Llancarfan
002 Rhan Isaf Dyffryn Llancarfan
HLCA002 Rhan Isaf Dyffryn Llancarfan
System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad ôl-ganoloesol: patrwm anghysbell gwasgaredig clystyrog a rhydd; adeiladau ôl-ganoloesol; anheddiad cynhanesyddol a chanoloesol creiriol a chladdedig; cysylltiadau eglwysig a hanesyddol; ffynonellau dwr; nodweddion amaeth-ddiwydiannol creiriol; ffiniau traddodiadol; mân gyfathrebu. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal cymeriad tirwedd Rhan Isaf Dyffryn Llancarfan yn cynnwys dyffryn amgaeëdig dwfn Nant Llancarfan yn union i'r de o anheddiad Llancarfan. Yn rhan ogleddol yr ardal ceir cymer Moulton Brook a Ford Brook ac yn y pen draw cymer yr olaf a Nant Llancarfan ac i'r de ceir cymer Nant Llancarfan ac Afon Waycock ychydig i'r gogledd o Bont Kenson sy'n nodi ffin ddeheuol yr ardal gymeriad. Ceir ynddi hefyd ardaloedd o goetir hynafol a ailblannwyd a choetir lled-naturiol hynafol gan gynnwys Breech Wood, i'r de o Castle Ditches.
Cynrychiolir gweithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod cynhanesyddol gan glostir bryngaer Castle Ditches, heneb gofrestredig (SAM GM071; PRN 00383s), sy'n dyddio o'r Oes Haearn, a leolir ar safle aruchel ar esgair uchel sy'n edrych dros Ddyffryn Nant Llancarfan wrth gymer Ford Brook a Moulton Brook. Mae'r clostir yn mesur tua 355m o'r dwyrain i'r gorllewin wrth 116m o'r gogledd i'r de ac mae'n ymestyn dros lwyfandir eithaf gwastad ym mhen gorllewinol esgair hir; rheolir cynllun y fryngaer unclawdd gan dopograffi ei lleoliad. Archwiliwyd y rhagfuriau yn Castle Ditches drwy waith cloddio. Datgelodd gwaith cloddio, a ganolbwyntiodd ar yr ardal o amgylch y fynedfa yn y de, dechneg adeiladu yn defnyddio clai a rwbel cymysg a waliau cynhaliol o gerrig sych. Dengys darnau o grochenwaith o gyfnod diweddarach y Rhufeiniaid (PRN 02981s) a ddarganfuwyd y tu mewn i glostir y fryngaer, a nodwedd cloddwaith hirsgwar i'r de o Ford Farm a nodwyd yn ddiweddar mewn ffototgraffau a dynnwyd o'r awyr fod pobl wedi parhau i fyw ym mryngaer Castle Ditches ac yn yr ardal o'i hamgylch i mewn i'r cyfnod Rhufeinig; mae'r safle olaf, yr ystyrir ei fod yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig, neu, o bosibl, y cyfnod Canoloesol cynnar, yn cynnwys olion clawdd a ffos sydd wedi'u haredig.
Roedd tir ym Mhen-onn yn rhan o grant a rhoddwyd i'r Abaty yng Nghaerloyw ar ddiwedd yr 11eg ganrif; rhwng 1091 a 1104 rhoddodd Robert Fitzhammon 15 erw o dir ym Mhen-onn i Abaty Sant Pedr, Caerloyw; a chadarnhaodd Robert, Iarll Caerloyw, yn 1139-47 berchenogaeth y mynaich o 'the vill of Treigof with the land of Pennune'. Gwyddom fod y tiroedd hyn wedi parhau ym meddiant yr abaty nes iddo gael ei Ddiddymu, pan y'u trosglwyddwyd i ddeon a chabidwl yr eglwys gadeiriol (CBHC 1982, MG 48, 303). Mae hyn yn awgrymu efallai bod maenor (PRN 00701s) ym Mhen-onn. Er na nodwyd unrhyw adeiladau sy'n gysylltiedig â maenor yn bedant, mae fferm a adawyd yn wag ar ffurf cyfres o gloddiau gan gynnwys llwyfandir unionlin mawr, llwyfandir sgwâr llai o faint ac olion aneglur nifer o glostiroedd yr ystyrir eu bod yn berllannau neu'n dyddynnod wedi'i chofnodi gan CBHC ym Mhen-onn mewn cysylltiad â chrochenwaith a ddarganfuwyd sy'n dyddio o'r 12fed i'r 14eg ganrif. Ystyrir y gallai adeiladau'r faenor, a oedd yn eiddo i Abaty Caerloyw (CBHC 1982, LH 43, 56-57), fod wedi'u lleoli ar y safle.
