallai, t a'r llall ym Merthyr Mawr fel tirwedd cyffredinol mwy hynafol, gyda safleoedd archeolegol wedi'u llwyr gladdu a gan y grymusderau naturiol hyn.

Twyni Merthyr Mawr

Mae Twyni Merthyr Mawr ar ochr ogledd orllewinol moryd Afon Ogwr. Mae cyfundrefn y twyni yn uwch o lawer nac yng Nghynffig, gall gyrraedd uchder o 80m uwchben SO, ac yn tueddu i oruchafa'r golygfeydd o'r foryd a'r gefnwlad yn union o gwmpas Merthyr Mawr sydd, fel y'i diffinir yma, yn cynnwys Castell Ogwr ar ochr arall y foryd i'r twyni.

Dros y ganrif ddiwethaf, ildiodd y twyni amrywiaeth o ddefnydd archeolegol sy'n nodi preswyliaeth a gweithgaredd o'r cyfnod Mesolithig i'r gorffennol diweddar, trwy i nodweddion ac arwynebeddau archeolegol a gladdwyd ddod i'r wyneb dro ar ôl tro trwy symudiad y tywod. Mae adnoddau cudd archeolegol y twyni yn uchel iawn, gan bod cofnodion am y darganfyddiadau yn awgrymu y bu preswyliad yma yn y cyfnodau Mesolithig, Neolithig, o Oes yr Efydd gynnar (a gynrychiolir gan feddau cistfaen a thwmwli) ac o Oes yr Haearn (gyda thystiolaeth o weithio metel). Yn y cyfnod hanesyddol, ceir tystiolaeth o breswyliad canoloesol o ddarganfyddiadau crochenwaith, muriau, tomenydd cregyn, cefnennau o dir wedi'u trin, ffyrdd, cerrig ffin, a melin wynt o bosibl o'r 15fed ganrif ar ben y twyni. Parhau i symud y mae'r twyni: arwydd o hyn yw Castell Tregantllo, murddun maenordy bach castellog y codwyd y rhan fwyaf ohono'n wreiddiol yn niwedd y 14edd ganrif. Bu pobl yn byw ynddo tan y 19edd ganrif, ond yn awr, saif yn erbyn ochr ddwyreiniol y twyni, a'i dir wedi'i gladdu'n llwyr dan y tywod.

Mae Merthyr Mawr yn nodweddiadol o bentrefi Bro Morgannwg i'r dwyrain, (q.v. Llancarfan, Bro Morgannwg, tud. 50). Mae gan yr eglwys ganoloesol gasgliad o gerrig Cristnogol Cynnar, sy'n awgrymu y gallai yn wreiddiol fod wedi bod yn sefydliad clas mynachaidd (uned weinyddu wedi' i seilio ar aneddiad mynachaidd canoloesol). Mae Castell Ogwr, caer Normanaidd i'r de, yn gastell gwaith cerrig o'r 12fed i'r 14edd ganrifoedd, wedi'i leoli'n strategol nesaf at ryd llanw ar draws Afon Ewenni, un o isafonydd Afon Ogwr. Fe'i codwyd yn wreiddiol o waith cloddiog a phren, gyda ffos fyddai'n llenwi 8 dwr ar adeg llanw uchel, ac mae'n debyg mai'r gorthwr gwaith cerrig o'r 12fed ganrif a osodwyd wedyn yn y ward fewnol yw un o'r adeiladau gwaith cerrig Normanaidd hynaf yn Ne Ddwyrain Cymru.

Twyni Cynffig a Margam

Gorwedd y twyni hyn oddeutu 7km i'r gogledd orllewin o Ferthyr Mawr, ar y gwastadedd arfordirol rhwng y m6r a Mynydd Margam i'r gogledd, a chadwasant eu golwg drawiadol er i gyfundrefnau cludiant modern y rheilffordd a'r draffordd dorri ar draws eu hymylon dwyreiniol. Maent lawer yn is, ond yn fwy helaeth, na thwyni Merthyr Mawr. Yn hanesyddol ac yn archeolegol, mae ardal Cynffig yn gyfoethog o ran tystiolaeth am y gorffennol, ac y mae'n cynnwys castell a bwrdeistref Cynffig a dywodwyd; fe'u disgrifiwyd fel Pompeii Prydain. Er mae'n debyg mai sefydliad Normanaidd oedd Cynffig, dengys darganfyddiadau archeolegol eraill o'r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a'r Oesoedd Tywyll o'r ardal yn union gerllaw iddo fod yn safle ffafriol i'w aneddu o gyfnod cynnar iawn.

