Llancarfan
003 Dyffryn Afon Kenson
HLCA 003 Dyffryn Afon Kenson
Doldir canoloesol/ôl-ganoloesol; cyflenwad dwr; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; ffosydd draenio; nodweddion amaethyddol ac anheddu creiriol; cysylltiadau cyfathrebu. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Afon Kenson yn cynnwys darn o dir y dynodir ei ffin ogleddol gan Bont Kenson, islaw cymer Nant Llancarfan ac Afon Waycock, a'i ffin ddeheuol gan Ffordd y B4265. Diffinnir gweddill yr ardal gan gyrion y llwyfandir uwchlaw dyffryn yr afon ei hun lle mae coetir hynafol a ailblannwyd a choetir hynafol lled-naturiol yn gorchuddio'r llethr. Mae dyffryn yr afon, ardal o ddoldir heb ei ddatblygu, yn cynnwys y prif barth gorlifo ar gyfer Afon Kenson. Mae'r ardal yn dal i gynnwys tir agored yn bennaf er bod rhywfaint o waith wedi'i wneud i isrannu'r tir yn gaeau. Lleolir yr ardal o fewn plwyfi Llancarfan a'r Rhws, y cyntaf i'r gogledd o Afon Kenson a'r ail i'r de, ac roedd yn rhan o gantref canoloesol cynnar Penychan a chantref diweddarach Dinas Powys.
Ychydig iawn a wyddom i sicrwydd am hanes cynnar yr ardal, a oedd yn rhan o bentrefan Llancatal. Ychydig y tu allan i'r ardal i'r gogledd, ceir nifer o olion cnydau (NPRN 89367, 89368, 89369, 89370, ac 89371) sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod cynhanesyddol, a nodwyd mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr gan y Comisiwn Brenhinol fel ffermydd neu glostiroedd caerog posibl (CBHC 1995). Mae'n debyg bod lleoliad dyffryn Afon Kenson wedi cael dylanwad mawr ar leoliad yr aneddiadau cynhanesyddol hyn a'r modd y gweithredent mewn economi a oedd yn seiliedig yn ôl pob tebyg ar ryw fath o system drawstrefa, lle roedd yr afon a'i llednentydd yn ffynhonnell dwr bwysig. Mae'n debyg bod perthynas debyg rhwng anheddiad ôl-ganoloesol Llancatal gerllaw, ei ragflaenydd y faenor ganoloesol a'r anheddiad canoloesol amddifad.
Defnyddir yr ardal hon i bori anifeiliaid yn bennaf; mae llwybr gwartheg yn rhedeg drwy'r ardal (03439s) ac i lawr llethr y dyffryn, tuag at yr afon yn ôl pob tebyg, er nad yw'r nodwedd hon wedi'i dyddio'n bendant mae'n debyg ei bod yn dyddio o'r cyfnod canoloesol o leiaf ac nad ynghynt.
Mae'r ardal yn cynnwys olion tirwedd amaethyddol greiriol ar y llethr i'r de o Afon Kenson ar ffurf cyfres o falciau (03440s) sy'n ymestyn i lawr y llethr mewn llinell o'r gogledd i'r de. Mae'n debyg bod y balciau hyn yn gysylltiedig ag anheddiad Pen-marc a leolir gerllaw i'r de.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Dyffryn Afon Kenson, ardal a nodweddir heddiw gan ei daearyddiaeth, dyffryn â llawr gwastad sy'n ffurfio cerlan gul neu orlifdir ar y naill ochr a'r llall i Afon Kenson. Mae'n cynnwys doldir wedi'i led-wella a choetir hynafol a ailblannwyd a choetir lled-naturiol hynafol. Nodwedd allweddol arall ar yr ardal yw ei natur agored - yma ffosydd draenio yw ffiniau'r caeau gan mwyaf. Dangosir yr ardal ar y map o faenor Lancadel (Llancatal): 1622, wedi'i rhannu'n ddolydd llinellol gan gynnwys 'the Lord's Mead' a 'Kensom Meadow', a'r 'Towns Meade'; mae'r olaf wedi'i isrannu ymhellach yn lleiniau cul a ddelid gan gopiddeiliaid gwasgaredig, y lleiniau wedi'u halinio o'r dwyrain i'r gorllewin ac yn ymestyn rhwng anheddiad Llancatal ac Afon Kenson. Mae ambell enghraifft o'r lleiniau llinellol i'w gweld o hyd, wedi'u cadw gan nodweddion terfyn creiriol ar ffurf cloddiau, neu falciau.
At hynny ceir nifer o falciau (PRN 03440s) ar y llethrau i'r de o'r afon yn rhan ddwyreiniol yr ardal gerllaw Pont Kenson, y gellir eu gweld mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn ymestyn i lawr y llethr o'r gogledd i'r de, wedi'u canoli ar anheddiad Pen-marc gerllaw, a leolir ychydig i'r de o derfynau'r dirwedd hanesyddol.
Nid yw'r un anheddiad i'w weld yn yr ardal heddiw; fodd bynnag, dengys y map o'r faenor dyddiedig 1622 un annedd yn union i'r de o'r llwybr sy'n arwain i Bont Kenson; dangosir yr annedd hon ar argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879 o fewn clostir unionlin, er y dangosir y clostir ar 3ydd argraffiad map yr AO, mae'r annedd wedi'i dymchwel erbyn arolwg yr 2il argraffiad. Mae'n bosibl bod nodweddion sy'n gysylltiedig â'r strwythur ôl-ganoloesol cynnar hwn wedi goroesi fel nodweddion creiriol neu wedi'u claddu dan ddaear.
Mae'n debyg bod y gydberthynas rhwng yr ardal gymeriad hon ac aneddiadau eraill o'i hamgylch megis Pen-marc a Llancatal wedi parhau drwy gydol hanes yr ardal, am fod angen i'r aneddiadau hyn yn yr ardal oddi amgylch gadw cysylltiad â chyflenwad dwr sylweddol. Mae'n debyg i Afon Kenson a'i dyffryn wasanaethu'r anheddiad canoloesol amddifad yn Llancatal, yr hen faenor fynachaidd yn Llancatal a'r adeilad amaethyddol a gymerodd ei lle yn y cyfnod ôl-ganoloesol, ac maent yn dal i fod yn adnodd pwysig ar gyfer da byw yn yr ardal.
Mae'r ardal yn cynnwys tir pori naturiol a chyflenwad dwr ar gyfer dyfrio anifeiliaid ac mae'n debyg ei bod yn cael ei defnyddio at y diben hwn ers y cyfnod cynhanesyddol o leiaf pan oedd pobl yn byw yn y nodweddion olion cnydau (aneddiadau neu glostiroedd caerog) yn yr ardal gymeriad gerllaw (HLCA 005) yn ôl pob tebyg. Heddiw, mae'r ardal yn dal i gael ei defnyddio i bori gwartheg ac mae llwybr gwartheg sydd wedi goroesi (PRN 03439s) yn rhedeg ar draws yr ardal gan ddisgyn tua'r afon o'r de-ddwyrain.
At hynny mae mân lwybrau cysylltiadau/cysylltiadau trafnidiaeth yn ychwanegu at gymeriad yr ardal, ac maent yn cynnwys pontydd, llwybrau troed a llwybrau yn bennaf.