The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Twyni Merthyr Mawr, Cynffig a Margam

007 Cynffig a Mawdlam


Eglwys Mawdlam â'i chlostir lled-hirsgwar.

HLCA 007 Cynffig a Mawdlam

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a ddatblygodd o anheddiad a thirwedd ganoloesol gynharach; caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol; ffiniau pendant; patrwm anheddu a nodweddir gan ddatblygiadau hirgul; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; nodweddion eglwysig; cysylltiadau: llwybrau troed, llwybrau a lonydd syth; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cynffig a Mawdlam yn cynnwys anheddiad amaethyddol Cynffig a Mawdlam sydd wedi goroesi, a rhan o'r anheddiad newydd a sefydlwyd ymhellach i'r dwyrain ar hyd y briffordd rhwng Eglwys Mawdlam ac Ewenni a adeiladwyd o ail hanner y 15fed ganrif ymlaen ac a ddisodlodd dref Cynffig a oedd wedi'i gorchuddio â thywod. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal yn rhan o ystad ôl-ganoloesol Abaty Margam. Mae eglwys ganoloesol y Santes Fair Magdalen, Mawdlam, yn un o nodweddion tirwedd pwysig yr ardal. Credir i'r eglwys hon, sydd â thwr tra amlwg, gael ei sefydlu yn y 13eg ganrif fel capeliaeth i eglwys Sant Iago yng Nghynffig. Mae clostir y fynwent a leolir o boptu i'r eglwys yn lled-hirsgwar, sy'n awgrymu efallai bod yr eglwys hon yn dyddio o gyfnod cynharach.

Credir y gall Tafarn y Prince of Wales, (neu Dy Newydd, safle Neuadd y Dref yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol cynnar) a ddechreuodd fel ystafell gyfarfod ar bileri, gynnwys defnydd yn dyddio o ddechrau'r 17eg ganrif, y talwyd amdano gan gymynrodd a wnaed yn 1605 gan rywun o'r enw Evan Griffith ar gyfer 'adeiladu llysty yng Nghynffig'. Cyflawnai'r adeilad a ailadeiladwyd yn 1808 ac a ailwampiwyd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif nifer o swyddogaethau bwrdeistrefol a ffurfiai un o ganolbwyntiau cyn-fwrdeistref ddirywiedig Cynffig. Yn Neuadd y Dref yr ymgynullai bwrdeisiaid Cynffig o dan borthfaer etholedig a 12 henadur, ac yno hefyd y cynhelid Pentreflysoedd, Llysoedd Pleon, Cwestau, Dyddiau Neuadd a Gwyliau Mabsant, ac o'r 1670au ymlaen fe'i defnyddid fel ystafell ysgol.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o enghreifftiau diddorol o bensaernïaeth ôl-ganoloesol, wedi'u lleoli o fewn tirwedd amaethyddol gyfoes. Mae'r rhain yn cynnwys 'Pool Farm', sef ffermdy sylweddol o fath rhanbarthol yn dyddio o'r 17eg ganrif ac wedi'i addurno'n goeth. Yn wreiddiol roedd ganddo gynllun cyntedd mynediad, ond fe'i hailwampiwyd yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Maent hefyd yn cynnwys 'Kenfig Farm', ffermdy rhanbarthol a chanddo gynllun cyntedd mynediad a simnai fewnol, grisiau wrth y lle tân, a ffenestri siamffrog isel; a 'Sunnyside', ty rhanbarthol arall a chanddo simnai fewnol a chyntedd mynediad.

Yn rhedeg ar draws yr ardal ac ar hyd ei ffiniau ceir nifer fawr o nodweddion cysylltiadau. Y cynharaf o'r rhain yw Heol-las, Heol-y-sheet a Water Street, Ffyrdd Rhufeinig a oedd yn llai pwysig na phriffordd arfordirol Julius Frontinus, a barhaodd i fod yn brif wythiennau i mewn i'r cyfnod canoloesol ac ar ôl hynny ac a ddylanwadodd ar gynllun aneddiadau'r ardal a'i phatrwm caeau.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Cynffig a Mawdlam fel ardal anheddu: Cynffig a Mawdlam, yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol a ddatblygodd o aneddiadau canoloesol cynharach. Nodweddir yr anheddiad gan batrwm anheddu o ddatblygiadau strimynnog ac yn ei hanfod mae'n cynnwys ffermdai, bythynnod a bythynnod teras, ynghyd â thai ar wahân a byngalos modern. Cadarnheir cymeriad a gwead hanesyddol yr ardal gan adeiladau brodorol ôl-ganoloesol yr ardal, megis Tafarn y Prince of Wales, neu Dy-newydd (safle Neuadd y Dref yn dyddio o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol cynnar; Rhestredig Gradd II), 'Kenfig Farmhouse' a 'Pool Farmhouse' (rhestredig gradd II), ffermdy rhanbarthol sylweddol yn dyddio o'r 17eg ganrif a chanddo addurniadau coeth sydd wedi goroesi.

Un o nodweddion trawiadol eraill yr ardal yw'r ffaith bod y patrwm caeau canoloesol ac ôl-ganoloesol wedi goroesi. Mae i'w weld yn arbennig o glir ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr, gan gynnwys llain-gaeau, neu ddrylliau, canoloesol sydd wedi goroesi, a ffiniau pendant. Mae'r berthynas rhwng yr anheddiad a'r dirwedd amaethyddol yn nodweddiadol a cheir ffermydd/bythynnod wedi'u trefnu mewn llinellau o fewn lleiniau hirsgwar, yn aml wedi'u gosod yn ôl o'r ffordd ac ar ongl sgwâr iddi.

Mae eglwys ganoloesol y Santes Fair Magdalen, Mawdlam (Rhestredig Gradd II*), gyda'i mynwent a'i sylfaen croes, yn darparu elfen eglwysig gref ar gyfer yr ardal. Mae rhwydweithiau cysylltiadau lleol, sy'n amrywio o lwybrau troed, llwybrau a lonydd syth, gan gynnwys Heol Las, ffordd sy'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig, wedi dylanwadu'n fawr ar gymeriad hanesyddol yr ardal.

Mae gan yr ardal gysylltiadau hanesyddol diddorol gyda phwyslais penodol ar swyddogaethau Neuadd y Dref.