Daw enw arglwyddiaeth, castell a bwrdeistref ganoloesol gynnar Cynffig o Afon Cynffig a fu unwaith yn bwysig. Tardda ar Fynydd Margam 6km i'r gogledd. Ar y Ian ddeheuol y mae'r castell; 2km o'r foryd bresennol, er mai o ddiwedd y cyfnod canoloesol y mae'n dyddio. Yn wreiddiol, yr oedd yma foryd eang a ymestynai i mewn i'r tir bron at safle'r castell, ac y mae'r nodwedd ddaearyddol gynnar a phwysig hon yn amlwg heddiw ym Mhwll Cynffig, sy'n fawr ac wedi ei amgylchynu gan dir, a phyllau llai tua'r gogledd. Oherwydd y topograffi gwreiddiol hwn, yr oedd castell Cynffig a'r fwrdeistref gerllaw yn arwyddocaol o safbwynt strategol a milwrol gan eu bod ar borthladd ac afon o gryn bwysigrwydd.

Mae twyni helaeth Twyni Cynffig yn cuddio'r castell a'r fwrdeistref gladdedig cystal fel mai'r peth gorau yw eu lleoli mewn perthynas d nodweddion modern; fel mae'n digwydd, y mae'r rheiny eu hunain heddiw yn tystio i safle bwysig Cynffig ar y tramwyfeydd. Gorwedd bwrdeistref y castell yn union i'r de o'r brif reilffordd, a rhyw 300m i'r gorllewin o fan Ile maedarn uchel o draffordd yr M4 yn croesi'r rheilffordd. Nid oes dichon bod y castell yn bell o'r fan lle'r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerdydd i Gastell-nedd yn croesi Afon Cynffig. Rhufeinig oedd tarddiad y ffordd hynafol hon, y Pwrtwai neu'r Fartima ganoloesol, a dewis eithriadol o dda oedd codi'r castell ar y dramwyfa strategol hon, Ile mae'r afon yn cyfarfod â'r môr.

Safle strategol ac agored bwrdeistref y castell fel caer fwyaf gorllewinol Arglwyddi Morgannwg yn y 12fed ganrif sydd i gyfrif am y cofnod dogfennol arbennig o lawn a oroesodd. Rhwng 1167 a 1321, ymosododd y Cymry, a gyfyngid bellach i ucheldiroedd cyfagos Mynydd Margam, ddim llai nag with gwaith ar Gynffig, yn ôl y cofnodion. Mae'r tirwedd heddiw yn adlewyrchu llawer o'r gwrthdaro rhwng y carfannau rhyfelgar hyn, y nail1 yn goresgyn ac yn elwa ar y tiroedd isel, breision, a'r llall wedi'u cau allan a'u cyfyngu gan rym milwrol i'r bryniau o fewn golwg i furiau Cynffig.

Crybwyllir Castell Cynffig ac Eglwys Sant Iago gyntaf yn y cyfnod 1135-54. Mae'n amlwg, felly, bod y fwrdeistref a'i heglwys a gofnodwyd wedi'i sefydlu fan bellaf erbyn can01 y 12fed ganrif, a bod iddi amddiffynfeydd o waith cloddiog a phren. Yng nghanol y 14edd ganrif, yr oedd Cynffig yn fwrdeistref sylweddol o ryw 700-800 o bobl. Cofnodir Stryd 'Fawr', Stryd y 'Dwyrain' a Stryd y 'Gorllewin' yn ogystal â chapel i St. Thomas, y Guildhall a maladaria (ysbyty neu glafdy). Mae'n amlwg bod y fwrdeistref yn ffynnu ar yr adeg hon, er i'r sefyllfa ddirywio'n gyflym yn ystod y 15fed ganrif, wrth i'r tywod gau i mewn.

Erbyn 1470, yr oedd pawb, bron, wedi gadael y dref. Y flwyddyn ganlynol, dywedwyd wrth y bwrdeisiaid am adael eu heglwys a symud i'r Pîl, lle'r oedd anheddiad newydd yn datblygu. Erbyn y 1530au, gallai'r hynafiaethydd Leland nodi yn unig 'a village on the est side of Kenfik, and a Castel, both in ruins and almost shokid and devoured with the sanaes that the Severne se there castith up'. Erbyn 1572, tri bwrdais yn unig oedd ar ôl, tra cofnododd arolwg o'r fwrdeistref ym 1665 un teulu yn unig yn byw 'on the site of the ould castle'.

Roedd Ty Scer, sydd wedi'i gynnwys ar ochr ddeuheuol yr ardal, gynt yn blas oedd yn eiddo i Abaty Nedd.