Mae'n bosibl bod nodweddion creiriol neu gladdedig sy'n gysylltiedig â'r hen felin Bannu yn Kenson Bridge, a nodwyd ar fap maenoraidd dyddiedig 1622, wedi goroesi hefyd.
Un o feibion enwog yr ardal a anwyd ym Mhen-onn yw Iolo Morgannwg (Edward Williams 1747-1826) sy'n adnabyddus am ei rôl wrth hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg ac arddel 'Cymreictod' yn rhan ddeheuol y wlad, yn enwedig ym Morgannwg yn ystod y 18fed ganrif. Yn fardd rhamantus, hynafiaethydd ac adfywiwr y traddodiad barddol roedd Morgannwg yn awdurdod blaenllaw ym maes twf llenyddiaeth Gymraeg a hanes y genedl.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir ardal Rhan Isaf Dyffryn Llancarfan gan gaelun ôl-ganoloesol o gaeau amgaeëdig lled-reolaidd mawr a sefydlwyd cyn cyhoeddi map degwm 1840. Mae rhywfaint o olion y patrwm canoloesol cynharach i'w gweld o hyd ynghyd ag elfennau cryf o'r dirwedd gynhanesyddol ar ffurf Castle Ditches, clostir y fryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn a'r nodwedd amlycaf yn rhan ogleddol yr ardal gymeriad.
Y brif elfen sydd wedi goroesi o'r cyfnod ôl-ganoloesol ar ffurf y gellir ei hadnabod yw system gaeau'r ardal, sy'n cynnwys caeau amgaeëdig lled-reolaidd mawr a ffurfiwyd drwy gyfuno llain-gaeau canoloesol cynharach yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, yn arbennig o amgylch Pen-onn, a darnau bach o dir heb ei wella o amgylch clostir bryngaer Castle Ditches yn rhan ogleddol yr ardal. Ffiniau amaethyddol a geir o fewn yr ardal gan mwyaf ac maent yn cynnwys gwrychoedd uchel ar gloddiau, a waliau o galchfaen lleol wedi'u plastro â morter sy'n gysylltiedig ag ardaloedd anheddu.
Pen-onn yw prif anheddiad yr ardal - pentrefan clystyrog bach yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol sydd wedi'i newid gryn dipyn. At hynny ceir nifer fach o ffermydd gwasgaredig mewn mannau eraill, y mae'n bosibl bod gan rai ohonynt ragflaenwyr canoloesol. Mae'r anheddiad ym Mhen-onn, a leolir o bosibl ar safle maenor fynachaidd, yn cynnwys pentrefan bach, afreolaidd o ran ei gynllun, wrth gyffordd y ffordd gyda llwybrau neu lonydd yn arwain i Nant Llancarfan ac Afon Waycock. Erbyn hyn nid yw'r pentrefan, sy'n cynnwys cymysgedd o adeiladau o wahanol ddyddiadau a mathau, wedi cadw fawr ddim o'i gymeriad ôl-ganoloesol cynnar. Newidiwyd prif anheddiad ôl-ganoloesol yr ardal ym Mhen-onn ac ychwanegwyd ato yn raddol rhwng arolwg y map degwm ac argraffiad 1af ac 2il argraffiad mapiau 25'' yr AO. Dengys y map degwm glwstwr o tua 13 o fythynnod a ffermdai, erbyn yr argraffiad 1af mae nifer o'r bythynnod wedi diflannu, tra bod rhes o adeiladau amaethyddol yn dyddio o ganol y 19eg ganrif wedi'i chodi yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr anheddiad: rhes siâp L ynghyd â rhes linellol ar wahân (yr oedd rhan ohoni wedi'i dymchwel erbyn yr 2il argraffiad a ddengys fod asgell ychwanegol i'r rhes siâp L wedi'i chodi yn ei lle), ar draws iard hirsgwar ac adeilad llinellol arall yn ymestyn o'r gogledd i'r de sy'n sefyll ar wahân ymhellach i'r de (a oedd wedi'i ddymchwel hefyd erbyn yr 2il argraffiad). Dengys argraffiad 1af map yr AO annedd wreiddiol fferm Pen-onn, rhes linellol yng nghwr gogledd-orllewinol yr anheddiad a chanddi nifer o adeiladau allan neu fythynnod bach gerllaw; mae pob un o'r adeiladau hyn wedi diflannu erbyn arolwg yr 2il argraffiad ac yn eu lle ceir yr adeilad deulawr presennol i'r dwyrain yn agosach at yr adeiladau fferm sy'n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Y brif nodwedd sydd wedi goroesi o'r anheddiad ôl-ganoloesol cynharach yw rhes o adeiladau ar safle ffermdy estynedig bresennol 'Upper Pen-onn' (ychydig i'r de o ffermdy cynharach Pen-onn a ddymchwelwyd), a ddangosir ar y map degwm ac argraffiad 1af, 2il argraffiad a 3ydd argraffiad mapiau'r AO.
