The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Blaenafon


Lleolir Blaenafon ym mlaenau cwm Afon Llwyd yn un o ardaloedd mwy agored ucheldiroedd Gwent. Lleolir rhan isaf y dref, lle y mae'r afon yn llifo i lawr y cwm cul, ar uchder o 300m OD. Mae llethrau'r cwm yn codi'n eithaf serth i esgeiriau gweundirol Cefn Coch, Mynydd Coety a'r Blorens oddi amgylch, sy'n cyrraedd bron 600m uwchlaw OD. Mae ardal Pwll Du, i'r gogledd o'r dref, yn ymestyn dros y llwyfandir sy'n ffurfio'r cefn deuddwr rhwng dyffryn Afon Llwyd a cheunant Clydach i'r gogledd.

Overview map of Blaenavon Historic Landscape Character Areas - clickable
Nôl i'r prif fap HLCA012 Anheddiad Forgeside HLCA005 Forgeside a Phwll Mawr HLCA001 Craidd Trefol Blaenafon HLCA018 Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon HLCA003 Glantorfaen HLCA019 Ardal Mwyngloddio Brig Mynydd y Farteg HLCA020 Mynydd Coety HLCA008 Coridor Trafnidiaeth Garn-yr-erw HLCA004 Tirwedd Amgaeedig Coety HLCA006 Gwaith Haearn ac Upper Brick Yard HLCA017 Mynydd y Garn-fawr HLCA007 Llynnoedd Garn (Cynllum Adfer Kay a Kears) HLCA002 Estyniad Trefol Blaenafon HLCA021 Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon HLCA009 Ardal Gloddio Cefn Garnyrerw a Phen-ffordd-goch HLCA010 Tomenni Canada a Blaen Pig HLCA011 Y Blorens a Bryn Gilwern HLCA016 Cwm-mawr a Choed-y-Prior HLCA013 Cwm Llanwenarth a Chwm Craf HLCA015 Llan-ffwyst HLCA014 Gofilon HLCA020 Coity Mountain HLCA004 Coity Enclosed Landscape HLCA005 Forgeside and Big Pit HLCA012 Forgeside Settlement HLCA019 Mynydd Varteg Opencast HLCA003 Glantorfaen HLCA018 Cwmavon Industrial Transport Corridor HLCA002 Blaenavon Urban Extension HLCA001 Blaenavon Urban Core HLCA021 West Blaenavon Industrial Estates HLCA006 Blaenavon Ironworks and Upper Brick Yard HLCA017 Mynydd y Garn-fawr HLCA008 Garn-yr-erw Transport Corridor Historic Landscapes in Wales HLCA007 Garn Lakes (Kay and Kears Reclamation) HLCA009 Cefn Garnyrerw and Pen-ffordd-goch Extractive Area HLCA010 Canada Tips and Blaen Pig HLCA011 Blorenge and Gilwern Hill HLCA013 Cwm Llanwenarth and Cwm Craf HLCA014 Govilon HLCA015 Llanfoist HLCA016 Cwm-mawr and Coed-y-Prior

Defnyddiwch y map i dewis eich ardal o ddiddordeb, neu ewch yn syth i'r ardal nodwedd crynodebau.

Gorchuddir yr ardal gyfan gan weithfeydd cloddio glo brig cynnar ac mae wedi goroesi fel yr unig waith cloddio mwynau brig segur, aml gyfnod, gweddol fawr yn ôl pob tebyg yn Ne Cymru. Mae'n dal i fod yn balimpsest o weithgarwch cloddio a phrosesu cynnar, wedi'i gris-groesi gan fwyngloddiau ffos bas, incleins tramffyrdd a thomenni. Mae'r elfennau hyn, a thref Blaenafon, Mynydd Coety, y Blorens a Phwll-Du, a golygfa lofaol a gadwyd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosesau mwyngloddio, yn ffurfio hanfod cymeriad hanesyddol unigryw tirwedd Blaenafon. Tan ddiwedd y cyfnod canoloesol, defnyddid yr ardal yn bennaf at ddibenion pori defaid ac nid ymddengys unrhyw fath o aneddiadau yn gysylltiedig â gweithio haearn tan ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, er bod yr ardal yn llawn o'r holl ddeunyddiau angenrheidiol i wneud haearn ac roedd digonedd o goetir, calchfaen, glo a haearnfaen o safon ar gael. Rhwng y 1670au a'r 1790au roedd mwyn haearn yn cael ei weithio ar raddfa fach ar diroedd yn union i'r gogledd o'r dref bresennol, fodd bynnag dim ond pan sefydlwyd Gwaith Haearn Blaenafon ym 1789 y dechreuwyd datblygu'r cyfoeth lleol o fwynau yn fasnachol.

