Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam
013 Cwningar Merthyr Mawr
HLCA 013 Cwningar Merthyr Mawr
Tirwedd agored a orchuddiwyd â thywod sydd o bwys cenedlaethol; tirwedd amlgyfnod ac amlswyddogaethol; cwningar ôl-ganoloesol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwningar Merthyr Mawr yn ardal dirwedd o gryn bwys hanesyddol, ffaith a adlewyrchir yn ei statws rhannol fel Heneb Gofrestredig (SAM Gm 432), yn seiliedig ar grynhoad o nodweddion a darganfyddiadau archeolegol a ddatgelir o bryd i'w gilydd oddi tan y tywodydd symudol. Mae'r ardal, sy'n warchodfa natur genedlaethol ac yn SoDdGA, yn cynnwys pentref a Maenor ganoloesol anghyfannedd Trecantle, y gadawyd y rhan fwyaf ohono yn wag ar ôl cael ei orchuddio â thywod erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol daeth y tir i feddiant Ystad Merthyr Mawr.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Cwningar Merthyr Mawr fel tirwedd agored a orchuddiwyd â thywod, y mae'r rhan fwyaf ohoni yn Heneb Gofrestredig. Nodweddir yr ardal gan dirwedd gladdedig amlgyfnod ac amlswyddogaethol: sy'n cynnwys aneddiadau/caeau anghyfannedd cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol a gladdwyd (ee cefnennau amaethu, aneddiadau ym Mhwll-y-defaid a gerllaw Trecantle, a safle Coniger neu Warren House, maenordy canoloesol), a thirwedd angladdol a defodol cynhanesyddol. Cafwyd darganfyddiadau claddedig o bob cyfnod yn yr ardal. Mae mathau nodweddiadol eraill o safleoedd yn cynnwys nodweddion 'diwydiannol' yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at y cyfnod ôl-ganoloesol (ee ffwrnais haearn bwrw yn dyddio o'r Oes Haearn a melin yd ôl-ganoloesol), cwningar ôl-ganoloesol, strwythurau milwrol/amddiffynnol ôl-ganoloesol a modern a maes tanio. Ar ben hynny mae darn bach o ffordd ganoloesol i'w weld yn rhannol o dan y tywod.