Nodweddir aneddiadau eraill yn yr ardal gan ffermydd gwasgaredig, gan gynnwys Cliff Farmhouse, ar ochr orllewinol yr ardal gymeriad; ffermdy ôl-ganoloesol rhestredig gradd II (LB 16,410), yr ystyrir ei fod yn enghraifft dda o ffermdy to gwellt yn dyddio o'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau diweddarach yn dyddio o'r 19eg ganrif yn y ddeupen. Mae ganddo dair ystafell, drws canolog a grisiau troellog wrth y lle tân yn nhalcen y ty, ac mae nifer o'i nodweddion gwreiddiol wedi goroesi megis trawstiau Pigfain (CBHC 1988). Mae gan Cliff Farmhouse ddrychiadau gwyngalchog nodedig â chribau addurnol a thalcenni wedi'u gorchuddio â llechi hefyd. Ar y drychiad sy'n wynebu'r de ceir tair ffenestr godi ag un gwarel ar bymtheg, a leolir o bobtu i ddrws canolog â phedwar panel gyda ffenestr linter hanner-crwn uwch ei ben. Dangosir Cliff Farm, ar ei ffurf gynharach, ar fap o'r faenor dyddiedig 1622 ac ar y map degwm yn dyddio o ganol y 19eg ganrif.
Mae Ford Farm yn enghraifft o uned fferm lai datblygedig sy'n cynnwys ffermdy ac adeiladau amaethyddol cysylltiedig. Mae Ford Farm yn dyddio o'r 19eg ganrif o leiaf am ei fod yn cael ei ddangos a'i gofnodi fel ffermdy ar arolwg degwm Llancarfan dyddiedig 1840, a oedd yn eiddo i Goleg yr Iesu ac yn cael ei ddal gan John Griffiths fel tenant y priodolir deiliadaeth tir pori iddo hefyd a leolir ychydig i'r de ac a restrir fel Ford Meadow. Dangosir y ffermdy ar argraffiad 1af map yr AO (1879), fel rhes linellol yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin sy'n cynnwys annedd a beudy sydd ynghlwm wrthi wedi'u gosod i mewn i'r llethr. Saif adeilad allan llinellol cul yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar ei ben ei hun i'r gogledd, ychydig i'r gorllewin o glostir neu iard siâp D ac i'r de-orllewin gerllaw'r rhyd ceir twlc mochyn dwbl ar wahân. Erbyn yr 2il argraffiad mae adeilad allan llinellol gyda chôr lloi ynghlwm wrtho yn ei ben gorllewinol sy'n gyfochrog â'r annedd ac i'r gogledd ohoni ar draws iard hirsgwar wedi cymryd lle'r adeilad allan a'r clostir siâp D cynharach. Nid ymddengys fferm ac adeiladau Castle Lodge Farm, ychydig i'r dwyrain o fryngaer Castle Ditches ar y mapiau hanesyddol, am iddynt gael eu hadeiladu yn yr 20fed ganrif.
