Llancarfan
010 Tirwedd Gyfunedig Tresimwn
HLCA 010 Tirwedd Gyfunedig Tresimwn
Tirwedd gyfunedig: system gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Tirwedd Gyfunedig Tresimwn yn cynnwys darn o dir a nodweddir gan dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol i raddau helaeth, a rhai nodweddion amaeth-ddiwydiannol, a leolir ym mhlwyf hanesyddol Tresimwn. Yn ffinio â'r ardal gymeriad i'r dwyrain ac i'r gorllewin ceir ffyrdd: i'r dwyrain mae ffordd yr A4226 yn rhedeg o'r gogledd i'r de o ffordd yr A48, ac i'r gorllewin mae ffordd lai pwysig yn rhedeg o'r gogledd i'r de-orllewin o ffordd yr A48 i lawr at y gyffordd yn Pancross. Cofnodir rhan o'r ardal ar ddyraniad degwm Tresimwn 1839 fel eiddo Syr George Tyler a Robert Griffiths. Mae traean gorllewinol a thraean dwyreiniol yr ardal gymeriad hon yn rhan o diroedd a oedd yn eiddo i faenor Bonvilston Manor, a gynhwyswyd yn llythyr gan y Pab Alexander IV yn 1261 ac a gofnodir mewn siarteri o 1205 ymlaen (CBHC 1982).
Prin yw'r dystiolaeth ar gyfer hanes cynnar yr ardal gymeriad hon, ac fe'i nodweddir yn bennaf gan ei chaelun ôl-ganoloesol o gaeau mawr a gyfunwyd o'r system flaenorol. Fodd bynnag, ychydig y tu allan i'r ardal i'r gogledd ceir cloddweithiau a gofnodwyd ar wahân fel Cloddwaith Tresimwn ac Amddiffynfa Gylch Tresimwn (PRN 03830s a 00696s). Disgrifir Cloddwaith Tresimwn fel clawdd tua 146 metr o hyd a allai fod yn rhan o feili, a disgrifir Amddiffynfa Gylch Tresimwn fel cloddwaith hirgrwn a all fod yn rhan o feili. Mae'n debyg bod y cloddweithiau hyn yn rhan o'r un nodwedd hanesyddol a allai ddyddio o'r cyfnod canoloesol, a gofnodwyd ar wahân.
Dengys argraffiad 1af mapiau'r AO glostiroedd rheolaidd ac olion y system lain-gaeau ganoloesol. Er eu bod wedi'u cyfuno yn gaeau mwy o faint bellach, mae ffiniau'r hen lain-gaeau i'w gweld o hyd fel olion cnydau mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, er gwaethaf y ffaith bod yr ardal wedi'i haredig yn helaeth.
Mae'r ffiniau a arferai fod yma wedi'u dinoethi ac wedi'u haredig i raddau helaeth o ganlyniad i weithgarwch cyfuno caeau; mae'n bosibl bod y ffiniau cynharach hyn sydd i'w gweld mewn ffotograffau a dynnwyd o'r awyr wedi goroesi mewn mannau fel gwrthgloddiau isel. Mae un ffin bwysig sy'n cynnwys clawdd isel a gwrych a choed nodedig wedi goroesi, ac mae'n rhedeg o'r gogledd i'r de rhwng y caeau mawr. Ceir hefyd ffin bwysig arall sy'n rhannu'r dirwedd ar ffurf llwybr, y gellir ei weld yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r ardal. At hynny mae'r ardal hefyd yn cynnwys rhai ardaloedd bach o goetir llydanddail. O fewn yr ardal dirwedd hon sydd at ei gilydd yn un amaethyddol ceir nifer fach o nodweddion amaeth-ddiwydiannol gan gynnwys odyn galch a ddangosir ar argraffiad 1af map yr AO ac a oedd yn bodoli o'r cyfnod hwnnw o leiaf a hefyd chwarel a oedd yn dal i fodoli, ar gyfer calch yn ôl pob tebyg.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Tirwedd Gyfunedig Tresimwn gan dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol o gaeau mawr a ffurfiwyd drwy gyfuno caeau llai o faint y systemau caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol cynharach.
Gellir gweld y system gaeau hanesyddol, sy'n un o nodweddion diffiniol yr ardal hon, ar argraffiad 1af mapiau'r AO ac ar ffotograffau modern a dynnwyd o'r awyr fel clostiroedd rheolaidd sy'n dangos olion yr hen lain-gaeau canoloesol cynharach. Mae'n syndod pa mor gyflawn yw'r olion cnydau/cloddweithiau hyn, sy'n nodwedd gref ar yr ardal, am yr ymddengys fod yr ardal wedi'i haredig ar raddfa fawr ers iddynt gael eu ffurfio yn ôl pob golwg yn ystod y cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-ganoloesol.
Mae ardaloedd bach o goetir llydanddail, sy'n ffurfio ffiniau caeau a phrysglwyni bach, yn nodwedd ychwanegol ar y dirwedd amaethyddol hon.
Mân nodweddion eraill o fewn y dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol hon yw'r nodweddion amaeth-ddiwydiannol sy'n dyddio o'r un cyfnod, odyn galch a ddangosir ar argraffiad 1af mapiau'r AO a chwarel sy'n dal i fodoli, ar gyfer cloddio calch yn ôl pob tebyg, sy'n gysylltiedig yn ôl pob tebyg â'r odyn galch.