Gwyr
017 Ryer's Down
HLCA017 Ryer's Down
Tir comin agored: aneddiadau a nodweddion amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol creiriol; nodweddion cyflenwi dwr; rhwydwaith o gysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Ryer's Down gan dir comin agored i'r dwyrain o Fryn Llanmadog ac i'r gogledd o Burry Green.
Mae Ryer's Down yn ddarn o dir uchel sy'n codi i uchafswm uchder o 114m DO. Mae cwr dwyreiniol yr ardal yn disgyn yn serth ac mae'n ffurfio ochr orllewinol dyffryn afon Burry. O'r copa mae'r Twyn yn graddol ddisgyn i bob cyfeiriad arall i gaelun amaethyddol.
Yn wahanol i dwyni eraill yng ngorllewin Bro Gwyr, mae Ryer's Down yn anarferol am na chofnodwyd fawr ddim archeoleg yno ac yn anad dim am na nodwyd unrhyw henebion angladdol neu ddefodol cynhanesyddol. Gall ychydig o nodweddion ar y tir comin ddyddio o'r cyfnod cynhanesyddol ond mae angen gwneud rhagor o waith arolygu a gwaith maes i gadarnhau hynny. Lleolir llwyfan gron (04584w) a adeiladwyd â chlawdd o bridd a cherrig o amgylch yr ymylon ar doriad y llethr i'r dwyrain o'r copa. Fodd bynnag, lleolir yr ardal hon rhwng dau ddarn uwch o dir comin: sef Bryn Llanmadog a Chefn Bryn ac islaw nodwedd dra amlwg y Bulwarks, gall hyn esbonio'r ffaith nad oes unrhyw safleoedd cynhanesyddol.
Efallai y cynrychiolir gweithgarwch canoloesol gan glostiroedd hirsgwar, y credir eu bod yn dai hirion (02590w, 02862w), fodd bynnag, gall fod gan y cyfryw nodweddion amrediad dyddiad eang ac felly gallent ddyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Adeiladwyd y tai hyn i ddarparu llety ar gyfer y ffermwyr a'u gwartheg, ac yn aml roedd yr ystafell wedi'i rhannu gan gyntedd yn rhedeg ar draws y ty a oedd wedi'i ffurfio gan ddau ddrws a leolid gyferbyn â'i gilydd. Daw'r cofnod cyntaf am dy hir yng Nghymru o ddisgrifiad o adeilad ym Mreuddwyd Rhonabwy, rhan o'r Mabinogi, yn y 13eg ganrif. Yr esboniad mwyaf cyffredin am ymddangosiad tai hirion yn y drydedd ganrif ar ddeg yw bod hwn yn gyfnod o dwf economaidd i'r werin bobl a welodd hefyd ddirywiad yn y tywydd yn gyffredinol, o ganlyniad roedd angen cadw mwy o wartheg dan do trwy'r gaeaf, i ddiogelu'r anifeiliaid ac i atal y caeau rhag cael eu difrodi. Adeiladwyd yr enghreifftiau cynnar yn aml â chyplau pren trwm yn cynnal y toeau, sy'n esbonio pam y mae'r waliau mor drwchus. Fel arfer fe'i lleolid ar lethr, gydag un pen wedi'i gloddio i mewn i'r llethr, a châi'r anifeiliaid eu cadw yn rhan o'r adeilad i lawr y llethr i hwyluso cael gwared â'r tail. Ni wyddom ddim am drefniant mewnol y tai cynnar hyn ond cymerir yn ganiataol bod lle tân agored, â ffenestri dan gaeadau gyferbyn â'i gilydd ac y byddai'r teulu yn cysgu ar lwyfan isel. Credir i gynlluniau tai rhanbarthol nodedig ddechrau ymddangos ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Mewn enghraifft o dy hir sy'n gyffredin yng ngogledd-orllewin a de-ddwyrain Cymru roedd y cyntedd ar draws y ty ddau draean o'r ffordd ar hyd-ddo, gyda lle tân yn y pen uchaf yn erbyn wal y talcen. Roedd gan enghraifft arall sy'n gyffredin ym Morgannwg simnai wedi'i lleoli gerllaw'r fynedfa ac roedd ail gorn simnai ar wal y talcen. Felly ymddengys y byddai'r tai hirion yn bodloni meini prawf cyffredinol ar gyfer amrediad dyddiad eang. Ymddengys fod y waliau llydan ymddangosiadol yn awgrymu eu bod yn dyddio o gyfnod cynharach er bod y cynllun hefyd yn nodweddiadol o enghreifftiau hysbys o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen (Poucher 2002/3).
Mae'n bosibl i'r ardal gael ei defnyddio at ddibenion rheoli da byw yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae cloddiau a ffosydd wedi'u cofnodi (02863w, 02865w), a all fod yn gysylltiedig ag olion y tai hirion posibl. Gall y nodweddion hyn gynrychioli gweithgareddau amaethyddol ôl-ganoloesol ar y twyn. Yn ddiau buwyd yn cloddio yma yn ystod y cyfnod hwn os nad ynghynt, ac mae olion y gweithgarwch hwn i'w gweld mewn nifer o gloddweithiau a leolir ychydig i'r gorllewin o'r copa (02589w). Ni wyddom i sicrwydd pa mor hen yw'r chwarel ond mae arolwg o Wyr Is Coed ym 1583 yn nodi "Touching mynes, quarries, etc., we know none, upon any of the Lord's lands, other than such as we shall lay downe in our booke, saving that upon Rosilly downe, keven brynne, and Ryers downe certaine stones, whereof mill stones are and have beene made".