Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam
016 Rhos Ogwr
HLCA 016 Rhos Ogwr
Tir comin agored; man hamdden agored; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; ag elfen dirwedd archeolegol greiriol amlgyfnod fach â nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Rhos Ogwr yn cynnwys tir comin agored uwchlaw pentref Ogwr lle y ceir amrywiaeth nodweddiadol o nodweddion archeolegol creiriol. Mae ffin afreolaidd yr ardal yn dynodi gweithgarwch tresmasu gan bobl o'r cyfnod canoloesol diweddar, ond yn bennaf o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar (ee lleolir aneddiadau amaethyddol gweision fferm heb dir yn nodweddiadol ar hyd nifer o'r lonydd sy'n arwain i'r Rhos ac oddi yno, megis ar hyd Heol-y-mynydd fel y dangosir ar argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO. Ar hyn o bryd defnyddir rhan o'r ardal fel cwrs golff.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Rhos Ogwr fel ardal o Ros neu Dir Comin agored a chanddi botensial pwysig fel man agored hamdden. Mae rhan o'r ardal yn cynnwys tir pori sych heb ei wella ar fryn, ac mae rhan ohoni yn cael ei defnyddio fel cwrs golff. Yn ogystal â'r tir comin agored, mae'r ardal yn cynnwys,Kings Wood llain o goetir Hynafol a choetir llydanddail arall, a phrysgwydd nas rheolir (Graig Ddu). Mae'r ardal yn dal i gynnwys nifer fach o nodweddion archeolegol creiriol gan gynnwys un nodwedd angladdol a defodol gynhanesyddol hysbys, carnedd gron yn dyddio o'r Oes Efydd (PRN 0230m), cynrychiolir elfen dirwedd amaethyddol ac anheddu ganoloesol bosibl gan nodweddion megis twmpathau clustog a therasau unionlin na wyddom i ba gyfnod y maent yn perthyn ac anheddiad gwledig anghyfannedd, cwt hir canoloesol, ym mhen pellaf Pant Norton. Mae nifer fawr o lwybrau cysylltiadau, yn amrywio o lwybrau troed, i lwybrau a lonydd, gan gynnwys llwybrau canoloesol posibl Heol-y-mynydd a Heol-y-Slough, sy'n cysylltu safle Castell Ogwr a'r Rhos, hefyd yn croesi'r ardal.