The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

003 Twyni Margam


Twyni Margam - twyni tywod arfordirol.

HLCA 003 Twyni Margam

Twyni tywod arfordirol, yr effeithiwyd arnynt gan ddiwydiant yn ddiweddar; cwningar ganoloesol; tirwedd filwrol/amddiffynnol o'r 20fed ganrif. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Margam yn cynnwys ardal o dwyni tywod arfordirol, i'r gogledd o Afon Cynffig o fewn plwyf eglwysig Margam, ac i'r gorllewin o'r coridor rheilffordd HLCA 018. Ymddengys i'r ardal gael ei defnyddio fel cwningar yn ystod y cyfnod canoloesol, a cheir cyfeiriadau at Gwningar a elwid yn Gwningar Berwes. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o lwybrau troed a lonydd bach y gwyddom eu bod yn bodoli yn ystod y 19eg ac a arweiniai at ffermydd (ee Morfa Bach a Morfa Mawr) a safleoedd diwydiannol (ee Pwll Glo Morfa a'i anheddiad cysylltiedig Pit Row) y tu allan i'r ardal ar hyd yr ymyl arfordirol.

Yn fwy diweddar yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr ardal at ddibenion milwrol/amddiffynnol a cheir cyfeiriadau at y ffaith bod magnelfa AA drwm wedi'i lleoli yn yr ardal.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Twyni Margam fel ardal o dwyni tywod arfordirol, y cafodd gwastraff diweddar o'r gwaith dur cyfagos ei arllwys dros ran ohoni. Ar wahân i gyfeiriadau at yr ardal yn cael ei defnyddio fel cwningar yn ystod y cyfnod canoloesol ac at nodweddion yn gysylltiedig â mesurau amddiffyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, at ei gilydd mae'n anodd dod o hyd i unrhyw nodweddion hanesyddol uniongyrchol.