The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

011 Coridor Traffordd yr M4


M4 - Golygfa i'r gogledd o fan ger Mawdlam.

HLCA 011 Coridor Traffordd yr M4

Coridor trafnidiaeth ffordd pwysig; peirianneg sifil: pontydd ffordd a thraffordd. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coridor Traffordd yr M4 yn cynnwys darn bach o lwybr traffordd yr M4, a adeiladwyd c 1978 drwy'r dirwedd hanesyddol.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Coridor Traffordd yr M4 fel coridor trafnidiaeth pwysig modern. Mae'r ardal o reidrwydd yn rhan fach o ardal gymeriad helaethach, a fyddai wedi cynnwys coridor Traffordd yr M4 yn ei gyfanrwydd, un o gampau pwysig peirianneg sifil yr 20fed ganrif. Mae nodweddion nodweddiadol yn cynnwys pontydd o goncrit cyfnerthedig a chloddiadau. Dilëwyd unrhyw nodweddion cynharach gan y gwaith adeiladu yn ystod y 1970au.