Gellir olrhain datblygiad diwydiannol dilynol Blaenafon trwy'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y dirwedd oddi amgylch, sy'n dal i dystio yn ddramatig i weithgareddau'r diwydiannau glo, haearn a dur, ac mae olion lefelydd chwareli, siafftiau mwyngloddiau, gwaith stripio lleiniau, mwyngloddio brig, tomenni sbwriel helaeth, tramffyrdd a rheilffyrdd i'w gweld o hyd. Yn wir, mae tomenni sbwriel helaeth diffaith y Blorens yn ffurfio tirwedd ar wahân yn ei haeddiant ei hun, sy'n ddramatig ac yn arw, ac mae'n gofeb unigryw i orffennol diwydiannol Cymru ac o ddatblygiad technolegol dyn, a welodd newid ar raddfa fawr yn nhirwedd De Cymru yn gyffredinol.

Tref Blaenafon yw un o'r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn Ne Cymru o gymuned ddiwydiannol wedi'i lleoli ym mlaenau'r cwm, ac mae wedi cadw llawer o nodweddion yn dyddio o'r 19eg ganrif megis tai teras, siopau, eglwysi, capeli, ysgolion a Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr. Mae'r dref wedi cadw'r cysylltiad hanfodol rhwng yr elfennau preswyl, masnachol a chrefyddol a'r safleoedd diwydiannol a'r dirwedd o waith dyn cysylltiedig. Mae craidd gwreiddiol y dref, sy'n dyddio o'r 1790au ac sy'n seiliedig ar North Street, i'w weld o hyd mewn rhai o'r grwpiau o adeiladau sydd wedi goroesi. Mae'r rhain yn cynnwys Eglwys Sant Pedr (1804), yr unig eglwys yn arddull y 18fed ganrif sydd â chloriau bedd, fframau ffenestri a bedyddfaen o haearn bwrw. Adeiladwyd a gwaddolwyd adeiladau'r ysgol gerllaw, sydd mewn arddull ffug Gothig debyg, ym 1816 er cof am Samuel Hopkins, un o berchenogion y gwaith haearn lleol, yn benodol ar gyfer lles addysgol ei weithwyr. Er bod llawer o'r tai gweithwyr gwreiddiol wedi'u dymchwel, mae llawer wedi goroesi, yn arbennig y rhai gyferbyn â Gwaith Haearn Blaenafon. Ar ben hynny, ac mewn cyferbyniad, mae cartrefi rhai o berchenogion cynnar Cwmni Blaenafon wedi goroesi, megis Park House a Thy Mawr, a newidiwyd yn ysbyty ers hynny.

Adlewyrchir datblygiad diweddarach Blaenafon yn ystod y cyfnod 1820 hyd 1870 yn yr ardal sydd â King Street yn ffinio â hi i'r gogledd a Hill Street yn ffinio â hi i'r dwyrain. Nodweddir yr ardal gan dai syml â phedair ystafell, y mae gan rai ohonynt selerau. Saif anheddau mwy cymhleth, megis Vipond House a Thon Mawr (Clwb Arundel) wrth eu hochr. Mae adeiladau cymunedol nodedig eraill yn cynnwys Capel Horeb (1862), yn yr arddull Ïonig glasurol, Gorsaf yr Heddlu (1867), Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr (1894), sy'n enghraifft ddiddorol o ganolfan gymdeithasol a hamdden gynnar; ac, wrth gwrs, nifer fawr o dafarndai. Mae Broad Street a'r rhesi teras cyfagos yn nodweddiadol o dirwedd drefol draddodiadol tref yn un o gymoedd De Cymru, math o ddatblygiad sefydliadol sydd wedi diflannu i raddau helaeth o ranbarthau eraill.

Mae Blaenafon yn cynnwys dau safle o bwysigrwydd cenedlaethol sydd wedi'u cadw fel enghreifftiau o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal; sef Gwaith Haearn Blaenafon ac Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr, y mae'r ddau ohonynt yn elfennau hanesyddol a thechnolegol pwysig yn nhirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Blaenafon.