Mae'n bosibl i'r faenor a roddwyd i Abaty Caerloyw gan Robert Fitzhammon gael ei ffermio o anheddiad canoloesol rhagflaenol a leolid ar y gynharaf o'r ddwy fferm ym Mhen-onn, neu'r ty llwyfan a'r tyddynnod a nodwyd ymhellach i'r de (CBHC 1982, LH 43, 56-57), sy'n edrych dros Ddyffryn Waycock. Mae hefyd gysylltiad eglwysig â thirwedd Llancarfan gerllaw ar ffurf safle canoloesol cynnar posibl (PRN 04019s) a nodwyd mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr ac a leolir i'r de o Ford Farm ychydig ar draws y dyffryn o Castle Ditches (SAM GM071). Mae hefyd dystiolaeth i awgrymu bod pobl wedi parhau i fyw ym mryngaer Castle Ditches tan y cyfnod Canoloesol cynnar neu o leiaf iddi gael ei hailanheddu yn ystod y cyfnod hwnnw; mae'n debyg bod rhyw gysylltiad â Cadog Sant a'r ganolfan fynachaidd gynnar yn Llancarfan.
Nodweddir yr ardal hefyd gan ardaloedd o goetir hynafol sydd wedi goroesi, sy'n cynnwys coed lled-naturiol a choed a ailblannwyd a leolir ar y llethrau serth. Ymhlith nodweddion pwysig eraill yr ardal mae'r ffiniau tiriogaethol a naturiol ffisegol hirsefydlog, yn yr achos hwn mae'r ffiniau a nodir gan gyrsiau dwr gan gynnwys Moulton Brook a Ford Brook, Nant Llancarfan ac Afon Waycock yn arbennig o bwysig. Mae'r nentydd hyn yn nodi i raddau helaeth derfynau'r ardal gymeriad hon ac maent yn nodwedd allweddol, sy'n dynodi terfynau'r ardal o amgylch clostir bryngaer Castle Ditches i ddechrau ac a ddilynir gan ffiniau cantrefi, pentrefannau a phlwyfi yn eu tro. Mae nodweddion eraill yn cynnwys nifer fawr o ffrydiau a ffynhonnau gan gynnwys ffynhonnau clytiau Ffynnon-y-Clwyf (PRN 00391s), a Ffynnon Flamaiddan (PRN 00513s), sy'n ffynhonnau iachusol nodedig. Mae'r olaf yn enwog am wella tân iddwf (erysipelas) (Jones 1954, 185). Mae nodweddion archeolegol diwydiannol creiriol sy'n gysylltiedig â thirwedd amaethyddol yr ardal yn cynnwys nifer o odynau calch, megis yr un a ddangosir ychydig i'r de-ddwyrain o fryngaer Castle Ditches (PRN 02632s) ar argraffiad 1af map yr AO ac a oedd yn segur erbyn cyhoeddi'r 2il argraffiad, ac un arall ychydig i'r gorllewin o Breeches Wood (sy'n hen ar argraffiad 1af map yr AO). Byddai cynnyrch yr odynau hyn wedi cael eu defnyddio i wneud gwelliannau amaethyddol ac adeiladu a chynnal a chadw adeiladau. Dangosir melin bannu (Tyckmyll) ar y map o'r faenor dyddiedig 1622, i'r gogledd o Afon Kenson ac yn agos ati ychydig i fyny'r afon o bont Kenson, dangosir adeilad, a ddymchwelwyd bellach, yn yr un lleoliad, fwy neu lai, ar y map degwm ac argraffiad 1af, 2il argraffiad a 3ydd argraffiad mapiau'r AO. Mae'n bosibl bod nodweddion creiriol neu gladdedig sy'n gysylltiedig â'r hen felin hon wedi goroesi hefyd.
Mae llwybrau cysylltiadau yn nodwedd ddiffiniadwy arall ar yr ardal, ac maent yn cynnwys lonydd a llwybrau troed troellog yn bennaf, yn arbennig o Ben-marc i Lancarfan, mae'n bosibl bod y ffyrdd a'r llwybrau troed hyn yn dilyn ffiniau perchenogaeth tir gynharach i ddechrau, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig â chaeluniau canoloesol ac ôl-ganoloesol.