The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

005 Traethau Margam a Chynffig


Golygfa i'r gogledd o fan ger Trwyn y Sger.

HLCA 005 Traethau Margam a Chynffig

Parth rhynglanwol cyfoes; nodweddion rhynglanwol; llongddrylliadau ôl-ganoloesol; archeoleg gladdedig: darganfyddiadau gwasgaredig cynhanesyddol - ôl-ganoloesol; strwythurau diwydiannol/milwrol modern; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Traethau Margam a Chynffig yn cynnwys llain hir o draethau rhynglanwol sy'n enwog am y nifer fawr o ddarganfyddiadau gwasgaredig a gafwyd yno, gan gynnwys yr un o longddrylliad yr Anne Francis, llong gargo Duduraidd a gollwyd ychydig i'r gogledd o Drwyn y Sger yn 1583.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Traethau Margam a Chynffig ar hyn o bryd gan ei natur fel parth rhynglanwol, hy yr ardal rhwng penllanw a distyll. Nodweddir y dirwedd yn bennaf gan draeth tywod i'r gogledd ac i'r de o aber Afon Cynffig, a brigiad creigiog bach Gwely'r Misgl, a ddiffinnir gan ymyl arfordirol twyni tywod helaeth. Pan wnaed y gwaith nodweddu hwn, darganfyddiadau gwasgaredig oedd prif ddangosyddion defnydd tir yn y gorffennol a gafwyd o'r ardal, sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol i'r cyfnod ôl-ganoloesol: mae'r rhain yn cynnwys esgyrn ychen hirgorn cynhanesyddol, bwyeill socedog yn dyddio o'r Oes Efydd, meini melin Rhufeinig a phinnau yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol, sydd naill ai'n dynodi safleoedd a thirweddau claddedig yn yr ardal, neu ddarganfyddiadau o longddrylliadau Fodd bynnag, mae gwelyau mawn a ddatguddiwyd ar flaen y traeth ers hynny wedi darparu gwybodaeth fyw am weithgarwch dynol ar ffurf olion traed ac olion carnau gwartheg. Prin yw'r olion strwythurol, ac maent yn gyfyngedig i strwythurau diwydiannol/milwrol concrid/bric modern na wyddom yn iawn beth oedd eu diben a nifer o longddrylliadau ôl-ganoloesol. Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol sefydledig, ac mae'r arfordir yn adnabyddus fel cyrchfan llongddryllwyr ac ysbeilwyr llwythi yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r traeth yma hefyd yn enwog fel lleoliad hen gêm 'Bandy', neu Fando, a gâi ei chwarae rhwng timau o blwyfi a oedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd nes iddi gael ei disodli gan Rygbi yn ystod y 1870au.