Mae'r Gwaith Haearn, sy'n Safle Gwarchodaeth, mewn cyflwr hynod o dda. Defnyddiai Gwaith Haearn cyntaf Blaenafon, a adeiladwyd ym 1789 fel gwaith cynnar yn llosgi golosg, y tir naturiol. Adeiladwyd cyfres o ffwrneisi i mewn i'r llethr a alluogai eu cyflenwi oddi uchod, tra'n caniatáu i'r metel tawdd, ar ôl y broses chwythu, redeg i ffwrdd o'r gwaelod i'r tai bwrw, lle y câi ei fowldio'n haearn crai. Mae strwythurau'r ffwrneisi a'r ddau dy bwrw wedi goroesi mewn cyflwr da.

Mae'r lifft cydbwyso dwr yn strwythur amlwg iawn. Defnyddid y lifft hydrolig drawiadol hon, a adeiladwyd rywbryd ar ôl 1839, i gludo llond tramiau o haearn o'r naill lefel i'r llall fel y gellid eu cludo ar dramffordd i Efail Garn-Ddyrys gerllaw, a hefyd i Gamlas Brycheiniog a'r Fenni sy'n elfen lawn mor bwysig yn y dirwedd ddiwydiannol gydgysylltiol fawr hon. Ar ben hynny, mae grwp pwysig o fythynnod gweithwyr sydd wedi goroesi yn Stack Square.

Lleolid hen waith glo Pwll Mawr ar ochr fwyaf dwyreiniol maes glo De Cymru. Ym 1980, caeodd fel pwll glo gweithredol ac erbyn hyn mae Pwll Mawr a redir gan ymddiriedolaeth elusennol yn darparu mynediad i ymwelwyr i'w lefelydd tanddaearol 90m o dan ddaear. Cloddiwyd y pwll glo i'w lefel bresennol ym 1880, er bod ei lefelydd tanddaearol yn cynnwys siafftiau a thwneli llawer cynharach, Forge Level er enghraifft, a gloddiwyd ym 1812 i gyflenwi glo yn benodol i Waith Haearn Blaenafon. Dan ddaear, mae tai injan a stablau i'w gweld o hyd. Ar yr wyneb, mae'r banc ben pwll o ddur yn dyddio o 1921 a'r rhesi cysylltiedig o adeiladau yn dangos maint y gwaith glo blaenorol. Mae'r adeiladau hyn yn cynnwys y baddondai pen pwll, siop y gof, sied lampiau, ty peiriant weindio a chylchffordd tramiau. Mae'r safle hwn yn dal i fod yn enghraifft wedi'i dehongli'n dda, ond prin, o waith glo a gyfrannodd at sefydlu cymunedau Cymreig tra phendant wedi'u lleoli yn y tirweddau a grëwyd ganddynt.

Yn gysylltiedig â datblygiad diwydiannol yr ardal mae olion y rhwydwaith trafnidiaeth oedd ei angen i gludo'r deunyddiau crai i'r gwaith haearn ac allforio'r cynnyrch gorffenedig. Mae'r ardal yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion trafnidiaeth, yn amrywio o dramffyrdd bach i gofebau pwysig megis y twnnel a'r plân ar oleddf ym Mhwll-Du a adeiladwyd gan Dyne Steel. Agorwyd y twnnel ym 1815 i gludo calchfaen i'r gwaith haearn o'r chwareli i'r gogledd. Fe'i defnyddid i gludo haearn crai o'r gwaith haearn i'r efail yng Ngarn-Ddyrys hefyd, ond fe'i disodlwyd yn y diwedd gan y plân ar oleddf a adeiladwyd gan Dyne Steel tua 1850.

Mae tirwedd Blaenafon, er ei bod yn destun cynlluniau adfer megis un Kays a Kears, yn dal i fod ymhlith y tirweddau diwydiannol creiriol sydd wedi'u cadw yn y cyflwr gorau yng Nghymru, ac mae'n cynnwys crynhoad ac amrywiaeth helaeth o nodweddion archeolegol. Mae hefyd yn un o'r cofebau mwyaf pwerus i Chwyldro Diwydiannol Cymru, ac o'r modd y defnyddiodd dyn y dirwedd a'r effaith y cafodd arni.