Gwyr
014 Tor-gro a North Hill Tor
HLCA014 Tor-gro a North Hill Tor
Ymyl arfordirol a phen clogwyn coediog: cysylltiadau amlgyfnod; darganfyddiadau cynhanesyddol; aneddiadau amddiffynnol; gweithgareddau amaeth-ddiwydiannol; cysylltiadau ag ardaloedd oddi amgylch. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Tor-gro a North Hill Tor yn cynnwys darn o dir coediog ar ben clogwyn. Yn ffinio â hi i'r gogledd ceir morfa Landimôr ac i'r de ceir terfynau tir amgaeëdig.
Daw'r dystiolaeth archeolegol gynharach ar gyfer yr ardal hon o ogof North Hill Tor (00067w); a ddinistriwyd erbyn hyn gan weithgarwch cloddio. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed yn ystod 1869 gan y Cyrn Wood (04720w) nifer o esgyrn mamaliaid Pleistosenaidd (04722w) gan gynnwys hiena, rhinoseros gwlannog ac arth ogof ynghyd ag arfau fflint (04721w) yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig Uchaf. Mae darganfyddiadau cynhanesyddol eraill yn cynnwys bwyell garreg gaboledig Neolithig (02619w) a ddarganfuwyd gerllaw ymyl morfa Landimôr.
SEfallai i'r patrwm anheddu yn yr ardal ddod yn fwy sefydlog yn ystod yr Oes Haearn. Efallai fod safle gwersyll North Hill Tor (SAM GM062; 00093w; 305558) yn dyddio o'r Oes Haearn am iddo gael ei sefydlu mewn lleoliad tebyg i gaerau pentir eraill ar hyd yr arfordir. Fodd bynnag, mae'r RCAHMW yn dadlau ei fod yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Nodwyd bryngaer bosibl (00090w) a chlostir (400400) yng nghanol pen dwyreiniol yr ardal hefyd, fodd bynnag nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar gael. Mae ffiniau'r ardal gymeriad hon yn gul iawn ac felly ni ddylid ystyried y nodweddion anheddu hyn ar wahân i'r tir amaethyddol a'r morfa oddi amgylch, a fyddai wedi cael eu hecsbloetio yn ddiau yn ystod y cyfnod hwn.
Mae hyn hefyd yn wir am y cyfnod canoloesol, mae pentrefi gerllaw yn dyddio o'r cyfnod canoloesol yn cynnwys Bovehill, Landimôr, Cheriton a Llanmadog. Daliwyd yr ardaloedd hyn i raddau helaeth gan y teulu Turberville yn ystod y ddeuddegfed ganrif ac awgrymir y gallai eu castell fod wedi sefyll ar safle Gwersyll North Hill Tor, er nad oes unrhyw gofnod o gastell yn y fan hon (RCAHMW). Lleolir tomen ysbwriel ganoloesol bosibl (00094w) ar North Hill Tor hefyd nad yw ond yn cynnwys cregyn cocos.
Er efallai i gerrig o'r ardal hon ddarparu adnodd gwerthfawr dros nifer o gyfnodau, mae'r archeoleg sydd wedi goroesi sy'n ymwneud â gweithgarwch cloddio a phrosesu calch yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'r mwyafrif o'r olion sydd wedi goroesi i'w gweld yn y brigiad mwyaf dwyreiniol uwchlaw Bovehill. Cludid calchfaen a gloddiwyd yma mewn llongau allan i'r aber trwy Bennets Pill (02575w). Mae gweithgarwch cynhyrchu calch ar gyfer gwrtaith amaethyddol yn nodweddiadol o lawer o rannau o Fro Gwyr; cynyddodd gweithgarwch cynhyrchu calch yn ddirfawr yn ystod chwyldroadau amaethyddol y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dangosir nifer o adeiladau a leolir gerllaw'r odynau calch ar Argraffiad 1af map yr AO ac efallai eu bod yn gysylltiedig â'r gweithgaredd diwydiannol hwn ac maent yn cynnwys bythynnod. Byddai gweithwyr amaethyddol a gweithwyr yn y diwydiant cynhyrchu calch a'r diwydiant pysgota'r glannau ymhlith gweithgareddau eraill wedi byw yn y bythynnod hyn. Yn ôl pob sôn defnyddiwyd un o'r bythynnod hyn a elwir yn 'The Brandy house', ac a adeiladwyd tua 1780, gan smyglwyr (Edmunds 1979).